Os bu farw eich babi o fewn 28 diwrnod cyntaf ei fywyd, efallai y byddwch yn wynebu straen ariannol ar ben eich galar. Mae’n bwysig gwybod beth mae gennych hawl iddo a gyda phwy i siarad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa fudd-daliadau a hawliau allwch wneud cais amdanynt?
Os yw’ch babi yn marw o fewn pedair wythnos o gael eu geni, mae gennych hawl i gael cymorth ariannol.
Byddwch angen dweud wrth rai pobl benodol beth sydd wedi digwydd. Y ffordd orau i wneud hyn fel arfer yw ffonio neu, pan fydd yn bosibl, anfon e-bost.
Os na fyddwch yn teimlo y byddech yn gallu ffonio, efallai y byddwch yn gallu cael perthynas neu ffrind agos i wneud rhai o’r galwadau ar eich rhan.
Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban mae gennych 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth neu hawlio Tâl Stadudol Rhieni mewn Profedigaeth trwy eich cyflogwr. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.
Gallwch gymryd pythefnos o wyliau mewn un bloc neu fel dau floc ar wahân o wythnos.
Rhennir y 56 wythnos yn 2 gyfnod:
- o ddyddiad marwolaeth neu farwenedigaeth y plentyn i wyth wythnos ar ôl
- naw i 56 wythnos ar ôl dyddiad marwolaeth neu farwenedigaeth y plentyn.
Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth.
Tâl Profedigaeth Statudol
Os ydych yn weithiwr, efallai eich bod hefyd yn gymwys i ddwy wythnos o Dâl Profedigaeth Statudol.
Bydd angen i chi fod wedi bod yn ennill o leiaf £123 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2024/25.
Mae Tâl Profedigaeth Statudol yn unai £184.03 (2024/25) yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, yn dibynnu ar ba un yw’r lleiaf.
Ond gall bod eich cyflogwr yn talu mwy na hwn trwy Dâl Profedigaeth Uwch. Gwiriwch eich llawlyfr staff neu’ch cytundeb am fanylion.
Darganfyddwch fwy am sut i hawlio Tâl Profedigaeth Statudol ar GOV.UK.Yn agor mewn ffenestr newydd
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, edrychwch ar ganllaw Acas ar Absenoldeb a Thâl Profedigaeth RhiantYn agor mewn ffenestr newydd
Tâl ac absenoldeb mamolaeth
Mae gennych hawl i gyfanswm o 52 wythnos o absenoldeb.
Ni allwch gael hyn os byddwch yn cael plentyn trwy fenthyg croth, ond efallai y gallwch gael absenoldeb rhiant di-dâl.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol tra byddwch yn absennol o’r gwaith am uchafswm o 39 wythnos – ar yr amod eich bod wedi bod yn gweithio’n ddigon hir.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau i’ch anogwr gwaith Credyd Cynhwysol. Os ydych yn teimlo bod eich gallu i weithio neu i chwilio am waith wedi’i effeithio wrth i chi wella, efallai y byddant yn gofyn am nodyn o’ch meddyg teulu neu arbenigwr gofal iechyd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Absenoldeb a thâl mamolaeth
Mae rhaid i chi wneud cais cyn pen 28 diwrnod o farwolaeth eich babi.
Siaradwch â’ch cyflogwr am beth allant ei gynnig i chi neu gwiriwch eich contract cyflogaeth.
Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig absenoldeb tosturiol i rieni mewn galar yn rhan o’u contract cyflogaeth sylfaenol neu fuddion cyflogeion.
Os nad ydych ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth ac yn methu dychwelyd i'r gwaith am resymau meddygol, telir Tâl Salwch Statudol am hyd at 28 wythnos. Gallai hyn fod yn fwy os yw'ch contract cyflogaeth yn caniatáu hynny.
Lwfans Mamolaeth
Os ydych yn hunangyflogedig neu os nad ydych wedi bod gyda’ch cyflogwr yn ddigon hir i fod yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol, efallai y byddwch yn gymwys am Lwfans Mamolaeth.
Mae hwn yn cael ei dalu gan y llywodraeth yn hytrach na’ch cyflogwr.
Os na allwch gael Lwfans Mamolaeth, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).
I wneud cais am Lwfans Mamolaeth, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, eich Jobs & Benefits Office ar wefan nidirect
Am fwy o wybodaeth am gymhwysedd, ewch i wefan GOV.UK
Budd-dal Plant
Byddwch yn cael Budd-dal Plant llawn am y cyfnod o’r enedigaeth hyd at wyth wythnos wedi i’ch babi farw.
Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Fudd-dal Plant, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant bod eich babi wedi marw.
Ffoniwch y Swyddfa Budd-dal Plant ar 0300 200 3100 neu ewch i wefan GOV.UK
Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae rhaid i chi wneud hynny o fewn tri mis i’r enedigaeth i gael y swm yn llawn.
Gwnewch gais am Fudd-dal Plant ar wefan GOV.UK
Credyd Treth Plant
Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am gredydau treth hyd at wyth wythnos wedi marwolaeth eich babi.
Os nad ydych wedi gwneud cais, dylech wneud hynny o fewn un mis.
Os ydych eisoes yn derbyn credydau treth ar gyfer eich babi, rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Gredydau Treth cyn pen mis o’ch colled.
