Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Beth i’w ystyried wrth ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Gall gweithio i chi eich hun roi llawer o foddhad i chi. Mae’n golygu gallwch:

  • gwneud rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, neu eich bod yn angerddol amdano
  • dewis eich oriau gweithio
  • gweithio o gwmpas ymrwymiadau eraill, fel eich plant
  • cael mwy o reolaeth dros eich incwm.

Ond mae rhai anfanteision hefyd:

  • gweithio oriau hir ac ar benwythnosau
  • delio ag incwm afreolaidd
  • gorfod gwneud eich gwaith cyfrifo a’ch ffurflenni treth eich hun
  • prin neu ddim buddion cyflogaeth, fel gwyliau â thâl.

Pa help sydd ar gael os byddwch yn mynd yn hunangyflogedig

n ffodus, pan fyddwch yn dechrau’ch busnes eich hun, mae digon o gymorth a chyngor ar gael.

Bydd gwasanaethau cynghori sy’n cael cymorth y llywodraeth ledled y DU yn eich helpu gydag unrhyw beth o greu cynllun busnes ac ymchwilio i’r farchnad, i ddod o hyd i gyllid a recriwtio staff.

Felly, gan ddibynnu ble rydych yn byw, dylai’r rheiny fod eich man cychwyn.

Gwahanol fathau o fusnesau hunangyflogedig

A ydych yn ystyried cychwyn eich busnes eich hun neu fynd yn hunangyflogedig? Un o’r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei ystyried fydd strwythur eich busnes.

Unig fasnachwr

Dyma’r strwythur busnes symlaf. Byddwch yn rhedeg eich busnes eich hun ac yn cadw unrhyw elw ar ôl talu treth.

Fodd bynnag, ni ystyrir bod eich asedau personol ac asedau busnes yn cael eu cadw ar wahân. Golyga hyn eich bod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw ddyledion sy’n gysylltiedig â’ch busnes. Gallwch leddfu’r broblem hon drwy yswiriant, neu drwy ddewis un o’r strwythurau busnes eraill a drafodir isod.

Ond, peidiwch â chilio oddi wrth y syniad o fod yn fusnes. Unig fasnachwr yw hynny’n union – un person, sef chi, yn gweithio iddo’i hun. Nid oes angen i chi fod yn berchennog siop. Gallech fod yn yrrwr tacsi neu’n rhywun sy’n trin gwallt. Mae bod yn fusnes dim ond y term swyddogol.

I ddod yn unig fasnachwr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru fel rhywun hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Partneriaeth

Mae partneriaeth pan ewch i mewn i fusnes gydag un neu ragor o bobl yn rhannu’r cyfrifoldeb am y busnes rhyngoch.

Mae’n bwysig i chi lunio cytundeb partneriaeth, er mwyn i bawb sydd ynghlwm wybod sut y rhennir yr elw.

Ymdrinnir â dyledion busnes dan yr hyn a elwir yn Atebolrwydd Cyd ac Unigol. Golyga hyn bod pob aelod o’r bartneriaeth yn gyfrifol am y dyledion. Mae hyn ar y cyd, neu fel unigolion, yn ddibynnol ar faint all bob un ohonynt ei fforddio dalu’n ôl.

Bydd pob partner yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer eu cyfran bersonol nhw o’r elw. A bydd partner enwebedig yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad partneriaeth ar ran y busnes.

Cwmni cyfyngedig preifat (Cyf)

Mae cwmni cyfyngedig preifat (Cyf), yn endid cyfreithiol unigol ac yn bodoli hollol ar wahân i’r bobl sydd yn berchen arno ac yn ei redeg. Bydd rhaid cofrestru’r cwmni (neu ei ymgorffori) gyda Thŷ’r Cwmnïau, a bydd rhaid bod ag enw addas a chyfeiriad.

Bydd gan y cwmni gyfarwyddwr (fel arfer y person a sefydlodd y busnes), sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am redeg y cwmni. Ac o leiaf un cyfranddaliwr (a elwir hefyd yn aelod).

Bydd cwmni Cyf yn gorfod talu treth gorfforaeth ar unrhyw elw. A rhennir unrhyw elw ar ôl treth rhwng y cyfranddeiliaid.

