Beth yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes a sut alla i wneud cais?
![Ci bach yn edrych allan o dan flanced Ci bach yn edrych allan o dan flanced](/content/dam/maps/en/blogs/banners/small-dog-looking-out-under-blanket.jpg.pic.450.233.low.jpg)
Wedi'i ddiweddaru diwethaf:
25 Hydref 2023
Gyda biliau nwy a thrydan yn aros yn uchel y gaeaf hwn, mae’n werth darganfod a ydych yn gymwys i gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes lle gallwch gael gostyngiad o £150 ar eich biliau ynni gaeaf.
Mae’n gynllun a gefnogir gan y llywodraeth i helpu i ostwng costau os ydych ar incwm isel, yn cael rhai budd-daliadau ac yn ei chael hi’n anodd i dalu’ch biliau trydan neu nwy.
Felly sut ydych yn gwybod os ydych yn gymwys, sut i wneud cais a sut i gael y gostyngiad hwn? Yma yn HelpwrArian, rydym wedi llunio’r atebion i rai o’r cwestiynau pwysig hynny.
Beth yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Bydd y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn cymryd £150 oddi ar eich bil trydan am y biliau cyfnod y gaeaf rhwng mis Hydref 2024 a mis Mawrth 2025, os ydych yn gymwys. Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych chi’n berchennog tŷ neu’n rhentu’n breifat yng Ngogledd Iwerddon ac mae gennych incwm cartref o lai na £23,000, darganfyddwch fwy am y cynllun affordable warmthYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon.
Nid yw'r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi. Yn hytrach, cymhwysir gostyngiad i'ch bil trydan. Gallech hefyd gael arian oddi ar eich bil nwy os yw'ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi (a elwir yn dariff tanwydd deuol).
A allaf gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Efallai y gallwch gael gostyngiad Cartrefi Cynnes os ydych yn perthyn i un o ddau grŵp.
Grŵpcraidd 1. roeddech yn gymwys i gael yr elfen Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn ar 11 Awst 2024
I fod yn gymwys:
- mae’n rhaid i’ch enw chi neu’ch partner neu’ch priod fod ar y bil
- rydych chi neu’ch partner neu’ch priod yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
- rydych gyda chyflenwr ynni sy’n cynnig y Gostyngiad Cartref Cynnes.
Rwy’n meddwl fy mod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn ond heb wneud cais eto – a allaf gael y Gostyngiad Cartref Cynnes o hyd?
Gallwch – ond rhaid i chi wneud cais a chael cais llwyddiannus ar gyfer 11 Awst. Gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am uchafswm o dri mis. Mae hyn yn golygu os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn cyn 11 Tachwedd ac yn llwyddiannus, dylech allu cael y Gostyngiad Cartref Cynnes gan eich cyflenwr.
Ond nid yw Credyd Pensiwn yn cael ei ôl-ddyddio'n awtomatig. Mae hyn yn golygu mae’n rhaid i chi ofyn am ôl-ddyddio ar eich ffurflen gais. I gael gwybodaeth am Gredyd Pensiwn – gan gynnwys sut i wneud cais ac a ydych yn gymwys gweler ein canllaw Credyd Pensiwn.
Ar ôl i chi wneud cais byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda phenderfyniad. Os byddwch yn llwyddiannus dylech ffonio llinell gymorth Gostyngiad Cartref Cynnes ar: 0800 030 9322Yn agor mewn ffenestr newydd erbyn 28 Chwefror 2025 a dweud wrthynt eich bod yn meddwl eich bod newydd gymhwyso.
A allaf gael y Gostyngiad Cartref Cynnes os wyf wedi gwneud cais am Gredyd Pensiwn ond heb gael penderfyniad eto?
Gallwch. Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Pensiwn a bod eich cais yn dal i gael ei brosesu a bod gennych gais llwyddiannus yn cwmpasu 11 Awst, dylech allu cael y Gostyngiad Cartref Cynnes gan eich cyflenwr.
