Benthyciadau llyfr cofrestru

Sut mae benthyciadau llyfr cofrestru yn gweithio?

Mae benthyciadau llyfr cofrestru ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn defnyddio'ch cerbyd fel sicrwydd. Mae hyn yn golygu:

  • Mae'r benthyciwr yn berchen ar eich car dros dro
  • Gallwch barhau i ddefnyddio'r cerbyd os ydych yn talu'r holl ad-daliadau benthyciad.
  • Ni fyddwch yn gallu gwerthu'r car nes bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu.

Mae'r swm y gallwch ei fenthyg yn dibynnu ar werth eich car a rheolau'r benthyciwr. Er enghraifft, dim ond hyd at hanner gwerth eich cerbyd y mae rhai cwmnïau yn ei fenthyca. Fel arfer, mae hyn yn golygu y gallwch fenthyca rhwng £500 a £50,000.

Bil Gwerthu

Byddwch yn llofnodi cytundeb credyd a 'bil gwerthu', y mae'n rhaid i'r benthyciwr ei gofrestru gyda'r Uchel Lys. Os nad yw wedi'i gofrestru, mae'n rhaid i'r benthyciwr gael caniatâd y llys i adfeddiannu eich cerbyd.

Gallwch wirio a yw bil gwerthu wedi'i gofrestru drwy wneud cais ysgrifenedig i'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain, ond fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Mae gan National Debtline fwy o wybodaeth am sut i wirio a yw bil gwerthu wedi'i gofrestruYn agor mewn ffenestr newydd

Hurbwrcas neu werthu amodol yn yr Alban

Nid yw benthyciadau llyfr cofrestru ar gael yn yr Alban gan nad yw bil gwerthu yn cael ei ystyried wedi’i rwymo mewn cyfraith. Fodd bynnag, efallai y cynigir cytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol i chi. Mae'r rhain yn gynhyrchion ariannol rheoledig felly bydd gennych ddiogelwch o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Fel gydag unrhyw gytundeb cyllid, mae'n bwysig gwirio unrhyw ddogfennaeth yn ofalus fel eich bod yn gwbl ymwybodol o'r hyn y mae’n ei olygu.

Faint mae benthyciadau llyfr cofrestru yn ei gostio

Mae Cyfraddau Canrannol Blynyddol (APRs) yn 400% neu'n uwch, felly mae'n ffordd ddrud o fenthyca.

Er enghraifft, pe byddech yn benthyca £1,500 ac yn talu £55 yr wythnos am 18 mis, byddech yn ad-dalu cyfanswm o dros £4,250. Mae hynny'n fwy na £2,750 mewn llog i fenthyca £1,500.

Beth i fod yn ofalus ohono gyda benthyciadau llyfr cofrestru

Mae anfanteision benthyciadau llyfr cofrestru yn cynnwys:

  • Gallech golli'ch cerbyd os na allwch wneud yr ad-daliadau i'r cwmni benthyca.
  • Nid oes gennych yr un diogelwch defnyddiwr â chytundeb hurbwrcasu.
  • Mae angen i chi fod yn berchennog cyfreithiol ar y cerbyd, sy'n werth dros £500 - fel arfer heb unrhyw gyllid car presennol arno.
  • Mae'r llog a godir yn llawer uwch nag ar fenthyciadau personol heb eu gwarantu gan fenthycwyr prif ffrwd, felly gallech gael trafferth talu'r hyn sy'n ddyledus gennych.

Dewisiadau eraill i fenthyciadau llyfr cofrestru

Gall benthyciadau llyfr cofrestru ymddangos yn demtasiwn os oes angen arian parod arnoch yn gyflym ac ni fydd benthycwyr eraill yn benthyca i chi, ond mae yna ddewisiadau eraill.

  • Gwiriwch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth eraill sydd ar gael yn Ffyrdd o roi hwb i'ch incwm.
  • Benthyciad cyllidebu di-log. Os ydych yn cael rhai budd-daliadau, efallai y gallwch gael benthyciad gan y llywodraeth. Edrychwch i weld a ydych chi'n gymwys yn ein canllaw ar fenthyciadau a blaendaliadau cyllidebu.   
  • Cynlluniau Cyflog Ymlaen Llaw. Os ydych yn gyflogedig, efallai y bydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd rhywfaint o'ch cyflog yn gynnar. Fel arfer, byddwch yn talu ffi a bydd eich cyflog yn cael ei ostwng ar eich diwrnod cyflog i'w dalu'n ôl. Mae cymorth llawn yn Cyflog ymlaen llaw wedi’i esbonio.   
  • Benthyciadau undeb credyd. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar ddefnyddio’r gwiriwr cymhwysedd i weld a ydych yn debygol o gael eich derbyn am fenthyciad personol. Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i fenthyciwr fel hyn, gallech geisio cysylltu ag undeb credyd i wirio eu meini prawf cymhwyso am fenthyciad.

