Sut i baratoi ar gyfer codiad mewn cyfraddau llog

Gall cyfraddau llog gael effaith ar ystod eang o bethau fel morgeisi, benthyca, pensiynau a chynilion. Mae Banc Lloegr yn gosod y gyfradd banc (neu ‘gyfradd sylfaenol’) ar gyfer y DU, sydd yn 5.25% (newidiwyd y gyfradd ddiwethaf ar 03 Awst 2023) ar hyn o bryd. Gall hyn, yn ei dro, ddylanwadu ar faint o log yr ydych yn ei ennill o’ch cynilion a’r hyn y codir arnoch am fenthyca arian.

Beth mae codiad mewn cyfradd llog yn ei olygu?

Gosodir cyfraddau llog yn y DU gan Bwyllgor Polisi Ariannol (MPC) Banc Lloegr (BoE). Dyma’r gyfradd llog y mae banciau yn benthyca arian arni gan BoE.

Pan glywch ar y newyddion bod cyfraddau llog wedi codi, mae’n golygu bod yr MPC wedi penderfynu codi’r gyfradd sylfaenol.

Beth sy’n digwydd pan fydd cyfraddau llog yn codi?

Nid yw’n ofynnol i fanciau ddilyn penderfyniadau cyfradd llog Banc Lloegr, ond gallant ddylanwadu ar y gost o fenthyca, neu faint o log a gewch ar gynilon.

Effaith codiad mewn cyfraddau llog ar forgeisi

Bydd pan, ac os, bydd eich ad-daliadau morgais yn cael eu heffeithio gan newid yn y gyfradd llog yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych chi a pha bryd y daw eich cytundeb morgais presennol i ben.

Os oes gennych chi forgais traciwr cyfradd amrywiol, wedi’i gysylltu â chyfradd sylfaenol BoE, rydych yn debygol o weld newid ar unwaith yn eich ad-daliadau morgais os ceir codiad yn y gyfradd llog.

Bydd y rhai sydd ar forgeisi cyfradd amrywiol safonol yn debygol o weld codiad yn eu cyfradd yn unol ag unrhyw godiad yn y gyfradd llog. Penderfynir ar faint y codiad gan eich darparwr benthyciadau, felly nid yw wedi’i warantu. Os ydych yn ansicr, gwiriwch amodau a thelerau eich morgais yn eich dogfen cynnig morgais wreiddiol.

Bydd pobl sydd â morgeisi cyfradd sefydlog yn debygol o gael eu heffeithio wedi iddynt gyrraedd diwedd eu cytundeb morgais presennol. Gallai codiad mewn cyfradd llog olygu y byddai ailforgeisio’n fwy costus.

Cael cynllun arian mewn lle

Mae’n syniad da cael cynllun ariannol yn ei le i ddelio ag unrhyw newidiadau posibl mewn cyfraddau llog. Yn ddiweddar, mae’r gyfradd sylfaenol wedi bod yn cynyddu’n raddol, a allai olygu y bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer costau misol uwch os ydych yn gwneud cais am forgais newydd, os ydych ar fin ail-forgeisio o gyfradd sefydlog, neu os oes gennych draciwr neu forgais cyfradd newidiol.

Mae’r tabl er enghraifft yn dangos faint yn fwy y byddai’n rhaid i chi ei dalu ar forgais o £200,000 (lle mae’r gyfradd llog bresennol yn 2.5% ar dymor morgais o 25 mlynedd ac ad-daliadau misol yn £897) os bydd cyfraddau llog yn cynyddu.

Cyfradd llog newydd 5% 6% 7% 8% 9%

Taliad misol

£1,170

£1,289

£1,414

£1,544

£1,678

Codiad misol

£273

£392

£517

£647

£781

Wyth awgrym da ar gyfer rheoli codiad mewn cyfradd llog ar eich morgais

1. Darganfyddwch sut forgais sydd gennych chi

Bydd sut fyddwch chi’n cael eich effeithio gan godiad yn y gyfradd llog yn dibynnu ar ba fath o forgais sydd gennych chi a pha bryd ddaw eich trefniant presennol i ben. Os nad ydych yn gwybod, gwiriwch eich gwaith papur neu gyda’ch darparwr morgais i gael yr ateb. Darllenwch ein canllaw i gael mwy o help i ddeall y gwahanol fathau o forgeisi.

2. Gwiriwch sut allai codiad mewn cyfradd llog effeithio arnoch chi

Nawr eich bod yn gwybod pa forgais sydd gennych chi, rydych mewn sefyllfa well i ganfod sut fydd hyn yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a pha bryd y byddwch yn debygol o weld y newid hwn. Defnyddiwch y Gyfrifiannell Money Saving Expert i gyfrifo’r effaith.

3. Cyfrifwch beth allwch chi ei fforddio

Os yw’ch ad-daliadau morgais yn debygol o godi, cyfrifwch a allwch chi fforddio’r codiad hwn. Lluniwch gyllideb a gweld a allech chi dorri’n ôl yn unrhyw le. Os yw’r codiadau’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol, dechreuwch gynilo digon o arian wrth gefn er mwyn ichi fedru fforddio’r codiad pan ddaw.

