Gan fod cyfraith yr Alban yn sicrhau bod y ddau bartner yn cael cyfran deg o'r hyn a gronnwyd gyda'i gilydd yn ystod y briodas neu'r bartneriaeth sifil, mae'n brin i un partner dalu cynhaliaeth parhaus i'r llall unwaith y daw'r berthynas i ben. Yn lle hynny, mae 'toriad glân' ariannol yn gweithio i'r rhan fwyaf o gyplau.
Deall toriadau glân
Yn yr Alban, mae cyplau fel arfer yn ceisio trefnu 'toriad glân' ar ôl rhannu'r eiddo, yr arian a'r asedau eraill a gafwyd yn ystod priodas neu bartneriaeth sifil (a elwir yn eiddo priodasol neu bartneriaeth sifil).
Mae toriad glân yn golygu, ar ôl i chi benderfynu sut y bydd yr eiddo a'r asedau yn cael eu rhannu, rydych chi'n cytuno i ddod â'r holl gysylltiadau ariannol rhyngoch chi a'ch cyn-bartner i ben cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ar ôl eich ysgariad neu ddiddymiad.
Mae'n rhoi sicrwydd a rhyddid i’r nail berson symud ymlaen â'u bywydau gan wybod na all y person arall wneud hawliad yn eu herbyn am arian yn y dyfodol.
Os byddwch yn cytuno ar doriad glân, ni fydd unrhyw gynhaliaeth barhaus yn cael ei dalu i'r naill bartner neu'r llall – a elwir yn lwfans cyfnodol. Mae taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu trin ar wahân os oes gennych blant.
Yn lle hynny, efallai y byddwch yn cael cyfandaliad neu drosglwyddiad eiddo fel eich cyfran o'r 'eiddo' o'r berthynas.
Beth sy'n cyfrif fel eiddo priodasol neu bartneriaeth sifil?
Ystyrir bod cwpl wedi gwahanu ar y dyddiad y maent yn rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel priod neu bartneriaid sifil.
Dylech gymryd sylw o'ch dyddiad gwahanu a pha asedau sydd gennych ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei ddefnyddio i weithio allan beth sy'n cyfrif fel 'eiddo priodasol neu bartneriaeth sifil' os byddwch chi'n mynd drwodd gyda'r ysgariad neu'r ddiddymiad.
Mae hyn yn cynnwys:
- eich cartref (a'ch dodrefn) os cafodd ei brynu i'w ddefnyddio fel cartref teuluol, gan gynnwys os prynwyd yr eiddo cyn y briodas neu os yw yn enw un partner yn unig
- asedau a gafwyd rhwng dyddiad eich priodas neu seremoni sifil, hyd at ddyddiad y gwahanu (megis cynilion, cerbydau, cyfrifon banc ar y cyd a phensiynau)
- dyledion neu fenthyciadau a gymerwyd allan yn ystod y briodas neu'r bartneriaeth sifil.
Nid yw rhoddion gan drydydd partïon ac etifeddiaethau fel arfer yn cael eu cynnwys os ydynt yn aros yn eu ffurf gwreiddiol.
Er enghraifft, pe baech chi'n etifeddu swm o arian a'i gadw fel arian parod, ni fyddai'n cyfrif fel eiddo priodasol neu bartneriaeth. Ond pe baech chi'n defnyddio'r arian hwnnw i brynu eiddo neu wneud buddsoddiad, byddai yn cyfrif.
Nid yw unrhyw beth sy'n dod y tu allan i eiddo priodasol neu bartneriaeth yn cael ei gyfrif wrth weithio allan sut i rannu'ch asedau, ond gellir ei ystyried mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, wrth gytuno beth yw taliad cyfandaliad priodol.
Sut mae eiddo priodasol neu bartneriaeth sifil yn cael ei rannu
Bydd disgwyl i chi rannu gwerth eich eiddo a'ch asedau yn deg – ond efallai na fydd hyn yn golygu ei fod wedi'i rannu'n gyfartal, megis:
- pan ddefnyddiwyd eiddo at bwrpas penodol, neu cafodd ei brynu gan ddefnyddio arian neu asedau nad oeddent yn dod o ymdrechion ar y cyd y cwpl
- os ydych chi neu'ch cyn-bartner wedi rhoi'r gorau i'ch gyrfa i fagu eich teulu
- os yw un partner yn cymryd y rhan fwyaf o gostau gofal plant.
Os ydych chi neu'ch cyn-bartner yn waeth yn ariannol oherwydd eich perthynas, ac nad yw rhaniad cyfartal yn mynd i'r afael â'r anfantais hynny'n llawn, gellir gwneud addasiad i'w wneud yn deg.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn derbyn taliadau cynhaliaeth parhaus (a elwir yn lwfans cyfnodol) am hyd at dair blynedd ar ôl ysgariad neu ddiddymiad, neu daliad cyfandaliad.
