Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Budd-daliadau a gwaith
Budd-daliadau Budd-daliadau a gwaith

Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych chi'n hunangyflogedig, ar incwm isel ac angen help ychwanegol gyda'ch costau byw, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy am beth i'w ddisgwyl a sut i wneud cais.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n hunangyflogedig
  • Sut ydw i'n profi fy mod i'n hunangyflogedig?
  • Cyfweliad porth DWP: beth ydyw a beth i'w ddisgwyl
  • Paratowch ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • Credyd Cynhwysol a’r llawr isafswm incwm
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Rhoi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth
  • Sut mae treuliau’n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol
  • Rheoli eich incwm amrywiol

Hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n hunangyflogedig

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal misol y gallwch ei hawlio os ydych ar incwm isel ac angen cymorth ychwanegol gyda chostau byw a thai. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi'n hunangyflogedig ond bydd angen i chi ddangos mai hunangyflogaeth yw eich prif waith. Os yw’n ‘swydd ychwanegol’ i swydd â thâl, neu’n rhywbeth rydych ond yn rhoi cynnig arno, mae angen i chi ei ddatgan i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Bydd ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn rhoi amcangyfrif cyflym i chi o'r hyn y gallech ei gael. Mae'n werth gwirio hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys, fel nad ydych chi'n colli allan ar incwm hanfodol rydych chi â hawl iddo.

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Nol i’r brig

Sut ydw i'n profi fy mod i'n hunangyflogedig?

Os oes rhaid i chi wneud hawliad am Gredyd Cynhwysol, cewch eich gwahodd i gyfweliad porth yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol.

Pwrpas y cyfweliad yw penderfynu ai eich gwaith yw eich prif waith. Yr hyn y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ei alw'n 'hunangyflogaeth â thâl’.

Nol i’r brig

Cyfweliad porth DWP: beth ydyw a beth i'w ddisgwyl

Y cyfweliad porth yw'r brif ffordd y mae'r DWP yn gwirio mai eich hunangyflogaeth yw eich prif swydd, ac mae'r gwaith wedi’i drefnu, yn gynaliadwy ac wedi'i fwriadu i wneud elw.

Er mwyn dangos eich bod yn hunangyflogedig â thâl, rhaid i'r gwaith rydych chi'n ei wneud fod:

  • cynaliadwy – mae gwaith rheolaidd nawr ac yn y dyfodol
  • wedi’i drefnu - mae hyn yn golygu bod gennych anfonebau neu gyfrifon
  • yn debygol o wneud elw

Yn y cyfweliad porth, bydd angen i chi hefyd ddangos tystiolaeth o hyn drwy ddarparu:

  • derbynebau
  • eich cynllun busnes
  • copïau o anfonebau
  • cyfrifon masnachu o'r flwyddyn flaenorol
  • tystiolaeth eich bod wedi cofrestru’n hunangyflogedig gyda CThEF.

Yn ystod y cyfweliad, efallai y gofynnir i chi am:

  • y math o waith rydych chi'n ei wneud
  • pa mor rheolaidd rydych chi'n gweithio
  • sut rydych chi'n dod o hyd i gwsmeriaid
  • incwm a threuliau eich busnes
  • p'un a ydych wedi'ch cofrestru’n hunangyflogedig gyda CThEF
  • unrhyw gofnodion rydych chi'n eu cadw, fel anfonebau, cyfrifon neu dderbynebau.

Beth sy'n digwydd ar ôl y cyfweliad porth?

Os yw'r DWP yn penderfynu eich bod yn hunangyflogedig â thâl, byddwch fel arfer yn parhau i hawlio Credyd Cynhwysol fel person hunangyflogedig ac yn rhoi gwybod am eich incwm busnes bob mis.

Os byddant yn penderfynu nad ydych chi'n hunangyflogedig â thâl, gallwch barhau i dderbyn Credyd Cynhwysol os ydych chi'n gymwys. Fodd bynnag, efallai y bydd disgwyl i chi chwilio am waith cyflogedig neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith wrth barhau â'ch hunangyflogaeth.

Nol i’r brig

Paratowch ar gyfer Credyd Cynhwysol

Gall Credyd Cynhwysol ymddangos yn anodd os ydych chi'n jyglo busnes ac yn byw ar incwm tynn. Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud hyd yn oed cyn i chi wneud cais i wneud yn siŵr bod y broses mor llyfn â phosibl.

Ewch ar-lein

Disgwylir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac adrodd eich incwm misol ar-lein.

Gall y Ganolfan Byd Gwaith ddarparu mynediad i'r rhyngrwyd neu ddweud wrthych am leoedd lleol lle gallwch ddefnyddio'r rhyngrwyd am ddim.

