Gall cynghorwyr ariannol sy’n cael eu rheoleiddio roi cyngor i chi ar beth i’w wneud os ydych am stopio cyfraniadau neu gymryd eich pensiwn yn gynnar. Yn aml, gellir talu cost cyngor yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn yn hytrach na bod yn rhaid i chi ddod o hyd i’r arian.
Bydd cymryd yr arian allan yn gostwng gwerth eich cronfa nawr, ond gall y cyngor roi tawelwch meddwl i chi eich bod yn gwneud y peth iawn ac wedi ystyried pob opsiwn. Dros y tymor hir gall gynrychioli gwerth da am arian a'ch osgoi i wneud camgymeriad drud.
Ond gwnewch yn sicr bod unrhyw gynghorydd rydych yn siarad â nhw yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), gan fod hynny’n rhoi mwy o amddiffyniad i chi os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae’r holl gynghorwyr ar ein Cyfeiriadur Ymgynghorydd Ymddeol yn cael eu rheoleiddio gan FCA.
Mae’n bwysig peidio â rhyngweithio ag unrhyw un sy’n cysylltu â chi ac yn gofyn am unrhyw fanylion banc neu bersonol. Byddwch yn wyliadwrus, hefyd, am unrhyw hysbysebion dros dro pan fyddwch ar-lein – nid yw llawer o’r cwmnïau hyn yn cael eu rheoleiddio ac, ar y gwaethaf, gallai fod yn sgam.
Dylech ond delio â chwmnïau neu sefydliadau rheoledig rydych wedi eu hymchwilio neu rydych yn ymddiried ynddynt. Nid yw cwmnïau ag enw da yn galw yn ddiwahoddiad.