Os ydych yn gweithio, mae’n bwysig deall sut mae eich contract ysgrifenedig neu ar lafar yn sefydlu’r hawliau a chyfrifoldebau i chi a’ch cyflogwr. Mae’n bwysig i wybod beth allai fod yn gynwysedig yn eich contract cyflogaeth, sut mae’ch hawliau cyflogaeth wedi eu heffeithio gan eich statws cyflogaeth a beth i’w wneud os oes gennych chi gŵyn neu os yw’r contract yn cael ei dorri.
Beth yw eich statws cyflogaeth?
Mae’ch hawliau yn y gwaith yn ddibynnol ar os ydych yn gyflogai, yn weithiwr neu’n hunangyflogedig. Mae canfod eich statws yn gam cyntaf i wybod yr hyn mae gennych yr hawl i’w gael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
Eich contract cyflogaeth
Waeth beth yw eich statws cyflogaeth, os ydych chi’n gweithio, dylai fod gennych chi gontract cyflogaeth.
Er bod y rhan fwyaf o gontractau cyflogaeth yn ysgrifenedig, gallant hefyd fod yn gytundebau llafar.
Mae gan gontractau llafar yr un awdurdod cyfreithiol, ond gall fod yn llawer anoddach i brofi’r hyn y cytunwyd arno.
Mae cael contract ysgrifenedig yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch eich statws, a gall ei gwneud yn haws i ddatrys unrhyw anghydfod.
Hyd yn oed os na roddir contract ysgrifenedig i chi, mae gennych chi hawl i ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu eich prif amodau cyflogaeth. Dylai hyn roi i chi fanylion eich:
- teitl swydd
- tâl
- oriau gwaith
- mynediad at fuddion mewn swydd fel tâl salwch a hawl i wyliau
- dyddiad cychwyn y gyflogaeth a chyfnodau rhybudd.
Telerau diamwys
Elfennau o’ch contract yw telerau diamwys sy’n cael crybwyll yn benodol, un ai mewn ysgrifen neu ar lafar, gan y cyflogwr a’r gweithiwr.
Gallai’r rhain gynnwys:
- tâl salwch
- tâl dileu swydd
- oriau gweithio, gan gynnwys oriau goramser
- faint o rybudd sy’n ofynnol i’w roi i ddiweddu’r contract
- faint o gyflog a gewch (gan gynnwys goramser a thâl bonws)
- tâl gwyliau, yn ogystal â faint o amser y cewch ei gymryd fel gwyliau. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr llawn amser yn cael 28 diwrnod a gweithwyr rhan amser yn cael yr un faint pro rata i’r nifer o ddyddiau neu oriau maent yn ei weithio.
Gallwch ddod o hyd i delerau diamwys yn eich contract gwaith, ond hefyd:
- hysbyseb swydd
- unrhyw lythyrau a gewch gan eich cyflogwr
- dogfennau y bu angen arnoch chi eu harwyddo, megis llawlyfr staff neu gyfeirlyfr.
Sicrhewch eich bod yn cadw copïau o’r holl ddogfennau a gewch gan eich cyflogwr. Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws os bydd anghydfod ynglŷn â’ch contract.
Telerau goblygedig
Nid yw telerau goblygedig yn rhai ysgrifenedig mewn contract, ond maent yn ymddygiad disgwyliedig a gellir eu goblygu yn y rhan fwyaf o gontractau cyflogai.
Er enghraifft, ni fyddwch yn dwyn oddi wrth eich cyflogwr na’n datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol.
Rhaid i’ch cyflogwr, o ganlyniad i hyn, gynnig amgylchedd diogel gan beidio â gofyn i chi wneud unrhyw beth anghyfreithlon, megis gyrru cerbyd heb yswiriant.
Gallai telerau goblygedig gael eu cynnig drwy arferiad a phatrwm.
Digwydd hyn pan nad yw trefniadau wedi cael eu cytuno’n glir ond dros amser wedi datblygu’n rhan o’r contract. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys gorffen yn gynnar ar ddydd Gwener, neu fonws Nadolig.
Er mwyn i hawl gael ei sefydlu trwy arfer a gweithred, fel arfer bydd rhaid iddo fod:
- yn ddi-dor
- yn hir sefydledig
- wedi ei dderbyn yn awtomatig
- yn ddisgwyliedig a hysbys.
Didyniadau anawdurdodedig o gyflog
Os yw cyflogwr am wneud didyniadau o’ch cyflog, dylent fod ag awdurdod cyfreithiol - er enghraifft, treth ac Yswiriant Gwladol - a’u rhoi yn eich contract gydag esboniad ysgrifenedig neu gytuno yn ysgrifenedig cyn eu gwneud.
