Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Hafan blog
Hafan blog

Beth yw tariffau?

Dynes yn syllu ar liniadur a ffôn symudol

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:

22 Ebrill 2025

Efallai eich bod chi'n clywed llawer am 'dariffau' ar hyn o bryd, a sut maen nhw'n mynd i effeithio ar eich cyllid - felly dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Beth sydd wedi digwydd gyda thariffau?

Ar 3 Ebrill 2025, cyhoeddodd llywodraeth yr Unol Daleithiau y byddent yn cyflwyno nifer o dariffau - math o dreth sy'n cael ei ychwanegu at gost rhywbeth pan fydd yn dod i mewn o wlad arall. Mae hyn yn cynnwys tariff o 10% ar nwyddau sy'n mynd i'r Unol Daleithiau o'r DU.

Mae'r sefyllfa hon yn newid cryn dipyn, ond ar hyn o bryd bydd popeth a gaiff ei fewnforio i'r Unol Daleithiau yn wynebu tariff o leiaf 10%. Bydd rhai gwledydd yn wynebu cyfraddau uwch, ond mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi cael eu hoedi am 90 diwrnod. Bydd gan rai cynhyrchion penodol dariffau uwch hefyd, gan gynnwys tariff o 25% ar geir sydd wedi'u mewnforio. Nid yw'r DU wedi cyhoeddi unrhyw dariffau ar fewnforion o'r Unol Daleithiau.

Oherwydd bod tariffau yn ychwanegu cost ychwanegol ar fewnforio nwyddau i'r Unol Daleithiau - un o'r marchnadoedd byd-eang pwysicaf - mae'r cyhoeddiad hwn wedi cael effaith fawr ar economi'r byd, gan fod angen ystyried y 'dreth' newydd hon.

Sut mae tariffau'n gweithio?

Mae tariff yn fath o dreth sy'n cael ei ychwanegu at gost rhywbeth pan gaiff ei fewnforio o wlad arall. Fel arfer mae'n cael ei gyfrifo fel canran, sy'n golygu bod cost ychwanegol yn cael ei ychwanegu gan ddibynnu ar werth cynnyrch.

Enghraifft o sut y gallai hyn weithio ar gyfer y tariffau a gyhoeddwyd yw:

  • mae cwmni yn mewnforio car o'r DU i'r Unol Daleithiau

  • cost sylfaenol y car (sef ei bris manwerthu minws trethi ac ymylon) yw £10,000 

  • bydd yn rhaid i'r cwmni sy'n mewnforio'r car dalu'r tariff o 25% – yn yr achos hwn, mae hynny'n £2,500

  • mae'r gost tariff yn cael ei gasglu gan lywodraeth yr Unol Daleithiau.

Efallai y bydd y cwmni sy'n gwerthu'r car yn yr Unol Daleithiau yn penderfynu amsugno'r gost ychwanegol neu godi mwy ar eu cwsmeriaid am y cynnyrch.

Sut mae tariffau yn effeithio ar yr economi?

Gall cyflwyno tariffau effeithio ar yr economi mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys twf, chwyddiant a chyflogaeth. Nid yw bob amser yn hawdd rhagweld yr union effaith.

Effaith tariffau ar fasnach ryngwladol

Gall tariffau yn gyffredinol wneud mewnforio cynhyrchion o wledydd eraill yn ddrytach. Oherwydd bod llawer o sectorau yn dibynnu ar fewnforio nwyddau o bob cwr o'r byd, gall tariffau gynyddu eu costau, sy'n aml yn golygu y byddant yn codi prisiau uwch ar eu cwsmeriaid.

O ganlyniad, gallai cwmnïau sy'n dibynnu ar fasnach ryngwladol weld eu busnes yn arafu neu'n stopio'n gyfan gwbl tra bod eu costau rhedeg a'u prisiau yn uwch.