Bydd angen i’r cwmni gyflwyno ei gyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau a ffurflen dreth i HMRC.

Bydd y cyfarwyddwr angen cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad hefyd, ond bydd yn talu treth ar yr arian a enillodd drwy redeg y busnes yn unig, nid ar yr elw.

Er mai’r rhain yw’r hawsaf i’w sefydlu a’u deall, mae opsiynau eraill ar gael hefyd.

Partneriaeth gyfyngedig

Mae rhaid i bartneriaeth gyfyngedig gael o leiaf un partner cyffredinol ac un partner cyfyngedig.

Y partner cyffredinol sy’n gyfrifol am redeg y busnes ynghyd â dyledion y bartneriaeth. Mae’r partner cyfyngedig yn atebol dim ond am y swm a fuddsoddodd ef neu hi yn y busnes yn wreiddiol.

Partneriaethau ag atebolrwydd cyfyngedig (LLP)

Mae LLPs yn gyfuniad o bartneriaeth a chwmni cyfyngedig.

Fel partneriaeth, gall un neu ragor o bobl ei sefydlu. Ond fel Cyf, mae rhaid:

  • ei hymgorffori gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • rhoi enw addas a chyfeiriad iddi
  • iddi fod yn endid cyfreithiol ar wahân o’r unigolion sy’n ei rhedeg.

Mae rhaid iddi hefyd gael o leiaf dau gyfranddaliwr (neu aelodau) – ac mae pob cyfranddaliwr yn talu treth ar ei gyfran o’r elw.

Cyfyngir atebolrwydd y partneriaid dros ddyledion y busnes i’r swm a fuddsoddwyd ganddynt.

Ydych chi’n ystyried prynu masnachfraint?

A oes gennych ddiddordeb mewn mynd yn hunangyflogedig neu gychwyn eich busnes eich hun, ond ddim eisiau cychwyn o’r gwaelod? Gallai masnachfraint fod yn rhywbeth i’w ystyried.

Masnachfreinio yw prynu trwydded gan berchennog busnes i ddefnyddio syniad busnes ac enw brand sy’n bodoli eisoes.

Mae rhai masnachfreintiau adnabyddus yn cynnwys allfeydd bwyd cadwyn McDonalds, Burger King a KFC. Ond mae miloedd o gyfleoedd masnachfraint eraill ar gael, gan enwau sy’n adnabyddus yn fyd-eang a gan sefydliadau lleol.

Gall y costau sefydlu fod braidd yn ddrud. Ond byddwch yn prynu i mewn i frand sefydledig a dylai’r trefniant gynnwys:

  • hyfforddiant a chanllawiau i sefydlu, a
  • cynnal a thyfu eich masnachfraint.

Ond gwyliwch rhag sgamiau. Sicrhewch fod y brand yn un sefydledig a bod y masnachfreiniwr wrthi’n marchnata’r brand yn bwrpasol.

Beth sydd angen i chi ei wneud wrth gychwyn busnes a mynd yn hunangyflogedig

Pan fyddwch yn ystyried mynd yn hunangyflogedig neu sefydlu busnes, bydd llawer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried.

Nid rhestr gyflawn yw hon, ond mae’n cynnwys rhai o’r prif elfennau y dylech eu hystyried.

Lluniwch gyllideb

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll mae’n debyg, mae angen llunio cyllideb.

Bydd angen i chi feddwl am yr holl gostau fydd eu hangen i sefydlu’ch busnes ac i gychwyn arni. Gallai’r costau hynny gynnwys:

  • rhentu adeilad busnes neu flaen siop, a’r costau ynghlwm â hynny - gan gynnwys trydan a chysylltiad i’r rhyngrwyd.
  • prynu neu hurio cerbyd(au) a chost tanwydd a chynnal a chadw
  • offer gan gynnwys celfi, cyfrifiaduron a ffonau
  • sefydlu a chynnal gwefan
  • hysbysebu and deunyddiau marchnata
  • staff.

