Cael golwg glir ar eich pensiynau, i gyd mewn un lle
Byddwch yn un o'r bobl gyntaf i roi cynnig ar Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian a helpu i'w wella i bawb.
Gall Dangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian eich helpu i weld eich pensiynau (gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth) gyda'i gilydd mewn un lle.
Gall gweld popeth mewn un lle eich helpu i ddeall beth rydych chi wedi'i gronni hyd yn hyn, gweld pensiynau y gallech fod wedi colli golwg arnynt, a theimlo'n fwy hyderus ynghylch cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cael mynediad unigryw a byddwch yn un o'r bobl gyntaf i roi cynnig arno cyn iddo fod ar gael i'r cyhoedd.
Pam rhoi cynnig ar Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian
Gweld eich pensiynau i gyd gyda’i gilydd
Deall pa bensiynau sydd gennych, beth yw eu gwerth, a sut y gallent eich cefnogi yn eich ymddeoliad.
Cael eglurder yn ystod newidiadau mawr bywyd
Gall gwirio eich pensiynau fod yn ddefnyddiol os ydych chi wedi newid swyddi yn ddiweddar, wedi derbyn gwybodaeth gan eich darparwr pensiwn, yn cynllunio eich cyllid ar ôl digwyddiad bywyd, neu os ydych chi eisiau gwybod a fydd gennych chi ddigon o arian yn eich ymddeoliad.
Helpu i lunio gwasanaeth newydd a gefnogir gan y llywodraeth
Byddwch yn un o’r bobl gyntaf i roi cynnig ar y gwasanaeth newydd hwn a’n helpu ni i’w wella i bawb.
Beth i’w ddisgwyl
Llenwch ffurflen ganiatâd fer a byddwch yn derbyn eich dolen mynediad ddiogel o fewn awr, fel y gallwch chi ddechrau heddiw.
Ar ôl i chi gael eich dolen, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich cyfeiriad presennol
- ID gyda llun
- eich rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych chi un.
Fel arfer mae’n haws profi eich hunaniaeth os oes gennych chi ffôn symudol gyda chamera sy’n gweithio hefyd. Gweler rhestr lawn o ffyrdd i brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One LoginYn agor mewn ffenestr newydd
Dod o hyd i'ch pensiynau: Rhowch rai manylion sylfaenol a byddwn yn chwilio am eich pensiynau.
Gweld eich dangosfwrdd, gan gynnwys:
- gwerth pob pensiwn nawr
- faint y gallai fod yn werth ar ôl ymddeol
- dolenni i ganllawiau i'ch helpu i ddeall beth allwch chi ei wneud nesaf.
Da i’w gwybod
Rydym yn dal i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth, felly efallai na fydd rhai o'ch pensiynau'n ymddangos yn eich canlyniadau heddiw.
Diolch i bobl fel chi, rydym yn gwneud gwelliannau drwy'r amser.
Yn barod i Gychwyn arni?
Cofrestrwch heddiw i gael eich dolen ddiogel i Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian a chymerwch y cam cyntaf tuag at olwg gliriach ar ddyfodol eich pensiynau.