Rhannu cartref y teulu a morgais yn ystod ysgariad neu ddiddymiad

Os ydych chi’n ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil, un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf y gallech wynebu yw beth sy’n digwydd i gartref y teulu. Darganfyddwch beth yw eich dewisiadau.

Sicrhau’r hawliau i’ch cartref

Ydych chi yn y camau cynnar o ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil ac eisiau rhywfaint o wybodaeth am ddiogelu eich hawliau i fyw yn y cartref a rannwyd yn flaenorol? Yna mae’n werth darllen ein canllaw Diogelu eich hawliau perchnogaeth cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad.

Deall sut all y cartref gael ei rannu

Pan fyddwch yn ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil, mae sawl dewis ar gael o ran beth allwch chi wneud gyda’r cartref teuluol.

Efallai y byddwch yn penderfynu:

  1. Gwerthu’r cartref a bod y ddau ohonoch yn symud allan. Gallech ddefnyddio’r arian a godwyd tuag at brynu cartref newydd yr un, os gallwch chi fforddio gwneud hyn.
  2. Trefnu i un ohonoch brynu cyfran y llall.
  3. Cadw’r cartref a pheidio newid pwy sy’n berchen arno. Gallai un partner ddal i fyw ynddo, o bosibl nes bydd eich plant yn 18 neu’n gadael yr Ysgol (os oes gennych rai).
  4. Trosglwyddo rhan o werth yr eiddo o un partner i’r llall fel rhan o’r setliad ariannol. Byddai’r partner a ildiodd gyfran o’i hawliau perchnogaeth yn cadw cyfran neu ‘fudd’ yn y cartref. Mae hyn yn golygu pan fydd yn cael ei werthu bydd ef neu hi yn derbyn canran o’i werth.

Rhannu’r cartref yng Nghymru neu Loegr

Yn ogystal â’r opsiynau a amlinellwyd uchod, gall llys yng Nghymru neu Loegr ohirio gwerthu cartref trwy’r hyn a elwir yn orchymyn ‘Mesher’.

Gall hyn ohirio gwerthu’r cartref tan y bydd digwyddiad penodol yn sbarduno’r gwerthiant – er enghraifft, y plentyn ieuengaf yn troi’n 17 neu 18 oed.

Yna rhannir elw’r gwerthiant yn unol â’r gorchymyn llys.

Gall llys ddefnyddio gorchymyn ‘Martin’ hefyd i ohirio gwerthu’r tŷ. Mae hyn yn rhoi hawl i un unigolyn feddiannu’r eiddo am oes neu hyd nes y bydd ef neu hi yn ailbriodi.

Defnyddir hyn amlaf pan nad oes gan y cwpl blant ac nid oes angen yr arian ar unwaith ar yr unigolyn arall ar gyfer ei anghenion personol.

Rhannu a phrisio tŷ yn yr Alban

Fe ystyrir gwerth eich cartref wrth gyfrifo eich setliad ariannol os:

  • gwnaethoch ei brynu wedi i chi briodi neu ddod yn bartneriaid sifil, neu
  • oedd y ddau ohonoch yn bwy ynddo fel cartref teuluol cyn y briodas neu bartneriaeth sifil.

Os ydych chi’n penderfynu trosglwyddo’r cartref i un ohonoch chi, dylid cael ei brisio ar ddyddiad yr ydych chi a’ch cyn bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) yn cytuno arno.

Fel arfer, byddech yn dewis dyddiad mor agos â phosibl i ddyddiad y trosglwyddiad.

Rhannu’r cartref yng Ngogledd Iwerddon

Nod y llys fydd rhannu eiddo a rennir mewn ffordd deg sy’n sicrhau bod anghenion pawb yn cael eu diwallu. Mae’r Matrimonial Causes Order yn nodi’r ystod o bwerau y gall y llys eu defnyddio wrth benderfynu sut i rannu asedau.

