Mae ennill eich arian eich hun yn rhoi boddhad mawr, ond mae’n bwysig eich bod yn deall sut rydych yn cael eich talu yn y gwaith. Yn ogystal â’ch helpu i gyllidebu am y mis, dylech allu sicrhau eich bod yn cael ei dalu’r swm cywir ac yn cael popeth y mae gennych hawl i’w gael.
Sut y cyfrifir fy nghyflog?
Gellir cyfrifo’r arian a delir i chi am eich gwaith mewn sawl gwahanol ffordd gan eich cyflogwr.
Math o gyflog | Ystyr |
---|---|
Cyflog |
Swm o arian y byddech yn ei ennill mewn blwyddyn. Seilir hyn fel arfer ar weithio nifer penodol o oriau bob wythnos. |
Cyfradd fesul awr |
Byddwch yn ennill swm penodol am bob awr rydych yn gweithio. Po fwyaf o oriau rydych yn eu gweithio po fwyaf o arian y byddwch yn ei dderbyn. |
Gwaith am dasg |
Gyda rhai swyddi telir swm penodol i chi am bob uned y byddwch yn ei chynhyrchu. Po fwyaf o unedau rydych yn eu cynhyrchu po fwyaf o arian y byddwch yn cael eich talu. |
Comisiwn |
Yn bennaf yn gysylltiedig â swyddi gwerthu. Byddwch yn derbyn cyfran o’r gwerthiannau y byddwch yn eu gwneud. Telir comisiwn yn aml yn ychwanegol at gyflog neu gyfradd bob awr. |
Isafswm Cyflog a Chyflog Byw Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r cyflog isaf yr awr y dylai unrhyw weithiwr ei gael. Gelwir hwn y Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych dros 21 oed.
Mae’r swm yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed ac a ydych yn gwneud prentisiaeth neu beidio.
Defnyddiwch y gyfrifiannell ar GOV.UK i wirio eich bod yn cael yr isafswm cyflog cenedlaethol cywirYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am Isafswm Cyflog Cenedlaethol Isafswm Cyflog Cenedlaethol
I weld a ydych yn cael yr isafswm cyflog cywir defnyddiwch y gyfrifiannell ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut rydych yn cael eich talu yn y gwaith
Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn eich talu ag arian parod. Ond, mae cyflog fel arfer yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc.
Oni bai eich bod yn hunangyflogedig, cewch eich cofrestru i gynllun o’r enw Talu Wrth Ennill (PAYE).
Mae hyn yn golygu y bydd Treth Incwm neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn ogystal ag unrhyw ddidyniadau eraill ar gyfer benthyciadau myfyriwr neu bensiwn gwaith, yn cael eu tynnu cyn cael ei anfon i’ch cyfrif banc.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Mae’r swm a delir gennych mewn treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei bennu gan eich cod treth, gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog. Dylech sicrhau eich bod ar y cod treth gywir i sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir.
Darganfyddwch fwy am godau treth a gwybodaeth bwysig arall ar eich slip cyflog yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
Pa bryd y cewch eich talu
Mae pa bryd a pha mor aml y cewch eich talu yn cael ei gytuno fel arfer rhyngoch a’r cyflogwr cyn i chi gychwyn y swydd.
Er y telir cyflogau yn fisol fel arfer, gall fod yn wythnosol neu hyd yn oed yn ddyddiol a dylai’ch cytundeb cyflogaeth nodi hynny.
Cil-dyrnau a bonysau
Os ydych yn cael arian trwy eich swydd nad yw’n rhan o’ch cyflog arferol, fel bonws blynyddol neu gil-dyrnau gan gwsmeriaid, bydd angen i chi dalu treth ar yr incwm hwn. Fel arfer, bydd angen i chi talu Yswiriant Gwladol hefyd.
- Mae eich bonws blynyddol, os ydych yn cael un, yn cael ei drin fel rhan o’ch cyflog arferol. Byddwch yn talu Treth ac Yswiriant Gwladol arno trwy Dalu Wrth Ennill (PAYE), yn y ffordd arferol.
- Os ydych yn cael cil-dyrnau arian parod yn uniongyrchol gan gwsmeriaid neu drwy system ‘tronc’ - ble cronnir y cil-dyrnau cyn eu rhannu rhwng aelodau’r gronfa o bobl. Rydych hefyd angen talu Treth ar y rhain ond nid Yswiriant Gwladol. Mae hyn os yw’r swm a gewch mewn cil-dyrnau ddim yn cynnwys eich cyflogwr. Eich cyfrifoldeb eich yw dweud wrth Gyllid a Thollau EM (HMRC) am y cil-dyrnau hyn. Yna byddant yn rhoi cod treth newydd i chi sy’n amcangyfrif faint a gewch mewn cil-dyrnau ym mhob cyfnod talu - a chewch eich trethi ar y swm hwnnw. Darganfyddwch fwy am ‘troncs’ ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Os bydd cwsmer yn rhoi cil-dwrn i chi trwy ei gerdyn debyd wrth dalu am bryd o fwyd neu wasanaeth, ac mae eich cyflogwr yn ei rannu â chi, eich cyflogwr sy’n gyfrifol am drefnu’r Treth a’r Yswiriant Gwladol. Os yw’r cyflogwr yn rhoi taliadau o’r fath mewn i ‘tronc’, mae’r rheolau uchod yn berthnasol ac nid oes unrhyw Yswiriant Gwladol yn ddyledus.
- Nid yw tâl am wasanaeth yr un peth a chil-dwrn, gan nad yw’r cwsmer yn penderfynu ei dalu ai peidio. Mae cil-dwrn yn daliad a rhoddir yn hael.
Gwaith a budd-daliadau lles
Os ydych yn gweithio ac ar incwm isel, efallai y gallech hawlio budd-daliadau o hyd, gan gynnwys Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Buddion gwaith eraill
Gall cyflogwyr ddarparu buddion eraill ar ben eich cyflog, er enghraifft:
- yswiriant iechyd
- llety
- car cwmni
- bod yn aelod o gampfa.
Yr enw ar y rhain yw ‘buddion mewn nwyddau’. Mae hyn oherwydd nad ydych yn cael arian parod ychwanegol, ond yn cael rhywbeth y byddwch yn gorfod talu amdano fel arfer.
Mae rhaid i chi dalu treth ar nifer o fuddion mewn nwyddau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ceir, yswiriant a buddion eraill i weithiwr
Pensiwn
Os ydych yn gymwys, mae rhaid i’ch cyflogwr eich cofrestru ar gynllun pensiwn gwaith.
Bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybodaeth i chi am y cynllun.