Mae’r gwahanol ffyrdd y gallwch gael eich cyflogi’n gwneud gwahaniaeth mawr i sut y talwch dreth ac Yswiriant Gwladol, cynilo ar gyfer eich ymddeoliad a’ch hawliau yn y gwaith. Mae’n bwysig eich bod yn deall eich statws cyflogaeth cyfreithiol fel eich bod yn gwybod yr hawliau sydd gennych.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cyflogai
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd mewn gwaith yn y DU yn cael eu categoreiddio fel cyflogeion ac yn gweithio dan gontract cyflogaeth. Mae’r contract yn gosod buddion a dyletswyddau’r ‘cyflogai’ a’r ‘cyflogwr’ yn glir.
Mae gan gyflogeion ystod eang o fuddion yn y gweithle, gan gynnwys:
- Tâl Salwch Statudol
- Tâl gwyliau
- Absenoldeb a Thâl Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu
- Tâl Colli Swydd Statudol.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau fel cyflogai yn ein canllaw
Contractau cyflogaeth ac egluro eich hawliau fel cyflogai
Telir cyflogeion ar sail Talu Wrth Ennill (PAYE). Mae hyn yn bod treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) yn cael eu didynnu fel mater o drefn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut mae Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn gweithio
Sut mae Yswiriant Gwladol yn gweithio ac a ddylech fod yn ei dalu?
Mae gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol o leiaf. Mae’r cyfraddau hyn yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed ac a ydych yn brentis.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Gweithiwr
Mae statws gweithiwr yn debyg iawn i fod yn un cyflogai, ond ar sail fwy ysbeidiol.
Gallwch ddarganfod mwy ar ACAS am beth mae’r mathau o statws cyflogaeth yn ei olyguYn agor mewn ffenestr newydd
Hawliau gweithwyr
Fel gweithiwr, mae gennych hawl i rai hawliau statudol - gan gynnwys yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwyliau â thâl. Fel arfer, nid ydych yn gymwys i gael tâl diswyddo neu gyfnodau hysbysu byrraf.
Mae’r hawl i gael tâl salwch, mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadau statudol, yn ogystal â thâl absenoldeb rhiant a rennir, yn amrywio o un cyflogwr i’r llall.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am statws cyflogaeth fel gweithiwrYn agor mewn ffenestr newydd
Gweithwyr asiantaeth
Mae gan weithwyr asiantaeth gontract â busnes cyflogi neu recriwtio ac yn cael eu llogi i weithio gan gleientiaid yr asiantaeth, dros dro fel arfer. Fodd bynnag, gall eich statws cyflogaeth amrywio.
Mae’r rhan fwyaf yn cael eu categoreiddio fel gweithwyr, â rhai hawliau cyflogaeth – fel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwyliau â thâl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tâl a buddion ar gyfer gweithwyr dros dro ac asiantaeth
Gallwch hefyd fod yn hunangyflogedig a gweithio drwy asiantaeth, a elwir yn aml yn gontractwr.
Ni fydd gennych unrhyw hawliau cyflogaeth, ond ni fyddwch mor gaeth i’r asiantaeth. Er enghraifft, fel arfer byddwch yn medru anfon rhywun arall i weithio yn eich lle.
Mae cyflogeion asiantaeth yn llai cyffredin – sydd ar gontract a elwir yn ‘dâl rhwng aseiniadau’. Fel arfer, caiff gweithwyr asiantaeth eu talu pan fyddant ar aseiniad yn unig. Ond bydd cyflogeion asiantaeth yn parhau i gael eu talu hyd yn oed pan na fyddant yn gweithio.
Mae gan gyflogeion asiantaeth hawliau cyflogaeth llawn, ond maent yn fwy caeth i’r asiantaeth honno. Er enghraifft, mae’n anodd iddynt wrthod gwaith a gall fod yn ofynnol iddynt weithio isafswm o oriau bob wythnos.
Darganfyddwch fwy ar ACAS am y gwahanol fathau o waith asiantaeth a'ch hawliauYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ewch i'r Labour Relations AgencyYn agor mewn ffenestr newydd
Asiantaethau diddanu a modelu
Os ydych wedi cofrestru ag asiantaeth ddiddanu neu fodelu, mae’r rheolau ychydig yn wahanol. Gall asiantaethau godi ffi am ddod o hyd i waith i chi, ond mae hynny’n dibynnu ar y math o waith rydych yn chwilio amdano.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am ffioedd asiantaethau adloniant a modeluYn agor mewn ffenestr newydd
Hunangyflogedig
Mae bod yn hunangyflogedig yn statws cyflogaeth a threth. Mae’n cynnwys ystod eang o bobl – o’r rhai sy’n rhedeg eu busnes eu hunain i bobl lawrydd ac sy’n gweithio yn yr economi ‘gig’.
