Yn economi heddiw, mae chwyddiant yn broblem fawr i bobl gyda chynilion a buddsoddiadau, gan ei fod yn lleihau pŵer prynu eu harian. Er mwyn cynilo a buddsoddi'n ddoeth, mae'r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall chwyddiant a beth mae'n ei olygu i'ch cynllunio ariannol.
Beth yw chwyddiant?
Chwyddiant yw'r cynnydd yng nghostau dros amser. Mae'n digwydd yn gyson - mae pethau'n gyffredinol yn ddrytach nag yr oeddent ychydig flynyddoedd yn ôl.
Er mwyn ei weld yn digwydd, meddyliwch am yr hyn y gallech ei brynu â £1 dros yr ychydig ddegawdau diwethaf.
Byddwn yn edrych arno o ran torthau o fara:
1970: £ 1 = 10 torth o fara
1980: £ 1 = 3 torth o fara
1990: £ 1 = 2 dorth o fara
2020: £ 1 = 1 dorth o fara.
Felly, gall £1 brynu llawer llai i chi nawr nag y gallai ym 1970 ac mewn deng mlynedd arall bydd yn prynu llai fyth. Mewn gwirionedd, yn 2024, pris cyfartalog torth o fara yw £1.40, felly byddai’r un £1 bellach yn prynu 0.7 torth o fara. Mae hyn oherwydd chwyddiant. Gelwir hyn yn bŵer prynu arian.
Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) vs Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI)
Y mesurau chwyddiant a ddefnyddir fwyaf yn y DU yw'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI), mynegai tai prisiau defnyddwyr (CPIH) a'r mynegai prisiau manwerthu (RPI).
Mae pob mesur yn cael ei gyfrif ychydig yn wahanol, er mai RPI yw'r uchaf fel rheol.
Er nad oes angen i chi wybod sut mae pob mesur yn cael ei gyfrif, mae'n ddefnyddiol gwybod y gyfradd gyfredol. Mae hyn oherwydd bod cyfraddau gwahanol yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol bethau.
Er enghraifft, mae RPI fel arfer yn gysylltiedig â thaliadau pensiwn cyflog terfynol, treth car a llog ar fenthyciadau myfyrwyr. Defnyddir CPI yn aml gan y llywodraeth ar gyfer pethau fel cyfrifo pensiwn y wladwriaeth, a budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol.
Chwyddiant uchel a chwyddiant isel
Os ydych yn clywed bod y gyfradd chwyddiant yn uchel, mae hynny'n golygu y gallwch brynu llai y flwyddyn hon nag y gallwch wedi'r flwyddyn diwethaf am yr un faint o arian, ac mae'r gostyngiad hwn mewn pŵer prynu yn digwydd ar gyflymder uwch na'r arfer.
Mae chwyddiant yn cael ei fesur fel canran:
- Os yw'r gyfradd chwyddiant yn 1% (chwyddiant is), bydd pŵer prynu arian 1% yn llai flwyddyn yn ddiweddarach.
- Os yw'r gyfradd chwyddiant yn 5% (chwyddiant uwch), bydd pŵer prynu arian 5% yn llai flwyddyn yn ddiweddarach.
Eisiau gwybod beth yw’r cyfradd chwyddiant ar hyn o bryd? Ewch i wefan Banc Lloegr
Beth mae chwyddiant yn ei olygu i chi?
Mae'n bwysig gwybod y gyfradd chwyddiant wrth feddwl am gynilion a buddsoddiadau gan ei fod yn effeithio ar b’un a ydych yn gwneud elw ar ôl chwyddiant.
Er enghraifft, os ydych yn rhoi eich arian mewn cyfrif banc sy'n talu 1% o log, bydd gennych 1% yn fwy o arian ar ôl blwyddyn. Ond os yw chwyddiant yn fwy nag 1%, ni fydd eich arian yn prynu cymaint ag y gwnaeth o'r blaen.
Gadewch i ni ddweud, mae gennych chi £100 a gallwch brynu rhywbeth am £100 heddiw. Os byddwch yn cynilo eich arian mewn cyfrif banc gyda llog o 1%, bydd gennych £101 y flwyddyn nesaf. Ond os yw chwyddiant yn 5%, bydd yr eitem honno'n costio £105 y flwyddyn nesaf. Gyda £101, ni fyddai'r arian yn y banc bellach yn ddigon i'w brynu.
I wneud arian ar eich buddsoddiad, mae angen cyfrif neu fuddsoddiad arnoch sy'n rhoi enillion uwch na'r gyfradd chwyddiant i chi.
A allwch guro chwyddiant?
Fel rheol gyffredinol
Ar gyfer nodau tymor byr lle rydych yn bwriadu gwario'r arian o fewn pum mlynedd mae'n fwy diogel mynd am gyfrif cynilo a pheidio â phoeni gormod am chwyddiant.
Ar gyfer nodau tymor hir mae angen i chi gadw chwyddiant mewn cof wrth fuddsoddi.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai na fyddech eisiau cynnyrch sy'n curo chwyddiant.
Mae hyn oherwydd yn gyffredinol, er mwyn cael enillion uwch, efallai y bydd angen i chi gymryd mwy o risg.
Os yw'n bwysig iawn i chi eich bod yn cadw'ch arian yn ddiogel, efallai hoffech fynd am gyfrif â llog is a thyfu'ch cynilion dim ond trwy ychwanegu arian bob mis.
I wybod beth sy'n iawn i chi, mae'n helpu i feddwl am eich nodau cynilo.
Gosod eich nodau cynilo
Nodau cynilo yw'r pethau rydych am eu cyflawni yn y dyfodol, p'un a yw'n prynu car newydd, yn cynilo ar gyfer ymddeol neu'n hwylio ledled y byd.
Ar ôl i chi osod eich nodau, gallwch weithio allan sut i'w cyflawni - bydd rhai yn addas ar gyfer buddsoddiadau tymor hir, rhai ar gyfer arbedion tymor byr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i osod nod cynilo
Sut i ddiogelu yn erbyn chwyddiant
Mae rhai cyfrifon cynilo yn gysylltiedig â mynegai sy'n golygu y byddant yn talu llog sy'n olrhain chwyddiant ond nad ydynt bob amser yn cadw i fyny â chyfraddau llog eraill.
Mae'r rhain yn mynd yn ddrytach pan fydd y marchnadoedd yn disgwyl i chwyddiant godi, felly efallai na fydd yr enillion cyffredinol yn curo chwyddiant.
Nid oes unrhyw ffordd sicr o amddiffyn eich arian rhag effeithiau chwyddiant.
Yr unig reol yw nad cyfrifon cynilo arian parod yn gyffredinol yw'r lleoedd gorau i roi eich arian yn y tymor hir - mae'r llog bron bob amser yn is na chwyddiant, felly mae’ch pŵer prynu yn lleihau.
Mae cyfrifon cynilo dal yn ddefnyddiol, yn enwedig am arian yr ydych am wario'n fuan.
Ond os ydych yn bwriadu rhoi arian i'r neilltu am bum mlynedd neu fwy, efallai y byddai'n well buddsoddi.