Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner, ond nid ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gallai fod ffyrdd i amddiffyn eich hawliau i'r cartref. Bydd beth allwch chi ei wneud yn dibynnu ar bwy sydd yn berchen ar yr eiddo.
Sut fath o berchnogaeth sydd i’ch cartref
Chi sydd â pherchnogaeth eich cartref – naill ai’r cyfan neu ran ohono - os eich enw chi sydd ar ddogfen gyfreithiol o’r enw gweithred teitl.
Gall eich cartref fod ym mherchnogaeth:
- un ohonoch – sy’n golygu ei fod yn enw un ohonoch
- ar y cyd, gan y ddau ohonoch – mae mathau gwahanol o berchnogaeth ar y cyd
- gan rywun arall – er enghraifft, aelod o’r teulu.
Gall y modd yr ydych yn berchen ar eich cartref effeithio ar beth rydych yn ei wneud yn y dyddiau cynnar.
Eiddo ym mherchnogaeth un ohonoch
Os yw’ch cyn bartner yn berchen ar gartref y teulu yn ei enw ef neu hi yn unig, nid oes gennych hawl cyfreithiol awtomatig i aros yno.
Gall eich partner:
- eich troi allan heb gael gorchymyn llys
- rhentu neu werthu’r cartref heb eich cytundeb
- cymryd benthyciad yn erbyn yr eiddo heb eich caniatâd chi.
Sefydlu’ch diddordeb chi yn yr eiddo
Os ydych wedi talu tuag at y morgais, neu dalu tuag at welliannau neu estyniad, efallai gallech sefydlu diddordeb yn eich cartref.
Mae hyn yn golygu bod y llys yn cydnabod bod gennych yr hawl:
- i barhau i fyw yn yr eiddo
- i gael cyfran o’i werth pan gaiff ei werthu.
Bydd hawliau chi i’r eiddo - a’r hyn sydd yn rhaid i chi ei wneud er mwyn cofrestru hynny - yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw yn y DU:
Yng Nghymru a Lloegr
P’un a ydych wedi gwneud unrhyw gyfraniadau ariannol neu beidio, efallai y gallech gael ‘gorchymyn meddiannaeth’. Ond byddai angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr i wneud hyn. Er eich bod wedi cyfrannu tuag at y morgais, nid yw hyn yn golygu bod hawl gennych yn awtomatig i gael cyfran o eiddo’ch cyn partner. Ond nid yw’n angenrheidiol eich bod wedi arwyddo dogfen gyfreithiol ffurfiol gyda’ch cyn partner i hawlio’r hyn a elwir yn ‘ddiddordeb buddiol’ yn yr eiddo.
Yng Ngogledd Iwerddon
Efallai y gallech gael ‘gorchymyn meddiannaeth’, ond byddai angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr i wneud hyn. Efallai y gallech gofrestru rhybudd (neu ‘Lis pendens’) gyda’r Gofrestrfa Tir ac Eiddo berthnasol os credwch fod gennych ddiddordeb yn yr eiddo. Mae hyn yn golygu na fydd hi’n bosib gwerthu’r eiddo heb i chi gael gwybod.
Yn yr Alban
Os hoffech barhau i fyw yn y cartref teuluol - neu y credwch fod gennych hawl i gael cyfran o’i werth - efallai y gallech ymgeisio i’r llys i gael ‘hawl meddiannaeth’. Nid yw’n broses awtomatig. Yn hytrach, bydd y llys yn ystyried nifer o ffactorau,. Mae hyn yn cynnwys
- a oes gennych blant
- a oes unrhyw le arall i fyw
- am ba hyd rydych wedi byw yno.
Gall eich partner wrthwynebu i chi gael hawl meddiannaeth.
Mae’n faes cymhleth ac mae’n beth doeth cael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn perthnasoedd cyd-fyw sy’n chwalu.
Gallwch siarad â chynghorwr o elusen hawliau tai hefyd.
- Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gysylltu â Shelter
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’r Housing Rights Service
- Yn yr Alban, gallwch gysylltu â Shelter
Eiddo sy’n perthyn i’r ddau ohonoch
Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi cyngor i chi am y ffordd orau i fod yn berchen ar eich cartref ar y cyd pan brynoch chi’r eiddo.
Y ddau opsiwn ar gyfer hyn yw:
- Cyd-denantiaid - a elwir yn ‘berchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd’ yn yr Alban. Dyma le mae’r berchnogaeth yn gyfartal rhyngoch. Pan fydd un ohonoch yn marw, mae’r llall yn etifeddu cyfran -waeth beth a nodir yn ewyllys, os oes un ganddynt.
- Tenantiaid ar y cyd - a elwir yn berchnogion ar y cyd yn yr Alban. Dyma le mae’r naill ohonoch yn berchen ar gyfran o’r eiddo. Gallwch rannu’r berchnogaeth yn gyfartal rhyngoch, neu gallwch benderfynu y bydd un ohonoch berchen ar gyfran uwch na’r llall. Bydd eich cyfran chi o’r eiddo’n cael ei drosglwyddo i bwy bynnag a enwir gennych yn eich ewyllys.
