Beth i’w wneud ynglŷn â’ch dyled os byddwch yn colli’ch swydd

Mae arian yn bryder mawr pan rydych wedi cael eich diswyddo neu wedi colli'ch swydd - ac mae gennych ddyledion. Hyd yn oed os ydych wedi cael taliad diswyddo gweddus, gallai cadw ad-daliadau roi straen ar eich cyllid. Dyma rai camau syml i helpu gyda'ch dyled.

Cam 1 – gwnewch restr o’ch holl ddyledion

Rhestrwch eich holl ddyledion - gan gynnwys y rhai y mae'n well gennych beidio â meddwl amdanynt. Er enghraifft:

  • benthyciad car
  • morgais
  • biliau cyfleustodau
  • cardiau siop
  • cardiau credyd
  • Treth Cyngor.

Mae angen mynd i'r afael â nhw i gyd ar ryw adeg. Felly mae angen i chi ddechrau gyda darllun clir o ble rydych yn sefyll.

Cynhwyswch y balansau sy'n ddyledus a faint rydych chi'n ei dalu bob mis.

Cam 2 – hawlio ar yswiriant

  • Bydd yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI) yn talu eich ad-daliadau morgais am gyfnod penodol pan nad ydych yn ennill arian.
  • Bydd yswiriant diogelu taliadau (PPI) yn talu peth o’ch benthyciad neu ad-daliadau cerdyn neu’r cyfan ohonynt am hyd at 12 neu 24 mis.
  • Bydd yswiriant diogelu incwm tymor byr yn rhoi cyfran o’ch incwm i chi am hyd at 12 mis neu 24 mis.

Darganfyddwch a allech fod wedi tynnu unrhyw un o'r rhain allan o'r blaen. Os ydych chi, gwnewch hawliad.

Yn y gorffennol, oherwydd y ffordd y cafodd polisïau amddiffyn taliadau eu gwerthu, efallai na fyddech yn sylweddoli bod gennych yr yswiriant hwn.

Gofynnwch i'ch benthyciwr a yw yswiriant ar eich morgais, benthyciad neu gerdyn credyd.

Os oes gennych yswiriant a bod eich cais yn cael ei wrthod, efallai bod y polisi wedi cael ei gam-werthu i chi a gallech fod yn gymwys i gael iawndal hawlio.

Cam 3 – blaenoriaethwch y dyledion sydd ar ôl

Gall colli eich swydd eich bwrw yn hawdd o sefyllfa ble rydych yn rheoli eich ad-daliadau i un ble maen nhw dechrau teimlo allan o reolaeth.

Dechreuwch drwy fod yn glir yn eich meddwl pa ddyledion ddylai gael blaenoriaeth.

Dyledion sydd â blaenoriaeth

Mae pethau fel eich morgais, eich rhent, ac unrhyw dreth neu filiau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hystyried yn ddyledion sydd â blaenoriaeth.

Os na fyddwch yn talu’r dyledion hyn gallech golli eich cartref neu gael eich troi allan, gallai eich cyflenwad nwy neu drydan gael ei ddiffodd, neu gallai eich eitemau hanfodol (fel eich car) gael eu hailfeddiannu.

Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Mae pethau fel biliau cardiau credyd, benthyciadau nad ydynt yn ddiogel, gorddrafftiau banc, a dyledion catalogau yn cael eu hystyried yn ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.

Os na fyddwch yn talu’r dyledion hyn, nid yw’r canlyniadau mor ddifrifol. Ni chaiff y cwmnïau y mae arnoch arian iddynt gymryd eich cartref, er enghraifft.

Y peth gwaethaf all ddigwydd yw y gallent fynd â chi i'r llys a’ch gorchymyn i dalu swm y bernir ei fod yn fforddiadwy o’r incwm sydd gennych.

Cam 4 – cyfrifwch eich cyllideb

Mynnwch syniad clir o'r hyn sydd gennych chi i ddod a beth sy'n mynd allan.

Y swm sydd ar ôl ar ôl talu am eich:

  • biliau cartrefi
  • costau byw
  • ad-daliadau a llog ar unrhyw beth sy'n ddyledus gennych,

yw'r hyn sydd ar gael i ddechrau talu'ch dyledion yn gyflymach.

Cam 5 – dechreuwch dalu eich dyledion

Ar ben yr hyn sydd ar ôl ar ddiwedd bob mis, gallwch hefyd ddefnyddio tâl dileu swydd neu gynilion i dalu peth o’ch dyled.

Mae’n well dechrau gyda dyledion sydd â blaenoriaeth yn gyntaf..

Ystyriwch gadw peth o’ch tâl dileu swydd i ychwanegu at eich incwm yn ystod yr amser nad ydych yn gweithio neu i dalu biliau annisgwyl.

Angen help?

Os ydych am gael cymorth i reoli’ch dyledion, mae nifer o ffynonellau cyngor a chymorth annibynnol rhad ac am ddim ar gael.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.