Efallai y bydd un neu ddau ohonoch yn dymuno parhau i rentu eich cartref ar ôl i chi wahanu. Bydd eich dewisiadau yn dibynnu ar eich cytundeb tenantiaeth ac os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu gymdeithasol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sicrhau’r hawliau i’ch cartref
- Cael cyngor arbenigol
- Beth all y llys ei benderfynu
- Beth yw’ch dewisiadau os mai chi yw’r unig denant?
- Beth yw’r dewisiadau os yw enw’r ddau ohonoch ar y cytundeb rhentu?
- Beth yw’r dewisiadau os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi?
- Terfynu’ch tenantiaeth yn gynnar
- Eich cam nesaf
Sicrhau’r hawliau i’ch cartref
Awgrym da
Os ydych yn newid amodau’ch tenantiaeth, mae’n bwysig cael y landlord i gytuno i hyn yn ysgrifenedig cyn i chi derfynu’ch tenantiaeth bresennol. Unwaith y byddwch chi wedi terfynu’ch tenantiaeth, ni fydd gennych chi hawl i aros yn yr eiddo.
Ydych chi yn y camau cynnar o wahanu ac eisiau rhywfaint o wybodaeth am ddiogelu eich hawliau i fyw yn y cartref? Mae werth darllen ein canllaw Rhentu: Eich hawliau i’ch cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad.
Cael cyngor arbenigol
Yn gyffredinol mae’n llawer gwell os gallwch gytuno gyda’ch cyn bartner beth fyddwch chi’n ei wneud ynglŷn â’ch cartref.
Serch hynny, mae’r gyfraith dai yn gymhleth iawn. Golyga hyn efallai y bydd gennych chi hawliau i fyw mewn eiddo, i drosglwyddo neu derfynu’r denantiaeth – neu gyfrifoldebau i dalu’r rhent – nad ydych yn ymwybodol ohonynt os ceisiwch roi trefn ar bethau eich hun.
Mae’n syniad da siarad â chyngorwr o elusen hawliau tai.
- Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gysylltu â ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Hawliau Tai
- Yn yr Alban, gallwch gysylltu â Shelter
Mae hefyd yn werth siarad â chyfreithiwr teulu.
Rhannu’r cartref teuluol drwy gyfryngu
Beth os nad ydych chi a’ch cyn bartner yn cytuno am beth ddylai ddigwydd – er enghraifft os yw’r ddau ohonoch ar y gytundeb tenantiaeth neu mae gennych blant? Gallech ystyried defnyddio cyfryngwr – sy’n drydydd parti diduedd.
Darganfyddwch fwy am gyfryngu ar wefan Cyngor Ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr:
- Yng Nghymru a Lloegr, ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol neu ar wefan Cyfryngu Teuluol Cenedlaethol
- Yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan Family Mediation NI
- Yn yr Alban, ar wefan Relationships Scotland
Beth all y llys ei benderfynu
Mewn rhai achosion, efallai y gallwch fynd i'r llys am ganiatâd i barhau i fyw yn yr eiddo.
Os oes gennych blant a fydd yn byw gyda chi am y rhan fwyaf neu'r cyfan o’r amser, efallai y gallwch fynd i'r llys i drosglwyddo'r denantiaeth i'ch enw.
Dylai'r flaenoriaeth fod i sicrhau bod gan eich plant rywle addas i fyw, yn enwedig os ydynt nhw yn yr ysgol o hyd.
Beth yw’ch dewisiadau os mai chi yw’r unig denant?
Os yw’r denantiaeth yn eich enw chi yn unig gallwch ofyn i’ch cyn bartner i adael - er gall eich cyn bartner fynd i’r llys i geisio’r hawl i aros yn yna.
Bydd pwy bynnag fydd yn aros yn gorfod sicrhau y gall fforddio i dalu’r rhent.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Nid oes gan eich cyn bartner unrhyw hawliau i aros yn eich cartref - oni bai bod ganddynt orchymyn llys yn dweud y gallant.
Gallwch ofyn iddynt adael ac ni fyddai ganddynt yr hawl i aros yno yn yr hirdymor.
Os penderfynwch adael yr eiddo – ac yn hapus i’ch cyn bartner aros yno – bydd yn rhaid i chi derfynu’ch tenantiaeth yn ffurfiol er mwyn caniatâu i’ch cyn bartner gymryd tenantiaeth newydd.
Dylech bod amser roi i lawr yn ysgrifenedig beth a gytunwyd ar lafar gyda’ch landlord - gall e-bost neu neges destun fod yn dderbyniol.
Mae’n bwysig i chi wneud hyn - neu gallech gael eich cyhuddo o droi’ch cefn ar y denantiaeth a gofyn i chi dalu’r rhent ar ôl i chi symud allan.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol
Darganfyddwch a oes gennych chi’r hawl i drosglwyddo’ch tenantiaeth i’ch cyn bartner.
Bydd y cyfan yn dibynnu ar eich cytundeb tenantiaeth bresennol gyda’ch landlord cymdeithasol.
Gallai eich landlord cymdeithasol fod yn:
- cymdeithas dai
- cwmni cydweithredol tai
- yr ‘Housing Executive'
- awdurdod lleol.
Gallech fod yn ildio hawliau gwerthfawr iawn drwy drosglwyddo tenantiaeth. Felly mae’n bwysig cael cyngor cyfriethiol cyn gwneud dim.
Beth yw’r dewisiadau os yw enw’r ddau ohonoch ar y cytundeb rhentu?