Effaith debygol y tariffau ar y farchnad stoc a bondiau

Mae'n anodd iawn rhagweld union effaith tariffau ar y farchnad stoc, ond mae unrhyw fath o ansicrwydd yn tueddu i wneud i brisiau cyfranddaliadau ostwng. Rydym eisoes wedi gweld rhai symudiadau yn y farchnad sydd wedi effeithio ar y rhai sydd â buddsoddiadau, gan gynnwys pensiynau.

Mae prisiau bondiau hefyd wedi gostwng a all effeithio ar y rhai sy'n agosach at ymddeol gyda threfniant 'ffordd o fyw' ar eu pensiwn. Gall hyn olygu bod gwerth eich cronfa bensiwn wedi newid yn eithaf sydyn.

Gallwch ddysgu mwy am sut mae pensiynau wedi cael eu heffeithio yn ein blog Pam mae fy mhot pensiwn wedi gostwng mewn gwerth.

Mae'r effaith tymor hwy yn dibynnu ar sut mae gwledydd yn addasu i reolau newydd a sut maen nhw'n ymateb, ond mae unrhyw beth sy'n cyfyngu cwmnïau rhag masnachu'n rhydd yn tueddu i gael effaith negyddol ar werthoedd stoc. 

Sut y gallai tariffau effeithio ar chwyddiant

Nid yw'n glir sut y gallai tariffau effeithio ar chwyddiant. Mae Banc Lloegr yn anelu at gadw chwyddiant ar 2%, ond os bydd tariffau yn arwain at brisiau uwch ar draws ystod o gynhyrchion, gallai hyn ddechrau codi.

Gallwch ddysgu mwy am sut y gallai hyn effeithio arnoch chi yn ein canllaw Chwyddiant – beth mae'n ei olygu i'ch cynilion?

Effaith tariffau ar ddefnyddwyr

Er bod tariffau yn cael eu talu gan gwmnïau sy'n mewnforio nwyddau, gall defnyddwyr ar ddwy ochr y fasnach deimlo'r effeithiau o hyd.

Os yw cwmni yn masnachu llai oherwydd tariffau, gall arwain at gostau rhedeg uwch. Gellid trosglwyddo hyn i'r cwsmer gyda phrisiau uwch ar gyfer eu cynhyrchion a'u gwasanaethau.

Mae hefyd yn bosibl y gallai gwlad sydd wedi cael tariffau wedi'u gosod arni ymateb trwy wneud yr un peth, a allai gynyddu costau nwyddau - ond nid oes sicrwydd y bydd hyn yn digwydd.

Sut allai tariffau effeithio arnaf?

Gyda chymaint o ansicrwydd, byddwch chi eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd i'ch sefyllfa ariannol. Dyma beth allai newid.

Efallai y bydd eich cronfa bensiwn yn gostwng yn y tymor byr

Os ydych chi'n cynilo mewn pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (DC), byddwch yn casglu pot o arian y gellir ei fuddsoddi wedyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y penderfyniadau buddsoddi hyn eu hunain.

Oherwydd y sefyllfa gyda'r marchnadoedd, efallai y bydd rhai pobl yn gweld bod gwerth eu pot pensiwn wedi newid. Mae gennym fwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud yn ein blog Pam mae fy mhot pensiwn wedi gostwng mewn gwerth?

Gallai cyfraddau llog ostwng yn y tymor byr

Mae llawer yn disgwyl i gyfraddau llog ostwng, a gallai hyn gael ei gyflymu gan dariffau. Mae rhai benthycwyr morgeisi eisoes wedi dechrau torri cyfraddau morgais i baratoi ar gyfer hyn.

Os ydych chi'n edrych i gymryd morgais newydd neu newid i fargen newydd, neu os ydych chi ar forgais cyfradd amrywiol, gall eich ad-daliadau misol fod yn is o ganlyniad i'r gyfradd llog is.

Fodd bynnag, mae llawer o gyfrifon cynilo yn talu llog yn seiliedig ar y gyfradd llog gyfredol. Felly efallai y byddwch chi'n gweld y bydd unrhyw gynilion sydd gennych yn tyfu'n arafach.