Os nad ydych wedi gofyn i’ch cais gael ei ôl-ddyddio, dylech ffonio’r llinell hawlio Credyd Pensiwn ar: 0800 99 1234Yn agor mewn ffenestr newydd cyn gynted â phosibl a gofyn i’ch hawliad gynnwys ôl-ddyddio.
Grŵp craidd 2 (grŵp ehangach os ydych ynYr Alban). Os ydych ar incwm isel ac yn cael budd-daliadauprawf modd penodol
I fod yn gymwys:
- Yn cael ynni gan gyflenwr sy’n cynnig y Gostyngiad Cartref Cynnes.
- Ar incwm isel, yn cael rhai budd-daliadau prawf modd ac mewn perygl o dlodi tanwydd.
Gweler a ydych yn gymwys gan ymweld â gwiriwr cymhwysedd y Gostyngiad Cartref Cynnes GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae gwledydd yn y DU yn mesur tlodi tanwydd yn wahanol:
- Yn Lloegr, cewch eich asesu os oes gennych incwm isel a chostau cartref uchel.
- Yng Nghymru ar Alban, cewch eich asesu fel eich bod mewn tlodi tanwydd os ydych yn gwario mwy na 10% o incwm eich cartref ar gostau ynni.
- Yng Ngogledd Iwerddon, nid yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gael ond mae cynlluniau ynni a grantiau a allai helpu gydag arbed ynni.
Newidiodd y rhestr o fudd-daliadau a fydd yn eich gwneud yn gymwys i gael y Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi newid yn 2022. Os nad ydych yn derbyn llythyr am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes erbyn canol mis Ionawr ond rydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys amdano, gallwch ffonio llinell gymorth y cynllun ar 0800 030 9322Yn agor mewn ffenestr newydd cyn 28 Chwefror 2025.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Darganfyddwch fwy am effeithlonrwydd ynni yng Ngogledd Iwerddon (Opens in a new window)
Pa fudd-daliadau sy’n gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Bydd os ydych yn gymwys ar gyfer Gostyngiad Cartrefi Cynnes fel rhan o grŵp craidd 2 yn dibynnu ar eich incwm a’ch costau ynni, ond efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn cael un o’r budd-daliadau prawf modd canlynol:
- Credyd Cynhwysol (elfennau incwm isel)
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (sy’n cynnwys yr elfen gweithgaredd sy’n gysylltiedig â Gwaith neu’r elfen gymorth)
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth PlantYn agor mewn ffenestr newydd (os yw'ch incwm yn is na swm penodol)
- Credyd Treth GwaithYn agor mewn ffenestr newydd (os yw'ch incwm yn is na swm penodol).
Mae’n rhaid i Gredyd Cynhwysol hefyd gynnwys un o’r taliadau hyn:
- Elfen plentyn ar gyfer plant 5 oed neu lai
- Elfen plentyn anabl
- Premiwm anabledd neu bensiynwr.
Ar gyfer Yr Alban, mae gan bob cyflenwr ynni meini prawf ei hun ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y grŵp incwm isel ehangach.
Beth os nad ydw i’n derbyn llythyr?
Os nad ydych yn gymwys yn awtomatig ar gyfer Gostyngiad Cartrefi Cynnes, efallai mai’r rheswm am hyn yw nad oes gan y llywodraeth ddigon o wybodaeth amdanoch chi na’ch costau ynni. Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 0800 030 9322Yn agor mewn ffenestr newydd cyn diwedd Chwefror 2025 i apelio yn erbyn eu penderfyniad.
Efallai y gofynnir i chi am ddogfennau i brofi eich cymhwysedd fel bil ynni gyda'ch enw arno neu dystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau.
Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi am Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich cartref. Gallwch edrych ar eich un chi am ddim ar Gofrestr EPCYn agor mewn ffenestr newydd neu Gofrestr EPC yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd Yn y gorffennol mae’r llywodraeth wedi derbyn EPCs sydd wedi dod i ben, ond nid ydym yn gwybod a fyddent yn gwneud hynny’r flwyddyn hon.
