Os ydych wedi’ch diswyddo neu golli’ch swydd yn ddiweddar, efallai y gallech hawlio ychydig o’r dreth yn ôl a daloch pan oeddech yn gweithio. Gelwir hyn yn cael “ad-daliad treth”.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut i hawlio treth yn ôl ar ôl cael eich diswyddo neu golli’ch swydd
Cam 1 – A oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi?
Efallai y bydd ad-daliad yn ddyledus i chi os byddwch yn ateb ‘ie’ i bob un o’r cwestiynau isod.
- A gawsoch eich diswyddo neu golli eich swydd hanner ffordd drwy’r flwyddyn dreth? Mae’r flwyddyn dreth yn dechrau ar y 6 Ebrill ac yn gorffen ar y 5 Ebrill canlynol.
- Oeddech yn gyflogedig ac yn talu treth trwy TWE (Talu Wrth Ennill)?
- A ydych dal allan o waith?
Bydd y swm allwch ei gael yn ôl yn dibynnu ar:
- faint y gwnaethoch ennill ers i’r flwyddyn dreth ddechrau
- faint o dreth y gwnaethoch ei thalu ar yr enillion hynny ac unrhyw incwm arall.
Cam 2 – Edrychwch ar faint o dreth sy’n ddyledus i chi
Mae yna teclyn gwirio treth syml ar wefan Cyllid a Thollau EM (CThEM).
Ni ddylai ond cymryd ychydig funudau i weld yn fras faint o arian y gallwch ei hawlio.
Cyn defnyddio’r gwiriwr treth byddwch angen dod o hyd i beth gwaith papur, fel slipiau cyflog a datganiadau banc - ond mae hynny i gyd yn cael ei egluro ar eu gwefan.
I ddarganfod os ydych wedi talu gormod o dreth, defnyddiwch y gwiriwch treth ar wefan GOV.UK
Cam 3 – Hawlio eich treth yn ôl
Bydd y ffordd o fynd ati i gael eich ad-daliad yn dibynnu ar:
- pa mor hir rydych wedi bod yn ddi-waith
- p‘un a ydych wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau trethadwy ers i chi golli eich swydd
- p'un a ddaethoch o hyd i swydd arall o fewn o leiaf pedair wythnos i'ch diwrnod olaf o gyflogaeth â thâl.
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu fudd-daliadau trethadwy eraill
Os ydych wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau trethadwy ers i chi golli eich swydd, bydd eich Swyddfa Fudd-daliadau yn talu eich ad-daliad.
Mae hyn oherwydd bod y dreth rydych yn ei thalu ar eich budd-daliadau yn effeithio ar faint y swm sydd arnoch.
Mae budd-daliadau trethadwy yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith a Lwfans Gofalwr.
Byddwch angen anfon rhannau 2 a 3 o’ch P45 i’r Swyddfa Fudd-daliadau i hawlio eich ad-daliad treth. Mae’n bwysig i gadw rhan 1A ar gyfer eich cofnodion.
Byddant yn cyfrifo eich ad-daliad ac yn ei dalu un ai ar ôl diwedd y flwyddyn dreth neu ar ôl i chi orffen hawlio budd-daliadau trethadwy, pa bynnag un sy’n dod gyntaf.
Ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol?
Gan nad yw Credyd Cynhwysol yn fudd-dal trethadwy, efallai y byddwch yn gallu hawlio unrhyw ordaliad o dreth gan HRMC unwaith y byddwch wedi bod yn ddi-waith am o leiaf bedair wythnos gan ddechrau gyda'ch diwrnod olaf o wasanaeth y cawsoch daliad terfynol gan eich cyflogwr blaenorol.
Os byddwch yn dechrau swydd newydd yn y cyfamser, bydd eich cyflogwr newydd yn ad-dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus i chi drwy TWE (Talu Wrth Ennill).
Rhowch rannau 2 a 3 o’ch P45 iddynt - gan gadw rhan 1A ar gyfer eich cofnodion. Byddwch yn cael eich ad-daliad gyda’ch cyflog.
Rhowch rannau 2 a 3 o’ch P45 i’ch cyflogwr i hawlio eich ad-daliad treth.
Os ydych wedi bod allan o waith am o leiaf pedair wythnos
- Gallwch hawlio ad-daliad treth trwy lenwi ffurflen P50. Lawrlwythwch ffurflen P50 o wefan GOV.UK
- Cysylltwch â CThEM cyn llenwi’r ffurflen a byddant yn dweud wrthych chi pa wybodaeth arall fydd angen i chi ei rhoi iddynt. Gwnewch hyn drwy wefan GOV.UK neu ffoniwch 0300 200 1900.
- Anfonwch hon at CThEM gyda rhannau 2 a 3 o’ch P45.
Dylech gael eich ad-daliad yn y post o fewn y flwyddyn dreth.
Treth ar eich arian diswyddo
Mae hyd at £30,000 o dâl diswyddo yn ddi-dreth.
Ond os yw eich arian diswyddo yn cynnwys tâl gwyliau neu dâl yn lle rhybudd yna bydd yn rhaid i chi dalu treth arno yn union fel ar eich tâl arferol.
Mae’n bwysig peidio â chymryd yn ganiataol bod eich cyflogwr wedi cael eu cyfrifiadau yn gywir.
Gallai’r dreth a ddidynnwyd fod yn ormod neu’n rhy ychydig - a chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i CThEM. Gallwch wneud hyn ar wefan GOV.UK