Fel arfer bydd angen 35 mlynedd gymwys arnoch o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI) i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn. Os nad oes gennych ddigon, gallwch dalu i lenwi bylchau yn eich cofnod i roi hwb i faint rydych yn ei gael - hyd yn oed os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dyma beth i'w wneud, gan gynnwys sut i dalu cyfraniadau NI gwirfoddol ar-lein.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth?
- Cam 1: Gwiriwch a ydych eisoes yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn
- Cam 2: Gweld a fydd dewisiadau eraill yn rhoi hwb i'ch Pensiwn y Wladwriaeth am ddim
- Cam 3: Gwiriwch a yw cyfraniadau gwirfoddol yn werth y gost
- Cam 4: Am fylchau’n dyddio nôl i 2006, tâlwch cyn 5 Ebrill 2025
- Teclynnau defnyddiol
Sut mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth?
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar sawl blwyddyn rydych wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a elwir yn flynyddoedd cymhwyso.
Gwneir cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer os ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n derbyn budd-daliadau penodol fel Budd-dal Plant, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith.
Fel arfer, bydd angen o leiaf:
- 35 mlynedd gymwys o gyfraniadau i gael y swm llawn (£221.20 yr wythnos ar hyn o bryd), neu
- 10 mlynedd gymwys i gael yr isafswm (£63.20 yr wythnos ar hyn o bryd).
Byddwch yn cael swm rhwng 11 a 34 mlynedd o gyfraniadau. Efallai y bydd angen mwy na 35 mlynedd arnoch i gael y swm llawn os oeddech yn gweithio cyn Ebrill 2016 ac wedi cael eich contractio allan o Bensiwn Ychwanegol y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn colli digon o gyfraniadau yn ystod blwyddyn dreth, ni fydd y flwyddyn gyfan honno'n cyfrif tuag at eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth. Os hoffech wneud iddo gyfrif, un opsiwn yw talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Cyfraniad Yswiriant Gwladol gwirfoddol yw pan fyddwch yn talu swm penodol i brynu blwyddyn gyfan.
Cam 1: Gwiriwch a ydych eisoes yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn
Os ydych eisoes wedi gwneud digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys i gael swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth, neu os ydych yn debygol o'u gwneud beth bynnag trwy weithio neu dderbyn budd-daliadau, nid oes angen i chi ystyried cyfraniadau gwirfoddol.
Gallwch wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd i weld crynodeb eich Pensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys:
- faint o Bensiwn y Wladwriaeth fyddwch chi’n debygol i’w gael
- eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- os oes gennych unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol coll (blynyddoedd anghyflawn), ac
- os gallwch wneud cyfraniadau gwirfoddol.
Bydd eich cofnod hefyd yn dangos faint o gyfraniadau gwirfoddol fyddai'n costio i chi, a faint y byddai eich Pensiwn y Wladwriaeth wedyn yn cynyddu. Gall hyn eich helpu i benderfynu a yw'n werth eu talu.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Canolfan Bensiwn y Dyfodol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd i siarad â rhywun am eich opsiynau.
Os ydych eisoes yn derbyn eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai na fydd eich crynodeb Pensiwn y Wladwriaeth yn dangos faint rydych yn ei gael ar hyn o bryd. Yn hytrach, gwiriwch eich cyfriflenni banc neu gallwch gysylltu â’r:
- Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd, neu
- Canolfan Bensiwn Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, byddwch ar yr hen system. Mae hyn yn golygu na allwch gynyddu'r swm a gewch gan ddefnyddio cyfraniadau gwirfoddol, ond efallai y byddwch yn cael mwy os byddwch yn oedi cyn derbyn eich pensiwn.
Cam 2: Gweld a fydd dewisiadau eraill yn rhoi hwb i'ch Pensiwn y Wladwriaeth am ddim
Os yw eich cofnod Yswiriant Gwladol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd yn dangos eich bod yn gallu gwneud cyfraniadau gwirfoddol, dyma'r dewisiadau eraill am ddim i'w hystyried yn gyntaf.
Gwneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol am ddim
Gwiriwch a allwch wneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd i lenwi'ch bylchau yn lle. Er enghraifft, os ydych yn ofalwr di-dâl neu'n chwilio am waith. Gall rhai ceisiadau gael eu hôl-ddyddio.
Trosglwyddo credydau o Fudd-dal Plant
Os oes gennych blentyn o dan 12 oed, neu os ydych yn gofalu am un yn eich teulu, gwiriwch a ellir trosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol i chi.
