Gall talu am angladd fod yn ddrud. Rhown gymorth i chi sefydlu pwy ddylai dalu am yr angladd, ac amlinellu’ch opsiynau ar gyfer talu am un - o ble i gael cymorth ariannol i hawlio costau angladd o’r ystâd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Ar gyfartaledd faint y mae angladd yn ei gostio?
- Pwy sy’n talu am yr angladd?
- Beth sy’n digwydd os na allwch chi fforddio angladd?
- Taliad Costau Angladd
- Cronfa angladdau plant
- Talu gyda chynllun neu yswiriant angladd rhagdaledig
- Talu gyda chyfrif banc y person sydd wedi marw
- Talu mewn rhandaliadau
- Hawlio costau angladd o’r ystâd
Ar gyfartaledd faint y mae angladd yn ei gostio?
Cost cyfartalog, cyn eitemau dewisol megis blodau ac arlwyo, yw tua £4,141. Er fe all hyn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar y math o angladd a ddewisir.
Gallwch darganfod fwy am sut i gadw’r gost hon i lawr yn ein canllaw Faint y mae angladd yn ei gostio?
Pwy sy’n talu am yr angladd?
Weithiau, mae’r ymadawedig wedi talu am yr angladd yn barod. Os felly, bydd ysgutor yr ystâd yn gofalu am dalu bil yr angladd.
Efallai ei fod:
- wedi gadael ychydig o arian yn ei ystâd i dalu amdano ar ffurf gynilion neu fuddsoddiadau
- gyda chynllun angladd rhagdaledig
- gyda chynllun yswiriant bywyd.
Mae rhai cyflogwyr yn talu swm sefydlog os ydych yn marw, a all helpu i dalu am angladd.
Fel arall, mae aelod o’r teulu neu gyfaill yn talu am yr angladd. Ond gallant gael costau’r angladd yn ôl gan yr ystâd os oes digon o arian ynddi.
Beth sy’n digwydd os na allwch chi fforddio angladd?
Gall y cyngor lleol neu’r ysbyty drefnu Angladd Iechyd CyhoeddusYn agor mewn ffenestr newydd:
- os nad oes digon o arian yn yr ystâd i dalu amdano
- os nad oes teulu neu ffrindiau ar gael i drefnu’r angladd.
Amlosgiad a drefnir fel arfer. Cewch fynychu’r angladd ond y cyngor lleol fydd yn penderfynu ar yr amser a’r dyddiad.
Cynhelir gwasanaeth byr fel arfer, ond ni fydd pethau ychwanegol fel blodau, ceir neu hysbysiadau yn y papurau newydd lleol, yn cael eu cynnwys.
Os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau, gallwch hefyd wneud cais am Daliad Angladd gan y llywodraeth i’ch helpu i dalu am yr angladd.
Taliad Costau Angladd
Mae Taliad Costau Angladd, a elwir yn ‘Funeral Support payment’ yn yr Alban yn gynllun llywodraeth i bobl ar incwm isel sy’n derbyn rhai budd-daliadau, i’w helpu i dalu am angladd.
Os byddwch yn cael un o’r taliadau hyn, bydd yn rhaid i chi fel arfer dalu’r llywodraeth yn ôl o unrhyw arian y byddwch chi’n ei dderbyn o ystâd y person, megis eu cynilion.
Ni fydd yn talu’r bil angladd llawn, felly mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu hyd at draean o gost angladd syml.
Gall helpu i dalu am:
- dystysgrifau marwolaeth neu ddogfennau eraill
- ffioedd amlosgfa, gan gynnwys cost tystysgrif meddyg
- teithio i drefnu neu fynd i’r angladd
- cost symud y corff o fewn y DU, os yw’n cael ei symud dros 50 milltir
- ffioedd claddu ar gyfer plot penodol
- gallwch hefyd dderbyn arian ar gyfer unrhyw dreuliau angladd eraill, megis ffioedd trefnydd angladdau, blodau neu’r arch.
Pwy sy’n ei gael?
Os ydych yn cael un neu fwy o’r budd-daliadau cymhwyso canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- yr elfen anabledd neu anabledd difrifol Credyd Treth Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Rheolau ar eich perthynas â’r person a fu farw
Mae’r Taliad Treuliau Angladd hefyd yn ddibynnol ar y berthynas a gawsoch â’r unigolyn a fu farw. I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod wedi bod yn un o’r canlynol:
- partner, ffrind agos neu berthynas i’r unigolyn a fu farw
- rhiant babi marw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd
- rhiant plentyn sydd wedi marw a oedd o dan 16, neu o dan 20 oed ac mewn addysg gymeradwy amser llawn.
