Mae'n mor ddrwg gennym am golli eich babi. Mae colli babi ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd yn ddinistriol. Gall gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael roi ychydig o le i chi anadlu a mwy o amser i alaru. Mae’r canllaw hwn yma pryd bynnag byddwch yn barod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Ble i ddod o hyd i gefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar ôl camesgoriad
- Cefnogaeth ariannol y gallwch fod yn gymwys i’w derbyn ar ôl camesgoriad
- Hysbysu sefydliadau ar ôl camesgoriad
- Sut i gael tystysgrif i gofio'ch babi ar ôl camesgoriad
- Trefniadau angladd a choffa ar ôl camesgoriad
- Canllawiau am ddim ar fudd-daliadau a chefnogaeth ar ôl marw-enedigaeth
Ble i ddod o hyd i gefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar ôl camesgoriad
Cyn unrhyw beth arall, gwyddoch nadoes rhaid i chi lywio hyn ar eich pen eich hun. Er y gall teulu a ffrindiau fod yn gysur mawr, weithiau gall siarad â rhywun sy’n deall yn union beth rydych chi’n ei brofi helpu.
- Mae'r Miscarriage AssociationYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sydd wedi profi colli babi yn ystod beichiogrwydd.
- Mae SandsYn agor mewn ffenestr newydd yn elusen sy'n ymroddedig i gefnogi unrhyw un sydd wedi profi marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol. Maent yn cynnig arweiniad ymarferol a chefnogaeth emosiynol.
Os bydd unrhyw un o'r camau yn y canllaw hwn yn teimlo'n rhy anodd, mae'n iawn gofyn i aelod o'r teulu neu ffrind dibynadwy helpu, boed hynny'n gwneud galwadau ffôn, llenwi ffurflenni, neu eistedd gyda chi wrth i chi ddarllen hwn.
Cefnogaeth ariannol y gallwch fod yn gymwys i’w derbyn ar ôl camesgoriad
Mae colli babi cyn 24 wythnos o feichiogrwydd yn golygu na fydd rhai budd-daliadau fel Tâl Mamolaeth Statudol, Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn, a thalebau ychwanegol Cychwyn Iach ar gael i chi. Ond mae cefnogaeth ar gael o hyd i’ch helpu i gael yr amser a’r lle i chi alaru ac adfer.
Os gafodd eich babi ei eni yn fyw cyn 24 wythnos o feichiogrwydd ond yn anffodus bu farw, mae cefnogaeth wahanol i chi. Darganfyddwch fwy am gymorth ariannol ar ôl marwolaeth newyddenedigol.
Amser i ffwrdd o'r gwaith ar ôl camesgoriad
Mae mynd trwy gamesgoriad yn ddinistriol, ac ni ddylech byth deimlo pwysau i ddychwelyd i'r gwaith cyn i chi fod yn barod.
Mae gennych hawl i'r un absenoldeb salwch ag unrhyw weithiwr arall, a rhaid i'ch cyflogwr gofnodi unrhyw salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd ar wahân i'ch cofnod salwch arferol, felly ni ellir ei ddefnyddio yn eich erbyn mewn penderfyniadau am gamau disgyblu neu ddiswyddiad.
Mae beichiogrwydd a mamolaeth yn nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, felly gallai unrhyw driniaeth annheg yn ystod y cyfnod hwn gyfrif fel gwahaniaethu.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, efallai y bydd gennych hawl i bythefnos o Absenoldeb a Thâl Camesgoriad statudolYn agor mewn ffenestr newydd Siaradwch â'ch cyflogwr am fanylion.
Tâl Salwch Statudol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ôl camesgoriad
Mae Tâl Salwch Statudol ar gael am hyd at 28 wythnos. Gallai eich contract roi hawl i chi i fwy na hyn, felly mae’n werth gwirio gyda’ch cyflogwr.
Darganfyddwch fwy am hawlio Tâl Salwch StatudolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os bydd eich Tâl Salwch Statudol yn dod i ben, nad ydych yn ennill digon i fod yn gymwys iddo, neu os nad ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr yn ddigon hir i'w hawlio, efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle hynny. Os ydych chi ar incwm isel, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol.
Darganfyddwch fwy am Lwfans Cyflogaeth a ChymorthYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Presgripsiynau a gofal iechyd am ddim ar ôl camesgoriad
Mae eich Tystysgrif Eithrio Oherwydd Mamolaeth yn parhau i fod yn ddilys tan ei dyddiad dod i ben, felly gallwch barhau i'w defnyddio ar gyfer presgripsiynau am ddim yn Lloegr. Yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae presgripsiynau am ddim i bawb.
Mae gofalu amdanoch chi'ch hun yn ystod y cyfnod hwn yn bwysig. Efallai y bydd triniaeth ddeintyddol am ddim y GIG hefyd ar gael i chi yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Siaradwch â'ch deintydd neu feddyg teulu i ddarganfod beth sydd gennych hawl iddo.