Ffoniwch y Swyddfa Credydau Treth ar 0345 300 3900 neu ewch i wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Plant
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Os ydych ar incwm isel ac yn derbyn budd-dal cymwys nid yw’n effeithio ar eich hawl i hawlio Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.
Mae budd-daliadau cymwys yn cynnwys:
- Cymorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Cynhwysol.
Mae rhaid i chi wneud cais am y grant cyn pen 11 wythnos o’r dyddiad pan ddisgwylir i’r babi gael ei eni neu cyn pen tri mis ar ôl genedigaeth y babi.
I wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn:
- cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith (neu Jobs & Benefits Office os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon)
- lawrlwythwch ffurflen gais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am y Best Start Grant, a therfynau incwm ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Nghogledd Iwerddon, dewch o hyd i’ch Jobs & Benefits Office agosaf ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Budd-daliadau a hawliau eraill
Mae gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim am o leiaf 12 mis yn Lloegr.
Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae presgripsiynau am ddim i bawb.
Mae gennych hawl hefyd i gael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG hyd nes y bydd y dystysgrif yn dod i ben.
Gofynnwch i’ch meddyg neu fydwraig am ffurflen FW8, y gallwch ei chwblhau ac yna maent yn ei harwyddo a’i hanfon i chi.
Byddwch yn derbyn eich tystysgrif eithriad yn y post.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Presgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG yn ystod beichiogrwydd
Gall eich doctor neu fydwraig hefyd eich helpu â’r rhaglen Healthy Start os ydych wedi bod yn hawlio talebau. Ni fyddwch yn derbyn rhagor o dalebau ond gallwch ddefnyddio unrhyw dalebau rydych wedi’u derbyn eisoes.
Darganfyddwch fwy ar y wefan Healthy Start
Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am Best Start Foods a therfynau incwm ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Cofrestru’ch babi
Mae angen i chi gofrestru marwolaeth eich babi o fewn pum diwrnod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (wyth diwrnod yn yr Alban).
Gallwch wneud hyn drwy fynd â’r dystysgrif farwolaeth at y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau.
Gallwch gofrestru’r enedigaeth ar yr un pryd os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Bydd y cofrestrydd yn rhoi ffurflen i chi ar gyfer y trefnwr angladdau.
Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd angen i chi fynd i’ch swyddfa gofrestru leol, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Efallai y gallwch wneud hyn yn yr ysbyty. Bydd staff yr ysbyty yn dweud wrthych beth fydd angen i chi ei wneud a ble i fynd.
Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch eich swyddfa gofrestru leol ar wefan GOV.UK
Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i wefan National Records of Scotland
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud hyn mewn unrhyw un o swyddfeydd District Registrar. Darganfyddwch eich swyddfa District Registrar agosaf ar wefan nidirect
Gwneud trefniadau’r angladd
Yn ôl y gyfraith mae rhaid i fabi sy’n marw yn fuan ar ôl eu geni gael eu claddu neu eu amlosgi yn ffurfiol er nad yw angladd yn ofyniad cyfreithiol.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ni fydd eich awdurdod lleol yn codi ffioedd arnoch am angladd neu amlosgiad arferol ar gyfer plentyn.
Cael Help
Mae Sands, elusen marw-enedigaeth a marwolaeth baban newydd-anedig yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Darganfyddwch fwy ar wefan Sands
Bydd rhaid, serch hynny, i chi dalu am ffioedd eraill fel trefnydd angladdau, blodau, arch a chofeb.
Yn Lloegr, gall y Children's Funeral Fund cyfrannuYn agor mewn ffenestr newydd hyd at £300 tuag at bris arch, blwch neu amdo. Gall y trefnydd angladdau hawlio hyn yn ôl – neu os nad ydych chi’n defnyddio un, gallwch ei hawlio yn ôl eich hun.
Yng Nghymru, mae gyfraniad o £500 tuagYn agor mewn ffenestr newydd at yr angladd a chostau cysylltiedig eraill fel blodau a phlaciau.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Lloegr ac yn hawlio budd-daliadau penodol, gallwch hefyd gwneud cais am Daliad Costau Angladd hyd at £1,000Yn agor mewn ffenestr newydd i helpu gyda chostau rhesymol eraill.
Yn Yr Alban, y taliad cyfartalog yw £1,800 am gyfraniadYn agor mewn ffenestr newydd tuag at unrhyw gostau angladd rhesymol y bydd angen i chi eu talu fel gwasanaeth angladd neu gar angladd.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael hyd at £1,000 am gostau angladdYn agor mewn ffenestr newydd rhesymol am ffioedd neu eitemau fel ffi trefnydd angladdau, blodau, arch.
Os nad ydych yn defnyddio trefnydd angladdau, gallwch wneud cais am rai costau angladd.
Mae'r achos o goronafeirws wedi gosod cyfyngiadau difrifol ar angladdau, sy'n ei gwneud yn anodd trefnu seremoni ystyrlon. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud ar y wefan Quaker Social Action
Os ydych ar incwm isel iawn ac yn derbyn budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gallu cael help gyda chostau eraill yr angladd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Funeral Support Payment ar wefan MYGOV.SCOTYn agor mewn ffenestr newydd
Canllawiau wedi’u hargraffu am ddim
Mae ein canllawiau wedi'u hargraffu am ddim yn rhoi gwybodaeth a chyngor clir a diduedd i chi. Maent yn fan cychwyn da a gallant eich helpu wrth wneud dewisiadau gwybodus.