At ddibenion hawlio taliad angladd, rydych yn berthynas agos os mai chi oedd:
- y rhiant, tad-yng-nghyfraith, mam-yng-nghyfraith neu lys-riant
- y mab, mab-yng-nghyfraith, llys-fab neu lys-fab-yng-nghyfraith
- y ferch, merch-yng-nghyfraith, llysferch neu lys-ferch-yng-nghyfraith
- y brawd neu’r brawd yng nghyfraith l chwaer neu chwaer yng nghyfraith.
Y person a fu farw yw eich partner os oeddech:
- yn byw gyda nhw a nhw oedd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil neu’n byw gyda nhw fel petaech yn gwpl priod
- yn byw gyda nhw fel petaech yn gwpl priod yn union cyn i chi neu nhw fynd i fyw mewn cartref gofal
- yn gwpl priod neu’n bartneriaid sifil ac yn byw yn yr un cartref gofal
- yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn gwpl priod yn yr un cartref gofal cyn i’ch partner farw.
Sut wyf yn gwneud cais?
Mae gennych chwe mis o ddyddiad yr angladd i wneud cais.
Am fwy o wybodaeth ar gymhwysedd a sut i wneud cais am y budd-dal hwn, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon - ewch i wefan nidirect i wneud cais am y budd-dal hwnYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban – gwnewch gais am Daliad Cymorth AngladdYn agor mewn ffenestr newydd
Mae budd-daliadau profedigaeth eraill ar gael i’ch helpu i ymdopi’n ariannol ar ôl marwolaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio taliad cymorth profedigaeth a budd-daliadau eraill
Cronfa angladdau plant
Yn Lloegr, mae’r Gronfa angladdau plant yn gallu cyfrannu hyd at £300Yn agor mewn ffenestr newydd at unrhyw gostau angladd rhesymol fel ffi claddu, ffi amlosgi, amwisg neu gasged.
Yng Nghymru, mae cyfraniad £500 i’r angladdYn agor mewn ffenestr newydd a chostau perthnasol eraill fel blodeuged, placiau.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Lloegr ac yn derbyn budd-daliadau penodol, mae modd i chi geisio am Daliad Costau Angladd hyd at £1,000 i helpu tuag at gostau rhesymol arall.Yn agor mewn ffenestr newydd
Yn Yr Alban, y taliad arferol yw £1,800 am gyfraniadYn agor mewn ffenestr newydd at gostau angladd rhesymol neu costau mae angen i chi eu talu fel am y gwasanaeth angladd neu gar angladd.
Yng Ngogledd Iwerddon, fedrwch gael hyd at £1,000 am gostau angladd rhesymolYn agor mewn ffenestr newydd am gostau neu eitemau fel ffi trefnydd angladdau, blodau, arch.
Am gefnogaeth ymarferol ac emosiynol yn ystod yr amser hwn, gall elusen marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol Sands helpu.
Darganfyddwch fwy ar wefan SandsYn agor mewn ffenestr newydd
Talu gyda chynllun neu yswiriant angladd rhagdaledig
Bydd rhai pobl wedi trefnu eisoes i dalu am eu hangladd. Mae hyn fel arfer ar ffurf cynllun angladd rhagdaledig neu yswiriant angladd.
Beth yw cynllun angladd rhagdaledig?
Fe allai’r person sydd wedi marw fod wedi rhagdalu trefnydd angladd neu gwmni gofal angladdau am fath penodol o angladd. Fe elwir hyn yn gynllun angladd.
Gyda chynllun angladd, rhaid i chi ddefnyddio’r trefnydd angladdau hwnnw, neu un o restr gymeradwy, i drefnu’r angladd.
Mae’n syniad da gwirio beth yn union sy’n rhan o’r cynllun cyn i chi drefnu’r angladd. Nid yw cynlluniau angladd fel arfer yn talu am holl gostau angladd felly rhaid i chi fod yn barod i dalu am beth o’r costau eich hunain.
Beth yw yswiriant angladd?
