Ydych chi’n gordalu am fand eang, ffôn neu ddŵr? Efallai na ddylech chi fod…
Os ydych chi ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau, gallech chi gael biliau llawer rhatach .
Galwir y rhain yn dariffs cymdeithasol ond dydyn nhw ddim wastad yn hawdd i’w gweld!
Gallech fod yn gymwys os ydych chi’n derbyn:
· Credyd Cynhwysol,
· Credyd Pensiwn, neu
· Daliad Annibyniaeth Personol
Cysylltwch â’ch darparwr neu’ch cwmni dŵr i weld beth sydd ar gael
Dal mewn contract? Efallai gallwch newid i dariff rhatach
Allan o gontract? Chwiliwch beth sydd ar gael — gallai arbed arian i chi bob mis
A dydy hynny ddim popeth… Defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau
Chwiliwch am: Cyfrifiannell Budd-daliadau HelpwrArian