Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Gwaith
  3. Hunangyflogaeth
Gwaith Hunangyflogaeth

Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Mae tua 4.5 miliwn o bobl yn hunangyflogedig yn y DU. Os ydych yn ystyried mynd amdani, mae’n rhaid i chi ystyried strwythur eich busnes, cyllidebu a thalu eich treth eich hun.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth i’w ystyried wrth ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Pa help sydd ar gael os byddwch yn mynd yn hunangyflogedig
  • Gwahanol fathau o fusnesau hunangyflogedig
  • Ydych chi’n ystyried prynu masnachfraint?
  • Beth sydd angen i chi ei wneud wrth gychwyn busnes a mynd yn hunangyflogedig
  • Darganfyddwch fwy

Beth i’w ystyried wrth ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Gall gweithio i chi eich hun roi llawer o foddhad i chi. Mae’n golygu gallwch:

  • gwneud rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, neu eich bod yn angerddol amdano
  • dewis eich oriau gweithio
  • gweithio o gwmpas ymrwymiadau eraill, fel eich plant
  • cael mwy o reolaeth dros eich incwm.

Ond mae rhai anfanteision hefyd:

  • gweithio oriau hir ac ar benwythnosau
  • delio ag incwm afreolaidd
  • gorfod gwneud eich gwaith cyfrifo a’ch ffurflenni treth eich hun
  • prin neu ddim buddion cyflogaeth, fel gwyliau â thâl.
 I unrhyw un sy’n dymuno cychwyn busnes newydd yn y DU, mae gweminarau a fideos 'sut i wneud' defnyddiol ar GOV.UK
Darganfyddwch fwy am sefydlu’ch busnes eich hun a mynd yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Nol i’r brig

Pa help sydd ar gael os byddwch yn mynd yn hunangyflogedig

n ffodus, pan fyddwch yn dechrau’ch busnes eich hun, mae digon o gymorth a chyngor ar gael.

Bydd gwasanaethau cynghori sy’n cael cymorth y llywodraeth ledled y DU yn eich helpu gydag unrhyw beth o greu cynllun busnes ac ymchwilio i’r farchnad, i ddod o hyd i gyllid a recriwtio staff.

Felly, gan ddibynnu ble rydych yn byw, dylai’r rheiny fod eich man cychwyn.

  • Lloegr – GOV.UK
  • Cymru – Busnes Cymru
  • Yr Alban – Business Gateway
  • Gogledd Iwerddon – Invest Northern Ireland
Nol i’r brig

Gwahanol fathau o fusnesau hunangyflogedig

A ydych yn ystyried cychwyn eich busnes eich hun neu fynd yn hunangyflogedig? Un o’r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei ystyried fydd strwythur eich busnes.

Unig fasnachwr

Dyma’r strwythur busnes symlaf. Byddwch yn rhedeg eich busnes eich hun ac yn cadw unrhyw elw ar ôl talu treth.

Fodd bynnag, ni ystyrir bod eich asedau personol ac asedau busnes yn cael eu cadw ar wahân. Golyga hyn eich bod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw ddyledion sy’n gysylltiedig â’ch busnes. Gallwch leddfu’r broblem hon drwy yswiriant, neu drwy ddewis un o’r strwythurau busnes eraill a drafodir isod.

Ond, peidiwch â chilio oddi wrth y syniad o fod yn fusnes. Unig fasnachwr yw hynny’n union – un person, sef chi, yn gweithio iddo’i hun. Nid oes angen i chi fod yn berchennog siop. Gallech fod yn yrrwr tacsi neu’n rhywun sy’n trin gwallt. Mae bod yn fusnes dim ond y term swyddogol.

I ddod yn fasnachwr unigol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru fel hunangyflogedig gyda CThEM.

Bydd masnachwyr unigol y mae eu hincwm cymwys yn fwy na £50,000 o hunangyflogaeth ac eiddo yn newid i'r system Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) i dalu Treth Incwm yn 2026/27. Bydd y system yn cael ei chyflwyno'n raddol:

  • o 6 Ebrill 2026: Mae MTD yn berthnasol i incwm cymwys dros £50,000
  • o 6 Ebrill 2027: Mae MTD yn berthnasol i incwm cymwys dros £30,000
  • o 6 Ebrill 2028: Mae MTD yn berthnasol i incwm cymwys dros £20,000.

Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd ddigidol gymeradwy i gyflwyno diweddariadau chwarterol i CThEF. Byddwch yn dal i dalu eich treth yn yr un ffordd ag o'r blaen, ond bydd yn rhaid i chi adrodd yn fwy aml.

Gallwch ddargafnod mwy am Wneud Treth yn DdigidolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Darganfyddwch fwy am sefydlu eich hun fel unig fasnachwrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Partneriaeth

Mae partneriaeth pan ewch i mewn i fusnes gydag un neu ragor o bobl yn rhannu’r cyfrifoldeb am y busnes rhyngoch.

Mae’n bwysig i chi lunio cytundeb partneriaeth, er mwyn i bawb sydd ynghlwm wybod sut y rhennir yr elw.

Ymdrinnir â dyledion busnes dan yr hyn a elwir yn Atebolrwydd Cyd ac Unigol. Golyga hyn bod pob aelod o’r bartneriaeth yn gyfrifol am y dyledion. Mae hyn ar y cyd, neu fel unigolion, yn ddibynnol ar faint all bob un ohonynt ei fforddio dalu’n ôl.

Bydd pob partner yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer eu cyfran bersonol nhw o’r elw. A bydd partner enwebedig yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad partneriaeth ar ran y busnes.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am sefydlu partneriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cwmni cyfyngedig preifat (Cyf)

Mae cwmni cyfyngedig preifat (Cyf), yn endid cyfreithiol unigol ac yn bodoli hollol ar wahân i’r bobl sydd yn berchen arno ac yn ei redeg. Bydd rhaid cofrestru’r cwmni (neu ei ymgorffori) gyda Thŷ’r Cwmnïau, a bydd rhaid bod ag enw addas a chyfeiriad.

Bydd gan y cwmni gyfarwyddwr (fel arfer y person a sefydlodd y busnes), sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am redeg y cwmni. Ac o leiaf un cyfranddaliwr (a elwir hefyd yn aelod).

Bydd cwmni Cyf yn gorfod talu treth gorfforaeth ar unrhyw elw. A rhennir unrhyw elw ar ôl treth rhwng y cyfranddeiliaid.

Bydd angen i’r cwmni gyflwyno ei gyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau a ffurflen dreth i HMRC.

Bydd y cyfarwyddwr angen cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad hefyd, ond bydd yn talu treth ar yr arian a enillodd drwy redeg y busnes yn unig, nid ar yr elw. Mae'r cyfarwyddwr yn dal i fod yn bersonol gyfrifol am dalu treth ar unrhyw incwm arall o'r tu allan i'r cwmni.

Darganfyddwch fwy am sefydlu cwmni cyfyngedig preifatYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Er mai’r rhain yw’r hawsaf i’w sefydlu a’u deall, mae opsiynau eraill ar gael hefyd.

Partneriaeth gyfyngedig

Mae rhaid i bartneriaeth gyfyngedig gael o leiaf un partner cyffredinol ac un partner cyfyngedig.

Y partner cyffredinol sy’n gyfrifol am redeg y busnes ynghyd â dyledion y bartneriaeth. Mae’r partner cyfyngedig yn atebol dim ond am y swm a fuddsoddodd ef neu hi yn y busnes yn wreiddiol.

Darganfyddwch fwy am bartneriaethau cyfyngedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Partneriaethau ag atebolrwydd cyfyngedig (LLP)

Mae LLPs yn gyfuniad o bartneriaeth a chwmni cyfyngedig.

Fel partneriaeth, gall un neu ragor o bobl ei sefydlu. Ond fel Cyf, mae rhaid:

  • ei hymgorffori gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • rhoi enw addas a chyfeiriad iddi
  • iddi fod yn endid cyfreithiol ar wahân o’r unigolion sy’n ei rhedeg.

Mae rhaid iddi hefyd gael o leiaf dau gyfranddaliwr (neu aelodau) – ac mae pob cyfranddaliwr yn talu treth ar ei gyfran o’r elw.

Cyfyngir atebolrwydd y partneriaid dros ddyledion y busnes i’r swm a fuddsoddwyd ganddynt.

Darganfyddwch fwy am bartneriaethau ag atebolrwydd cyfyngedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Nol i’r brig

Ydych chi’n ystyried prynu masnachfraint?