Dyma fath o yswiriant sy’n talu cyfandaliad sefydlog a ddylai fod yn ddigon i dalu am gost angladd.
Weithiau mae’r yswiriant yn cael ei alw'n ‘gynllun i’r rhai dros 50 oed’.
Pan delir y lwmp swm, gallwch ddefnyddio’r arian i dalu am angladd gan unrhyw drefnydd angladdau.
Dylech wirio faint yw’r lwmp swm cyn gwneud unrhyw drefniadau ynghylch yr angladd.
Os bydd cost yr angladd yn uwch na’r swm hwnnw, bydd angen i chi dalu am unrhyw beth ychwanegol.
Sut ydw i’n hawlio ar gynllun angladd rhagdaledig neu yswiriant angladd?
Yn anffodus nid oes un lle canolog neu gyfeirlyfr i wirio a oedd gan yr ymadawedig gynllun neu yswiriant angladd.
Os credwch fod ganddynt gynllun, dylech wirio eu gwaith papur a chwilio am gopi ohono.
Dylech hefyd wirio a gadwyd y cynllun gyda’r ewyllys, gyda chyfreithiwr teulu neu yn y banc.
Talu gyda chyfrif banc y person sydd wedi marw
Mae’n bosibl y bydd person sydd wedi marw wedi gadael arian yn eu cyfrif i dalu am eu hangladd.
Fodd bynnag, mae’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn rhewi eu cyfrif(on) unigol pan gânt wybod am farwolaeth yr unigolyn.
Fel arfer byddwch chi angen help yr ysgutor neu weinyddwr yr ystâd i gael gafael ar yr arian yn eu cyfrif unwaith y mae wedi’i rewi.
Serch hynny, weithiau gellir cael mynediad at yr arian yng nghyfrif yr ymadawedig heb eu cymorth.
Byddwch angen copi’r o’r dystysgrif farwolaeth o leiaf, ynghyd ag anfoneb am gostau’r angladd gyda’ch enw chi arni.
Efallai y bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu angen prawf o’ch hunaniaeth.
Yna gallant dalu biliau hanfodol yr angladd yn uniongyrchol i’r cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth.
Nid yw’n syniad da cael mynediad at gyfrifon unigol yr unigolyn, hyd yn oed os ydych yn gwybod beth yw rhif PIN eu cerdyn debyd neu fanylion mewngofnodi ar gyfer bancio ar-lein.
Siaradwch â’r banc yn gyntaf os bydd angen i chi wneud hynny - neu fel arall gallech fynd i ddyfroedd dyfnion yn gyfreithiol.
Os oes gan y person sydd wedi marw gyfrif ar y cyd ble mae’r cydberchennog yn dal yn fyw, gall y person hwnnw barhau i ddefnyddio’r arian yn y cyfrif.
Talu mewn rhandaliadau
Yn aml bydd trefnydd angladdau yn gofyn am ran o’r arian ymlaen llaw.
Os na allwch wneud hynny, efallai y dylech ystyried cynnal angladd mwy fforddiadwy.
Opsiwn arall yw gofyn a allech chi dalu’r bil mewn rhandaliadau.
Os bydd y trefnydd yn cytuno i hynny, gallwch wedyn negodi’r rhandaliadau - ond sicrhewch y byddant yn fforddiadwy i chi.
Hawlio costau angladd o’r ystâd
Gall pwy bynnag sy’n talu am yr angladd - teulu, ffrindiau neu’r cyngor - geisio adfer costau o ystâd y person sydd wedi marw.
Weithiau, nid yw eu ystâd yn ddigon mawr i ysgwyddo hyn.
Os oedd gan y person sydd wedi marw ddyledion eraill, fel arfer costau angladd sydd yn cael eu talu yn gyntaf.
Er, bydd rhai dyledion a ddiogelwyd, fel morgais, yn cael eu talu cyn costau angladd.
Os byddwch chi’n cynnig talu am yr angladd, mae’n werth gwirio gyda gweinyddwr yr ystâd eich bod chi’n gallu adfer yr arian yn ddiweddarach os oes angen i chi.
Gallai gwybod faint o arian sydd yn yr ystâd i dalu am gostau angladd hefyd effeithio ar y math o angladd y dymunwch dalu amdano.
Ceisiwch beidio â theimlo dan bwysau i dalu am angladd na allwch ei fforddio.