4. Os ydych yn poeni sut fyddwch chi’n medru fforddio hyn

Siaradwch â'ch benthyciwr. Gweler ein canllaw Siarad â'ch credydwr am y camau y gallwch eu cymryd nawr.

Gallwch hefyd archwilio’r help sydd ar gael gan y llywodraeth os na allwch dalu eich morgais.

5. Os ydych wedi methu un neu fwy o daliadau morgais

Siaradwch ag ymgynghorydd dyled- gallant eich helpu i gyllidebu ac asesu eich incwm a'ch gwariant yn gynnar cyn mynd i unrhyw anhawster ariannol.

Defnyddiwch ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim.

6. Cynyddwch eich sgôr credyd

Efallai ei bod hi’n amser rhyfedd i ganolbwyntio ar hyn, ond drwy weithio i wella’ch sgôr credyd, byddwch yn gallu cael bargen well pan ddaw eich cytundeb i ben neu pan fyddwch chi’n ailforgeisio.

7. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau

Os yw’ch cytundeb presennol yn dod i ben yna dylech yn sicr geisio newid er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gyfradd orau. Ond gall fod o fudd hefyd gwirio i weld faint o amser sydd gennych yn weddill ar eich cytundeb presennol. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ychydig o ffioedd, ond os bydd yr arbedion yn sylweddol, dylech barhau i geisio cytundeb newydd. Am ragor o wybodaeth ar gymharu morgeisi darllenwch ein tudalen ar adolygu eich morgais yn rheolaidd.

8. Gordalu eich morgais

Efallai na fydd codiad yn y gyfradd llog yn effeithio ar yr arian yn eich poced am beth amser, felly manteisiwch ar y gyfradd isel sydd gennych ar hyn o bryd a thalwch ychydig yn rhagor. Mae trothwyon ar faint gewch chi ordalu a gallech wynebu ffioedd hefyd, felly dylech wirio gyda’ch darparwr morgais yn gyntaf. Darllenwch ein tudalen ar dalu eich morgais i gyd yn gynnar.

Effaith codiad mewn cyfraddau llog ar fenthycwyr

Gallai mathau eraill o fenthyca (nid morgeisi), wedi’u diogelu a heb eu diogelu, gael eu heffeithio gan godiad yn y gyfradd llog. Gallai hyn gynnwys unrhyw fenthyca presennol sydd gennych chi o ran benthyciadau, cardiau credyd a gorddrafftiau.

Os ydych eisoes yn benthyca

Ni fydd y rhan fwyaf o fenthyca heb ei ddiogelu, fel benthyciad personol er enghraifft, neu arian i brynu car, yn cael ei effeithio gan newid yn y gyfradd llog. Y rheswm am hyn yw y cytunoch ar gyfradd sefydlog o log pan gymeroch y benthyciad i ddechrau.

Mae’n bosibl hefyd i’r gyfradd llog ar eich cerdyn credyd neu orddrafft godi, er nad ydynt yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag unrhyw newid yng nghyfradd sylfaenol BoE. Fodd bynnag, cewch rybudd cyn i hynny ddigwydd, yn amodol ar amodau a thelerau eich cyfrif.

Mae’r dewis gennych i ganslo’r cerdyn credyd ac ad-dalu’r balans sy’n weddill cyn pen 60 diwrnod. Bydd unrhyw log a ychwanegir yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei osod ar y gyfradd is.

Gwiriwch ein canllaw ar gardiau credyd am fwy o wybodaeth.

Ar fenthyca i’r dyfodol

Os ydych yn dymuno cymryd benthyciad personol yn dilyn codiad yn y gyfradd llog, efallai y gwelwch fod y gost o fenthyca wedi cynyddu.

Effaith codiad mewn cyfraddau llog ar gynilwyr

Nid yw’n newyddion drwg i gyd pan aiff cyfraddau llog i fyny. Os ydych yn gynilwr gallech weld codiad yn y cyfraddau a gewch ar gyfrifon cynilo cyfradd amrywiol ac ISAs Arian Parod.

Bydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynnig y cyfraddau llog gorau ar gyfrifon cynilo. Golyga hyn ei bod hi’n bwysig iawn chwilio am y fargen orau ac i sicrhau bod y cyfrif mwyaf addas gennych chi ac sy’n cynnig y gyfradd llog orau.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddechrau cynilo.

Codiad mewn cyfraddau llog a phensiynau

Gall codiad mewn cyfraddau llog fod yn newyddion da i bobl sydd ar fin prynu blwydd-dal. Mae cyfraddau blwydd-daliadau rates yn gysylltiedig ag elw gildiau ac yn talu incwm a warantir am oes. Gall yr incwm a gewch gael ei gloi i mewn ar y diwrnod y prynwch eich blwydd-dal (yn amodol ar fynegeio ac ati), felly gall cyfraddau blwydd-dal presennol wneud gwahaniaeth mawr i’ch diogelwch ariannol hirdymor.

Os ydych yn dymuno prynu blwydd-dal, gall codiad mewn cyfradd llog fod yn newyddion da oherwydd fe gewch well elw ar eich buddsoddiad. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm ymddeol gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi'i esbonio.

Ni ellir newid blwydd-dal sydd eisoes wedi ei gymryd, ond gallwch elwa serch hynny o gyfradd llog uwch drwy roi arian o flwydd-dal i mewn i gyfrif cynilo.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.