Sut i hawlio Budd-dal Plant

Gall hawlio Budd-dal Plant roi hwb mawr i gyllideb eich teulu. Os ydych newydd gael babi, sicrhewch eich bod yn hawlio cyn i’r babi gyrraedd tri mis oed. Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i unrhyw beth, mae’n bwysig i hawlio o hyd, fel nad ydych yn colli cyfle i gael budd-daliadau eraill.

Pwy sy’n cael hawlio Budd-dal Plant?

Gallwch hawlio Budd-dal Plant am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdanynt, p’un ai’ch bod yn gweithio neu â chynilion neu beidio. Nid yw’n ofynnol i chi fod yn rhiant i’r plentyn i hawlio.

Gallwch hawlio am bob plentyn:

  • dan 16 oed
  • dan 20 oed - os ydynt mewn hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyir.

Darganfyddwch fwy am beth yw hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyir ar yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Bydd eich Budd-dal Plan t yn dod i ben os bydd eich plentyn yn dechrau gwaith cyflogedig am 24 awr neu ragor yr wythnos, ac ni fydd mewn addysg neu hyfforddiant a gymeradwyir mwyach.

Mae hyn yn berthnasol hefyd os bydd eich plentyn yn cychwyn prentisiaeth neu’n dechrau cael budd-daliadau ei hunan.

Nid oes treth i’w thalu ar y taliadau os nad yw yr un o’r rhieni neu’r gofalwr yn ennill mwy na £50,000 y flwyddyn.

 

Faint yw Budd-dal Plant?

Yn y flwyddyn dreth 2023/24 gallwch hawlio:

  • £24 yr wythnos am eich plentyn cyntaf
  • £15.90 yr wythnos am unrhyw blant eraill.

Dyna dros £1,200 y flwyddyn os oes gennych chi un plentyn a £800 arall ar gyfer pob plentyn arall.

Budd-dal Plant os ydych yn ennill mwy na £50,000

Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £50,000 y flwyddyn, gallwch hawlio Budd-dal Plant o hyd.

Fodd bynnag, byddwch yn dechrau talu peth yn ôl mewn Treth Incwm ychwanegol.

Bydd angen i chi ad-dalu 1% o Fudd-dal Plant eich teulu am bob £100 ychwanegol o’ch incwm sydd dros £50,000.

Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000, bydd yn rhaid i chi dalu’r cyfan o’ch Budd-dal Plant yn ôl trwy Dreth Incwm ychwanegol.

Gallai eich cyflog fod dros £50,000, ond yr hyn y mae CThEF yn talu sylw iddo yw eich ‘incwm net wedi’i addasuYn agor mewn ffenestr newydd’. Dyma'r tâl rydych yn cael eich trethu arno ac nid yw'n cynnwys pethau rydych yn talu amdanynt trwy aberth cyflog.

Gallwch leihau eich tâl adref drwy gynyddu eich cyfraniadau pensiwn yn y gweithle. Gallwch hefyd wneud hyn drwy dalu i bensiwn personol.

Os gallwch fforddio gwneud hyn, gallai gyfyngu ar faint o Fudd-dal Plant y bydd angen i chi ei dalu'n ôl. Efallai yr hoffech siarad â chyfrifydd am hyn i gael mwy o wybodaeth.

Hyd yn oed os oes angen i chi ad-dalu popeth, gall fod yn werth parhau i hawlio Budd-dal Plant gan y bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael Credydau Yswiriant Gwladol sy'n cyfrif tuag at eich pensiwn gwladol.

Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad yw un ohonoch yn gweithio neu'n ennill islaw'r terfyn enillion is ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24 y terfyn enillion is yw:

  • £123 yr wythnos
  • £533 y mis
  • £6,396 y flwyddyn.

Sut i hawlio Budd-dal Plant

Gallwch nawr wneud cais neu newid eich cais am Fudd-dal Plant ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK neu drwy ap CThEF.

Gallwch lenwi ffurflen gais (CH2) a’i hanfon i’r Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych am wneud cais ar-lein. Lawrlwythwch y ffurflen o yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

 

Os cafodd eich plentyn ei eni yng Ngogledd Iwerddon neu y tu allan i’r DU, byddwch hefyd angen anfon tystysgrif geni gwreiddiol eich plentyn. Byddwch yn ei gael yn ôl.

Os cafodd eich plentyn ei eni yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, nid oes angen i chi anfon tystysgrif geni eich plentyn.  Ond gwnewch yn siŵr ei fod gennych wrth law gan y byddwch angen gwybodaeth sydd arno ar gyfer y ffurflen gais Budd-dal Plant.

Os yw’ch plentyn wedi’u mabwysiadu, anfonwch eu tystysgrif mabwysiadu wreiddiol gyda’r ffurflen.

Gallwch archebu tystysgrif mabwysiadu newydd o yn GOV.UK os ydych wedi colli’r gwreiddiolYn agor mewn ffenestr newydd

Ydych chi eisoes yn hawlio Budd-dal Plant ac angen diweddaru’r hawliad ar gyfer plentyn newydd? Yna gallwch ddiweddaru eich cais ar-lein neu lenwi ffurflen CH2.  Neu gallwch ychwanegu’r manylion drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant, 0300 200 3100.

Pam ei bod hi’n bwysig hawlio Budd-dal Plant

Os na fyddwch yn hawlio gallech golli cyfle i gael:

  • budd-daliadau eraill, fel Lwfans Gwarcheidwad (budd-dal y gallwch ei hawlio os ydych yn magu plentyn y mae ei rieni wedi marw)
  • eich plentyn yn derbyn rhif Yswiriant Gwladol fel mater o drefn cyn eu ben-blwydd yn 16 oed.

Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i unrhyw beth - gan eich bod chi neu’ch partner yn ennill mwy na’r terfyn di-dreth o £50,000 – mae’n dal werth hawlio. Mae hyn er mwyn i chi beidio â cholli allan ar gredydau Yswiriant Gwladol.

Os bydd y naill ohonoch neu’r llall yn ennill dros £60,000, gallwch ddewis peidio â derbyn y taliadau.  Byddwch yn osgoi’r taliad treth, ond parhau i gael yr hawliadau. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.