Cronni eich cynilion ymddeoliad wedi ysgariad neu ddiddymu

Fel rhan o’ch setliad ariannol, efallai y byddwch wedi derbyn rhan o bensiynau eich cyn ŵr, gwraig neu bartner sifil. Neu efallai y byddwch wedi ildio cyfran o’ch un chi. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, ac unwaith y gallwch fforddio gwneud hynny, mae’n bwysig cychwyn neu gronni’ch cynilion ymddeoliad.

Gweithio allan faint bydd angen arnoch i fyw arno pan fyddwch yn ymddeol

Dechreuwch trwy gyfrifo faint fyddwch angen i fyw arno pan fyddwch yn ymddeol, a faint yr hoffech gael. 

Bydd hynny’n eich helpu i benderfynu beth sydd angen i chi wneud.

Pan fyddwch yn ymddeol, gallai rhai o’ch costau byw fod yn is na phan oeddech yn gweithio, tra gall eraill - fel biliau tanwydd - fod yn uwch.

Bydd faint fyddwch ei angen ar ymddeol yn dibynnu ar nifer o ffactorau.

Gallai’r rhain gynnwys a oes rhaid i chi dalu eich rhent neu forgais, eich ffordd o fyw a beth hoffech wneud pan fyddwch yn ymddeol.

Penderfynwch beth i’w wneud â’ch setliad pensiwn

Mae’n bosibl y byddwch wedi derbyn:

  • cyfran o bensiwn eich cyn bartner, y bydd rhaid i chi ei dalu i mewn i gynllun pensiwn ar gyfer eich ymddeoliad, neu
  • aelodaeth o gynllun pensiwn eich cyn bartner (byddwch yn dod yn aelod ‘credyd pensiwn’)

Ni fydd pob cynllun pensiwn yn caniatáu i gyn bartneriaid (gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil) ymuno. Os felly, bydd rhaid i chi benderfynu ble i fuddsoddi’ch setliad pensiwn

Mae’n well cael cyngor arbenigol cyn gynted ag y gallwch.

Rhowch gymaint o arian ag y gallwch ei fforddio yn eich pensiwn

P’un a oes gennych bensiwn yn barod neu beidio, dylech feddwl am sut fyddwch yn byw yn eich ymddeoliad. 

Heb eich pensiwn neu incwm ymddeoliad arall eich hun, efallai y bydd rhaid i chi ddibynnu ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yn unig.

Dyma beth gallwch ei wneud:

  • ystyried faint gallwch fforddio ei dalu bob mis
  • llunio cyllideb i weld faint fydd gennych dros ben bob mis
  • darganfod os gallwch ymuno â chynllun pensiwn eich gweithle. Os ydych yn gyflogedig a rhwng 22 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn, mae’n debygol y byddwch yn cael eich cofrestru i gynllun pensiwn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch hefyd yn cael cyfraniad gan eich cyflogwr.

Opsiynau eraill i bensiynau

Os nad ydych eisiau cynilo tuag at eich ymddeoliad mewn pensiwn, neu os ydych eisiau mwy o hyblygrwydd, mae opsiynau eraill ar gael. 

Os byddai’n well gennych, gallech ddefnyddio ISA (Cyfrif Cynilo Unigol) neu gynllun buddsoddi arall yn ogystal ag, neu yn lle, pensiwn. 

Mae manteision ac anfanteision i bob un.

ISA – y manteision:
  • Gallwch o bosibl gael mynediad at arian mewn ISA ar unrhyw oed (er gallai fod cosbau mewn rhai achosion)

  • Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw dreth ar arian a dynnwch allan o ISA neu pan fyddwch yn tynnu’r arian o’ch cyfrif.

ISA – yr anfanteision:
  • Nid ydych yn cael gostyngiad treth ar unrhyw arian a dalwch i mewn i ISA.

  • Gallai’r ffaith eich bod yn cael tynnu’ch arian allan pryd bynnag y mynnwch fod yn anfantais os nad ydych yn ddisgybledig

Pensiynau – y manteision:
  • Rydych yn cael gostyngiad yn y dreth ar arian a dalwch i mewn i bensiwn. Yn syml, mae rhyddhad treth yn arian a fyddai wedi mynd i'r Llywodraeth fel treth ond sy'n mynd i'ch pensiwn yn lle. Mae’n golygu ar gyfer pob £100 y talwch i mewn, mae'n costio dim ond £80 i chi os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol. Llai os ydych yn talu treth ar gyfradd uwch.

  • Os ydych mewn pensiwn gweithle, mae’ch cyflogwr fel arfer yn cyfrannu iddo hefyd.

Pensiynau – yr anfanteision:
  • Mae rhaid i chi ddisgwyl hyd nes eich bod yn 55 oed cyn i chi allu cymryd arian allan o’ch pensiwn

  • Mae rhaid i chi dalu treth ar y rhan fwyaf o’r arian y tynnwch allan o bensiwn. Fel arfer gallwch dynnu 25% yn ddi-dreth, ond gallech orfod talu treth ar y gweddill.

Cronni eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych heb gyrraedd neu'n agosau at oedran Pensiwn y Wladwriaeth heddiw, er mwyn cael Pensiwn y Wladwriaeth llawn bydd rhaid i chi fod wedi talu neu cael eich credydu â 35 mlynedd o gyfraniadau cymwys ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. 

I gael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth o gwbl, bydd rhaid eich bod wedi gwneud neu wedi eich credydu ag o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau cymwys. 

Gallwch wirio faint gallech ei gael trwy cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Y ffordd gyflymaf i wneud hyn yw ar-lein ar wefan GOV.UK

Os oes gennych unrhyw fylchau ac efallai na fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth llawn yn seiliedig ar eich cofnod presennol, mae pethau gallwch eu gwneud i lenwi'r bylchau hynny. 

Os ydych wedi ysgaru neu mae’ch partneriaeth sifil wedi ei diddymu, efallai y byddwch wedi cael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth eich cyn bartner yn rhan o’r setliad ariannol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol ar gofnod Yswiriant Gwladol (YG) eich cyn bartner os yw’n well na’ch un chi. 

Dywed y rheolau:

  • Gallwch eilyddio record Yswiriant Gwladol eich cyn-bartner yn lle un eich hun, am y blynyddoedd roeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil, nes i chi ysgaru neu ddiweddu eich partneriaeth sifil.
  • ni allwch gael Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gofnod YG eich cyn bartner os byddwch yn ailbriodi neu’n mynd i bartneriaeth sifil cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
  • ni allwch gael Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gofnod YG eich cyn bartner os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu wedi 6 Ebrill 2016. Dyna bryd y daeth y Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfradd safonol i rym. Yr unig eithriad fydd ar gyfer merched a dalodd y gyfradd ostyngedig YG (stamp merched priod) ar unrhyw adeg yn y 35 mlynedd diwethaf.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.