A oes gennych ddiddordeb mewn mynd yn hunangyflogedig neu gychwyn eich busnes eich hun, ond ddim eisiau cychwyn o’r gwaelod? Gallai masnachfraint fod yn rhywbeth i’w ystyried.

Masnachfreinio yw prynu trwydded gan berchennog busnes i ddefnyddio syniad busnes ac enw brand sy’n bodoli eisoes.

Mae rhai masnachfreintiau adnabyddus yn cynnwys allfeydd bwyd cadwyn McDonalds, Burger King a KFC. Ond mae miloedd o gyfleoedd masnachfraint eraill ar gael, gan enwau sy’n adnabyddus yn fyd-eang a gan sefydliadau lleol.

Gall y costau sefydlu fod braidd yn ddrud. Ond byddwch yn prynu i mewn i frand sefydledig a dylai’r trefniant gynnwys:

  • hyfforddiant a chanllawiau i sefydlu, a
  • cynnal a thyfu eich masnachfraint.

Ond gwyliwch rhag sgamiau. Sicrhewch fod y brand yn un sefydledig a bod y masnachfreiniwr wrthi’n marchnata’r brand yn bwrpasol.

I ddarganfod mwy am fasnachfraint, ewch i wefan Cymdeithas Masnachfraint Prydain
 
Yng Ngogledd Iwerddon, mae rhagor o wybodaeth am brynu masnachfraint ar wefan NI Business Info
Nol i’r brig

Beth sydd angen i chi ei wneud wrth gychwyn busnes a mynd yn hunangyflogedig

Pan fyddwch yn ystyried mynd yn hunangyflogedig neu sefydlu busnes, bydd llawer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried.

Nid rhestr gyflawn yw hon, ond mae’n cynnwys rhai o’r prif elfennau y dylech eu hystyried.

Darganfyddwch fwy am sefydlu eich busnes eich hunanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Lluniwch gyllideb

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll mae’n debyg, mae angen llunio cyllideb.

Bydd angen i chi feddwl am yr holl gostau fydd eu hangen i sefydlu’ch busnes ac i gychwyn arni. Gallai’r costau hynny gynnwys:

  • rhentu adeilad busnes neu flaen siop, a’r costau ynghlwm â hynny - gan gynnwys trydan a chysylltiad i’r rhyngrwyd.
  • prynu neu hurio cerbyd(au) a chost tanwydd a chynnal a chadw
  • offer gan gynnwys celfi, cyfrifiaduron a ffonau
  • sefydlu a chynnal gwefan
  • hysbysebu and deunyddiau marchnata
  • staff.

Yn amlwg, efallai na fydd angen y cyfan o’r rhain arnoch:

  • nid oes angen adeilad pwrpasol ar lawer o fusnesau llwyddiannus
  • efallai bod llawer o’r offer angenrheidiol gennych yn barod
  • efallai na fydd angen staff arnoch hyd nes i’r busnes sefydlu rhyw gymaint

Fodd bynnag, bydd angen i chi hefyd ystyried eich costau personol fel rhent, morgais, biliau cyfleustodau, gofal plant a bwyd.

Yna bydd angen i chi ystyried faint o’ch arian eich hun allwch fforddio ei fuddsoddi. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod a fydd angen i chi chwilio am fuddsoddiad neu fenthyciad busnes.

Efallai y gallwch wneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes a gefnogir gan y llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd o £500 i £25,000 i ddechrau busnes. Darganfyddwch fwy ar GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd

Cynllun busnes

Mae dau brif reswm dros ysgrifennu cynllun busnes:

  1. Am resymau busnes – fel gallwch amlinellu’ch amcanion, datblygu syniadau a chynllunio ar gyfer y tymor byr a’r tymor canol.
  2. I’w gyflwyno i bobl y tu hwnt i’ch busnes – fel arfer i fanciau a buddsoddwyr arfaethedig, os ydych yn dymuno codi arian.

Waeth pwy yw eich cynulleidfa wrth gyflwyno’r cynllun, mae’n bwysig bod yn realistig ynglŷn â’ch costau a’ch gobeithion o ran incwm.

