Mae cerdyn debyd yn gadael i chi wario arian yn eich cyfrif banc. Gallwch ei ddefnyddio mewn siopau, ar-lein, dros y ffôn ac mewn peiriannau arian parod. Dyma'r cyfan sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys ffioedd i gadw llygad amdanynt.
Beth yw cerdyn debyd?
Daw bron pob cyfrif banc (a elwir hefyd yn gyfrifon cyfredol) gyda cherdyn debyd cysylltiedig. Mae hyn yn caniatáu i chi:
- dalu am bethau mewn siopau, ar-lein neu dros y ffôn
- tynnu arian allan.
Byddwch hefyd yn cael PIN diogelwch pedwar digid, y bydd angen i chi ei gofio. Fel arfer, gallwch ei newid mewn peiriant arian parod.
Pa oedran allai gael cerdyn debyd?
Gallwch fel arfer cael cerdyn debyd o 11 oed, yn dibynnu ar y cyfrif rydych yn ei agor.
Sut i dalu gyda cherdyn debyd
Mae hyn yn dibynnu ar ble rydych yn defnyddio'ch cerdyn:
Ar-lein a dros y ffôn, fel arfer bydd angen i chi:
- roi’r rhif hir sydd ar eich cerdyn, yr enw a’r dyddiad dod i ben
- roi’r cod tri digid ar gefn y cerdyn – sef y CVV
- pasio math arall o ddiogelwch, fel rhoi cod a anfonir at eich ffôn symudol neu gymeradwyo'r taliad yn eich app bancio symudol.
- Mewn siopau neu beiriannau arian parod gallwch naill ai:
- roi’ch cerdyn i mewn i ddarllenydd a rhoi’ch PIN
- tapio eich cerdyn am daliadau o £100 neu lai – mae gan y rhan fwyaf o gardiau y dechnoleg ddigyffwrdd hon, ond nid pob un.
Gallwch hefyd gysylltu eich cerdyn i e-waled fel Apple neu Google Pay. Mae hyn yn caniatáu i chi dalu unrhyw swm:
mewn siop trwy dapio'ch ffôn clyfar neu oriawr
ar-lein trwy fewngofnodi i'ch waled.
Gweler e-daliadau wedi'u esbonio am ragor o wybodaeth.
Diogelu gwariant am ddim
Mae taliadau cardiau debyd yn cael eu cwmpasu gan y cynllun chargeback. Os oes gennych broblem gyda phryniant, fel derbyn eitem ddiffygiol neu beidio â chael yr hyn rydych wedi talu amdano, gofynnwch i'r cwmni ei ddatrys yn gyntaf bob amser.
Os na fyddant yn rhoi ad-daliad i chi, gallwch ofyn i'ch banc hawlio'r arian yn ôl. Mae gennych 120 diwrnod o'r dyddiad prynu i wneud cais, neu ddyddiad y digwyddiad ar gyfer tocynnau.
Bydd eich banc yn 'gwrthdroi'r trafodiad' i gael yr arian yn ôl o fanc y cwmni, er gall y cwmni dal ceisio adhawlio'r arian os ydyn nhw'n credu ei fod dal yn ddyledus.
Os gwrthodir eich cais, dylid dweud wrthych pam a'r broses gwyno i'w dilyn os nad ydych yn hapus.
Mae cardiau credyd yn rhoi amddiffyniad cryfach
Os ydych yn gwario mwy na £100, mae talu gyda cherdyn credyd yn rhoi amddiffyniad Adran 75 i chi. Mae hon yn hawl gyfreithiol lle gallwch sicrhau ad-daliad llawn gan ddarparwr eich cerdyn credyd os nad ydych yn cael (neu os oes problem gyda) y nwyddau neu’r gwasanaethau y gwnaethoch dalu amdanynt. Gweler amddiffyniad cerdyn debyd a chredyd am wybodaeth lawn.
Os yw'ch cerdyn yn cael ei ddefnyddio heb eich caniatâd
Os bydd rhywun arall yn defnyddio'ch cerdyn, gelwir hyn yn dwyll. Cysylltwch â'ch banc ar unwaith os yw'ch cerdyn yn cael ei golli neu ei ddwyn, neu os nad ydych yn adnabod trafodiad.
Fel arfer, gallwch:
rewi'ch cerdyn drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu symudol
siarad ag adran dwyll eich banc dros y ffôn neu sgwrs fyw.
Yna bydd eich banc yn ymchwilio ac yn ad-dalu unrhyw drafodion sydd wedi cael eu gwneud heb eich caniatâd.
Awgrymiadau i gadw'ch cerdyn debyd yn ddiogel
Dyma rai rheolau cyffredinol:
- peidiwch byth â rhoi eich cerdyn neu PIN i unrhyw un
- peidiwch ag ysgrifennu eich PIN i lawr
- peidiwch â defnyddio rhif y gallai eraill ei ddyfalu'n hawdd, fel eich penblwydd
- rhowch wybod am dwyll a amheuir a chardiau a gollwyd neu sydd wedi cael eu dwyn ar unwaith.
Er mwyn helpu i ddiogelu eich cyfrif ymhellach, yn aml gallwch sefydlu:
- hysbysiadau gwario ar unwaith – mae'r rhain yn dweud wrthych bob tro y defnyddir eich cerdyn, fel y gallwch weld gweithgaredd anarferol yn gyflym.
- gwariant dyddiol a therfynau tynnu allan arian parod - bydd eich cerdyn yn stopio'n awtomatig os cyrhaeddir y rhain.
Mae twyllwyr yn llunio sgamiau i geisio eich twyllo i rannu'ch manylion. Byddwch yn wyliadwrus bob amser o alwyr neu ddolenni ar hap mewn e-byst yn gofyn am eich manylion banc. Os oes amheuaeth, peidiwch â gwneud hynny. Gweler sut i adnabod sgam am help llawn.
Ffioedd cardiau debyd
Mae cardiau debyd fel arfer am ddim i'w defnyddio, ond mae rhai ffioedd i fod yn ymwybodol ohonynt.
Defnyddio eich cerdyn debyd dramor neu mewn arian tramor
Fel arfer, bydd eich banc yn defnyddio'r gyfradd gyfnewid Visa neu Mastercard – chwiliwch am y logo ar eich cerdyn. Mae'r ddau yn gyffredinol yn gystadleuol, ond efallai y bydd eich banc wedyn yn ychwanegu:
- ffi cyfnewid arian – yn aml tua 3% o swm y trafodiad
- ffi gwario neu arian parod bob tro mae'r cerdyn yn cael ei ddefnyddio – ac eithrio ewros o fewn yr Undeb Ewropeiaidd (EU)
Gwiriwch beth mae eich cerdyn yn ei godi bob amser, gan ei fod yn amrywio fesul banc neu gyfrif. Er enghraifft, mae rhai cardiau yn cynnig gwariant tramor am ddim.
Ffioedd eraill y gallech eu talu wrth ddefnyddio'ch cerdyn debyd
- Tynnu arian allan. Mae llawer o beiriannau arian parod yn rhad ac am ddim, ond mae gan rai ffioedd untro i dynnu arian allan. Canslwch a defnyddiwch un arall i osgoi hyn.
- Os ydych yn gwario mwy nag sydd gennych. Bydd llawer o gyfrifon yn gadael i chi fenthyca'r arian gan ddefnyddio gorddrafft a chodi llog dyddiol nes iddo gael ei ad-dalu, ond dylai hyn ond cael ei ddefnyddio am argyfyngau neu fel opsiwn byr-dymor.