Maent yn cynnwys:

  • gorchymun gwerthu eiddo
  • trosglwyddo’r eiddo o un priod i’r llall (neu i blant)
  • trosglwyddo eiddo o enw ar y cyd i unig enw
  • caniatáu i briod neu blentyn ddefnyddio eiddo hyd at ddyddiad penodol yn y dyfodol
  • caniatáu i briod neu blentyn aros yn yr eiddo am oes neu tan y bydd digwyddiad penodol (e.e. pan fydd priod yn ailbriodi).

Blaenoriaethu anghenion eich plant

Nid yw’r rhan fwyaf o gyplau sy’n ysgaru neu’n diddymu eu partneriaeth sifil yn mynd i wrandawiad llys llawn i setlo anghydfodau ariannol.  Ond mae’n syniad da i gael dealltwriaeth o beth fyddai’r llysoedd yn penderfynu o ran y cartref teuluol.

Os oes gennych chi blant, yn arbennig os ydynt yn ifanc, bydd y llys yn ystyried y ffaith eu bod angen rhywle addas i fyw gyda’r naill riant.

Mae agwedd y llys yn amrywio ychydig ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y datrysiad yn y pen draw yn dibynnu hefyd ar eich amgylchiadau personol chi.

Fel rhieni mae’n bwysig mai anghenion eich plant sy’n cael blaenoriaeth yn eich meddyliau ar unrhyw adeg yn ystod ysgariad neu ddiddymiad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cyn lleied o ymyrraeth arnynt â phosib.

Fodd bynnag, bydd nifer o deuluoedd yn wynebu byw mewn eiddo llai yn sgil ysgariad neu ddiddymiad.

Rhoi trefn ar forgais ar y cyd

Mae nifer o gyplau sydd â morgais ar y cyd ac sy’n ysgaru neu’n diddymu eu partneriaeth sifil yn ceisio trefnu’r morgais fel mai enw un partner yn unig sydd arno.

Bydd p'un a yw hyn yn bosibl yn dibynnu ar amgylchiadau ariannol y cwpl.

Manteision gwneud hyn yw:

  1. Dylai’r sawl y mae ei enw yn cael ei dynnu oddi ar y morgais allu benthyg mwy i brynu cartref ei hun na phe byddai ei enw yn dal ar forgais y cyn bartner.
  2. Nid oes rhaid i’r sawl sy’n aros yn y tŷ ddibynnu ar y cyn bartner ar gyfer y morgais.
  3. Efallai y gall y ddau bartner dorri’r gadwyn sy’n uno eu ffeiliau credyd. Os oes gennych ddyled ar y cyd gyda’ch cyn bartner - er enghraifft morgais neu fenthyciad - mae eich ffeiliau credyd wedi eu cysylltu. Mae hyn yn golygu y bydd sut ydych chi’n rheoli’ch dyledion yn effeithio ar eich cyn bartner os yw ef neu hi yn ymgeisio am gredyd, ac i’r gwrthwyneb.

Siarad â’ch darparwr morgais

Os ydych chi eisiau dod yn gyfrifol am y morgais yn eich enw chi yn unig, bydd y darparwr benthyciwr eisiau sicrhau y gallwch chi fforddio’r taliadau.

Opsiynau os na allwch chi fforddio’r morgais ar ben eich hun

Os na allwch chi fforddio dod yn gyfrifol am y morgais, efallai y gallech gael ‘morgais gwarantwr’.

Mae hwn yn forgais ble bydd perthynas agos (neu’ch cyn bartner) yn cytuno i warantu taliadau’r morgais pe baech chi’n methu gwneud hynny.

Mae dod yn warantwr yn gam cyfreithiol difrifol gan ei fod yn golygu eich bod yn gyfrifol am dalu’r morgais cyfan os nad yw’r benthyciwr morgais yn gallu ei dalu.

Cyn gwneud penderfyniad, mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n ystyried bod yn warantwr:

  • yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol, ac
  • yn siarad â brocer morgeisi cyn cytuno i unrhyw beth.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.