Os caiff ei ddarllen gan bobl y tu hwnt i’ch busnes, gwnewch yn siŵr ei fod:

  • yn edrych yn broffesiynol,
  • wedi ei strwythuro’n dda
  • yn cynnwys yr holl wybodaeth y byddai pobl yn disgwyl ei gweld.
Darganfyddwch fwy am gynllunio busnes, gan gynnwys sut i ysgrifennu cynllun busnesYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cyllidebu ar gyfer eich Bil Treth Hunanasesiad

Os ydych yn ystyried sefydlu’ch busnes eich hun, bydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer Hunanasesiad i dalu’ch trethi eich hunan.

Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion hunangyflogaeth fel ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych ar arian a enillwyd yn y flwyddyn dreth 2025/26 yn daladwy tan fis Ionawr 2027.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gynllunio sut fyddwch yn talu bil a allai fod yn swm sylweddol.

Y newyddion da yw y bydd gennych syniad da faint o dreth fydd yn ddyledus gennych ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol. Mae hynny’n rhoi naw mis i chi baratoi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn sefydlu cwmni preifat cyfyngedig (Cyf) neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, bydd angen i chi dalu Treth Gorfforaeth hefyd ar elw eich busnes.

Darganfyddwch fwy am gofrestru ar gyfer, a thalu,Treth GorfforaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cofrestru ar gyfer TAW

O fis Ebrill 2025 ymlaen, os oes gennych drosiant o fwy na £90,000, bydd angen i chi gadw cofnodion treth digidol a chyflwyno ffurflenni TAW gan ddefnyddio system Gwneud Treth yn Ddigidol CThEF. Ond gallai rhai busnesau elwa o gofrestru, hyd yn oed gyda throsiant islaw hyn.

Darganfyddwch fwy am wneud treth yn ddigidolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi godi TAW ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gennych.

Fodd bynnag, gallwch hawlio’r TAW a dalwch am nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’ch busnes, yn ôl.

Darganfyddwch fwy am gofrestru ar gyfer TAWYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cadw cofnodion

Oeddech chi’n gwybod?

Os yw’ch trosiant blynyddol cyfunol yn llai na £150,000 y flwyddyn, gallwch ddefnyddio fersiwn symlach o dreuliau, sef ar sail arian parod. Mae sail arian parod yn ffordd i gyfrifo'ch incwm a'ch treuliau ar gyfer eich ffurflen dreth Hunan-asesiad, os ydych chi'n unig fasnachwr neu'n bartn.

Os na fuoch erioed yn hunangyflogedig o’r blaen, un peth y bydd rhaid i chi ddysgu ei wneud yn fuan iawn yw cadw cofnodion.

Bydd angen i chi gadw cofnod o’r hyn a godwch ar eich cleientiaid am nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal ag unrhyw dreuliau sy’n gysylltiedig â’r busnes.

Mae’r math o gofnodion sy’n dderbyniol yn cynnwys derbynebau, cyfriflenni banc, anfonebau a rholiau til.

Ni fydd angen i chi anfon eich cofnodion pan fyddwch chi'n cyflwyno ffurflen dreth. Ond mae'n arfer da eu cadw am bum mlynedd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen dreth berthnasol.

Er enghraifft, ar gyfer eich ffurflen dreth 2026/27, dylech gadw eich cofnodion tan 31 Ionawr 2032.

Darganfyddwch fwy am gadw cofnodion pan ydych yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
 
Darganfyddwch fwy am dreuliau derbyniol pan ydych yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cyfrifo traddodiadol vs arian parod

A oes gennych drosiant blynyddol cyfunol o lai na £150,000 a’ch bod yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth? Gallwch ddefnyddio cyfrifo ar sail arian parod yn hytrach na chyfrifo traddodiadol.

Gyda chyfrifo traddodiadol rydych yn talu treth a hawlio treuliau’n seiliedig ar yr anfoneb neu’r dyddiad bilio.

Os dewiswch gyfrifo ar sail arian parod, rydych yn talu treth a hawlio treuliau yn unol â pha bryd mae’r arian yn gadael neu’n mynd i mewn i’ch cyfrif.

Pam fod hyn o bwys? Wel, os ydych yn cael eich talu am waith yn fisol, yna mae’n debyg nad yw’n gwneud llawer o wahaniaeth. Ond, os cytunwch i anfonebu rhywun am waith rai misoedd cyn i chi gael eich talu yna gall hynny newid y flwyddyn y talwch dreth ar yr incwm hwnnw.

