Beth yw’r cap ar fudd-daliadau? Faint ydyw? Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybod i chi am y cap ar fudd-daliadau, yn cynnwys pwy sy’n cael ei effeithio a phwy sydd wedi’i eithrio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r cap ar fudd-daliadau?
- Sut mae’r cap ar fudd-daliadau yn gweithio?
- Faint yw’r cap ar fudd-daliadau?
- Eithriadau i’r cap ar fudd-daliadau
- Pa fudd-daliadau a gynhwysir yn y cap ar fudd-daliadau?
- Pa fudd-daliadau nas cynhwysir yn y cap ar fudd-daliadau?
- Beth i’w wneud os ydych yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau
- Darganfyddwch fwy
Beth yw’r cap ar fudd-daliadau?
Os ydych dros 16 ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd terfyn ar gyfanswm y budd-daliadau y gall eich cartref eu cael. Yr enw ar hwn yw cap ar fudd-daliadau.
Os yw eich incwm dros y terfyn hwn, efallai y bydd eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol gael ei leihau.
Gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut mae’r cap ar fudd-daliadau yn gweithio?
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, mae yna derfyn ar faint o incwm y gallwch gael.
Os yw’ch incwm yn mynd uwchben y swm hwn, bydd eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn cael ei ostwng nes bydd eich incwm yn syrthio islaw’r terfyn.
Byddwch wedi eich eithrio o’r cap ar fudd-daliadau os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith neu rai budd-daliadau anabledd.
Os nad ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy am y cap ar fudd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon ar nidrect
Faint yw’r cap ar fudd-daliadau?
Mae yna derfynau gwahanol, yn dibynnu a ydych chi'n byw yn Llundain Fwyaf neu rywle arall.
Gwiriwch os ydych yn byw yn Llundain ar wefan Cynghorau Llundain
Uchafswm budd-daliadau | Pwy fydd hyn yn effeithio arnynt |
---|---|
£2,110.25 y mis (£486.98 yr wythnos) y tu mewn i Lundain Fwyaf; £1,835 y mis (£423.46 yr wythnos) y tu allan i Lundain Fwyaf (cyfraddau 2024/25) |
|
£1,413.92 y mis (£326.26 yr wythnos) yn Llundain Fwyaf; £1,229.42 y mis (£283.71 yr wythnos) y tu allan i Lundain Fwyaf (cyfraddau 2024/25) |
Os ydych yn berson sengl a naill ai:
|
Eithriadau i’r cap ar fudd-daliadau
Ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner:
- yn hawlio Credyd Treth Gwaith, hyd yn oed os dyfarnir dim byd o gwbl i chiYn agor mewn ffenestr newydd. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
- dros oed Credyd Pensiwn. Gwiriwch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK
- yn cael Credyd Cynhwysol yn sgil anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio, neu oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sydd ag anabledd
- yn cael Credyd Cynhwysol a bod incwm misol eich cartref yn fwy na £793.17 ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ni chewch eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau os ydych chi, eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed sy’n byw gyda chi yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn:
- Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os cewch yr elfen gymorth)
- Taliad Anabledd Oedolion (ADP)
- Taliad Anabledd Plant
- Lwfans Gwarcheidwad
- Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfwerth fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Pensiynau rhyfel
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.
Os nad ydych yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau hyn ac yn meddwl bod gennych hawl i wneud, gallai fod o fudd i gyflwyno cais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Credyd Treth Gwaith
Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
Pa fudd-daliadau a gynhwysir yn y cap ar fudd-daliadau?
Cynhwysir y budd-daliadau dilynol wrth gyfrifo a yw uchafswm eich incwm o fudd-daliadau’n fwy na’r cap:
- Lwfans Profedigaeth
- Budd-dal plant
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen cymorth)
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Mamolaeth
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Rhiant Gweddw
- Lwfans Mam Weddw
- Pensiwn Gweddw.
Pa fudd-daliadau nas cynhwysir yn y cap ar fudd-daliadau?
- Taliad profedigaeth (diystyrir y taliad cymorth profedigaeth newydd hefyd)
- Benthyciadau cyllidebu
- Taliadau tywydd oer
- Gostyngiad yn y Dreth Cyngor
- Taliadau tai dewisol
- Prydau ysgol am ddim
- Taliadau angladd
- Credyd pensiwn
- Taliadau Cymorth Lles Lleol (Lloegr)
- Taliadau Cronfa Les yr Alban
- Taliadau Cronfa Cymorth Dewisol (Cymru)
- Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth
- Tâl Mabwysiadu Statudol
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol
- Cyflog Statudol a Rennir gan Rieni
- Tâl Salwch Statudol
- Grantiau mamolaeth Cychwyn Cadarn.
Beth i’w wneud os ydych yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau
Cysylltwch â’ch landlord
Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â’ch landlord i egluro’ch sefyllfa ac i siarad am eich opsiynau.
Os ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol, mae’n bosibl y bydd eich cyngor neu gymdeithas adeiladu’n gallu cynnig eiddo rhatach ichi (os oes rhai ar gael).
Gwenwch gais i’ch awdurdod lleol am Daliad Tai Dewisol
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am gymorth yn y tymor byr gyda Thaliad Tai Dewisol.
Darganfyddwch eich cyngor lleol yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch eich cyngor lleol yn yr Alban ar wefan mygov.scot
Darganfyddwch eich cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon ar wefan nidirect
Darganfyddwch fwy am y Taliadau Tai Dewisol ar wefa Turn2Us
Darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Lluniwch gyllideb
Os nad oes gennych gyllideb i’ch cartref eisoes (rhestr o’ch holl incwm a thaliadau) yna dyma’r adeg i lunio un.
Ac os oes gennych gyllideb, bydd angen i chi weld a allwch chi gael dau ben llinyn ynghyd ar ôl i’ch Budd-dal Tai gael ei ostwng.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer taliad budd-daliadau misol
Edrychwch ar ffyrdd i gwtogi ar gostau
Hefyd efallai y bydd yn ddefnyddiol ichi ddarllen rhai o’n tudalennau ar arbed arian ar filiau’r cartref:
Cael help gyda’ch chwiliad gwaith
Darllenwch fwy am ddod o hyd i swydd ar wefan GOV.UK
Cymryd gwaith ychwanegol
Gallech hefyd ystyried cymryd swydd arall, neu weithio mwy o oriau yn eich swydd bresennol.