Os oes gan eich ysgariad neu ddiddymiad y potensial i achosi caledi ariannol difrifol – er enghraifft, oherwydd salwch hirdymor neu ddiffyg gallu i weithio – gellir talu lwfans cyfnodol am gyfnod hirach, neu gellir dyfarnu cyfandaliad ychwanegol i helpu i addasu i golled cymorth ariannol.
Deall cyfandaliadau
Pan fyddwch chi'n gweithio allan sut i rannu'ch eiddo a'ch asedau, gallai wneud synnwyr i un partner dalu cyfandaliad i'r llall. Gelwir hyn yn 'swm cyfalaf' a gall helpu i sicrhau bod eich cyllid yn cael ei rannu'n deg.
Gellir rhannu eiddo ac asedau mewn sawl ffordd, trwy:
- drosglwyddo perchnogaeth
- gwerthu a rhannu'r elw, neu
- rannu pensiwn.
Beth bynnag yw'r dull, y nod yw y dylai fod yn raniad teg sy'n ystyried adnoddau'r ddau bartner.
Talu cyfandaliad
Nid oes rhaid talu taliad cyfandaliad mewn un tro, er fod hyn yn digwydd yn aml.
Gellir rhannu taliadau cyfandaliad hefyd ar draws sawl rhandaliad os oes angen, megis:
- pan na all partner dalu'r swm llawn ar unwaith
- os yw'r taliad yn dibynnu ar eiddo yn cael ei werthu yn gyntaf.
Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno i dalu cyfandaliad mewn rhandaliadau, dylai'r dyddiadau talu gael eu nodi'n glir mewn cytundeb ysgrifenedig.
Beth yw lwfans cyfnodol?
Mae lwfans cyfnodol yn orchymyn cyfreithiol i chi neu'ch cyn-bartner dalu incwm rheolaidd i'r person arall ar ôl ysgariad neu ddiddymiad.
Gellir ei dalu am hyd at dair blynedd ar ôl eich ysgariad neu ddiddymiad. Gellir ei dalu am fwy o amser os oes angen i atal rhywun rhag profi caledi ariannol difrifol, er bod hyn yn brin.
Os ydych chi'n dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ond yn gwahanu ac yn byw ar wahân, efallai y bydd yn ofynnol i un partner dalu cynhaliaeth i'r llall.
Mae cynhaliaeth yn gymorth ariannol i helpu gyda chostau byw rhesymol tra byddwch yn y broses o ysgaru neu ddod â'ch partneriaeth sifil i ben.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trefnu cynhaliaeth yn yr Alban.
Pryd fyddai lwfans cyfnodol yn cael ei dalu?
Mae lwfans cyfnodol fel arfer yn cael ei dalu (dyfarnu) dim ond pan na fyddai setliad toriad glân, fel taliad cyfandaliad neu drosglwyddiad eiddo, yn eich gadael gyda digon i gynnal eich hun yn ariannol.
Mae hyn yn cynnwys os:
- mae un ohonoch wedi bod yn sylweddol ddibynnol yn ariannol ar y llall
- mae angen amser ar un ohonoch i addasu i golli cymorth ariannol
- byddai un ohonoch yn wynebu caledi ariannol difrifol heb gefnogaeth.
Fel arfer mae'n cael ei dalu am uchafswm o dair blynedd, ac mae'r taliadau yn dod i ben yn awtomatig os yw'r person sy'n ei dderbyn yn ailbriodi, neu pan fyddant yn marw.
Os byddai ysgariad neu ddiddymiad yn achosi caledi ariannol gwirioneddol i chi neu'ch cyn-bartner, gall taliadau barhau y tu hwnt i dair blynedd. Gall hyn fod oherwydd cyflwr iechyd, cyfnod hir allan o waith, neu beidio â chael mynediad at bensiwn eto.
A ellir newid lwfans cyfnodol?
Gallwch, os bydd eich amgylchiadau'n newid yn sylweddol, gallwch wneud cais i'r lwfans cyfnodol gael ei amrywio neu ei alw'n ôl.
Efallai y bydd hefyd yn bosibl newid o lwfans cyfnodol i daliad cyfandaliad neu drosglwyddiad eiddo os yw'r ddau ohonoch yn cytuno.
Yswirio taliadau lwfans cyfnodol
Os ydych chi'n derbyn lwfans cyfnodol, mae'n werth ystyried cymryd yswiriant i ddiogelu eich incwm pe bai'ch cyn-bartner yn marw tra bod taliadau'n dal i gael eu gwneud.
Er y byddai lwfans cyfnodol yn parhau i fod yn ddyledus o'u hystad ar ôl marwolaeth, gallai'r newid hwn mewn amgylchiadau arwain at eu hystad yn gwneud cais i newid y swm a dalwyd.
Mae polisi yswiriant bywyd yn helpu i warchod rhag yr ansicrwydd yma. Nid oes angen iddo fod yn ddrud a gall dalu naill ai cyfandaliad neu daliadau misol rheolaidd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
Eich cam nesaf
Mae’n werth darllen ein canllaw Beth i’w wneud â chyfandaliad ar ôl ysgariad neu ddiddymiad.