Os na allwch wneud cais ar-lein, bydd cymorth wyneb yn wyneb a ffôn ar gael nes y gallwch gael mynediad i'r rhyngrwyd.

Darganfyddwch ble i gael mynediad at gymorth ar-lein yn eich ardalYn agor mewn ffenestr newydd chi ar GoodThingsFoundation.

Cael cyfrif banc ar wahân

Mae'n arfer da cael cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich busnes.

Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda Chredyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd bod eich taliadau yn cael eu gweithio allan ar gyfer yr aelwyd gyfan yn hytrach nag i chi fel unigolyn.

Os ydych chi'n hunangyflogedig, nid oes angen i chi ddefnyddio cyfrif banc busnes oni bai eich bod eisiau.

Gallai cyfrif personol fod yn opsiwn rhatach.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae dewis y cyfrif banc cywir.

Mwy am Gredyd Cynhwysol os ydych chi’n hunangyflogedig

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Gallwch hefyd gael help ar daliadau os ydych chi'n hunangyflogedig gan Gyngor ar Bopeth:

  • Citizens Advice LloegrYn agor mewn ffenestr newydd
  • Scotland Citizens AdviceYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Advice NI Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Credyd Cynhwysol a’r llawr isafswm incwm

Mae’r llawr isafswm incwm yn lefel dybiedig o enillion a ddefnyddir i gyfrifo’ch Credyd Cynhwysol pan fydd eich enillion gwirioneddol yn disgyn yn is na hynny. Mae rhai pobl wedi'u heithrio o'r llawr isafswm incwm (e.e. gofalwyr maeth a rhai pobl anabl) ac nid yw'n berthnasol am 12 mis i unrhyw un sy'n dechrau busnes newydd wrth hawlio credyd cynhwysol. I gael dealltwriaeth fanylach o sut mae'r llawr isafswm incwm yn gweithioYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i Turn2Us. I gael trosolwg o sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio tra byddwch yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i GOV.UK.

Os hoffech gael rhagor o fanylion – gan gynnwys sut i wneud cais a chael eich dogfennaeth yn barod, ewch i Ganllaw Cyflym Credyd Cynhwysol a HunangyflogaethYn agor mewn ffenestr newydd GOV.UK.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch chi lawrlwytho canllawYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban?

In Northern Ireland, Universal Credit works differently. Find out more in our guide Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.

 

Yn yr Alban, efallai y byddwch yn cael cynnig rhai dewisiadau o ran sut y telir eich Credyd Cynhwysol. Darllenwch ein canllaw ar Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban.

Nol i’r brig

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol

Os  ydy DWP yn gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol a bod gennych gwestiynau, ffoniwch y llinell gymorth sydd ar eich Rhybudd Ymfudo.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor di-enw, diduedd ac am ddim.

Ffyrdd y gallwch gysylltu â gwasanaeth cymorth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:

Cymru a Lloegr

Mwy o fanylion ar Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd

Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220.

Yr Alban

Ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581.

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanolYn agor mewn ffenestr newydd – darganfyddwch fwy ar nidirect.

Defnyddio Gwasanaeth Video Relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i'ch helpu gyda chamau cynnar eich cais Credyd Cynhwysol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma:   

  • Cymru: ewch i Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Lloegr: ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd 
  • Yr Alban: ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
  • Gogledd Iwerddon: ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Rhoi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth

Rhaid i chi adrodd eich enillion i'r DWP bob mis i barhau i gael Credyd Cynhwysol.

Os na fyddwch yn cyflenwi'r ffigurau hyn rhwng 7 diwrnod cyn a 14 diwrnod ar ôl eich dyddiad asesu bob mis, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei oedi.

Bydd angen i chi wneud hyn ar-lein trwy fewnbynnu eich derbynebau gwirioneddol minws:

  • Treth Incwm
  • treuliau a ganiateir
  • Yswiriant Gwladol (Dosbarth 2 a Dosbarth 4)
  • unrhyw gyfraniadau pensiwn sy'n gymwys i gael rhyddhad treth.

Darganfyddwch fwy am sut i gyfrifo eich incwm ar gyfer Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Low Income Tax Reform Group.

Nol i’r brig

Sut mae treuliau’n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol

Os yw eich treuliau ar gyfer cyfnod asesu misol penodol yn anarferol o uchel, ni allwch eu gwrthbwyso yn erbyn eich incwm mewn cyfnodau asesu misol yn y dyfodol.

Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'ch taliadau treuliau ar gyfer y mis yn uwch na'ch derbynebau.