Yn amlwg, efallai na fydd angen y cyfan o’r rhain arnoch:

  • nid oes angen adeilad pwrpasol ar lawer o fusnesau llwyddiannus
  • efallai bod llawer o’r offer angenrheidiol gennych yn barod
  • efallai na fydd angen staff arnoch hyd nes i’r busnes sefydlu rhyw gymaint

Fodd bynnag, bydd angen i chi hefyd ystyried eich costau personol fel rhent, morgais, biliau cyfleustodau, gofal plant a bwyd.

Yna bydd angen i chi ystyried faint o’ch arian eich hun allwch fforddio ei fuddsoddi. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod a fydd angen i chi chwilio am fuddsoddiad neu fenthyciad busnes.

Cynllun busnes

Mae dau brif reswm dros ysgrifennu cynllun busnes:

  1. Am resymau busnes – fel gallwch amlinellu’ch amcanion, datblygu syniadau a chynllunio ar gyfer y tymor byr a’r tymor canol.
  2. I’w gyflwyno i bobl y tu hwnt i’ch busnes – fel arfer i fanciau a buddsoddwyr arfaethedig, os ydych yn dymuno codi arian.

Waeth pwy yw eich cynulleidfa wrth gyflwyno’r cynllun, mae’n bwysig bod yn realistig ynglŷn â’ch costau a’ch gobeithion o ran incwm.

Os caiff ei ddarllen gan bobl y tu hwnt i’ch busnes, gwnewch yn siŵr ei fod:

  • yn edrych yn broffesiynol,
  • wedi ei strwythuro’n dda
  • yn cynnwys yr holl wybodaeth y byddai pobl yn disgwyl ei gweld.

Talu trethi

Cyllidebu ar gyfer eich Bil Treth Hunanasesiad

Os ydych yn ystyried sefydlu’ch busnes eich hun, bydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer Hunanasesiad i dalu’ch trethi eich hunan.

Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion hunangyflogaeth fel ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych ar arian a enillwyd yn y flwyddyn dreth 2022/23 yn daladwy tan fis Ionawr 2024.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gynllunio sut fyddwch yn talu bil a allai fod yn swm sylweddol.

Y newyddion da yw y bydd gennych syniad da faint o dreth fydd yn ddyledus gennych ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol. Mae hynny’n rhoi naw mis i chi baratoi.

Os ydych yn sefydlu cwmni preifat cyfyngedig (Cyf) neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, bydd angen i chi dalu Treth Gorfforaeth hefyd ar elw eich busnes.

Cofrestru ar gyfer TAW

Os oes gan eich busnes drosiant trethadwy o £85,000 neu fwy, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Ond gallai fod o fudd i rai busnesau gofrestru hyd yn oed os yw eu trosiant yn is na hyn.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi godi TAW ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gennych. Bydd angen i chi gwblhau llawer o waith papur ychwanegol hefyd.

Fodd bynnag, gallwch hawlio’r TAW a dalwch am nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’ch busnes, yn ôl.

Cadw cofnodion

Os na fuoch erioed yn hunangyflogedig o’r blaen, un peth y bydd rhaid i chi ddysgu ei wneud yn fuan iawn yw cadw cofnodion.

Bydd angen i chi gadw cofnod o’r hyn a godwch ar eich cleientiaid am nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal ag unrhyw dreuliau sy’n gysylltiedig â’r busnes.

Mae’r math o gofnodion sy’n dderbyniol yn cynnwys derbynebau, cyfriflenni banc, anfonebau a rholiau til.

Ni fydd angen i chi anfon eich cofnodion wrth gyflwyno ffurflen dreth, ond bydd angen i chi eu cadw am bum mlynedd ar ôl dyddiad cau dychwelyd y ffurflen dreth berthnasol.

Er enghraifft, ar gyfer eich ffurflen dreth 2023/24, bydd angen i chi gadw’ch cofnodion tan 31 Ionawr 2029.

Cyfrifo traddodiadol vs arian parod

A oes gennych drosiant blynyddol cyfunol o lai na £150,000 a’ch bod yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth? Gallwch ddefnyddio cyfrifo ar sail arian parod yn hytrach na chyfrifo traddodiadol.