Os nad oes unrhyw wybodaeth ar gyfer eich cyfeiriad:
- Ar gyfer rhentwyr dylech gysylltu â'ch landlord, oherwydd yn gyfreithiol mae'n rhaid i bob eiddo sy'n cael ei rentu cael Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fyddant yn cael eu rhentu allan.
- Os ydych yn berchen ar eich cartref, gall cael Tystysgrif Perfformiad Ynni gostio rhwng £35 a £120, neu gall yr Adran Gwaith a Phensiynau chwilio am fanylion eich cartref ar y Gofrestrfa Tir (mae ffi o £3).
Chi sydd i benderfynu a yw’n werth y gost o gael Tystysgrif Perfformiad Ynni i hawlio’r Gostyngiad Cartref Cynnes o £150. Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn para 10 mlynedd, ond nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn gymwys yn y dyfodol.
Sut wyf yn gwneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Nid oes angen i grŵp craidd 1 a grŵp craidd 2 wneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes bellach yng Nghymru a Lloegr. Dylai eich darparwr wybod a ydych yn gymwys yn barod. Os ydych yn byw yn Yr Alban ac yn gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes oherwydd incwm isel, bydd angen cysylltu â’ch darparwr mor fuan â phosibl gan mai dim ond nifer cyfyngedig o ostyngiadau sydd ar gael.
Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o’r gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig bob blwyddyn. I ddarganfod mwy am os ydych yn gymwys gallwch ffonio llinell ffôn Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth ar 0800 107 8002 rhwng 14 Tachwedd 2022 a 31 Mawrth 2023.
Os ydych â chyflenwr ynni nad yw’n cynnig Gostyngiad Cartrefi Cynnes, ond rydych dal yn gymwys amdano, gallwch newid i gwmni sy’n ei ddarparu os bydd hynny'n arbed arian i chi.
Mae gan y mwyafrif o gwmnïoedd Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gallwch ddod o hyd i restr o gyflenwyr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gael i chi os ydych yn byw mewn cartref parc, fodd bynnag bydd angen i chi wneud cais amdano. Mae mwy o fanylion am y gostyngiad ar gael ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pryd allaf wneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Os ydych ar incwm isel a’n byw yn Yr Alban, gwiriwch wefan eich cyflenwr i weld pryd y gallwch wneud cais am Ostyngiad Cartrefi Cynnes. Fel arfer mae hyn yn yr hydref a dylech dderbyn eich taliad erbyn diwedd mis Mawrth.
Os nad ydych yn byw yn Yr Alban neu rydych yn byw yn Yr Alban ond yn cael elfen Gwarant Credyd o Gredyd Pensiwn, nid oes angen i chi wneud cais.
Pa gwmnïau ynni sy’n cynnig y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae nifer o gyflenwyr ynni yn cynnig y gostyngiad hwn. Fodd bynnag nid yw pob cyflenwr yn cymryd rhan yn y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Os ydych yn gymwys i gael y gostyngiad ac nad yw eich cyflenwr presennol yn ei gynnig, efallai yr hoffech newid cyflenwr i un sydd yn ei gynnig.
Beth os oes gen i fesurydd talu rhagdaledig neu dalu wrth ddefnyddio?
Os ydych yn defnyddio mesurydd talu rhagdaledig neu dalu wrth ddefnyddio, gallwch barhau i fod yn gymwys am y gostyngiad. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’ch cyflenwr trydan ac ar yr amod eich bod yn gymwys, byddant yn cymhwyso’r gostyngiad yn awtomatig.
Darllenwch fwy am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn GOV.UK (Opens in a new window)
A fydd y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn effeithio ar daliad tywydd oer neu fy nhaliad tanwydd gaeaf?
Na, nid yw talu Gostyngiad Cartref Cynnes yn effeithio ar eich hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf neu Daliad Tywydd Oer.
Pa ffyrdd eraill y gallaf arbed arian ar fy miliau ynni?
Darganfyddwch sut y gallwch arbed arian a lleihau eich biliau ynni yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich nwy a’ch biliau
Rwy’n ei chael hi’n anodd talu fy miliau ynni, beth alla i ei wneud?
Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch biliau, darllenwch ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Hydref 2021