Pan fyddwch yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, efallai y bydd un ohonoch yn cytuno i dalu cyfandaliad neu daliadau cynhaliaeth parhaus i’r llall. Yn gyffredinol,mae’n well gan gyplay a’r llysoedd ‘toriad llwyr’, ond nid yw hynny’n bosibl bob amser.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Deall toriadau llwyr
Pan fyddwch yn ystyried sut i rannu’ch eiddo a’ch asedau, gallai trefnu ‘toriad llwyr’ fod yn ddoeth.
Mae toriad llwyr yn golygu terfynu’r cyswllt ariannol rhyngoch chi â’ch cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) cyn gynted ag sy'n rhesymol yn dilyn eich ysgariad neu ddiddymiad.
Ar ôl toriad llwyr, ni thelir unrhyw gynhaliaeth i ŵr neu wraig.
Yr unig ffordd y gallwch sicrhau na fydd eich cyn-bartner yn ceisio gwneud ceisiadau ariannol yn eich erbyn yn y dyfodol yw cael gorchymyn llys.
Mae rhaid i’r gorchymyn llys osod y trefniadau ariannol gan nodi bod toriad llwyr yn digwydd.
Talu cyfandaliad er mwyn cael toriad llwyr
Mewn rhai achosion, mae digon o arian i ‘brynu allan’ hawl cynhaliaeth yr unigolyn lleiaf cefnog.
Gwneir hyn drwy gyfrifo swm o arian y gellir ei roi i’r person sy’n ei dderbyn. Yna gallant fuddsoddi a derbyn incwm ohono, yn lle cael taliadau cynhaliaeth.
Mae hyn yn faes cymhleth. Felly os ydych yn ystyried gwneud hyn, mae’n bwysig cael cyngor gan gyfreithiwr cyfraith deuluol.
Nid oes rhaid talu cyfandaliad mewn un taliad cyfan, er dyna sy’n digwydd yn aml. Gellir ei dalu mewn mwy nag un rhandaliad. Er enghraifft, taliad yn rhannol pan gyflwynir y gorchymyn llys (neu’n fuan iawn wedi hynny), ac yna taliadau eraill i ddilyn pan werthir y tŷ.
Bydd unrhyw gyfandaliadau daladwy yn y dyfodol yn agored i gael eu newid o bosibl. Mae’n bwysig cael cyngor cyfreithiol sy’n arbenigol os credwch y gallai hyn effeithio arnoch.
Os na allwch fforddio cyngor cyfreithiol, gweler ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad neu ddiddymiad
Yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi a’ch cyn-bartner gytuno i ‘brynu allan’ hawl cynhaliaeth.
Yng Nghymru a Lloegr gall y llys orfodi ‘prynu allan’ arnoch.
Beth yw cynhaliaeth i gymar?
Dyma daliad rheolaidd gan gyn ŵr, cyn wraig neu bartner sifil i’r cyn-bartner.
Gwneir y taliad yn unig pan na all un partner gynnal ei hun yn ariannol hebddo.
Byddai’r swm a gewch yn dibynnu ar:
- faint sydd arnoch ei angen i fyw arno
- faint o incwm sydd gennych yn barod, a
- faint gallech ei ennill yn y dyfodol o bosibl
Pa bryd y telir cynhaliaeth i gymar?
Os bu’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn un fer – llai na pum mlynedd fel arfer – efallai na fydd y gynhaliaeth yn cael ei thalu o gwbl neu am gyfnod byr yn unig. Gelwir hyn yn ‘orchymyn cyfnod’.
Fodd bynnag, os bu cwpl gyda’i gilydd ers amser maith, neu lle nad yw cyn-bartner yn medru gweithio, gellir ei dalu am oes. Gelwir hyn ar sail ‘bywydau ar y cyd’. Mae hyn yn golygu hyd nes marwolaeth yr unigolyn sy’n talu cynhaliaeth neu’r un sy’n ei gael.
Serch hynny, mae cynhaliaeth i gymar ar sail bywydau ar y cyd yn gynyddol brin.
Pa bryd mae cynhaliaeth i gymar yn dod i ben?
Fel arfer mae’n dod i ben:
- os yw cyfnod y taliad yn dod i ben
- os byddwch chi neu eich partner farw
- mae’r unigolyn sy’n cael cynhaliaeth i gymar yn ailbriodi neu’n dod yn rhan o bartneriaeth sifil arall
Nid yw’n dod i ben yn angenrheidiol os yw ef neu hi’n byw gyda phartner newydd heb briodi neu heb fynd i bartneriaeth sifil. Er gall yr unigolyn sy’n ei thalu ddefnyddio hyn fel rheswm dros wneud cais i’r llysoedd i gael y swm wedi ei leihau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Newidiadau a allai effeithio ar daliadau cynhaliaeth
Yswirio taliadau cynhaliaeth i gymar
Os ydych yn cael cynhaliaeth i gymar, mae’n werth ystyried yswirio’r taliadau. Bydd hyn yn golygu y gallwch barhau i gael incwm petai’ch cyn bartner yn marw.
I wneud hyn, gallwch chi neu’ch cyn-bartner gymryd polisi yswiriant bywyd ar eu bywyd.
Nid oes angen iddo fod yn ddrud. A gall y polisi ddarparu cyfandaliad neu daliadau misol petai’ch cyn-bartner yn marw tra byddech yn dal i dderbyn cynhaliaeth i gymar.