Rhestr treuliau Credyd Cynhwysol: y treuliau busnes y gallwch eu hawlio

Pan fyddwch chi'n rhoi gwybod am eich enillion hunangyflogedig ar gyfer Credyd Cynhwysol, gallwch fel arfer didynnu treuliau busnes a ganiateir cyn i'ch incwm gael ei weithio allan.

Mae costau busnes yn gostau ar gyfer rhedeg eich busnes. Fel arfer, ni ellir didynnu gwariant personol. Mae treuliau busnes cyffredin yn cynnwys:

  • stoc a deunyddiau
  • costau swyddfa
  • yswiriant busnes
  • costau ffôn a rhyngrwyd busnes
  • hysbysebu a marchnata
  • costau cerbydau neu filltiroedd busnes
  • atgyweirio a chynnal a chadw offer
  • rhent ar gyfer adeiladau busnes.

Fel arfer, ni allwch hawlio am gostau byw personol neu wariant nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'ch busnes.

I gefnogi eich ffigyrau, cadwch gofnodion fel:

  • anfonebau
  • derbynebau
  • cyfriflenni banc
  • logiau milltiroedd
  • cofnodion cyfrifyddu.

Mae cadw cofnodion da yn ei gwneud hi'n haws rhoi gwybod am eich incwm yn gywir os yw'r DWP yn gofyn am dystiolaeth.

Nol i’r brig

Rheoli eich incwm amrywiol

Cymorth i Gynilo

Os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cyfrif Cymorth i Gynilo. Mae hyn yn rhoi bonws o hyd at 50% gan y llywodraeth ar eich cynilion.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo.

Os yw'ch incwm a'ch treuliau'n mynd i fyny ac i lawr o fis i fis, mae'n syniad da ei llyfnhau cymaint â phosibl trwy gydol y flwyddyn.

Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda Credyd Cynhwysol oherwydd ei fod yn cael ei dalu'n fisol mewn ôl-ddyledion ac yn seiliedig ar y llawr isafswm incwm.

Felly, os oes gennych fis incwm isel ar ôl mis proffidiol - gallai cyfanswm cyfunol eich enillion a'ch Credyd Cynhwysol fod yn isel. Mae hyn oherwydd os oedd eich incwm wedi gostwng o dan y llawr isafswm incwm, ni fyddwch yn derbyn swm atodol gan Gredyd Cynhwysol.

I reoli eich incwm amrywiol, gweithiwch allan cyfanswm y swm rydych chi'n ei ennill mewn blwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried eich holl dreuliau. Rhannwch ef â 12 i gael swm misol cyfartalog.

Pryd bynnag y byddwch chi'n ennill mwy na'r cyfartaledd mewn mis, ceisiwch roi'r ychwanegol i'r neilltu. Mae hyn fel y gallwch ei ddefnyddio pan fydd gennych fis llai proffidiol.

Hefyd, peidiwch ag anghofio cynllunio ar gyfer biliau anaml, fel Treth Incwm.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd.

Gofynnwch i’ch cwsmeriaid am daliadau rhannol

A yw'r rhan fwyaf o'ch gwaith yn llai eu nifer, ond mwy eu maint – lle rydych chi'n cael eich talu mewn cyfandaliad ar ôl ei gyflwyno neu ei gwblhau? Yna gofynnwch i'ch cwsmeriaid a fyddant yn caniatáu i chi bilio yn rheolaidd, yn ddelfrydol yn fisol.

Os ydyn nhw'n cytuno, bydd hyn yn helpu i lyfnhau eich incwm o fis i fis.

Adolygu eich treuliau

Edrychwch ar eich treuliau busnes a gweld a allwch newid o daliadau blynyddol i daliadau misol lle bo hynny'n bosibl.

Ar gyfer rhai treuliau, fel premiymau yswiriant, efallai y bydd angen i chi siopa o gwmpas am ddarparwr nad yw'n codi mwy am daliadau misol.

Help gyda chostau byw

Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.

Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen gyda’n canllawiau i’ch helpu gyda chostau byw.

Mynnwch gyngor ar ddyledion arbenigol i bobl hunangyflogedig

Os ydych yn cael trafferth gyda dyled busnes neu gartref, mae'r Llinell Ddyled Busnes yn cynnig gwasanaeth cynghori ar ddyledion am ddim i bobl hunangyflogedig a busnesau bach yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Ffoniwch Linell Ddyled Busnes ar 0800 197 6026Yn agor mewn ffenestr newydd (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 8pm). Neu ymwelwch â'r wefan Llinell Ddyled BusnesYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am ddechrau eich busnes eich hun a dod yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Budd-daliadau a gwaith

Budd-daliadau a gwaith

  • Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-daliadau pan fyddwch wedi colli’ch swydd
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Budd-daliadau a gwaith

  • Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-daliadau pan fyddwch wedi colli’ch swydd
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012