Mae rhai prif ddangosyddion sy’n pennu a ydych yn hunangyflogedig neu beidio:
Mae dros 4.3 miliwn o bobl yn y DU yn hunangyflogedig.
Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, 2024.
- chi sy’n rhedeg y busnes ac sy’n gyfrifol am ei lwyddiant neu fethiant
- gallwch anfon rhywun arall i wneud y gwaith yn eich lle
- chi sy’n gosod y pris am y gwaith a gallwch benderfynu sut a pha bryd y cwblheir y gwaith
- rydych yn defnyddio’ch arian eich hun i brynu asedau i’r busnes ac i ysgwyddo’r costau rhedeg
- chi sy’n gyfrifol am roi trefn ar unrhyw waith sy’n is na’r safon ddisgwyliedig yn eich amser eich hun
- gallwch weithio i fwy nag un cleient ar unwaith.
Ar GOV.UK gwiriwch eich statws cyflogaeth ar gyfer trethYn agor mewn ffenestr newydd
Chi fydd yn gyfrifol am dalu’ch treth a’ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Felly bydd angen i chi gofrestru fel rhywun hunangyflogedig a chwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Treth ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn hunangyflogedig
Sut i gychwyn eich busnes neu ddod yn hunangyflogedig
Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
Hawliau os ydych yn hunangyflogedig
Gan eich bod yn gweithio i chi eich hun, nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i unrhyw fuddion cyflogaeth. Fodd bynnag, rydych wedi’ch diogelu dan rai elfennau deddfwriaethol o iechyd a diogelwch. Ac, mewn rhai achosion, byddwch wedi’ch diogelu rhag cael gwahaniaethu yn eich erbyn.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau os ydych yn hunangyflogedig yn ein canllaw Contractau cyflogaeth ac egluro eich hawliau fel cyflogai
Contractwr annibynnol
Mae contractwyr annibynnol yn hunangyflogedig, ac fel arfer yn cynnig gwaith medrus iawn i gleientiaid ‘yn ôl yr angen’.
Fel rhywun hunangyflogedig, bydd angen i chi gofrestru â HMRC i dalu’ch treth a’ch Yswiriant Gwladol eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Treth ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn hunangyflogedig
Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
Hawliau fel contractwr
Mae hyn yn dibynnu’n helaeth ar eich cwsmer a’r contract a gytunwyd rhyngoch.
Yn aml caiff contractwyr annibynnol eu categoreiddio fel gweithwyr a bydd ganddynt rai hawliau cyflogaeth syml. Fel arfer os ydych ar gontract tri mis neu fwy.
Cewch eich diogelu dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae hyn oherwydd bod y sawl sy’n eich cyflogi’n gyfrifol am gynnal amgylchedd gwaith addas.
Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Os ydych yn is-gontractwr yn y diwydiant adeiladu, mae’n syniad da cofrestru â Chynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Os gwnewch hynny, bydd y contractwr sy’n eich cyflogi yn gwneud taliadau treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol i HMRC: fel petaech yn cael eich talu ar delerau PAYE (Talu Wrth Ennill).
Bydd angen i chi serch hynny gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad a thalu treth ar eich incwm. Ond ond bydd yr hyn a dalwyd gan y contractwr yn cael ei ddidynnu o’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am Gynllun y Diwydiant AdeiladuYn agor mewn ffenestr newydd
Llawrydd
Mae hyn yn debyg i gontractwr wrth i chi wneud gwaith contract ‘yn ôl yr angen’.
Y prif wahaniaeth yw nad yw gweithwyr llawrydd fel arfer yn ymrwymo i weithio i’r un cwmni dros gyfnod hir o amser. Yn lle gallant weithio i amryw gwmniau ar yr un pryd.
Mae enghreifftiau o weithwyr llawrydd yn cynnwys awduron, newyddiadurwyr, dylunwyr graffig, golygyddion fideo a ffotograffwyr.
Cewch eich categoreiddio fel gweithiwr hunangyflogedig er dibenion treth, ond yn gweithio i bobl eraill yn hytrach na gweithio i chi eich hun.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a chyflwyno ffurflen dreth bob blwyddyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad
Hawliau fel gweithiwr llawrydd
Gan eich bod yn hunangyflogedig, prin iawn yw eich hawliau. Ond mae gennych rai hawliau dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, a gwahaniaethu.
Contract dim oriau
Rydych ar gontract dim oriau pan gewch eich cyflogi gan gwmni ond nid yw’r cwmni hwnnw’n gwarantu nifer penodol o oriau i chi.