Mae'n anoddach rhagweld beth fydd yn digwydd yn y tymor hwy. Os bydd tariffau yn cyflymu chwyddiant, gallai olygu nad yw cyfraddau llog yn gostwng, neu'n gostwng yn arafach na'r disgwyl. 

Dysgwch fwy yn ein canllaw Esbonio cyfraddau llog.

Gallai prisiau godi

Gyda masnachu ryngwladol yn dod yn fwy costus, gellid trosglwyddo rhywfaint o effaith economi arafach i'r cwsmer. Gallai hyn olygu eich bod chi'n talu mwy am eitemau a gwasanaethau bob dydd, yn ogystal ag am bryniannau mwy arwyddocaol fel car neu ffôn symudol.

Nid yw'n sicr y bydd hyn yn digwydd, a gallai gymryd amser cyn i ni weld effeithiau tariffau ar bris ein basgedi siopa. Mae hefyd yn bosibl y bydd gwledydd eraill yn ceisio masnachu mwy gyda'r DU er mwyn osgoi masnachu drutach mewn mannau eraill, gan arwain at brisiau is - ond mae'n anodd iawn rhagweld hynny.

Ymunwch â’n grŵp Facebook

Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.

Beth alla i ei wneud os ydw i'n poeni am dariffau?

Mae nawr yn amser da i adolygu eich cyllid a pharatoi ar gyfer y newidiadau posibl i'r darlun economaidd.

Adolygu cyllideb eich cartref

Mae ein Cynlluniwr cyllideb yn lle da i ddechrau. Mae creu cyllideb yn eich helpu i gadw golwg ar eich arian, er mwyn i chi wybod pryd y gallwch wario a sut i osgoi mynd i'r coch.

Cael eich dyledion o dan reolaeth

Os oes gennych ddyledion, mae'n bwysig gweithio ar gael y rhain o dan reolaeth. Mae gennym nifer o ganllawiau ar Ddelio â dyled sy'n esbonio'r gwahanol ffyrdd y gallwch chi ad-dalu eich dyledion, er mwyn i chi ddeall mwy am y daith tuag at fod yn ddi-ddyled.

Ydych chi’n cael trafferthion gyda thaliadau?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Sicrhewch eich bod yn hawlio unrhyw fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt

Gallech fod â hawl i fudd-daliadau nad oeddech chi'n gwybod amdanynt. Ni chaiff tua £23 biliwn y flwyddyn ei hawlio gan bobl sy'n colli allan, felly gwiriwch a allech chi fod yn hawlio mwy.

Mae ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn caniatáu i chi ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Edrychwch ar ffyrdd o arbed ar filiau cartref

Gall llawer o aelwydydd arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn trwy wneud rhai newidiadau i'w biliau cartref, felly mae'n werth gwirio. Mae ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref yn esbonio beth allwch chi ei wneud i arbed mwy.

Cewch arweiniad pensiynau gan Pension Wise os ydych chi'n gymwys

Mae Pension Wise yn wasanaeth gan HelpwrArian gaiff ei gefnogi gan y llywodraeth. Rydym yn cynnig arweiniad diduedd am ddim i bobl dros 50 oed. Gallwn helpu trwy esbonio'ch opsiynau ac esbonio sut maen nhw'n gweithio.

Dysgwch fwy am Pension Wise ac i drefnu apwyntiad.

Edrychwch ar ein canllawiau ar gostau byw

Mae gennym nifer o ganllawiau ar Help gyda chostau byw, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i gael cymorth ariannol brys a sut i flaenoriaethu eich biliau.

Jake Fleming
Awdur Jake Fleming
Nol i’r brig
Rhannwch y post hwn
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Tagiau
Cyllidebu Buddsoddi Pob postiadau blog

Swyddi diweddaraf

Ni fydd HelpwrArian byth yn gofyn i chi am arian

15 Mehefin 2026

A all AI helpu gyda phenderfyniadau ariannol? Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn i chi ddibynnu arno

19 Chwefror 2026

Pam mae angen i ni siarad am ddarparwyr benthyciadau didrwydded

03 Tachwedd 2025

Mwy o bostiadau blog
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012