Gall y broses ar gyfer cyfrifo tâl cymryd adref fod yn anoddach i bobl hunangyflogedig.
Os ydych yn hunangyflogedig, ni chewch eich talu drwy TWE. Chi sy’n gyfrifol am dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion.
Mae swm y dreth a dalwch yr un ganran o’ch elw ag y byddai petaech yn gyflogedig. Fodd bynnag, fel arfer nid oes angen i chi dalu treth ar gostau busnes ar gyfer pethau fel swyddfa, teithio a chostau staff.
Er enghraifft, os yw eich trosiant yn £50,000 a’ch bod yn hawlio £10,000 mewn treuliau caniataol, dim ond treth ar y £40,000 sy’n weddill y byddwch yn ei dalu.
I hawlio treuliau, mae angen i chi ffeilio Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyda CThEF. Bydd angen i chi gasglu gwybodaeth allweddol yn ymwneud â'ch incwm a'ch treuliau, gan gynnwys anfonebau a derbynebau. Yna byddant yn cyfrifo'r hyn sy'n ddyledus gennych yn seiliedig ar eich incwm a adroddwyd fel y gallwch dalu eich bil Hunanasesiad.
Gweler ein canllaw Ffurflen Dreth Hunanasesiad am fwy o wybodaeth.
Gall eich incwm a threuliau busnes amrywio o fis i fis neu o flwyddyn i flwyddyn, felly mae cadw cofnodion da yn hanfodol. Gall hyn eich helpu i olrhain eich elw a gwariant, sy'n ei gwneud yn haws i ffeilio ffurflenni treth a hawlio didyniadau.
Efallai y gwelwch y gall cael cymorth gan ymgynghorydd ariannol neu gyfrifydd symleiddio'r broses.