Mae rhai eithriadau, er enghraifft, os ydych wedi cael gormod o gyflog mewn camgymeriad neu heb weithio gan eich bod wedi ymgyrchu’n ddiwydiannol.
Mae diogelwch arbennig yn bodoli ar gyfer cyflogeion adwerthu. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anghyfreithlon i gyflogwr ddidynnu mwy na 10 y cant o’r cyflog gros ar gyfer prinder arian neu ddiffyg stoc.
Cyfnodau prawf
Mae cyflogwyr yn rhoi cyfnodau prawf i gyflogeion newydd weithiau.
Gall eich contract gynnwys telerau sydd ond yn ddilys ar gyfer eich cyfnod prawf. Ond ni all y telerau hyn ddisodli eich hawliau statudol.
Er enghraifft, yn ystod cyfnod prawf, efallai na fyddwch yn medru cael yr holl hawliau hyd nes i chi orffen y cyfnod hwnnw. Ond ni all fod unrhyw leihad yn eich hawliau statudol. Er enghraifft, cael eich talu am gyfnod gwyliau, cyfnod mamolaeth statudol neu dâl salwch.
Bydd eich hawliau cytundebol llawn yn cychwyn ar eich diwrnod cyntaf o waith, os na fydd eich contract yn nodi unrhyw beth i’r gwrthwyneb.
Newidiadau i gontractau
Efallai y bydd eich cyflogwr yn dymuno newid telerau eich contract, er enghraifft:
- newid eich cyflog
- newid y gwaith a wnewch
- newid eich lleoliad gwaith
- cwtogi neu newid yr oriau yr ydych yn eu gweithio.
Mewn egwyddor, ni all eich cyflogwr newid telerau eich contract heb eich caniatâd.
Os nad ydych chi’n siŵr sut fydd newid yn effeithio arnoch chi neu os ydych am ei dderbyn, gallwch gael cyngor am ddim ar gyflogaeth gan y gwasanaethau cyngor yn y gweithle hyn:
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys help i ddeall newid mewn contract, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Neu ymwelwch â wefan Acas (Cymru, Lloegr a’r Alban)
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ymwelwch ag Advice NIYn agor mewn ffenestr newydd
Pwysig
I’ch helpu i gyfrifo a ydych yn cael eich talu yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol – bydd rhaid i slipiau cyflog gynnwys manylion y nifer o oriau yr ydych wedi eu gweithio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
Os ydych chi’n gyflogai, mae gennych fynediad at amrywiaeth helaeth o fuddion mewn gwaith yn cynnwys:
- Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- pensiwn gweithle
- gwyliau â thâl
- Tâl Salwch Statudol
- Absenoldeb a Thâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu statudol
- Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir
- Tâl Colli Swydd Statudol
- diogelwch rhag cael eich diswyddo’n annheg.
Dylai pob un o’r rhain, ynghyd ag unrhyw hawliau atodol, gael eu cyflwyno’n glir yn eich contract cyflogaeth. Dyma pam ei bod mor bwysig ei ddarllen cyn llofnodi.
Oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau ynghylch eich contract, neu ydych chi’n credu y torrwyd amodau eich contract? Yna y peth cyntaf ddylech chi ei wneud yw trafod hyn gyda’ch cyflogwr.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cyngor, neu gymorth pellach os na allwch chi ddatrys y mater gyda’ch cyflogwr, gan:
- gyfreithiwr
- eich undeb llafur (os ydych chi’n aelod)
- ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
- Yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yng Ngogledd Iwerddon.
Mae ACAS yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ffoniwch linell gymorth ACAS ar 0300 123 1100 neu ymwelwch â wefan ACAS
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn darparu gwasanaeth cysylltiadau cyflogaeth diduedd a chyfrinachol yng Ngogledd Iwerddon. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 03300 555 300 neu ymwelwch â wefan yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA)
Os na fedrwch chi ddatrys y broblem, gallech ddefnyddio tribiwnlys cyflogaeth. Gelwir hwn yn dribiwnlys diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon.
Nid oes unrhyw ffioedd ar gyfer mynd i dribiwnlys cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig.
Darganfyddwch fwy am wneud cais i dribiwnlys cyflogaeth, gan gynnwys ffioedd, ar wefan GOV.UK
Hawliau cyflogaeth os ydych yn hunangyflogedig
Fel arfer does gan bobl hunangyflogedig ddim yr hawliau cyfreithiol i fuddion cyflogeion mewn gwaith.