Cyn cymryd benthyciad llyfr cofrestru

Dyma rai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt cyn gwneud cais am fenthyciad llyfr cofrestru:

  • Mae faint y gallwch ei fenthyg yn dibynnu ar werth eich cerbyd, felly bydd benthyciwr dibynadwy yn gofyn i chi ei brisio'n annibynnol.
  • Os oes gan eich cerbyd gyllid yn ei erbyn eisoes, bydd angen i chi gael caniatâd gan eich benthyciwr presennol cyn gwneud cais am fenthyciad llyfr cofrestru.
  • Mae rhai benthycwyr yn gofyn am daliadau wythnosol yn hytrach na misol.
  • Os nad yw'r benthyciwr yn derbyn taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd angen i chi wneud taliadau â llaw. I gadw golwg ar faint sy'n ddyledus gennych, gallwch ofyn i'ch benthyciwr am 'ddatganiad cyfrif'.
  • Efallai y bydd taliadau ychwanegol os ydych am ddod â'r benthyciad i ben yn gynnar a'ch bod wedi ad-dalu mwy na £8,000 yn ystod y 12 mis diwethaf.

Os ydych chi'n ystyried defnyddio benthyciad llyfr cofrestru i ad-dalu dyledion eraill, siaradwch â chynghorydd dyledion am ddim yn lle.

Os ydych yn gwneud cais am fenthyciad llyfr cofrestru

Os ydych yn penderfynu ei fod yn iawn i chi, gwiriwch fod y benthyciwr yn aelod o gorff masnach ac yn cydymffurfio â chod ymarfer benthyciadau llyfr cofrestru.

Pan fyddwch yn gwneud cais, rhoddir ffeithiau allweddol i chi am y cytundeb megis hyd y tymor, faint fydd eich ad-daliadau a’ch cyfrifoldebau chi a'r benthyciwr.  Fel arfer, byddwch yn derbyn yr arian trwy drosglwyddiad banc. Mae rhai cwmnïau yn cynnig gwasanaeth arian parod cyflym ond efallai y byddant yn codi ffioedd o hyd at 4% o'r benthyciad.

Ad-dalu benthyciad llyfr cofrestru

Mae'r rhan fwyaf o fenthyciadau llyfr cofrestru yn parhau hyd at 18 mis, ond yn ôl y gyfraith gallwch ddewis ei ad-dalu'n gynharach. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn deall sut mae'r cytundeb yn gweithredu a'ch bod yn gallu fforddio'r ad-daliadau.

Efallai y gallwch gytuno i ad-dalu'r llog bob mis yn unig, sy'n golygu y bydd angen i chi ad-dalu'r swm llawn a fenthycwyd yn y mis olaf. Os byddwch yn gwneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut y byddwch yn ad-dalu'r cyfandaliad hwn.

Os na allwch ad-dalu'ch benthyciad llyfr cofrestru

Gall benthycwyr ddefnyddio beilïaid i ymafael yn eich cerbyd a gwerthu'ch cerbyd os ydych y tu ôl yn talu sawl  ad-daliad. Os yw'r bil gwerthu wedi'i gofrestru, nid oes angen i'r benthyciwr benthyciad llyfr cofrestru fynd i'r llys i adfeddiannu'ch cerbyd.

Cyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i chi gael rhybudd diofyn. Yna mae gennych 14 diwrnod i wneud unrhyw daliadau a gollwyd. Mae'n syniad da defnyddio ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion bryd hynny, i ddod o hyd i gymorth dyled am ddim a deall beth yw eich opsiynau.  

Os yw'ch car yn cael ei werthu

Os yw'ch cerbyd yn gwerthu am lai na'r swm sy'n ddyledus gennych, bydd angen i chi ad-dalu'r gweddill. Gall cwmni benthyca llyfr cofrestru fynd â chi i'r llys i gael yr arian hwn yn ôl.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.