Gyda chyfrifo traddodiadol rydych yn talu treth a hawlio treuliau’n seiliedig ar yr anfoneb neu’r dyddiad bilio.

Os dewiswch gyfrifo ar sail arian parod, rydych yn talu treth a hawlio treuliau yn unol â pha bryd mae’r arian yn gadael neu’n mynd i mewn i’ch cyfrif.

Pam fod hyn o bwys? Wel, os ydych yn cael eich talu am waith yn fisol, yna mae’n debyg nad yw’n gwneud llawer o wahaniaeth. Ond, os cytunwch i anfonebu rhywun am waith rai misoedd cyn i chi gael eich talu yna gall hynny newid y flwyddyn y talwch dreth ar yr incwm hwnnw.

Er enghraifft, os defnyddiwch gyfrifo traddodiadol ac anfonebu rhywun ym mis Mawrth 2023, ond ni chewch eich talu tan fis Gorffennaf 2023, rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn ar eich ffurflen dreth 2022/23 a thalu treth arno erbyn mis Ionawr 2024.

Os defnyddiwch y dull ar sail arian parod, byddai rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn yn y flwyddyn dreth y cawsoch eich talu, sef 2022/23. Mae hyn yn golygu na fyddai rhaid i chi dalu treth arno tan fis Ionawr 2024.

Fodd bynnag, mae rhai anfanteision i gyfrifo ar sail arian parod. Er enghraifft, ni allwch wrthbwyso colledion yn erbyn eich incwm trethadwy, na hawlio mwy na £500 mewn costau llog. Felly efallai y byddai’n syniad da i chi gael cyngor ynglŷn â beth fyddai orau i chi a’ch busnes.

A oes angen cyfrifydd arnoch chi?

Mae hwn yn gwestiwn anodd ac nid oes ateb pendant. Os yw’ch busnes yn gwbl newydd ac mae eich sefyllfa ariannol yn un syml, gallech roi cynnig ar reoli’r cyfan eich hunan, am y tro beth bynnag.

Fodd bynnag, gall talu cyfrifydd fod yn gam da gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn medru rhoi cyngor ar gynllunio ar gyfer treth a gwrthbwyso treuliau yn erbyn incwm. Hefyd nid yw o reidrwydd yn gostus.

Os ydych yn bwriadu llogi cyfrifydd, sicrhewch eu bod yn aelod o gorff masnach perthnasol, fel:

Gallai cyfrifwyr hefyd fod wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Fodd bynnag, mae rhai cyfrifwyr wedi’u heithrio ac nid yw’n ofynnol iddynt gael eu hawdurdodi gan y FCA wrth gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau rheoledig.

Oes angen cyfrif banc busnes arnaf?

Os ydych yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth, nid oes raid i chi gael cyfrif banc busnes. Ond, gallai fod o fudd i chi gadw’ch arian busnes a phersonol ar wahan, yn enwedig os ydych mewn partneriaeth.

Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, mae’n rhaid i chi gael cyfrif banc busnes.

Fel gyda chyfrifon personol, mae gan gyfrifon banc busnes lawer o nodweddion gwahanol. Gallwch gymharu gwahanol gyfrifon banc busnes yn:

Meddalwedd cadw cyfrifon

Os hoffech gael ychydig o help gyda chadw cofnodion a gwaith cyfrifo, efallai hoffech edrych ar rai o’r cyflenwyr meddalwedd masnachol.

Mae rhai cyflenwyr yn gallu cyflwyno rhannau o’ch ffurflen dreth yn awtomatig. Rhestrir y rhain ar adran HMRC o wefan GOV.UK

Yswiriant personol a busnes

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae’n bwysig sicrhau bod gennych yswiriant.

Byddwch yn sicr angen rhyw fath o yswiriant busnes, fel atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant offer. Ond mae ystod eang o gynnyrch ar gael.

Gan nad oes gennych gyflogwr i ddibynnu arno os ewch yn sâl, nac yswiriant iechyd, efallai hoffech ystyried polisi yswiriant personol.

Budd-daliadau a hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig ac ar incwm isel, efallai gallwch wneud cais am fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.