Os ydych chi wedi bod yn yr un swydd am o leiaf dwy flynedd mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu arian diswyddo i chi. Gelwir y lleiafswm cyfreithiol yn ‘dâl diswyddo statudol’, ond edrychwch ar eich cytundeb – fe allech gael rhagor.
Beth sydd yn y canllwn hwn
A oes gennych hawl i dâl diswyddo?
Os ydych wedi gweithio’n barhaol i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu ragor ac maent yn dileu eich swydd, mae gennych yr hawl i dâl diswyddo.
Tâl diswyddo statudol
Tâl diswyddo statudol yw'r isafswm cyfreithiol. Ni all eich cyflogwr dalu llai na hyn i chi.
Os nad oes unrhyw sôn am ddiswyddo yn eich contract neu lawlyfr staff, cymerwch yn ganiataol y byddwch yn cael y lleiafswm cyfreithiol.
Tâl diswyddo cytundebol
Efallai y cewch eich talu mwy na'r isafswm cyfreithiol os yw eich contract cyflogaeth yn nodi hynny. Gelwir hyn yn 'dâl diswyddo cytundebol'.
Gallai hyn olygu
- cyfandaliad mwy neu
- cael taliad hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na dwy flynedd.
Gwiriwch eich contract cyflogaeth neu lawlyfr staff i gael gwybod am eich tâl diswyddo cytundebol.
Faint o dâl diswyddo statudol fyddwch chi'n ei gael?
Mae faint o dâl diswyddo statudol a gewch yn dibynnu ar:
- ba mor hir rydych chi wedi bod yn y swydd - os yw'n ddwy flynedd neu fwy, byddwch yn cael eich talu o leiaf yr isafswm tâl diswyddo statudol
- yr oedran yr oeddech ym mhob blwyddyn y buoch yn gweithio yno, a
- eich cyflog presennol – hyd at fwyafswm o £719 yr wythnos yn 2025/26 (£749 yng Ngogledd Iwerddon)
Mae uchafswm cyffredinol o dâl diswyddo y gallwch ei gael. Mae hwn wedi’i gapio ar £21,570 yn 2025/26 (£22,470 yng Ngogledd Iwerddon) – hyd yn oed os ydy’ch enillion gwirioneddol yn uwch. Uchafswm hyd y gwasanaeth a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo taliad dileu swydd yw 20 mlynedd.
Dim ond blynyddoedd llawn o wasanaeth sy’n cyfrif, ac mae rhaid i wasanaeth fod yn barhaus.
Dyma beth y dylech ei gael:
Eich oedran | Tâl diswyddo |
---|---|
O dan 22 oed |
Hanner wythnos o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth |
22 i 40 oed |
Wythnos o dâl ambob blwyddyn o wasanaeth |
Dros 41 oed |
Wythnos a hanner o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth |
Cyfrifo tâl diswyddo - enghraifft
Mae Sally (31 oed) wedi gweithio’n rhan-amser fel dynes trin gwallt i ‘Kurl Up and Dye’ am ddeng mlynedd a dau fis, gan ennill £200 yr wythnos.
Mae ei swydd hi newydd gael ei dileu.
Mae hi’n cael:
- Hanner wythnos o dâl am y flwyddyn yr oedd hi’n gweithio pan oedd hi dan 22 = £100
- Naw wythnos o dâl am y naw mlynedd y bu’n gweithio rhwng 22 a 40 = £1,800
So, she gets £1,900 overall.
Eich cyfnod rhybudd
Pan gollwch eich swydd mae rhaid i’ch cyflogwr roi
- leiaf un wythnos o rybudd i chi am hyd at 2 flynedd o wasanaeth, a
- wythnos o rybudd am bob blwyddyn gwnaethoch weithio iddynt (hyd at uchafswm o 12 wythnos o rybudd).
Ond gwiriwch yn eich cytundeb cyflogaeth oherwydd efallai bod cyfnod hirach o rybudd wedi ei gynnwys ynddo y gallwch ei hawlio.
Tâl yn lle rhybudd
Beth yw tâl yn lle rhybudd?
Efallai bydd disgwyl i chi barhau i weithio yn ystod eich cyfnod o rybudd, ond efallai y caniateir i chi adael yn gynt ac weithiau yn syth. Os felly, fe gewch dâl yn lle rhybudd (PILON). Mewn gwirionedd dyma iawndal gan eich cyflogwr am ddod â‘ch cytundeb i ben yn gynnar.
Sut y caiff tâl yn lle rhybudd ei drethu?
Mae PILON yn cael ei drin yr un ffordd â chyflog sylfaenol - felly bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o hyd ar unrhyw daliadau PILON a gewch. Mae hyn yn golygu y cewch eich trethu'r un peth p’un ai a wnaethoch weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd neu beidio.
Mae PILONau yn daliadau am eich gwaith, ac nid ydynt yr un fath â thaliadau iawndal y gallech eu cael am gael eich diswyddo. Mae taliadau iawndal yn destun eithriad treth o hyd at £30,000.
Tâl gwyliau
Peidiwch ag anghofio tâl gwyliau. Os oes gennych wyliau sy'n ddyledus, mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich talu amdano neu adael i chi ei gymryd cyn i chi adael.
Os yw eich contract yn cynnwys mwy na'r isafswm statudol o wyliau, dylai hefyd ddweud wrthych beth fydd yn digwydd i'ch gwyliau ychwanegol os bydd eich contract yn cael ei derfynu.
Felly, darganfyddwch a oes unrhyw dâl gwyliau yn ddyledus i chi.
£30,000 yn ddi-dreth
Pan fydd eich swydd yn cael ei dileu, byddwch yn debygol o gael cymysgedd o dâl diswyddo (sydd yn iawndal am golli eich swydd) a symiau eraill sy’n ddyledus i chi.
Mae’r £30,000 cyntaf o’ch tâl diswyddo yn ddi-dreth – pa un a ydych yn cael y lleiafswm cyfreithiol neu daliad mwy hael gan eich cyflogwr.
Ni fydd rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol arno ychwaith.
Ond mae tâl gwyliau, tâl yn lle rhybudd ac unrhyw symiau eraill sy’n dâl am eich gwaith yn hytrach na iawndal am golli eich swydd yn cael eu trethu fel tâl.
Darganfydwvh fwy yn ein canllaw Oes rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo?
Beth os yw eich cyflogwr wedi mynd i'r wal?
Os bydd eich cyflogwr yn mynd i'r wal, byddwch yn parhau i gael y tâl diswyddo statudol a’r tâl gwyliau sy'n ddyledus i chi. Ond bydd yn rhaid i chi eu hawlio gan y Gwasanaeth Ansolfedd yn hytrach na gan eich cyflogwr.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i hawlio arian os oes taliad diswyddo neu arian arall yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr, fel cyflogau, gwyliau a chomisiwn.
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr fod yn methu’ch talu chi, er enghraifft oherwydd ei fod yn ansolfent. Bydd y person sy'n delio â'r ansolfedd (megis yr Ymarferydd Ansolfedd neu'r Derbynnydd Swyddogol) yn dweud wrthych sut yr effeithir arnoch ac yn rhoi rhif cyfeirnod achos i chi os oes angen.
Bydd angen hyn arnoch cyn i chi allu dechrau eich cais. Yna gallwch wneud eich cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
I ddarganfod mwy, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, edrychwch ar ganllawiau diweddaraf y Gwasanaeth AnsolfeddYn agor mewn ffenestr newydd GOV.UK neu ebostiwch [email protected]
Ni allwch wneud cais i’r Gwasanaeth Ansolfedd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Dysgwch am eich hawliau yng Ngogledd Iwerddon os yw’ch cyflogwr yn ansolfent ar wefan nidirect
Nid yw eich cyflogwr am dalu i chi – beth allwch ei wneud?
Os ydych chi’n meddwl bod eich cyflogwr yn talu’r swm tâl diswyddo anghywir i chi, neu os ydych chi’n anhapus ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n cael eich trin - siaradwch â hwy amdano’n gyntaf.
Gallech hefyd siarad â’ch cynrychiolydd undeb llafur, os oes gennych chi un.
Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch wneud cwyn gan ddefnyddio trefn gwyno’ch cyflogwr.
Fel arall, mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi, a Chyflafareddu) a’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol rhad ac am ddim.
Os na ellir datrys y materion dylech ystyried gwneud cais i’r tribiwnlys cyflogaeth.
- Ewch i wefan ACAS (Cymru, Lloegr, a’r Alban) neu eu ffonio ar 0300 123 1100
- Ewch i wefan yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Gogledd Iwerddon) neu eu ffonio ar 03300 552 220.