Ar ôl holl hwyl a sbri’r Nadolig, mae llawer ohonom yn wynebu bil sylweddol yn y Flwyddyn Newydd. Ond er y gall fod yn anodd osgoi defnyddio credyd i dalu am dymor yr ŵyl, bydd cynilo yn y cyfnod yn nesáu at y Nadolig yn helpu i leddfu’r ergyd ym mis Ionawr.
Siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu
Mae pwysau i blesio anwyliaid ac i roi'r Nadolig perffaith i blant ar frig y rhestr o resymau y mae pobl yn gorwario yn ystod tymor yr ŵyl.
Pan fyddwch wedi gweithio allan faint y gallwch fforddio ei wario ar anrhegion, siaradwch â'r bobl rydych yn bwriadu rhoi anrhegion iddynt am faint rydych yn bwriadu ei wario.
Darllenwch ein canllaw Siarad â’ch partner am arian
Efallai y byddai'n ddefnyddiol cofio y bydd llawer o bobl yn ei chael yn anodd y Nadolig hwn. Os ydych yn gwario gormod ar anrhegion i anwyliaid, efallai y byddant yn teimlo'r pwysau i wario'r un faint arnoch, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny.
Efallai y byddwch yn teimlo dan straen am y syniad o gael sgwrs anodd am arian, ac efallai y byddwch yn anghofio'r pethau pwysig roeddech am eu trafod.
Dilynwch ein awgrymiadau am siarad â’ch ffrindiau a theulu yn ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian
Gosod gyllideb
I ddechrau ar eich cyllideb, gwnewch restr o deulu a ffrindiau y byddwch yn prynu anrhegion ar eu cyfer a dynodwch swm ar gyfer pob unigolyn.
Os byddwch yn trefnu cinio ystyriwch faint o bobl fydd yn dod draw a faint o arian fydd angen i chi ei wario ar fwyd a diod.
Yn dilyn hyn, dylech fedru cyfrifo faint o arian fydd angen i chi ei neilltuo bob mis.
Er enghraifft, wrth gynilo £20 y mis o ddechrau’r flwyddyn, bydd gennych £240 i’w wario ar gyfer y Nadolig.
Cynilo am Nadolig
Mae'n anodd talu am y Nadolig allan o becyn cyflog mis Rhagfyr yn unig, felly mae'n gwneud synnwyr arbed cymaint ag y gallwch ymlaen llaw.
Po gynharaf y byddwch yn dechrau cynilo, po leiaf y bydd angen i chi ei roi o'r neilltu bob mis. Gall hyd yn oed ychydig bach dros ychydig fisoedd wneud gwahaniaeth mawr.
Darganfyddwch fwy am y lleoedd gorau i roi eich arian yn ein canllaw Cipolwg ar gynilion arian parod
Dylech drin cynilo’r un ffordd â byddwch yn talu bil.
Mae ymrwymo i gynilo swm rheolaidd bob mis neu wythnos yn fwy effeithiol na dweud y byddwch yn cynilo beth bynnag sydd gennych dros ben, a allai fod yn dim.
Ond byddwch yn realistig – mae’n well ymrwymo i swm bach, ymarferol na cheisio’n rhy galed a rhoi’r gorau iddi.
Ddim yn siŵr faint y gallwch fforddio ei gynilo? Dechreuwch yn fach - rhowch eich darnau arian £1 neu £2 sbâr mewn jar bob wythnos.
Os yw hynny'n gweithio, ceisiwch neilltuo ychydig yn fwy yn rheolaidd.
Benthyca ar gyfer Nadolig
Gallai benthyca arian i dalu am eich gwariant Nadolig fod yn ddrud â chostau llog a ffioedd.
Gallai ad-dalu'r ddyled fod yn ddrud ac os byddwch yn colli taliadau, bydd effaith negyddol ar eich adroddiad credyd. Gallai effeithio ar eich gallu yn y dyfodol i gael unrhyw fath o gredyd o gwbl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd
Ystyried cychwyn rhai traddodiadau Nadolig newydd
Ystyriwch gychwyn rhai traddodiadau Nadolig newydd y gall yr holl deulu fod yn rhan ohonynt gan arbed ychydig o arian wrth wneud hynny.
Gall prynu hanfodion Nadolig fel cracers neu addurniadau yn y sêls olygu arbedion mawr, weithiau tua 50%.
Os ydych yn gwybod pa anrhegion sydd angen i chi eu prynu, gall fod o werth dewis eitem bob mis er mwyn lledaenu’r gost a sicrhau na fyddwch dan bwysau i siopa yn ystod yr adegau prysuraf â phawb arall.
Gallwch hefyd ymuno â’r oes ddigidol ac anfon cardiau Nadolig trwy e-bost er mwyn arbed ar stampiau.
Mae nifer o wefannau am ddim sy’n eich galluogi i greu cardiau personol, â lluniau a fideos teuluol.
Bydd cael gwared ar bethau â’ch teulu o gymorth i chi roi pethau mewn trefn ar gyfer yr ŵyl a gallech bocedu ychydig o arian wrth wneud hynny hefyd.
Unwaith y byddwch i gyd wedi rhoi popeth diangen i un ochr, gallwch wneud ychydig o arian ychwanegol drwy ei werthu ar-lein neu mewn sêl leol.
Os cewch yr amseriad yn gywir, gwelwch y bydd nifer o bobl yn chwilio am brynu anrhegion ail law.
A ddylech ymuno â chlwb cynilo Nadolig?
Efallai y cewch eich temtio i ymuno â chlwb cynilo Nadolig. Ond nid ydynt yn cynnig llog i chi ar eich cynilion ac yn dod â mwy o risg na chynilo trwy eich banc neu gymdeithas adeiladu. Nid yw cynlluniau cynilo Nadolig yn cael eu rheoleiddio yn y ffordd y mae banciau a chymdeithasau adeiladu.
Os bydd y clwb Nadolig rydych yn cynilo ynddo yn mynd i’r wal, gallech golli’r holl arian a wnaethoch gynilo.
Mae’n debygol hefyd y cewch eich arian yn ôl mewn talebau, sydd yn anodd eu gwario’n llwyr ac yn cyfyngu ar eich dewis o siopa wrth brynu nwyddau.
Os ydych yn cael anhawster agor cyfrif banc ar gyfer eich cynilion, ystyriwch fynd i siarad â’ch undeb credyd.
Mae’r undeb yn fwy tebygol o gynnig gwell cyfradd i chi ar eich cynilion na chlwb Nadolig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cynilo undebau credyd
Peidiwch â bod ofn rhannu eich pryderon
Gall teimlo’n isel ei gwneud yn anodd rheoli arian a gall poeni amdano wneud i chi deimlo'n waeth byth.
Os yw'ch pryderon yn gysylltiedig â'ch annibyniaeth ariannol, gallai hyn fod yn arwydd o gam-drin ariannol. Mae cefnogaeth ar gael i chi.