Os ydych chi a’ch cyn-bartner ar y cytundeb tenantiaeth, mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r rhent i gyd tan ddiwedd y denantiaeth.
Ceisiwch gytuno ar beth ydych am ei wneud.
- Efallai y cytunwch y bydd un ohonoch yn symud allan a throsglwyddir y denantiaeth drosodd yn enw’r partner arall yn unig.
- Efallai y penderfynwch y bydd y ddau ohonoch yn symud allan a byddwch yn dod ar gytundeb tenantiaeth i ben.
Gall y naill neu’r llall ohonoch roi rhybudd i derfynu’r denantiaeth – oni bai ei bod yn denantiaeth cyfnod sefydlog. Gall hynny fod yn broblem os yw’ch gwahaniad yn un chwerw.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Gall y naill neu’r ddau ohonoch barhau i fyw yn yr eiddo cyn belled â bod eich tenantiaeth yn parhau mewn grym ac y gallwch dalu’r rhent.
Yn ddibynnol ar eiriad y cytundeb tenantiaeth, efallai na fydd gennych chi hawl fel mater o drefn i’r denantiaeth gael ei chymryd drosodd gan un ohonoch yn unig.
Fodd bynnag, efallai y bydd eich landlord yn fodlon i chi wneud hyn cyn belled â’ch bod yn gallu fforddio’r rhent.
Gall eich landlord ofyn am fwy nag un geirda neu ‘warantwr’ - a fydd yn addo talu’r rhent os na allwch chi. Gallai eich landlord godi tâl am hyn.
Os bydd un ohonoch yn dymuno aros yn yr eiddo – mae’n bwysig peidio â therfynu’ch tenantiaeth heb gael un arall gan eich landlord. Unwaith y byddwch chi wedi terfynu’ch tenantiaeth, ni fydd gennych chi hawl i aros yno.
Os ydych yn dymuno symud allan, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu (ac unrhyw ddifrod wedi ei dalu amdano) hyd at ddiwedd eich tenantiaeth neu gyfnod rhybudd.
Mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol – felly os bydd eich cyn bartner yn methu neu yn gwrthod talu’r rhent – gall y landlord ofyn i chi am y swm cyfan, ac i’r gwrthwyneb.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol
Mae gan y ddau ohonoch yr hawl i barhau i fyw yn yr eiddo cyn belled â bod eich tenatiaeth yn parhau mewn grym ac y gallwch dalu’r rhent.
Efallai y gallwch drosglwyddo’r denantiaeth drosodd i’ch partner – yn ddibynnol ar eiriad y denantiaeth.
Ond mae gan rai landlordiaid bolisi o beidio â throsglwyddo tenantiaeth ar y cyd i denantiaeth sengl fel mater o drefn pan fydd perthynas yn chwalu.
Yn hytrach byddant yn edrych ar bob achos yn unigol.
Os oes gennych chi’r hyn a elwir yn ‘denantiaeth ddiogel’ mae’n rhoi’r hawl i chi fyw yn yr eiddo am oes – ond fe gollwch yr hawl werthfawr hon os terfynwch y denantiaeth.
Mae’n bwysig cael cyngor arbenigol cyn penderfynu a ddylid gwneud.
- Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gysylltu â ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’r Housing Rights ServiceYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn Yr Alban, gallwch gysylltu â ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw’r dewisiadau os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi?
Os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi, efallai y bydd yn anodd i chi gael yr hawl hirdymor i fyw yn yr eiddo.
Efallai y gallwch chi gael ‘rhybudd meddiannaeth’ (hawliau meddiannaeth yn yr Alban) yn y tymor byr a throsglwyddiad o’r denantiaeth fel ateb hirdymor. Ond bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Os bydd eich cyn bartner, sydd â’u henw ar y denantiaeth, yn fodlon i symud allan ac i chi aros, dylai’r ddau ohonoch ofyn i’r landlord os cewch wneud hynny.
Gall y landlord gytuno i chi wneud hynny cyn belled y bydd yn ffyddiog y gallwch dalu’r rhent.
Byddant eisiau gwybod bod eich cyn bartner yn fodlon ildio’r denatiaeth. A bydd y landlord angen i’ch cyn-bartner ddarparu rhywbeth yn ysgrifenedig er mwyn datgan hyn. Gall hyn fod mor anffurfiol â neges destun neu e-bost.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol
Ydy’r cytundeb rhentu yn enw’ch cyn bartner yn unig ac maent cytuno i chi gymryd drosodd y cytundeb tenantiaeth? Yna dylent gysylltu â’ch landlord cymdeithasol i gael gwybod beth sydd angen i chi wneud.
Gallai hefyd fod werth cysylltu ag elusen tai – gweler ein penawd ‘Cael help arbenigol’ uchod am ddolenni i elusenau.
Terfynu’ch tenantiaeth yn gynnar
Os oes gennych denantiaeth cyfnod sefydlog gyda landlord preifat, mae’n debyg na allwch ei therfynu’n gynnar. Yn gyfreithiol chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent hyd nes y bydd y cyfnod sefydlog wedi dod i ben.
Siaradwch â’ch landlord yn y gobaith y gallant fod yn hyblyg. Fel arall gallech golli rhan o’ch blaendal neu’r cyfan ohono.
Os ydych yn rhentu eiddo gan landlord cymdeithasol, efallai y gallwch chi derfynu’r denantiaeth yn gynnar. Mae’n bwysig i gael cyngor oherwydd gallech fod yn ildio hawliau tai gwerthfawr.