Beth i’w wneud os bydd eich budd-daliadau’n cael eu torri

Os ydych yn cael budd-daliadau ac mae rhywbeth yn eich bywyd yn newid, efallai bydd yn golygu bod y swm fydd gennych i fyw arno yn lleihau. Gall hyn arwain at bwysau ar gyllideb eich cartref a phryderon ynghylch dyledion. Darganfyddwch beth gallwch ei wneud i gael dau ben llinyn ynghyd yn y byrdymor, yna edrychwch ar ffyrdd hirdymor i reoli eich arian.

Toriadau mewn cymorth Tai

Os yw’ch Budd-dal Tai neu elfen costau tai eich Credyd Cynhwysol wedi’i dorri, efallai oherwydd y cap budd-daliadau neu ystafell wely sbâr, yna mae’n bosibl eich bod yn poeni am fethu â thalu’ch rhent. Neu efallai fod gennych ôl-ddyledion rhent yn barod.

Mae budd-dal tai yn un o chwe budd-dal sy'n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.

Cysylltwch â’ch landlord

Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent -  siaradwch â’ch landlord i weld a oes unrhyw ddewisiadau ar gael i chi.

A ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol? Yna efallai y bydd eich cyngor neu gymdeithas dai yn siarad â chi am drosglwyddo i gartref llai - os oes rhai ar gael. A gallant eich cynghori ynghylch a allai unrhyw gymorth ariannol ychwanegol fod ar gael i chi.

Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor

Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am gymorth i helpu i ychwanegu at eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn y tymor byr gyda Thaliad Tai Dewisol

Maent ar gael i bobl sy’n wynebu diffyg rhwng eu budd-daliadau a chostau tai.

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i wneud cais am Daliad Tai Dewisol.

Ystyriwch gael lojar

Efallai bod rhentu eich ystafell sbâr yn bosibilrwydd.

Os penderfynwch fynd i lawr y llwybr hwn, mae rhai pethau y dylech wybod:

  • O gael lojar ni fyddech yn cael eich ystyried fel rhywun ag ystafell sbâr pan ddaw yn fater o asesu eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.
  • Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, ni chyfrifir unrhyw arian rydych yn cael gan is-denantiaid a lojars o dan gynllun rhentu ystafell yn incwm hyd at y lwfans di-dreth o £7,500. Mae hyn yn golygu ei bod yn ffordd i ychwanegu at eich incwm.
  • Fodd bynnag, os ydych ar Fudd-dal Tai, heblaw am yr £20 yr wythnos cyntaf, mae’r arian ychwanegol rydych yn debygol o’i gael mewn rhent yn debygol o gael ei dynnu -  bunt am bunt - o’ch budd-daliadau.
  • Bydd rhaid i chi wirio bod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi is-logi ystafell.
  • Efallai na fydd eich yswiriant cynnwys yn ddilys os byddwch yn cymryd lojar. Gwnewch yn siŵr eich bod yn holi’ch yswiriwr os ydych yn dal wedi’ch yswirio.

Gweithredwch yn gyflym os oes gennych ôl-ddyledion rhent

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent eisoes, mae rhaid i chi siarad â’ch landlord yn syth.

Efallai y gallwch ddod i gytundeb â hwy lle cewch dalu’r arian sy’n ddyledus gennych fesul tipyn.

Os ydych angen cyngor ynglŷn â sut i ddelio â’ch landlord, neu os ydych yn poeni am golli’ch cartref, gallwch ffonio Shelter neu Gyngor ar Bopeth.  Neu Housing Advice NI yng Ngogledd Iwerddon.

Treth Gyngor

Mae gan gynghorau lleol eu Cynlluniau Gostyngiad y Dreth Gyngor eu hunain.

Mewn rhai ardaloedd ni fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw beth tuag at eich bil Treth Gyngor. Ond mewn ardaloedd eraill mae’n bosibl y bydd rhaid ichi dalu canran ohono.

Gwiriwch fod y bil a anfonwyd i chi’n gywir

Mae’n werth gwirio bod eich cyngor yn codi’r swm cywir o Dreth Gyngor arnoch.

Dylech wirio bod eich cartref wedi’i osod yn y band cywir ac a ydych yn gymwys am unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.

Gofynnwch i’ch cyngor am ledaenu’r taliadau dros 12 mis

Gallwch ddewis lledaenu’ch taliadau dros 12 mis yn lle 10. Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofyn iddynt am sefydlu taliadau misol.

Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch Treth Gyngor

Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch taliadau Treth Gyngor. Mae mwy o wybodaeth yn adran ‘Toriadau Budd-daliadau Tai’ y canllaw hwn, uchod.

Os yw’ch budd-daliadau wedi’u torri o ganlyniad i sancsiwn

Os yw’ch budd-daliadau wedi’u sancsiynu mae pethau y gallwch eu gwneud.  Gallwch:

  • gwirio bod y sancsiwn yn gywir a’i herio os nad yw
  • ymgeisio am daliad caledi o’ch Canolfan Byd Gwaith leol
  • cael cymorth gyda chostau hanfodol gan eich cynllun lles lleol.

Cyngor am ddim ar ddyledion

Os ydych yn poeni am fynd i ddyled â biliau neu am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim.

Help gyda chyllidebu

Ystyriwch faint sydd gennych i fyw arno

Amcangyfrifwch faint o arian sydd gennych yn dod i mewn. Yna rhestrwch eich holl alldaliadau.

Ystyriwch faint o arian sydd ei angen arnoch i dalu am y pethau sylfaenol?

Cofiwch mai biliau fel eich rhent neu forgais, eich Treth Gyngor a’ch biliau nwy a thrydan a ddylai fod yn flaenoriaeth gyntaf i chi.

Gwiriwch i weld os gallwch wneud unrhyw arbedion

A oes unrhyw ffordd i leihau’ch gwariant? A oes unrhyw filiau lle rydych yn ystyried ei bod yn bosibl y gallech gael bargen well?

Darllenwch ein Hawgrymiadau ar arbed arian i wirio a oes unrhyw arbedion y gallwch eu gwneud.

I gael awgrymiadau ymarferol, arbed arian bob dydd, edrychwch ar ein Canllawiau Fy Arian.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.