Ystyried gadael cynllun pensiwn eich gweithle?

Pam dylwn dalu i mewn i bensiwn?

Os ydych yn gyflogedig ac yn cwrdd â meini prawf penodol, rydych wedi'ch cofrestru'n awtomatig i gynllun pensiwn gweithle.

Mae talu i mewn i bensiwn nawr, tra byddwch yn gweithio, yn syml yn golygu y gallwch gael incwm pan na fyddwch. Po gyntaf y byddwch yn dechrau, po hwyaf y bydd gan eich cynilion amser i dyfu, a pho fwyaf y byddwch yn cronni.

Bydd eich cyflogwr fel arfer hefyd yn talu i mewn i'ch cynllun. Felly, mae gadael fel gwrthod rhan o'ch cyflog.

Mae isafswm y mae'n rhaid i gyflogwyr ei dalu yn ôl y gyfraith, ond mae llawer yn talu mwy na hynny. Darganfyddwch yn union beth mae'ch cyflogwr yn ei dalu i'ch cynllun pensiwn cyn i chi roi'r gorau i hynny.

Efallai y byddwch hefyd yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn. Mae hyn yn golygu naill ai:

  • byddwch yn cael mwy yn eich tâl mynd adref trwy dalu llai o dreth, neu
  • arian a fyddai wedi mynd wrth i dreth yn mynd i'ch cynllun pensiwn.

Mae'n dibynnu ar y math o gynllun sydd gennych.

Er enghraifft, os ydych yn talu treth cyfradd sylfaenol (20%), bydd cyfraniad o £100 yn costio £80 i chi. Os ydych yn talu treth ar gyfradd uwch, bydd yn costio llai na hyn. 

A fydd yn gwneud llawer o wahaniaeth os byddaf yn stopio talu am gwpl o flynyddoedd?

Byddwch yn synnu faint gallech fod ar ei golled o ran cyfraniadau gan eich cyflogwr a rhyddhad treth a thwf buddsoddiad.

Hefyd, os byddwch yn gadael eich cynllun efallai y byddwch yn colli buddion gwerthfawr a fyddai’n cael eu talu i chi pe byddech yn sâl neu'n cael eich talu i'ch dibynyddion pe byddech farw.

Nid wyf am stopio gweithio - felly a oes angen pensiwn arnaf?

Efallai y byddwch yn meddwl hynny nawr, ond nid oes neb yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Efallai y byddwch yn newid eich meddwl.

Hyd yn oed os nad ydych am stopio gweithio, mae cael pot o gynilion y gallwch gymryd arian ohonynt pan fyddwch yn hŷn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran sut y gallwch fyw eich bywyd. Ac mae'n golygu gallwch barhau i wneud y pethau rydych yn mwynhau eu gwneud nawr.

Hefyd, mae llawer o ffyrdd i gymryd arian o'ch cynilion pensiwn unwaith y byddwch yn 55 oed (bydd hwn yn cynyddu i 57 oed yn 2028). Ond mae ddiffyg cynilion yn golygu llai o ddewis yn nes ymlaen.

Byddaf yn cael pensiwn gan y llywodraeth - pam dylwn orfod talu ddwywaith?

Swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod 2023-24 yw £203.85 yr wythnos. Os ydych am gael mwy na hynny i fyw arno, mae'n werth cael cynilion pensiwn eraill.

Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu o 66. Ac ni fydd llawer o bobl yn gallu cael eu Pensiwn Gwladol nes eu bod yn 67, 68 oed neu hyd yn oed yn hŷn.

Ar hyn o bryd gallwch ddechrau cymryd yr arian yn eich cynilion pensiynau preifat o 55 oed. Mae hyn yn cynyddu i 57 oed yn 2028.

Fy eiddo fydd fy mhensiwn

Hyd yn oed os ydych yn ddigon ffodus i allu prynu'ch cartref a thalu'ch morgais cyn eich bod am stopio gweithio, bydd angen rhywle arnoch i fyw o hyd.

Gall symud i eiddo llai weithio i rai pobl a gall ryddhau rhywfaint o arian parod. Ond a fydd hynny'n ddigon i ddarparu incwm i chi am weddill eich oes? 

Beth arall gallaf ei wneud?

Os ydych yn poeni am arian, siaradwch â'ch cyflogwr i weld a allwch ostwng y swm rydych yn ei gyfrannu .

Mae rhaid i gyflogwyr dalu o leiaf 3% o'ch enillion cymwys ar eich rhan, ond mae llawer yn talu mwy. Mae hyn yn golygu efallai y gallwch dalu llai, yn hytrach na stopio'n gyfan gwbl. Ond efallai y byddai'n syniad da ymrwymo i'w gynyddu eto yn nes ymlaen.

Mynnwch help cyn i chi benderfynu

Siaradwch â'ch cyflogwr, eich cydweithwyr gwaith neu ffrindiau a theulu – â phwy bynnag rydych yn teimlo'n fwyaf cyfforddus i siarad â hwy. Mae'n syniad da cael eu barn am yr hyn y dylech ei wneud.

Problemau mwy? Mynnwch help

Os yw'ch pryderon ariannol yn fwy na lleihau eich cyfraniadau pensiwn yn unig, gallwch ffonio ein llinell gymorth canllaw arian yn gyfrinachol ar 0800 138 7777 oherwydd gallai fod atebion eraill.

Eich arian chi fydd eich cynilion bob amser

Os penderfynwch mai gadael yw'r opsiwn cywir, yna peidiwch â phoeni. Bydd eich cynilion pensiwn yn ddiogel a byddant bob amser yn eiddo i chi – hyd yn oed y symiau y talodd eich cyflogwr ynddynt.

Os byddwch yn newid swyddi, efallai y gallwch fynd â'ch cynilion pensiwn â chi i gynllun eich cyflogwr newydd, neu eu gadael lle y maent. Ond mae'n bwysig peidio ag anghofio amdanynt.

Gallwch ofyn i'ch cyflogwr ail-ymuno â'u cynllun pensiwn ar unrhyw adeg. Ond efallai na fyddan nhw'n eich rhoi chi yn yr un cynllun ag yr oeddech chi o'r blaen gyda'r un lefelau cyfraniad a buddion. Dim ond ar adeg benodol yn y flwyddyn y bydd rhai cyflogwyr yn eich ailgofrestru, felly gallai fod oedi. Bydd y mwyafrif o gynlluniau yn caniatáu i chi gynyddu eich cyfraniadau pryd bynnag y dymunwch, ond ni all pob cyflogwr a darparwr gynnig hyn. Os na allant, efallai y bydd angen i chi sefydlu pensiwn personol ar wahân er mwyn gwneud hyn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.