Mae marwolaeth partner, ffrind agos neu berthynas yn anodd iawn. Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cymorth y gallwch ei hawlio ddibynnu ar amgylchiadau eich teulu, megis a ydych yn dal i fagu plant. Mae budd-daliadau profedigaeth wedi cael eu hestynnu i gynnwys rhieni a gofalwyr a oedd yn byw gyda’i gilydd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Taliad Cymorth Profedigaeth
- Faint yw Taliad Cymorth Profedigaeth?
- Sut ydw i’n gwneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth?
- Sut i wneud cais am fudd-daliadau os ydych ar incwm isel
- Taliad Angladd
- Sut mae eich budd-daliadau profedigaeth yn effeithio ar fudd-daliadau eraill
- Gwneud cais am fudd-daliadau profedigaeth wedi'u hôl-ddyddio os oeddech yn byw gyda’ch gilydd
Taliad Cymorth Profedigaeth
Taliad Cymorth Profedigaeth yw’r prif fudd-dal sydd ar gael i chi os yw’ch partner wedi marw. Mae wedi disodli'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Profedigaeth,
- Lwfans Rhiant Gweddw, a
- Thaliad Profedigaeth.
Ydw i'n gymwys?
Pan fu farw eich partner, mae’n rhaid eich bod wedi bod:
- o dan oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
- yn byw yn y DU neu wlad sy'n talu budd-daliadau profedigaethYn agor mewn ffenestr newydd
Rhaid bod eich partner naill ai:
- wedi bod yn talu cyfraniadau Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd am o leiaf 25 wythnos mewn un flwyddyn dreth er 6 Ebrill 1975
- wedi marw oherwydd damwain yn y gwaith neu afiechyd a achoswyd gan y gwaith
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Oherwydd newid diweddar yn y gyfraith, efallai y byddai budd-daliadau profedigaeth yn ddyledus i chi os oeddech yn byw gyda'ch partner a bod gennych blant dibynnol pan fuon nhw farw. Darganfyddwch fwy yn adran Gwneud Cais am fudd-daliadau profedigaeth wedi’u hôl-ddyddio os oeddech yn byw gyda’ch gilydd o’r erthygl hon.
Mae’r budd-dal yn cael ei dalu ar un o ddwy gyfradd, yn dibynnu ar a ydych yn gyfrifol am blant.
Telir Taliad Cymorth Profedigaeth am ddim ond 18 mis ar ôl y dyddiad y bu farw’ch priod neu’ch partner sifil. Felly mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted phosibl i osgoi colli arian.
Faint yw Taliad Cymorth Profedigaeth?
Telir Taliad Cymorth Profedigaeth ar naill ai gyfradd uwch neu gyfradd safonol:
Cyfradd uwch
Fe’i telir i ferched beichiog neu os oes hawl gennych i Fudd-dal Plant. Yn 2024/25 byddwch chi’n derbyn:
- taliad misol o £350 am 18 mis ar ôl y farwolaeth
- un taliad o £3,500 yn ystod y mis cyntaf.
Cyfradd safonol
I bawb arall. Yn 2024/25 byddwch chi’n derbyn:
- taliad misol o £100 am 18 mis
- un taliad o £2,500 yn ystod y mis cyntaf.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio budd-daliadau incwm isel eraill i ychwanegu at eich incwm, fel credydau treth, Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor neu Gredyd Cynhwysol.
Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar-lein neu drwy’r post.
Sut ydw i’n gwneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth?
Gallwch wneud cais o’r dyddiad pan fu farw’r person.
Gellir ôl-ddyddio ceisiadau am ddim ond hyd at dri mis felly, sicrhewch eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch neu gallech golli rhai o’ch taliadau.
Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth neu casglwch ffurflen o’ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Darganfyddwch pa fudd-daliadau gall fod gennych hawl iddo gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau
Sut i wneud cais am fudd-daliadau os ydych ar incwm isel
Awgrym da
Os ydych chi’n wynebu cwymp mewn incwm ar ôl i’ch partner farw, efallai y gallwch chi hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd hyn yn ychwanegu at eich incwm a helpu gyda phethau megis costau tai neu fagu eich plant.
Mae rhai budd-daliadau’n amodol ar brawf modd. Golyga hyn y bydd unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych yn effeithio ar p’un a oes gennych hawl i dderbyn budd-daliadau.