Pan fydd Budd-dal Plant yn cael ei dalu, ychwanegir credydau Yswiriant Gwladol at y person sy'n ei hawlio. Ond os yw'r person hwnnw eisoes yn gweithio ac yn gwneud cyfraniadau beth bynnag, gallant ofyn iddynt gael eu trosglwyddo i chi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn
Os ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch a fydd Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth am ddim. Rydych yn aml yn gymwys os na fydd gennych unrhyw incwm arall heblaw am Bensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn, bydd unrhyw gynnydd yng Nghynllun Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn lleihau faint o Gredyd Pensiwn a gewch. Felly, yn aml ni fyddwch yn well eich byd yn talu am gyfraniadau gwirfoddol.
Gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gallech hefyd ystyried gohirio (oedi) eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth i gynyddu'r swm a gewch. Gweler ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ohirio eich cais am fwy o wybodaeth.
Cam 3: Gwiriwch a yw cyfraniadau gwirfoddol yn werth y gost
Gall eich cofnod Yswiriant Gwladol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd gyfrifo faint y bydd yn ei gostio i chi lenwi unrhyw fylchau.
Dyma ganllaw i'r cyfraddau y byddwch yn eu talu os ydych yn gyflogedig. Mae'r cyfraddau yn llawer is os ydych yn hunangyflogedig.
Blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) | Cost i lenwi wythnos goll | Cost i lenwi blwyddyn goll |
---|---|---|
2024/25 |
£17.45 |
£907.40 |
2023/24 |
£17.45 |
£907.40 |
2022/23 |
£15.85 |
£824.20 |
2021/22 |
£15.40 |
£800.80 |
2020/21 |
£15.30 |
£795.60 |
2006/07 i 2019/20 |
£15.85 |
£824.20 |
Gallech dalu cannoedd i gael miloedd yn ôl
Bydd pob blwyddyn gyflawn ychwanegol o Yswiriant Gwladol fyddwch yn ei brynu yn rhoi hyd at £6.32 yn fwy yr wythnos (£328.64 y flwyddyn) mewn Pensiwn y Wladwriaeth, cyn unrhyw gynnydd blynyddol.
Y pwynt o wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yw talu swm bach nawr, fel eich bod yn cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth yn y tymor hir.
Er enghraifft, gallech dalu rhwng £15.30 a £907.40 am un flwyddyn Yswiriant Gwladol ychwanegol a chael yn ôl:
- dros £1,600 os ydych yn byw am bum mlynedd arall, a
- dros £6,500 os ydych yn byw 20 mlynedd arall.
Gall gymryd nifer o flynyddoedd i gael yr hyn rydych yn ei dalu i mewn yn ôl, felly meddyliwch am ba mor hir y byddwch yn disgwyl cael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn marw cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni chewch unrhyw beth yn ôl.
Mae gan MoneySavingExpert gyfrifiannell atodol Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd a allai helpu, gan ei fod yn dangos faint o flynyddoedd y bydd yn eu cymryd i chi adennill eich costau os ydych yn talu am flynyddoedd llawn
Efallai y byddwch yn talu mwy o Dreth Incwm
Fel arfer byddwch yn talu Treth Incwm os yw cyfanswm eich incwm dros £12,570 y flwyddyn (ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25).
Mae hyn yn golygu y gallai'r swm ychwanegol a gewch o wneud cyfraniadau gwirfoddol gael ei leihau drwy dalu treth ychwanegol, yn enwedig os yw'n golygu y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd dreth uwch.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein hargymhellion:
Cam 4: Am fylchau’n dyddio nôl i 2006, tâlwch cyn 5 Ebrill 2025
Os byddwch yn penderfynu bod cyfraniadau gwirfoddol yn iawn i chi, mae gennych tan 5 Ebrill 2025 i dalu am unrhyw fylchau sy'n dyddio'n ôl i Ebrill 2006. O 6 Ebrill 2025, dim ond yn ystod y chwe blynedd dreth ddiwethaf y byddwch yn gallu llenwi bylchau.
Ewch ar GOV.UK am wybodaeth ar sut i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddolYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, ni ellir ad-dalu cyfraniadau gwirfoddol, felly os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, mae'n well siarad â rhywun am eich opsiynau yn gyntaf:
os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ffonio Llinell Gymorth Canolfan Pensiwn y DyfodolYn agor mewn ffenestr newydd
os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd neu Ganolfan Bensiwn Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.