Mae’r math hwn o gontract yn dod yn gynyddol boblogaidd mewn amryw o sectorau gan gynnwys y diwydiant lletygarwch, gwaith warws a gwaith courier.
Mae dros 1.1 miliwn o bobl ar gontractau dim oriau.
Ffynhonnell: ONS, 2024.
Dylech gael eich talu drwy PAYE, er mwyn i chi beidio â gorfod cofrestru ar gyfer Hunanasesiad i ddatgan eich incwm o gontractau dim oriau. Fodd bynnag, fel unigolyn hunangyflogedig, gallwch gytuno i weithio ar gontract dim oriau a thalu’ch treth drwy Hunanasesiad
Darganfyddwch fwy am weithio contract dim oriau ar wefan ACAS
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Asiantaeth Cysylltiadau Llafur
Hawliau ar gontract dim oriau
Os ydych ar gontract dim oriau, mae’n debygol y cewch eich categoreiddio fel ‘gweithiwr’. Bydd gennych hawliau cyflogaeth syml gan gynnwys yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwyliau blynyddol.
Yn llai tebygol, cewch eich categoreiddio fel ‘cyflogai’ â hawliau cyflogaeth llawn.
Os byddwch yn bodloni rhai gofynion penodol, gallech fod â hawl i gofrestru ar bensiwn gweithle.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau wrth weithio contract dim oriau yn ein canllaw Contractau cyflogaeth ac egluro hawliau cyflogaeth
Darganfyddwch fwy am gofrestru awtomataidd a phensiynau gweithle yn ein canllaw Cofrestru awtomatig – cyflwyniad
Os ydych yn gweithio yn yr economi gig, byddwch fel arfer yn defnyddio cyfryngwr, fel ap neu wefan. Mae’r rhain yn gweithio fel cyswllt – gan gysylltu gweithwyr â chwsmeriaid.
Mae gweithwyr fel arfer yn talu ffi i ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn fel arfel yn 10% neu 15% o’u henillion yn y gwaith.
Mae llwyfannau o’r maes economi gig yn cynnwys:
- y cwmni llogi trafnidiaeth Uber
- y cwmni danfon bwyd Deliveroo
- y cwmni cludo Yodel.
Mae’r gwaith yn hyblyg oherwydd gallwch ddewis eich oriau gwaith ac nid oes unrhyw beth yn eich gorfodi i weithio oriau penodol.
Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl yn yr economi gig wedi eu categoreiddio fel rhai hunangyflogedig a byddant yn cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad.
Fodd bynnag, bu llawer o achosion llys amlwg iawn yn ddiweddar yn herio’r categoreiddio hyn. Bellach mae rhai cwmniau’n categoreiddio pobl sy’n gweithio ar sail economi gig fel gweithwyr, sy’n cynnwys medru hawlio rhai buddion mewn gwaith. Ond nid yw hyn yn gymwys i bob math o waith yn yr economi gig ac mae llawer o’r penderfyniadau hyn dan apêl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Treth ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn hunangyflogedig
Sut i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad
Hawliau yn yr economi gig
Gan eich bod yn hunangyflogedig mewn gwirionedd, prin iawn yw eich hawliau cyflogaeth. Fodd bynnag, mae llawer o achosion llys amlwg iawn yn ymwneud â llwyfannau economi gig mawr sy’n herio’r syniad bod gweithwyr yn hunangyflogedig.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau pan fyddwch yn gweithio yn yr economi gig yn ein canllaw Contractau cyflogaeth ac egluro eich hawliau cyflogaeth
Prentis
Mae prentisiaethau yn ffordd o gael profiad uniongyrchol, ynghyd â chymhwyster, wrth ennill cyflog. Maent yn cymryd un i bum mlynedd i’w cwblhau ac ar gael i unrhyw un dros 16 oed nad yw wedi cofrestru mewn addysg llawn amser.
Os ydych yn ifancach na 19 mlwydd oed ym mlwyddyn gyntaf prentisiaeth, mae gennych hawl i gael isafswm cyflog o £6.40 yr awr (ar gyfer 2024/25). Mae’r ffigur yn cynyddu os ydych dros 19 oed ac rydych wedi cwblhau eich blwyddyn gyntaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio prentisiaethau
Hawliau fel prentis
Os ydych yn brentis sy’n gweithio dros 33 awr yr wythnos, mae gennych hawl i’r un buddion ag unrhyw gyflogai arall llawn amser. Mae hyn yn cynnwys tâl salwch, gwyliau blynyddol a thâl mamolaeth a thadolaeth.