Gall credyd weithio o blaid eich cyllid
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
09 Tachwedd 2022
Mae enw drwg gan gredyd weithiau, yn benodol pan mae’n gysylltiedig â dyled, ond boed yn gerdyn credyd, benthyciad personol, neu orddrafft, gall rhoi hyblygrwydd mawr ei angen i ledaenu costau pryniadau neu eich galluogi i gymryd mantais o fargeinion swmp-brynu a all wneud pryniadau pob-dydd yn fwy fforddiadwy yn y tymor hir.
Cerdyn credyd
Sicrhewch gallwch fforddio ad-daliadau cyn gwneud cais am gredyd trwy gyfrifo cyllideb eich cartref. Bydd cyllideb yn dangos os oes gennych unrhyw arian ar ôl ar ddiwedd y mis am yr ad-daliadau, pan rydych wedi talu’ch biliau a chostau byw.
Os yw’ch cyllid y dangos bod gennych ddigon o arian parod sbâr a gallwch fforddio benthyg beth rydych eisiau, cymerwch yr amser i gymharu’r ystod o opsiynau credyd sydd ar gael a ddewch o hyd i’r benthyg cywir i chi.
Mae cerdyn credyd yn eich galluogi i dracio’ch gwario, mae’n ffordd ddiogel i dalu ar-lein, ac yn wahanol i arian parod, mae’n cynnig amddiffyniad yn erbyn twyll neu gamddefnydd. Ac mae gan gardiau credyd digon o fanteision eraill.
Sgôr credyd
Bydd cynlluniau gwobr sy’n gysylltiedig â’ch cardiau credyd yn cynnig pwyntiau taliad arian-yn-ôl neu filltiroedd awyr am bob punt rydych yn gwario. Nid oes terfyn ar ble gallwch siopio, a gallwch amrywio faint rydych yn ad-dalu.
Ardal bwysig arall ble mae cael cerdyn credyd yn ddefnyddiol yw sefydlu, gwella, neu ail-adeiladu eich sgôr credyd.
Os nad oes gennych hanes credyd, mae agor eich cyfrif cerdyn credyd cyntaf a’i reoli’n gyfrifol yn rhoi’r cyfle i ddatblygu’ch ôl troed ariannol mewn modd cadarnhaol, a fydd yn eich helpu yn y dyfodol os ydych am gael benthyciad personol neu forgais. I wneud hwn, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cerdyn yn rheolaidd a naill ai ad-dalu’r balans neu wneud eich ad-daliadau misol ar amser.
Cadwch mewn cof, os ydych ond yn ad-dalu’r lleiafswm neu’n cronni bil na allwch dalu’n ôl, gall fod yn gostus ac os nad ydych yn mynd i’r afael ag e’n gynnar gall arwain at droell o ddyled. Os nad ydych yn talu’r bil llawn, codir llog arnoch sydd fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio i ddyddiad eich pryniad.
Undebau credyd
Opsiwn arall am fenthyg yw undebau credyd, sefydliadau cymuned ariannol sy’n cael ei rhedeg gan ac am ei aelodau. Mae’n rhaid bod cysylltiad cyffredin gan bobl sy’n cynilo neu’n fenthyg trwy un. Efallai byddent yn byw yn yr un ardal, gweithio am yr un cyflogwr neu fod yn yr un proffesiwn. Gallent hefyd fod yn aelodau o’r un eglwys neu undeb llafur.
Maent yn cael ei rhedeg ar sail ‘nid-er-elw’. Yn lle talu enillion i randdeiliaid, maent yn defnyddio’r arian maent yn ennill i wobrwyo ei aelodau a gwella’i gwasanaethau.
I gael benthyciad o undeb credyd, efallai bydd rhaid eich bod wedi bod yn aelod am gyfnod penodol neu wedi cronni rhai cynilion mewn cyfrif undeb credyd yn barod.
Darllenwch fwy ar bopeth sydd angen ei wybod am fenthyg o undeb credyd
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae cap ar y swm llog gall undebau credyd codi ar ei fenthyciadau o 3% y mis neu 42.6% APR y flwyddyn. Y cap yng Ngogledd Iwerddon yw 1% y mis, neu 12.68% APR y flwyddyn.
Nid oes ffioedd cudd gan fenthyciadau undeb credyd a dim cosbau os ydych yn ad-dalu’r benthyciad yn gynnar.
Prynu nawr talu wedyn
Mae credyd nawr wedi ehangu heibio cardiau, benthyciadau personol a gorddrafftiau i gynnwys Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) sef yr hyn sy’n cael ei chynnig gan ap siopa yn y siop neu ar-lein Klarna, sy’n rhoi’r dewis i brynu mewn tri rhandaliad neu setlo’ch cyfrif o fewn 30 diwrnod heb dalu llog. Ond mae’n bwysig nodi os ydych yn methu taliad, bydd yn cael ei nodi ar eich ffeil credyd a gall effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Gall gredyd bod yn ddefnyddiol pan mae’n cael ei rheoli’n dda. Ond os ydych yn ffeindio ei fod yn dod yn broblem ac rydych wedi methu dau neu fwy o daliadau, gallwch siarad ag arbenigwr heddiw, ar-lein neu dros y ffôn, a all eich helpu i ddechrau trefnu’ch problemau ariannol.