Er enghraifft, os defnyddiwch gyfrifo traddodiadol ac anfonebu rhywun ym mis Mawrth 2026, ond ni chewch eich talu tan fis Gorffennaf 2026, rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn ar eich ffurflen dreth 2025/26 a thalu treth arno erbyn mis Ionawr 2027.

Os defnyddiwch y dull ar sail arian parod, byddai rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn yn y flwyddyn dreth y cawsoch eich talu, sef 2026/27. Mae hyn yn golygu na fyddai rhaid i chi dalu treth arno tan fis Ionawr 2028.

Fodd bynnag, mae rhai anfanteision i gyfrifo ar sail arian parod. Er enghraifft, ni allwch wrthbwyso colledion yn erbyn eich incwm trethadwy, na hawlio mwy na £500 mewn costau llog. Felly efallai y byddai’n syniad da i chi gael cyngor ynglŷn â beth fyddai orau i chi a’ch busnes.

Darganfyddwch fwy am gyfrifo ar sail arian parodYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

A oes angen cyfrifydd arnoch chi?

Mae hwn yn gwestiwn anodd ac nid oes ateb pendant. Os yw’ch busnes yn gwbl newydd ac mae eich sefyllfa ariannol yn un syml, gallech roi cynnig ar reoli’r cyfan eich hunan, am y tro beth bynnag.

Fodd bynnag, gall talu cyfrifydd fod yn gam da gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn medru rhoi cyngor ar gynllunio ar gyfer treth a gwrthbwyso treuliau yn erbyn incwm. Hefyd nid yw o reidrwydd yn gostus.

Os ydych yn bwriadu llogi cyfrifydd, sicrhewch eu bod yn aelod o gorff masnach perthnasol, fel:

  • Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol (IFA)
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW)

Gallai cyfrifwyr hefyd fod wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Fodd bynnag, mae rhai cyfrifwyr wedi’u heithrio ac nid yw’n ofynnol iddynt gael eu hawdurdodi gan y FCA wrth gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau rheoledig.

Darganfyddwch fwy ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Oes angen cyfrif banc busnes arnaf?

Os ydych yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth, nid oes raid i chi gael cyfrif banc busnes. Ond, gallai fod o fudd i chi gadw’ch arian busnes a phersonol ar wahan, yn enwedig os ydych mewn partneriaeth.

Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, mae’n rhaid i chi gael cyfrif banc busnes.

Fel gyda chyfrifon personol, mae gan gyfrifon banc busnes lawer o nodweddion gwahanol. Gallwch gymharu gwahanol gyfrifon banc busnes yn:

  • MoneySupermarket
  • Go Compare
  • Business Comparison

Meddalwedd cadw cyfrifon

Mae rhai darparwyr yn gallu cyflwyno rhannau o'ch ffurflen dreth yn awtomatig. Os ydych chi eisiau rhywfaint o help gyda’ch cofnodion a chadw llyfrau, efallai y byddwch eisiau edrych ar rai o’r cyflenwyr meddalwedd masnachol a restrir ar adran CThEFYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK a gwirio a yw'n cydymffurfio â Gwneud Treth yn Ddigidol.

Yswiriant personol a busnes

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae’n bwysig sicrhau bod gennych yswiriant.

Byddwch yn sicr angen rhyw fath o yswiriant busnes, fel atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant offer. Ond mae ystod eang o gynnyrch ar gael.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig

Gan nad oes gennych gyflogwr i ddibynnu arno os ewch yn sâl, nac yswiriant iechyd, efallai hoffech ystyried polisi yswiriant personol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant personol pan fyddwch yn hunangyflogedig

Budd-daliadau a hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig ac ar incwm isel, efallai gallwch wneud cais am fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Nol i’r brig

Darganfyddwch fwy

Darganfyddwch am gymorth ymarferol ac ariannol i bobl ifanc (hyd at 30 oed) ar Ymddiriedolaeth y Brenin
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Hunangyflogaeth

Bod yn hunangyflogedig

  • Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Cymryd yswiriant personol pan ewch yn hunangyflogedig
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Bod yn hunangyflogedig

  • Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Cymryd yswiriant personol pan ewch yn hunangyflogedig
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012