Darganfod sut fath o berchnogaeth ar y cyd sydd ynghlwm â’ch eiddo
Os nad ydych yn gwybod sut fath o berchnogaeth sydd gennych ar eich cartref, dylech geisio canfod hynny.
Bydd sut y gwnewch hynny’n dibynnu ar ble yr ydych yn byw yn y DU.
- Yng Nghymru a Lloegr: Os yw eich cartref wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa TirYn agor mewn ffenestr newydd gallwch gynnal chwiliad, sy’n costio £3. Os yw ym mherchnogaeth i ‘denantiaid ar y cyd’, bydd y geiriau ‘cyfyngiad Ffurf A’ wedi eu nodi wrth ymyl y wybodaeth am berchnogaeth.
- Yng Ngogledd Iwerddon: Gallwch ganfod sut fath o berchnogaeth sydd ar eich cartref drwy gynnal chwiliad ar un o dair o Gofrestri Tir ac Eiddo. Dysgwch sut i gynnal chwiliad arnynt ar wefan NI DirectYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn yr Alban: Gallwch ganfod sut fath o berchnogaeth sydd ar eich cartref drwy gynnal chwiliad ar wefan Register of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd. Mae ffi ar gyfer gwneud hyn, sydd fel arfer yn costio tua £3 a TAW ar y gofrestr Tir neu ar y gofrestr Sasine am £30 a TAW.
A ddylech newid y berchnogaeth?
A ydych yn berchen ar yr eiddo fel cyd-denantiaid (neu ‘berchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd’ yn yr Alban)? Os felly, efallai yr hoffech newid y berchnogaeth i denantiaid ar y cyd (neu ‘berchnogion ar y cyd’ yn yr Alban).
Y rheswm dros wneud hyn yw rhag ofn i chi farw cyn i’r gwahaniad gael ei gwblhau.
Petaech yn marw cyn i chi gytuno ar beth i’w wneud gyda’r cartref teuluol, byddai’ch cyfran chi o’r eiddo’n trosglwyddo i’ch cyn partner.
Petaech yn newid y berchnogaeth, byddai’n golygu na fyddech yn etifeddu cyfran eich partner yn awtomatig os digwydd i’ch partner farw cyn i chi gwblhau’r gwahaniad.
Mae’r broses o newid perchnogaeth yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.
Newid y berchnogaeth yng Nghymru a Lloegr
Gelwir hyn yn ‘terfynu’r cyd-denantiaeth’ ac mae’n broses ddigon syml.
Yn gyntaf, cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu at eich cyn partner a dweud eich bod yn dymuno torri’r cyd-denantiaeth. Nid yw’n ofynnol i’ch cyn partner gytuno gyda’ch dymuniad i wneud hyn.
Os yw’r eiddo wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir, gallwch gwblhau ffurflen SEV, sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Gofrestrfa Tir
Newid y berchnogaeth yng Ngogledd Iwerddon
Bydd angen cyfreithiwr arnoch os dymunwch newid perchnogaeth o gyd-denantiaid i denantiaid ar y cyd.
Bydd y broses yn dibynnu ar a yw’ch eiddo wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir (mae tua 50% o dir Gogledd Iwerddon heb ei gofrestru) neu’r 'Registry of Deeds'.
Fel arfer bydd angen i chi gael eich cyn bartner i gytuno i chi newid y denantiaeth o gyd-denantiaid i denantiaid ar y cyd.
Bydd angen i chi ofyn hefyd i gyfreithiwr ddrafftio amodau newydd y denantiaeth a chofrestru hynny ar deitl yr eiddo.
Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r Gofrestrfa Tir neu i’r 'Registry of Deeds' i newid y berchnogaeth. Bydd eich cyfreithiwr yn codi ffi fel arfer hefyd.
Newid y berchnogaeth yn yr Alban
Mae newid perchnogaeth o berchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd, i berchnogion ar y cyd yn gymhleth.
Nid yw’n rhywbeth y dylech geisio ei wneud heb gyngor cyfreithiwr cyfraith teulu.
Cysylltu â’ch darparwr morgais
Os yw’ch enw ar y morgais, rydych yn gyfrifol am y ddyled gyfan - hyd yn oed os yw’n forgais ar y cyd ag eraill.
Cysylltwch â’ch darparwr morgais os:
- credwch y byddwch yn cael trafferth talu’r morgais, neu
- eich bod yn pryderu na fydd eich cyn partner yn gwneud y taliadau a gytunwyd ganddynt.
Efallai y bydd eich darparwr morgais yn medru anfon copïau o gyfriflenni atoch.
Os yw’n forgais ar y cyd, dylech wirio hefyd a allwch rwystro’ch cyn partner rhag ymgeisio i gynyddu’r morgais.
Efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth gyda thaliadau morgais os ydych yn cael rhai budd-daliadau neilltuol.