Esbonio Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn swydd go iawn â hyfforddiant, fel y gallwch ennill cyflog wrth i chi ddysgu a chael eich hyfforddi’n llawn yn eich dewis o alwedigaeth erbyn diwedd y brentisiaeth. Mae’n eich galluogi i chi wella eich sgiliau a symud ymlaen yn eich gyrfa. 

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth:
  • ar gael i unrhyw un dros 16 oed, sydd heb gofrestru mewn addysg llawn amser
  • ar gael mewn dros 170 o ddiwydiannau, yn cynnwys awyrofod, cyllid a ffasiwn
  • yn cymryd rhwng un i bum mlynedd i gwblhau yn ddibynnol ar: oed, sgiliau a sector
  • yn cyfuno hyfforddiant ymarferol ‘yn y gwaith’ â gwaith astudio academaidd a gallech weithio tuag at gymhwyster.
Mae gan brentisiaethau yn Lloegr lefelau addysgol cyfwerth
Enw Lefel Lefel addysgol gyfwerth

Intermediate

2

TGAU

Advanced

3

Lefel A

Higher

4, 5, 6 a 7

Gradd sylfaen ac uwch

Degree

6 a 7

Gradd Baglor neu Feistr

I gael eich derbyn ar brentisiaeth, mae rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion mynediad  

Beth fyddwn yn ei ddysgu?

Mae pob prentis yn dilyn rhaglen o astudio gymeradwy, a gynllunwyd ar gyfer y swydd y maent yn hyfforddi ar ei chyfer.

Bydd eich cyflogwr yn penderfynu strwythur eich hyfforddiant, ond yn gyffredinol mae prentisiaethau'n cyfuno:

  • cynllun hyfforddiant manwl
  • adolygiadau cynnydd rheolaidd
  • hyfforddiant ymarferol yn y swydd
  • astudio damcaniaethol mewn coleg
  • profion asesu mewn cyfleuster hyfforddiant
  • mentora a chefnogaeth trwy gydol eich prentisiaeth.

Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod wedi sicrhau’r cymwysterau, sgiliau a phrofiad sy’n ofynnol gan gyflogwyr posibl yn y maes.

Faint o oriau fyddwn yn eu gweithio yr wythnos?

Dylai prentisiaid weithio am isafswm o 30 awr yr wythnos ac uchafswm o 40.

Mae amser a dreulir oddi wrth y swydd yn y coleg neu’n hyfforddi wedi ei gynnwys yn yr oriau hyn.

Gellir dod i gytundeb ar brentisiaethau rhan amser â’ch cyflogwr, ar isafswm o 16 awr yr wythnos, er enghraifft ble mae gan brentisiaid ddyletswyddau gofal.

Cyflogau i Brentisiaid

Un o brif fanteision prentisiaeth yw y gallwch ennill cyflog tra rydych yn gweithio ac astudio.

Mae cyflog prentis yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:

  • y math o brentisiaeth y byddwch yn gwneud cais amdani
  • eich oed, profiad a chymwysterau cyfredol
  • y sector rydych yn gweithio ynddi, er enghraifft peirianneg, manwerthu neu gyllid.

Isafswm cyflog

Mae isafswm cyflog ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar brentisiaethau.

Mae faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich oed a pha mor hir rydych wedi bod yn gwneud y brentisiaeth:

  • Os ydych yn 16-18 oed, neu yn eich blwyddyn gyntaf a dros 19 oed, byddwch yn ennill o leiaf £5.28 yr awr (ar gyfer 2023-24). O 1 Ebrill 2024, bydd cyfradd prentis o'r Isafswn Cyflog Cenedlaethol yn £6.40 yr awr.
  • Os ydych wedi cwblhau eich blwyddyn gyntaf a dros 19 oed, byddwch yn ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, sy’n amrywio yn ddibynnol ar eich oed.

Gall rhai cyflogwyr ddewis talu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. 

Fel prentis, efallai bydd rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion.

Mae gennych hawl i slip cyflog a fydd yn dangos faint y byddwch yn ei ennill a pa ddidyniadau sydd wedi cael eu gwneud.

Buddion prentis

Mae gan brentisiaid sy’n gweithio dros 33 awr yr wythnos yr hawl i’r un buddion â phawb arall yn y gweithle.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hawl i dâl salwch
  • o leiaf 20 niwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn
  • Tâl Mamolaeth/Tadolaeth Statudol ac absenoldeb mamolaeth/tadolaeth.

Efallai y bydd gennych hefyd hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac elfennau i gwmpasu costau eraill fel tai neu fagu plant.

Prentisiaethau a phensiynau gweithle

Fel prentis, byddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig mewn pensiwn gweithle cyn belled â’ch bod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd - gan gynnwys bod o leiaf 22 oed.

Os ydych o dan 22 oed, ni fyddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig, ond gallwch ddewis optio i mewn i’r cynllun.

Ble i gael gwybod mwy

Mae prentisiaethau’n gweithio’n wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw. I ddarganfod mwy ewch i:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.