Cynlluniwr cyllideb
I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio
Yr Wythnos Siarad Arian hon, rydyn ni'n edrych ar y camau bach a all eich helpu i deimlo mewn mwy o reolaeth o'ch arian a'ch treth.
Pan mae angen i chi fod mewn rheolaeth o’ch arian, gall camau o bob maint wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae hyd yn oed gwneud rhywbeth bach fel arfer yn gwneud i chi deimlo'n well na gwneud dim.
Y thema ar gyfer Wythnos Siarad Arian eleni yw 'mae’r cyfan yn cyfrif', mae unrhyw gam syml i sortio allan eich arian yn lle gwych i ddechrau.
Mae lawrlwytho ap am ddim CThEFYn agor mewn ffenestr newydd a defnyddio gwefan Magu’ch Hyder o ran Treth CThEF yn ddwy ffordd fach o deimlo mewn mwy o reolaeth o’ch arian a'ch trethYn agor mewn ffenestr newydd, ond gallant gael effaith fawr.
Ffordd dda o weithredu a dechrau teimlo mewn mwy o reolaeth dros eich cyllid yw chwilio am bethau hawdd y gallwch eu gwneud. Yr Wythnos Siarad Arian hon, mae cymryd ychydig funudau i lawrlwytho'r ap am ddim CThEFYn agor mewn ffenestr newydd yn ffordd gyfleus i'ch helpu i gadw ar ben tasgau arian a threth syml, i gyd mewn un lle. Dyma ychydig o enghreifftiau o sut y gallai ap CThEF eich helpu chi.
Efallai nad ydych wedi sylweddoli, pan fyddwch chi’n lawrlwytho'r ap CThEF,Yn agor mewn ffenestr newydd gallwch weld yn gyflym faint y byddwch yn cael eich talu cyn i’r arian fynd i mewn i'ch cyfrif banc. Y ffordd hon, gallwch wneud yn siŵr ei fod yn iawn – a chynllunio eich cyllideb ar gyfer y mis sydd i ddod.
Pan fydd gennych lawer o bethau i’w gwneud ar yr un pryd, mae dod o hyd i ffyrdd o gadw ar ben tasgau ariannol yn arbennig o bwysig. Os ydych chi'n cael Budd-dal Plant, gallwch ddefnyddio ap CThEF i wirio faint y byddwch chi'n ei gael ar unrhyw bryd - efallai pan fydd y rhai bach wedi mynd i'r gwely o'r diwedd. Gallwch hefyd lawrlwytho prawf hawl yn gyflym os oes ei angen arnoch a diweddaru eich cyfeiriad os byddwch chi'n symud cartref. Dyma ychydig o ffyrdd y gall lawrlwytho ap CThEF wneud cyllid teuluol ychydig yn haws i'w reoli.
Gallai'r ap fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n ennill mwy na £60,000 ac efallai y bydd angen talu rhywfaint ohono yn ôl.
Os oes angen i chi atgoffa eich hun o'ch rhif Yswiriant Gwladol, gallwch ddod o hyd iddo a'i arbed ar eich waled ffôn unrhyw bryd ar ap CThEFYn agor mewn ffenestr newydd Felly, mae bob amser wrth law pan fydd ei angen arnoch.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ap i newid eich enw neu newid eich cyfeiriad, fel bod eich manylion yn gyfredol.
Gallwch weld eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth mewn ychydig o dapiau. Mae gwirio eich cod treth hefyd yn syml ar yr ap – un peth cyflym y gallwn ni i gyd ei wneud i sicrhau ein bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Gall cadw ar ben eich treth roi tawelwch meddwl i chi fod eich cyllid mewn trefn a'ch helpu i osgoi unrhyw bethau annisgwyl. Mae gan y rhan fwyaf o bobl dasgau sy'n gysylltiedig ag arian sy'n ymwneud â CThEF ar eu rhestr o bethau i'w gwneud, a gall ap CThEFYn agor mewn ffenestr newydd eu gwneud yn haws i'w cwblhau.
Gallwch ddefnyddio'r ap i wirio faint o dreth Hunanasesiad sydd gennych yn ddyledus, gosod nodyn atgoffa a gwneud taliadau pan fyddant yn ddyledus. Gallwch weld cipolwg o’ch incwm o'r gwaith yn y pum mlynedd flaenorol a faint o Dreth Incwm y dylech ei dalu. Gallwch hefyd gael mynediad i'ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiadu a'i gadw ar eich ffôn am y tro nesaf y mae ei angen arnoch. Hefyd, gallwch wirio a oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi a'i hawlio trwy ap CThEF, ac os yw'ch incwm yn newid, mae cyfrifiannell dreth ddefnyddiol i amcangyfrif eich cyflog cymryd adref.
Gall cadw mewn rheolaeth o’ch treth roi tawelwch meddwl i chi fod eich cyllid mewn trefn a'ch helpu i osgoi unrhyw bethau annisgwyl.
Gall treth weithiau deimlo'n gymhleth, ond gall cymryd ychydig o amser i ddysgu sut mae'n gweithio eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ac 'mewn rheolaeth'.
Mae Magu’ch Hyder o ran Treth yn wefan gan CThEF sydd â gwybodaeth am hanfodion treth – gan gynnwys beth mae'r cod treth ar eich slip cyflog yn ei olygu mewn gwirionedd a sut mae'n effeithio ar eich cyflog cymryd adref.
Mae gan y wefan fideos ac enghreifftiau defnyddiol ar ystod o bynciau, boed hynny'n dechrau eich swydd gyntaf, sefydlu busnes, neu feddwl am ymddeoliad. Dim barn, dim jargon, dim ond yr hanfodion y mae angen i chi eu gwybod. Beth am ymweld â Magu’ch Hyder o ran TrethYn agor mewn ffenestr newydd i fynd i'r afael â'r pethau sylfaenol yr Wythnos Siarad Arian hon a rhoi hwb i'ch hyder?
Fel bob tro yn ystod Wythnos Siarad Arian, rydym yn annog pawb i ddechrau sgyrsiau am arian. Beth am sôn am rai o'r teclynnau syml uchod i ffrindiau a theulu i'w helpu i gadw ar ben eu harian a'u treth? Gallai hyn fod yn ddechrau sgwrs syml i'ch helpu i agor i fyny am arian a threth yn gyffredinol - rhywbeth rydyn ni'n gwybod sy'n gadarnhaol ar gyfer lles ariannol cyffredinol.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy'n siarad am arian yn gwneud penderfyniadau ariannol gwell. Mae siarad am arian i blant yn helpu i ffurfio arferion arian da ar gyfer pan maent yn oedolion.
Mae adeiladu sgyrsiau ariannol i'n bywydau bob dydd hefyd yn helpu i adeiladu hyder a gwytnwch ariannol.
Pa un o'r sgyrsiau hyn allai eich helpu i deimlo'n llai pryderus ac mewn mwy o reolaeth?
Pa bynnag bwnc arian rydych chi'n ei ddewis, mae siarad am eich cyllid yn gam a allai wneud gwahaniaeth mawr.