Pan fyddwch yn hunangyflogedig, chi sy’n gyfrifol am dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich incwm. Dyma sut mae'n gweithio.
Beth sydd yn y canllaw
- Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- Faint allwch chi ei ennill yn ddi-dreth
- Cyfraddau treth incwm hunangyflogaeth
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig
- Amcangyfrifwch eich bil treth gyda theclyn am ddim
- Sut i dalu treth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig
- Byddwch hefyd yn talu Treth Gorfforaeth os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Os byddwch yn dod yn hunangyflogedig ac yn disgwyl ennill mwy na £1,000, mae angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’n well cofrestru cyn gynted ag y gallwch, ond y dyddiad cau yw 5 Hydref y flwyddyn dreth ganlynol (mae blwyddyn dreth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill). Er enghraifft, os gwnaethoch ddechrau bod yn hunangyflogedig ym mis Mehefin 2024, byddai angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref 2025.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn cofrestru'n hwyr. Gweler ein canllaw Ffurflen Dreth Hunanasesiad am fwy o wybodaeth.
Sut i wirio a ydych yn hunangyflogedig at ddibenion treth
Mae gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) declyn gwirio statws eich cyflogaethYn agor mewn ffenestr newydd
Mae hyn yn dangos a ydych yn cael eich ystyried yn hunangyflogedig ar sail eich manylion. Er enghraifft, os oes gennych incwm gan gyflogwr a hunangyflogaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro contractau a hawliau cyflogaeth.
Faint allwch chi ei ennill yn ddi-dreth
Pan fyddwch yn hunangyflogedig, gallwch ddidynnu symiau penodol o’ch incwm cyn talu treth.
1. Gallwch ddidynnu treuliau busnes caniataol cyn talu treth
Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn talu treth incwm ar eich elw masnachu. Yn gyffredinol, dyma’r swm o arian sy’n weddill ar ôl i chi ddidynnu treuliau cysylltiedig â busnes.
Os oedd eich incwm hunangyflogaeth dros £1,000, bydd angen i chi ddatgan treuliau ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Gallwch naill ai ddewis:
- didynnu cyfanswm eich treuliau busnes caniataol, neu
- hawlio un neu’r ddau o’r lwfansau di-dreth safonol hyn:
- Lwfans masnachuYn agor mewn ffenestr newydd o £1,000 ar gyfer incwm hunangyflogedig
- Lwfans eiddoYn agor mewn ffenestr newydd o £1,000 ar gyfer incwm o dir neu eiddo.
Os yw eich treuliau busnes yn uwch na £1,000, yn gyffredinol mae’n well i chi ddidynnu eich treuliau yn hytrach na hawlio’r lwfans safonol. Gweler treuliau hunangyflogaeth derbyniol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Opens in a new window
2. Byddwch fel arfer yn cael Lwfans Personol di-dreth
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, y Lwfans Personol safonol yw £12,570.
Gostyngir eich Lwfans Personol £1 am bob £2 o incwm y byddwch yn ei ennill dros £100,000. Felly ni chewch unrhyw lwfans personol os ydych yn ennill dros £125,140.
Os oes gennych swydd arall
Dim ond un Lwfans Personol a gewch, y mae CThEF fel arfer yn berthnasol i'ch prif gyflogaeth. Fel arfer dyma'r swydd sy'n talu fwyaf i chi.
Os ydych yn gweithio dwy swydd ac nad yw'r naill na'r llall o'r incwm yn uwch na £12,570, gallwch rannu eich Lwfans Personol. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth a thâl ail swydd.
Cyfraddau treth incwm hunangyflogaeth
Mae swm y dreth incwm fyddwch yn ei dalu ar eich elw masnachu yr un fath â phetaech yn gyflogedig.
Dyma’r cyfraddau Treth Incwm presennol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn seiliedig ar y Lwfans Personol safonol o £12,570. Ar gyfer yr Alban, gweler Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yr Alban.
Enillion masnachu | Cyfradd treth | Band treth |
---|---|---|
£0 i £12,570 |
0% |
Lwfans personol |
£12,571 i £50,270 |
20% |
Cyfradd safonol |
£50,271 i £125,140 |
40% |
Cyfradd uwch |
Os ydych yn ennill dros £125,140, byddwch yn talu 45% o dreth gyfradd ychwanegol ar eich holl elw masnachu. Nid ydych yn cael Lwfans Personol.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) yn talu am fudd-daliadau penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Ceisio Gwaith. Dyma faint fyddech chi’n ei dalu ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25:
Eich elw masnachu blynyddol | Math o Yswiriant Gwladol | Cyfraddau cyfraniad (blwyddyn dreth 2024/25) |
---|---|---|
£0 i £6,725 |
Dosbarth 2 |
£3.45 yr wythnos, ond mae hwn yn wirfoddol |
£6,725 i £12,569 |
Dosbarth 2 |
£0 yr wythnos - nid oes angen i chi dalu ond fe'ch cyfrifir fel un sy'n gwneud cyfraniadau Dosbarth 2 i ddiogelu eich cofnod YG |
£12,570 i £50,269 |
Dosbarth 4 |
6% o elw rhwng £12,570-£50,270 |
Dros £50,270 |
Dosbarth 4 |
6% o elw rhwng £12,570-£50,270 a 2% o elw dros hyn |
Felly, ar gyfer elw dros £55,000, byddech yn talu:
- 6% ar y £37,700 nesaf
- 2% ar y £4,730 terfynol.
Byddwch yn dal i allu talu Dosbarth 2 yn wirfoddol os yw eich elw o dan £6,725.
Darganfyddwch fwy am gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Opens in a new window
Amcangyfrifwch eich bil treth gyda theclyn am ddim
Gallwch ddefnyddio Cyfrifydd parod i’r hunangyflogedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd i gael syniad o faint o dreth ac Yswiriant Gwladol y mae’n debygol y bydd angen i chi ei dalu.
Sut i dalu treth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig
Oni bai eich bod yn ennill llai na £1,000 mewn blwyddyn dreth o hunangyflogaeth, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Am gymorth llawn gweler:
- Sut i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer canllawiau, fideos a gweminarau Hunanasesu CthEF
Byddwch hefyd yn talu Treth Gorfforaeth os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig
Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig preifat (Ltd) neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP), bydd angen i chi hefyd dalu Treth Gorfforaeth ar elw eich busnes.
Gallai hyn olygu gorfod cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer unrhyw arian fyddwch yn ei ennill drwy'r cwmni.
Darganfyddwch fwy am gofrestru ar gyfer, a thalu Treth Gorfforaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd