Pan fydd rhywun yn marw, gall deimlo fel llawer i ddelio gyda. Ynghyd â rhoi gwybod i’ch anwyliaid, mae yna lawer o sefydliadau y bydd angen i chi gysylltu â nhw. Dysgwch pa gamau i'w cymryd ar unwaith ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth sydd angen i chi ei wneud yn syth ar ôl y farwolaeth
- Cael tystysgrif feddygol
- Cofrestru’r farwolaeth
- Hysbysu adrannau’r llywodraeth
- Trefnu’r angladd
- Hysbysu landlord y person a sefydliadau eraill
- Dychwelyd pasbort a thrwydded yrru’r person
- Hysbysu yswirwyr a chredydwyr
- Adnoddau a chymorth ychwanegol
Beth sydd angen i chi ei wneud yn syth ar ôl y farwolaeth
Cyn gynted ag y gallwch chi, bydd angen i chi gael tystysgrif feddygol, cofrestru’r farwolaeth a threfnu’r angladd.
Nid oes angen i chi ddelio â’r ewyllys, arian ac eiddo yn syth.
Cael tystysgrif feddygol
Pryd?
Ar unwaith, oni bai bod cwest y crwner, os felly bydd tystysgrif yn cael ei chyhoeddi ar ôl hyn.
Sut?
Os bu farw’r person yn yr ysbyty, bydd yr ysbyty yn rhoi un i chi. Os bu farw’r person adref, dylech alw eu Meddyg Teulu.
Unrhyw gostau?
Mae’r dystysgrif hon am ddim.
Cofrestru’r farwolaeth
Pryd?
O fewn pum diwrnod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac o fewn wyth diwrnod yn yr Alban.
Os oes cwest y crwner (neu brocuradur ffisgal yn yr Alban), bydd y cofrestru yn cael ei oedi hyd nes daw’r cwest i ben. Ond, gellir gofyn am dystysgrif marwolaeth dros dro a fydd yn eich galluogi i wneud rhai pethau fel defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith. Bydd dal angen cofrestru'r farwolaeth pan gaiff y tystysgrif marwolaeth ei gyhoeddi.
Sut?
Gan ddibynnu ym mha wlad yr oedd y person yn byw, rhaid i chi gofrestru’r farwolaeth:
- Cymru a Lloegr, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru agosafYn agor mewn ffenestr newydd
- Gogledd Iwerddon, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru Ranbarthol agosafYn agor mewn ffenestr newydd
- Yr Alban, cysylltwch â’r Cofrestrydd ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau. Darganfyddwch fwy ar wefan National Records of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Unrhyw gostau?
Gallwch gofrestru marwolaeth am ddim. Fodd bynnag, rhaid i chi dalu £11 yng Nghymru a Lloegr i gael tystysgrifYn agor mewn ffenestr newydd £10 yn yr Alban neuYn agor mewn ffenestr newydd neu £15 yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r gost yn cynyddu os penderfynwch gael rhagor o gopïau yn ddiweddarach. Felly mae'n werth cael copïau ychwanegol, gan y bydd hi fel arfer yn rhatach ac yn haws gwneud hynny ar y pwynt hwn.
Mae hyn yn eich galluogi i ddelio â nifer o sefydliadau ar yr un pryd, yn hytrach na gorfod aros nes y dychwelir eich unig gopi cyn y gallwch ddelio â’r nesaf.
Ni fydd angen tystysgrif marwolaeth arnoch i hysbysu llywodraeth leol a chanolog, na chronfeydd pensiwn awdurdodau lleol os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yng Nghymru a Lloegr.
Pan fyddwch yn postio tystysgrif marwolaeth at unrhyw sefydliad, gyrrwch amlen gyda'ch cyfeiriad sydd wedi'i stampio fel y gellir dychwelyd y tystysgrif gwreiddiol i chi. Dylai hyn leihau nifer y copïau sydd eu hangen arnoch.
A oes angen unrhyw ddogfennau?
Rydych chi angen yr wybodaeth ganlynol ar gyfer y person a fu farw:
- tystysgrif feddygol gydag achos y farwolaeth
- enw llawn, gan gynnwys enwau blaenorol - megis eu henw geni
- dyddiad a lleoliad geni
- cyfeiriad diwethaf
- galwedigaeth
- enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth priod neu bartner sifil sy’n goroesi/sydd wedi marw yr ymadawedig os oeddent wedi priodi.
Os ar gael, dylech hefyd fynd â’u:
- tystysgrif geni
- tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- rhif Yswiriant Gwladol
- cerdyn meddygol y GIG
- prawf o gyfeiriad, fel bil cyfleustod
- trwydded yrru
- pasbort.
Dylech hefyd dod â phrawf hunaniaeth, fel trwydded yrru, i ddangos tystiolaeth o'ch hunaniaeth.
Ar ôl cofrestru’r farwolaeth
Ar ôl cofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi y gallwch ei ddefnyddio i hysbysu adrannau'r llywodraeth, cynghorau a chynllun pensiwn y sector cyhoeddus. Efallai y byddant hyd yn oed yn eich helpu i wneud hyn drwy'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Hysbysu adrannau’r llywodraeth
Pryd?
Cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn y dystysgrif farwolaeth.
Pwy?
- Swyddfa Basbort - i ganslo eu pasbort
- CThEM - ar gyfer eu trethi
- Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) – i stopio Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau
- DVLA – i ganslo eu trwydded yrru, treth car a dogfennau cofrestru car
- Y cyngor lleol - ar gyfer eu Treth Cyngor, cofrestr etholiadol a budd-daliadau tai eraill
- Cynllun pensiwn sector preifat neu luoedd arfog ar gyfer eu pensiwn.
Sut?
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Tell Us Once i hysbysu'r adrannau uchod, cynghorau a'r sector cyhoeddus neu gynllun pensiwn y lluoedd arfog ar yr un pryd.
Mae'r gwasanaeth yma yn cael ei gynnig gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ond nid yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd y gwasanaeth Tell Us Once yn dweud wrthych pwy sydd wedi cael eu hysbysu, a fe fydd yn darparu rhestr o bobl a sefydliadau eraill y gallai fod angen eu hysbysu.
Unrhyw gostau?
Mae’r gwasanaeth am ddim.
Gwybodaeth sydd ei hangen?
Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- rhif cyfeirnod unigryw a roddir i chi pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth
- enw, dyddiad marwolaeth a rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig
- manylion cyswllt, dyddiad geni, rhif pasbort (os yw ar gael) a Rhif Yswiriant Gwladol y perthynas agosaf
- manylion yr unigolyn sy’n delio ag ystâd yr ymadawedig
- caniatâd gan y perthynas agosaf, yr ysgutor, y gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliadau ar y cyd â’r ymadawedig, i ryddhau ei fanylion cyswllt.
Os yw ar gael, dylech hefyd ddarparu:
- enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
- manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliadau roeddent yn eu cael, fel Pensiwn y Wladwriaeth
- manylion unrhyw wasanaethau roeddent yn eu cael gan gyngor lleol, fel Bathodyn Glas
- enw manylion cyswllt yr unigolyn neu’r cwmni sy’n delio ag ystâd yr ymadawedig - yr ‘ysgutor’ neu’r ‘gweinyddwr’
- manylion unrhyw gynlluniau pensiwn sector preifat neu luoedd arfog yr oedd yr ymadawedig yn eu cael neu’n cyfrannu atynt.
Trefnu’r angladd
Ar ôl i chi gofrestru marwolaeth, gallwch drefnu’r angladd.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hyn trwy drefnydd angladdau, ond mae hefyd yn bosibl trefnu angladd eich hun.
Darganfyddwch fwy am drefnu angladd trwy drefnydd angladdau yn ein canllaw Faint mae angladd yn ei gostio?
Hysbysu landlord y person a sefydliadau eraill
Pryd?
Cyn gynted â phosibl.
Pwy?
Os oeddech chi’n rhentu’n breifat gyda’ch gilydd ac mae’r les yn enw’r ymadawedig, bydd angen i chi roi gwybod i’r landlord a gofyn iddi gael ei throsglwyddo i’ch enw chi.
Bydd angen i chi hefyd drosglwyddo’ch enw i unrhyw filiau neu daliadau.
Mae’r sefydliadau y gallai fod angen i chi gysylltu â nhw yn cynnwys:
- cymdeithasau tai neu swyddfeydd tai cyngor
- darparwyr morgeisi
- cyflogwyr
- darparwyr cyfleustodau.
Sut?
Bydd angen i chi gysylltu â phob sefydliad.
Dychwelyd pasbort a thrwydded yrru’r person
Pryd?
Cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn y dystysgrif farwolaeth
Sut?
Drwy’r post. Ewch i’r dolenni canlynol i gael manylion ynglŷn â ble i anfon y dogfennau hyn:
Mae’n debygol y newidiodd eich materion ariannol yn y cartref ar ôl marwolaeth eich partner. Mae pethau y gallwch eu gwneud i reoli’ch biliau, morgais, yswiriant a’ch materion ariannol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Delio â materion ariannol ac yswiriant ar ôl i’ch partner farw
Hysbysu yswirwyr a chredydwyr
Pryd?
Yn ddelfrydol, cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn y dystysgrif farwolaeth, neu cyn pen mis ar ôl y farwolaeth.
Pwy?
Cwmni yswiriant, banc neu gymdeithas adeiladu, cwmnïau cerdyn credyd, cwmnïau cyfleustodau, darparwr pensiwn ac unrhyw gwmnïau eraill a oedd mewn dyled i’r person fu farw neu yr oedd y person fu farw mewn dyled iddynt hwy.
Sut?
Trwy ffonio’r cwmni, ymweld â’r gangen leol (ar gyfer banciau neu gymdeithas adeiladu), neu trwy ymweld â’u gwefan, rhag ofn bod ffurflen ar-lein y gallwch ei llenwi.
Os ydych yn gwybod manylion y cyfrif gallwch ddefnyddio'r gwefannau Settld neu LifeLedger yn rhad ac am ddim i'ch helpu chi i gysylltu â'r cwmnïau cyfleustodau, banciau, darparwyr pensiwn, cwmnïau yswiriant, darparwyr teledu a band eang a hyd yn oed gwefannau cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â phrofedigaeth.
Dylai wneud hyn helpu i arbed amser a straen gan mai dim ond unwaith y bydd angen i chi lanlwytho'r dystysgrif farwolaeth o fewn y gwasanaeth.
Gallwch gysylltu â nifer o sefydliadau ariannol, yn cynnwys y rhan fwyaf o’r banciau a chymdeithasau adeiladu mawr, hyd yn oed os nad oeddech yn gwybod am y cyfrif, yn defnyddio’r Gwasanaeth Hysbysiad Marwolaeth ar-lein am ddim.
Dylech hefyd roi hysbysiad ystadau ymadawedig yn The Gazette i hysbysu unrhyw gredydwyr eraill. Os na wnewch hyn, efallai y byddwch yn atebol am unrhyw ddyledion anhysbys.
Unrhyw gostau?
Gellir hysbysu’r cwmnïau hyn am ddim. Ond hwyrach y bydd gan y sawl a fu farw ddyledion sy’n weddill neu drefniadau talu gyda’r cwmnïau hyn y bydd angen eu talu.
Bydd sut i roi trefn ar faterion ariannol y person yn dibynnu ar a oedd y person wedi gwneud ewyllys neu wedi marw heb ewyllys.
A oes angen unrhyw ddogfennau?
Byddwch angen copïau swyddogol o’r dystysgrif farwolaeth wrth ddelio â’r cwmnïau hyn.
Byddwch angen rhoi manylion yr ysgutor neu weinyddwr yr ystâd hefyd.
Adnoddau a chymorth ychwanegol
Canllawiau eraill
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw drwy ymweld â’r gwefannau hyn:
Camesgoriad hwyr, marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gymorth ariannol ar yr amser anodd hwn yn ein canllawiau:
Cefnogaeth mewn profedigaeth
Gall delio â marwolaeth rhywun sy’n annwyl i chi fod yn deimlad llethol.
Mae eich meddyg teulu neu grŵp crefyddol neu gymunedol lleol yn aml yn lle da i gychwyn chwilio am gymorth wrth ddelio â phrofedigaeth.
Gallwch hefyd dod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth trwy’r sefydliadau hyn:
- BereavementUK
- Counselling Directory
- Cruse Bereavement Care (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon)
- Cruse Bereavement Care yr Alban