Talebau Cychwyn Iach a chymorth ariannol arall
Gallwch barhau i ddefnyddio unrhyw dalebau Cychwyn Iach sydd gennych eisoes. Darganfyddwch fwy am gymorth i brynu bwyd a llaethYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Dechrau Iach.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn gymwys i gael y Best Start Grant – darganfyddwch fwy a gwiriwch y terfynau incwmYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
Os ydych chi'n cael trafferth gyda dyledion, gall ein canllaw eich helpu i ddarganfod ble i fynd am gyngor ar ddyledion am ddim ac awgrymiadau i'ch helpu i ad-dalu’ch dyledionl yn y drefn gywir
Hysbysu sefydliadau ar ôl camesgoriad
Ar adeg fel hyn, y peth olaf rydych chi eisiau meddwl amdano yw gweinyddiaeth. Ond mae'n bwysig rhoi gwybod i rai sefydliadau beth sydd wedi digwydd fel y gallant ddiweddaru eu cofnodion ac atal unrhyw daliadau sydd eisoes wedi'u trefnu.
Os ydych yn teimlo’n barod, galwad ffôn neu e-bost yw’r ffordd gyflymaf o gysylltu fel arfer. Os yw hynny’n teimlo’n ormod ar hyn o bryd, gall ffrind neu aelod o’r teulu wneud hyn ar eich rhan os yn well gennych.
Eich cyflogwr
Gadewch iddyn nhw wybod beth sydd wedi digwydd pan fyddwch chi'n teimlo'n barod.
Gallant gynnig absenoldeb tosturiol neu gefnogaeth mewn profedigaeth, a gallant helpu i ganslo unrhyw drefniadau tâl mamolaeth neu dadolaeth.
Efallai y bydd eich contract cyflogaeth hefyd yn rhoi hawl i chi gael mwy o gymorth nag yr ydych yn ei ddisgwyl, mae'n werth gwirio gyda'ch cyflogwr.
Y Ganolfan Byd Gwaith neu'r Jobs & Benefits Office
Os oeddech wedi trefnu Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn drwy’ch Canolfan Byd Gwaith leol, bydd angen i chi gysylltu â nhw i roi gwybod nad ydych chi'n feichiog mwyach.
Dewch o hyd i'ch Canolfan Byd Gwaith agosafYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'ch Jobs and Benefits Office agosafYn agor mewn ffenestr newydd yn lle hynny.
Eich anogwr gwaith ar gyfer Credyd Cynhwysol
Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, rhowch wybod i'ch anogwr gwaith pan fyddwch yn teimlo’n barod, yn ddelfrydol o fewn ychydig ddyddiau. Gallwch wneud hyn drwy’ch dyddlyfr ar-lein neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Ar ôl adrodd, gellir oedi eich gofynion sy'n gysylltiedig â gwaith wrth i chi alaru ac adfer.
Sut i gael tystysgrif i gofio'ch babi ar ôl camesgoriad
Er na all cofrestrydd ddarparu tystysgrif geni, marw-enedigaeth neu farwolaeth ar gyfer camesgoriad cyn 24 wythnos o feichiogrwydd, mae yna ffyrdd o adnabod eich babi yn ffurfiol a nodi ei fywyd.
| Os ydych chi'n byw: | Ble i gael tystysgrif ar gyfer eich babi: |
|---|---|
|
Yn Lloegr |
Gwnewch gais am baby loss certificateYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK |
|
Yn yr Alban |
Gwnewch gais i gael eich babi wedi'i gofnodi yn The Memorial Book of Pregnancy and Baby Loss Prior to 24 WeeksYn agor mewn ffenestr newydd |
|
yng Nghymru a Gogledd Iwerddon |
Gallwch ofyn i'ch ysbyty a ydyn nhw'n cyhoeddi tystysgrif arbennig |
Trefniadau angladd a choffa ar ôl camesgoriad
Nid oes gofyniad cyfreithiol i drefnu angladd ar ôl camesgoriad cyn 24 wythnos o feichiogrwydd. Ond os yw'n teimlo'n iawn i chi, dyna'ch dewis chi'n llwyr.
Os hoffech drefnu claddedigaeth neu amlosgiad, gall trefnydd angladdau neu rywun o’ch cymuned ffydd eich tywys drwy’r broses ar eich cyflymder eich hun.
Gall eich tîm profedigaeth neu gaplaniaeth ysbyty hefyd gynnig cefnogaeth ac arweiniad, beth bynnag fo'ch credoau. Does dim rhaid i chi weithio hyn allan ar eich pen eich hun.
Mae gennych hefyd yr hawl i gladdu eich babi eich hun os dymunwch. Rhowch wybod i'ch staff ysbyty neu feddyg teulu gan nad ydynt bob amser yn ymwybodol bod hyn yn opsiwn.
Os ydych yn byw yn Yr Alban, a bod eich babi wedi'i eni'n fyw ond wedi marw cyn 24 wythnos o feichiogrwydd, efallai y bydd hawl gennych wneud cais am Funeral Support Payment Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol.
I gael rhagor o wybodaeth am gofio'ch babi a nodi’r golled o’i fywyd byrYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i wefan y Miscarriage Association
Canllawiau am ddim ar fudd-daliadau a chefnogaeth ar ôl marw-enedigaeth
Mae ein canllawiau wedi’u hargraffu am ddim yn rhoi gwybodaeth glir a diduedd i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a gwneud penderfyniadau ar eich cyflymder eich hun.
Gallwch lawrlwytho'r canllaw Camesgoriad, marw-enedigaeth, marwolaeth newyddenedigolYn agor mewn ffenestr newydd neu archebu copi wedi’i argraffu.