Os byddwch yn oedi neu’n stopio cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth

Sut mae’n gweithio?

Fel rheol nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i oedi cyn hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Os na fyddwch yn ei hawlio, ni fydd yn cael ei dalu i chi.

Pan fyddwch yn penderfynu eich bod am i’ch Pensiwn y Wladwriaeth ddechrau, gallwch wneud cais ar-lein (Agor mewn ffenestr newydd) neu gyflwyno ffurflen gais BR1W i'r Gwasanaeth Pensiwn.

Mae hyn oni bai eich bod yn cael rhai budd-daliadau cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn eich bod am ‘ohirio’ ei gymryd. (Yng Ngogledd Iwerddon, Canolfan Bensiwn Gogledd Iwerddon fyddai hon.)

Bydd angen i chi wneud hyn hefyd os ydych eisoes wedi dechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth ac nawr eisiau stopio ei gymryd am amser.

A delir Pensiwn y Wladwriaeth i chi eisoes?

Gallwch benderfynu stopio cael eich Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod os ydych eisiau.

Fodd bynnag, dim ond unwaith y gallwch stopio derbyn eich Pensiwn y Wladwriaeth a fel rheol dylech fod yn byw yn y DU.

Gallwch wneud hyn dim ond i ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (neu gyfandaliad os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016) os ydych yn byw yn y DU neu un o'r gwledydd canlynol: Awstria, Cyprus, Denmarc, Estonia, Ffrainc, Gibraltar, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, yr Almaen, yr Eidal, y Ffindir, yr Iseldiroedd, a'r Swistir.

A gaf fwy o arian os fyddaf yn oedi cyn ei hawlio?

I gael swm ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth, mae angen i chi oedi cyn cymryd am isafswm o amser. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a pha mor hir y byddwch yn oedi cyn ei gymryd. Y fwyaf y byddwch yn oedi, y fwyaf y byddwch yn ei gael.

Telir unrhyw swm ychwanegol gyda'ch Pensiwn y Wladwriaeth ac mae'n drethadwy yn dibynnu ar faint o incwm arall sydd gennych.

Cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Os ydych yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth heddiw, neu wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ers 6 Ebrill 2016 a'ch bod yn oedi cyn cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf naw wythnos, byddwch yn gallu cael incwm Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol pan fyddwch yn dechrau ei gymryd.

Nid oes unrhyw opsiwn i gymryd cyfandaliad. 

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu 1% am bob naw wythnos y byddwch yn gohirio hawlio. Mae hyn yn gweithio allan ar ychydig o dan 5.8% ar gyfer pob blwyddyn lawn y byddwch yn gohirio ei hawlio.

Ar ôl i chi hawlio, mae'r swm ychwanegol a gewch yn drethadwy a bydd fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Fel enghraifft:
Os gwnaethoch oedi am: 52 wythnos (un blwyddyn)

Eich Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol cychwynnol oedd:

£203.85

Swm y cynnydd fyddai:

£11.78 (1/9 x £203.85 / 100 x 52)

Cyfanswm eich pensiwn y wladwriaeth ar ôl gohirio:

£215.63

Wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill?

Mae rhaid eich bod wedi oedi cyn hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf bum wythnos. Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cynyddu ar 1% am bob pum wythnos y byddwch yn gohirio hawlio amdano.

Mae hyn yn gweithio allan ar oddeutu 10.4% ar gyfer pob blwyddyn lawn y byddwch yn gohirio ei hawlio. Mae’r incwm ychwanegol yn drethadwy a bydd fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Neu, yn hytrach na chymryd y swm ychwanegol fel incwm ychwanegol a ychwanegwyd at eich Pensiwn y Wladwriaeth, os byddwch yn gohirio hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol, gallwch ddewis cymryd cyfandaliad yn lle. Bydd hyn yn cynnwys llog o 2% yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Mae’r cyfandaliad yn drethadwy ar yr un gyfradd â’ch incwm arall. Byddwch hefyd yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth ar y gyfradd arferol pan fyddwch yn gwneud cais amdano.

Beth sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol

Yn gyffredinol, bydd yr holl wythnosau y byddwch yn oedi cyn hawlio'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, ond mae eithriadau.

Ni allwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol os ydych yn cael budd-daliadau penodol.

Gall gohirio hefyd effeithio ar faint y gallwch ei gael mewn budd-daliadau.

Mae rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn os ydych ar fudd-daliadau a'ch bod am ohirio.

A fydd rhaid i chi dalu treth ar y swm ychwanegol?

Os ydych wedi oedi cyn hawlio'ch Pensiwn y Wladwriaeth, neu wedi stopio ei gael am ychydig, ni fyddwch yn talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth yn ystod yr amser nad ydych yn ei gael.

Bydd y dreth rydych yn ei thalu pan fyddwch yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth rydych wedi gohirio ei gael yn dibynnu ar sut mae'r arian yn cael ei dalu i chi.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2016, byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth na chawsoch eich talu ar ffurf incwm uwch. Bydd hyn yn drethadwy fel incwm a enillir yn y ffordd arferol.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae gennych ddewis.

Os dewiswch gael Pensiwn y Wladwriaeth na chawsoch eich talu fel incwm uwch, bydd hyn yn drethadwy fel incwm a enillir yn y ffordd arferol.

Os dewiswch gael Pensiwn y Wladwriaeth na chawsoch eich talu fel cyfandaliad, trethir hyn ar eich cyfradd gyfredol ar eich cyfandaliad. Er enghraifft, os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, bydd eich cyfandaliad yn cael ei drethu ar 20%.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.