Fodd bynnag, os ydych chi mewn sefyllfa i drafod gyda phobl sy’n darparu contract i chi i weithio, efallai y byddwch yn gallu cynnwys rhai o’r hawliau hyn yn eich contract.
Byddwch yn dal i fod wedi’ch diogelu o ran iechyd a diogelwch os ydych chi’n gweithio ar eiddo busnes. A dan rai amgylchiadau, byddwch wedi’ch diogelu rhag gwahaniaethu.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau sy’n diogelu chi rhag gwahaniaethu wefan GOV.UK
Oes gennych chi unrhyw broblemau gyda’ch contract hunangyflogedig, neu driniaeth yn y gwaith? Yna y peth cyntaf y dylech ei wneud yw crybwyll eich pryderon i’ch cyflogwr.
Yn ddibynnol ar y mater, efallai y byddwch yn gallu cael help a chyngor gan ACAS. Maent yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ffoniwch linell gymorth ACAS ar 0300 123 1100 neu ymwelwch â wefan ACAS
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn darparu gwasanaeth cysylltiadau cyflogaeth diduedd a chyfrinachol yng Ngogledd Iwerddon. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 03300 555 300 neu ymwelwch â wefan yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA)
Gan eich bod yn hunangyflogedig, efallai nad ydych yn aelod o undeb llafur. Fodd bynnag, mae yna undebau fel Community sy’n gwneud mwy a mwy ar hawliau gweithwyr hunangyflogedig.
Darganfyddwch fwy ar CommunityYn agor mewn ffenestr newydd
Hawliau cyflogaeth os ydych chi ar gontract dim oriau
Mae contractau dim oriau yn dod yn fwy gyffredin. Fe’i cynigir mewn nifer o sectorau yn cynnwys y diwydiant gofal, sector lletygarwch, gwaith warws a negeswyr.
Dylai eich contract ddatgan yn glir os yw’n un dim oriau. Ac yn aml bydd yn dweud bod angen i chi fod yn barod i weithio pan ofynnir, gan ddweud nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i’r cwmni gynnig gwaith i chi.
Rydych yn cael eich dosbarthu fel gweithiwr, felly mae gennych hawl i fuddion mewn gwaith sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gwyliau blynyddol.
Darganfyddwch fwy am gontractau dim oriau a’ch hawliau ar GOV.UK
Oes gennych unrhyw broblemau gyda’ch triniaeth yn y gwaith neu a yw’r cyflog rydych yn ei dderbyn yn llai na’r isafswm cyflog? Yna y peth cyntaf ddylech chi ei wneud yw trafod hyn gyda’ch cyflogwr.
Gallwch hefyd gysylltu ag un o’r gwasanaethau cyngor yn y gweithle:
- ffoniwch Linell gymorth Acas ar 0300 123 1100 neu ymwelwch â wefan Acas (Cymru, Lloegr, a’r Alban)
- ffoniwch Linell gymorth Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) ar 03300 555 300 neu ymwelwch â wefan Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Gogledd Iwerddon).
Os ydych yn cael eich talu llai na'r Isafswm Cyflog, gallwch ddweud wrth CThEM ar wefan GOV.UK
Hawliau cyflogaeth os ydych chi’n gweithio yn yr economi “gig”
Mae’r economi “gig” wedi dod yn derm adnabyddus yn y blynyddoedd diwethaf gyda chynnydd cwmnïau fel Uber, Deliveroo a Hermes.
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o bobl yn yr economi gig yn cael eu dosbarthu fel hunangyflogedig heb unrhyw hawl gyfreithiol i fuddion mewn swydd.
Fodd bynnag, mae nifer o achosion llys wedi barnu y dylai’r math yma o gyflogaeth gael ei gynnwys dan statws ‘gweithiwr’.
Mae statws cyflogaeth gweithiwr yn debyg i gyflogai ac yn rhoi hawl i chi i hawliau mewn swydd sylfaenol fel gwyliau â thâl a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Yn ddibynnol ar eich cyflogwr, efallai y bydd gennych chi hefyd hawl i dâl salwch, mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu statudol.
Ond, nid yw hyn yn wir ar gyfer pob gweithiwr yn yr economi gig, ac mae nifer o’r achosion hyn dan apêl.
Os ydych chi’n gweithio yn yr economi gig a bod gennych chi ddiddordeb mewn cefnogaeth undeb llafur, gallwch ymuno ag Undeb Gweithwyr Annibynnol Prydain Fawr (IWGB).
Darganfyddwch fwy ar IWGB
Eich hawliau os ydych yn weithiwr asiantaeth
Os ydych chi’n gweithio trwy asiantaeth, yna gall eich hawliau fod yn wahanol iawn.