Mae hyn yn cynnwys etifeddiaeth sy’n mynd â’ch cynilion dros y trothwy £16,000.
Dywedwch Wrthym Unwaith
Os oes angen i chi roi gwybod i wahanol adrannau'r llywodraeth a chwmnïau yswiriant am farwolaeth anwylyd, mae gwasanaethau defnyddiol ar gael.
Gall Dywedwch Wrthym Unwaith eich helpu i hysbysu sefydliadau lluosog y llywodraeth i gyd ar unwaith. I’ch helpu i lywio’r broses yn ystod y cyfnod anodd hwn, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw.
Taliad Angladd
Beth yw Taliad Angladd?
Os ydych ar incwm isel ac yn cael anhawster talu am angladd eich partner, gallwch wneud cais am Daliad Angladd.
Os gwnaeth y person a fu farw adael arian, fel arfer bydd angen i chi dalu yn ôl unrhyw swm y gwnaethoch chi ei dderbyn trwy’r cynllun Taliadau Angladd.
Faint gewch chi
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch perthynas â'r person a fu farw. Ond gallai fod yn arian tuag at gostau angladd, ynghyd â thaliadau i fynd tuag at gostau pethau fel ffioedd claddu neu amlosgi.
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a sut i wneud cais am Daliad Treuliau Angladd yn ein canllaw Help i dalu am angladd
Sut mae eich budd-daliadau profedigaeth yn effeithio ar fudd-daliadau eraill
Os ydych chi’n cael Taliad Cymorth Profedigaeth ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill am flwyddyn.
Wedi hynny, bydd yr incwm a gewch ohono yn cael ei ystyried ar gyfer budd-daliadau prawf modd yn cynnwys:
- Credydau Treth
- Credyd Cynhwysol
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Efallai y bydd y cyfandaliad y byddwch chi’n ei dderbyn fel rhan o Daliad Cymorth Profedigaeth yn cyfrif fel cynilion pan gyfrifir eich hawliad i rai budd-daliadau ar sail prawf modd.
Fydd hyn ddim ond os oes gennych chi unrhyw gyfandaliad yn weddill wedi 12 mis sy’n mynd â chi dros y terfyn cynilion o £6,000 ar gyfer budd-daliadau prawf modd.
Mae hyn yn golygu y gallech weld lleihad mewn unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn y gallech fod yn eu cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut gall cynilion a chyfandaliadau effeithio ar fudd-daliadau yma
Gwneud cais am fudd-daliadau profedigaeth wedi'u hôl-ddyddio os oeddech yn byw gyda’ch gilydd
Newidiodd y gyfraith ar 9 Chwefror 2023, ac nawr mae rhieni a gofalwyr nad ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ond sy'n byw gyda'i gilydd ac sydd â phlant dibynnol yn gallu gwneud ceisiadau newydd am Daliad Cymorth Profedigaeth os bydd eu partner yn marw.
Fodd bynnag, os ydych eisoes mewn profedigaeth a'ch bod yn byw gyda'ch partner cyn iddynt farw, gallwch wneud cais wedi ei ôl-ddyddio am fudd-daliadau profedigaeth os oeddech yn gymwys i wneud hynny ar neu ar ôl 30 Awst 2018.
Rydych yn gymwys am fudd-daliadau profedigaeth os oeddech yn briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil pan fu farw eich partner, ac roeddech yn feichiog neu’n gofalu am blant a oedd o dan 18 oed neu dros 18 oed ac mewn addysg llawn amser nad oedd yn addysg bellach. Mae hwn yn cynnwys ysgol, coleg neu hyfforddiant cymeradwy, ond nid prifysgol.
Mae pa fudd-dal rydych yn ei gwneud cais amdano yn dibynnu ar bryd bu farw eich partner.
Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, gallwch wneud cais am rywfaint o Daliad Cymorth Profedigaeth. Mae gennych hyd at 8 Tachwedd 2024 i wneud cais ôl-ddyddiedig ar gyfer rhai o’r taliadau.
Os ydych yn cael budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol ac rydych yn gymwys i gael cyfandaliad wedi ei ôl-ddyddio, ni fydd yn cyfrif tuag at eich terfyn cynilion sy’n effeithio ar faint o fudd-dal rydych yn gymwys i’w cael am hyd at 52 wythnos.
Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar-lein, dros y ffôn neu gyda ffurflen bostYn agor mewn ffenestr newydd