Os yw cynllun pensiwn eich cyflogwr yn cau, efallai y bydd cwmni yswiriant yn cael ei dalu i reoli eich pensiwn yn lle hynny. Gelwir hyn fel arfer yn bolisi allbryniad unigol, polisi allbryniad pensiwn Adran 32 (a32) neu gontract blwydd-dal wedi'u gohirio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw polisi allbryniad pensiwn?
Mae allbryniad pensiwn yn digwydd os yw'ch cyflogwr yn penderfynu talu cwmni yswiriant i reoli a thalu eich pensiwn, fel y gallant gau cynllun presennol.
Sut mae polisi allbryniad pensiwn yn gweithio?
Unwaith y bydd y polisi allbryniad ar waith, mae'r cwmni yswiriant yn gyfrifol am dalu eich pensiwn pan fyddwch chi'n ddigon hen ac eisiau cymryd eich arian.
Fel arfer, ni allwch dalu mwy i bolisi allbryniad, ond fel arfer caiff eich holl hawliau presennol eu trosglwyddo – fel yr isafswm oedran y gallwch chi gymryd eich pensiwn.
A allaf drefnu fy mholisi allbryniad fy hun?
Efallai y byddwch yn gallu trefnu eich polisi allbryniad eich hun, a elwir yn gontract blwydd-dal wedi'u gohirio. Dyma lle rydych chi'n defnyddio gwerth eich pensiwn presennol i brynu incwm gwarantedig yn y dyfodol.
Mae hyn fel arfer ond werth ei ystyried os:
- ydych chi’n rhoi'r gorau i weithio i'ch cyflogwr (fel bod eich cyflogwr yn rhoi'r gorau i gyfrannu)
- nad ydych chi eisiau gadael eich pensiwn lle y mae
- nad ydych chi eisiau trosglwyddo'ch pensiwn i ddarparwr pensiwn neu gynllun gwahanol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am brynu blwydd-dal.
Os ydych chi'n poeni bod eich pensiwn yn cau, gweler Help os yw eich cynllun pensiwn yn cau (dirwyn i ben).
A fydd polisi allbryniad yn talu fy mhensiwn llawn?
Os yw'ch cyflogwr yn cau eich cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio (lle rydych chi'n cael swm penodol gwarantedig), bydd eich polisi allbryniad fel arfer yn darparu'r holl fuddion pensiwn a addawyd i chi.
Os yw'ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn cau, bydd yr yswiriwr fel arfer yn parhau i fuddsoddi eich arian pensiwn nes bod ei angen arnoch. Mae hyn yn golygu bod yr incwm ymddeol y byddwch chi'n ei gael o'ch polisi allbryniad yn dibynnu ar ba mor dda y mae'r buddsoddiadau yn perfformio – yn yr un modd ag y byddai eich cynllun presennol wedi gweithio.
Fel arfer, gallwch ddewis sut i gymryd eich arian, gan gynnwys cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth a throsi'r gweddill yn incwm gwarantedig. Am eich holl opsiynau, gweler ein canllaw am gymryd eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Gwiriwch a yw'ch polisi yn cynnig swm isafswm gwarantedig
Gallai eich polisi allbryniad gynnwys isafswm pensiwn gwarantedig (GMP) os wnaethoch:
- weithio rhwng 1978 a 1997 a
- wedi'i eithrio o'r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth - a elwir yn aml yn Gynllun ensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS).
Mae isafswm pensiwn gwarantedig fel arfer yn cael ei dalu o 60 oed i fenywod a 65 i ddynion. Bydd hefyd fel arfer yn darparu incwm i'ch priod neu bartner sifil os byddwch chi'n marw o'u blaenau.