A ydych hunangyflogedig a ddim yn siŵr sut i ddelio â'ch pensiwn, neu'n teimlo ychydig ar goll o ran cynllunio ymddeol? Yna gall ein gwasanaeth apwyntiadau pwrpasol, o'r enw Adolygiad Pensiwn Canol Oes, eich helpu â beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch pensiwn. Mae'n cynnwys pedwar maes: gwaith, iechyd, teulu ac arian. Yn y pynciau hyn, byddwn yn eich helpu i feddwl sut maent yn effeithio ar eich pensiwn, a beth fyddai'r dull gweithredu gorau i chi.
Ein hapwyntiad Adolygiad Pensiwn Canol Oes am ddim
Mae bod yn hunangyflogedig yn golygu mai chi sy'n gyfrifol am lwyddiant eich busnes. Efallai bod pethau ochr pensiynau wedi llithro trwy'r rhwyd. Wedi'r cyfan, gall fod yn gymhleth ar brydiau.
Ond bydd ein hapwyntiad Adolygiad Pensiwn Canol Oes yn rhoi arweiniad diduedd ac annibynnol i chi a all wneud pensiynau yn llawer haws i'w rheoli.
Mae ein gwasanaeth yn rhoi cyfle i chi drafod eich sefyllfa gydag un o'n harbenigwyr pensiwn. Byddant yn helpu i'ch tywys trwy'ch opsiynau.
Beth fydd yr apwyntiad yn ei gwmpasu?
Bydd yr apwyntiad yn ymdrin ac yn egluro:
- yr opsiynau pensiwn sydd ar gael i chi
- yr hyn y bydd angen i chi feddwl amdano a'r pethau y bydd angen i chi eu gofyn
- pedwar prif faes: gwaith, iechyd, teulu ac arian; gallwch gael syniad o'r math o bethau a gwmpesir isod
- eich camau nesaf, gyda gwybodaeth am sefydliadau defnyddiol, pe bai eu hangen arnoch.
Chi a’ch gwaith
Efallai mai eich busnes ei hun yw eich cynllun ymddeol a bydd yn darparu digon o arian (swm cyfalaf) neu incwm ar ôl ymddeol.
Ond efallai hefyd fod gwerth eich busnes yn gostwng yn sylweddol yn dilyn eich ymddeoliad. Felly, efallai hoffech ofyn i'ch hun: a oes gennych strategaeth ymadael o'ch busnes? Neu efallai y daw'r amser pan fyddech yn elwa o ddysgu sgiliau newydd?
Pwyntiau allweddol i feddwl amdanynt
Dyma rai pwyntiau cychwyn i feddwl amdanynt.
Ceisiwch dalu i mewn i bensiwn gan ddefnyddio arian o'ch cyflog
Trwy dalu i mewn i bensiwn, gallwch dderbyn rhyddhad treth incwm ar y gyfradd sylfaenol, uwch a hyd yn oed ychwanegol yn dibynnu ar eich incwm.
O'i gymharu â thalu cyflog, nid ydych chi chwaith yn talu Yswiriant Gwladol ar gyfraniadau pensiwn naill ai i chi'ch hun nac i staff. Os ydych yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth, nid yw eich cyfraniadau pensiwn eich hun yn effeithio ar eich taliadau Yswiriant Gwladol dosbarth 4.
Meddyliwch am dreth gorfforaeth
Os yw'ch busnes yn gwmni, mae cyfraniadau pensiwn cyflogwr (y rhai a dalwyd o'r busnes i staff, gan gynnwys cyfarwyddwyr) hefyd fel arfer yn cael eu didynnu at ddibenion treth gorfforaeth fel cost busnes.
Gall symiau cyfraniadau pensiwn fod yn hyblyg
Os ydych yn teimlo efallai na fydd eich busnes yn gallu ymrwymo i gyfraniad pensiwn rheolaidd, bydd llawer o ddarparwyr yn caniatáu i chi dalu cyfraniadau pan fyddwch eisiau gwneud hynny.
Efallai byddwch yn cymryd eich pensiwn ac yn parhau i weithio
O 55 oed (yn codi i 57 o 2028) bydd llawer o ddarparwyr hefyd yn caniatáu i chi ddechrau cymryd arian o'ch pensiwn yn hyblyg – gan gynnwys hyd at chwarter (25%) fel swm lwmp di-dreth - a allai eich helpu i symud i ymddeoliad yn raddol.
Archwiliwch y gwahanol opsiynau pensiwn
Gall gwahanol fathau o bensiwn fod â nodweddion gwahanol. Gall Pensiwn Personol Hunan-fuddsoddedig (SIPP) ddal eiddo masnachol. Gall Cynllun Hunan-Weinyddedig Bach (SSAS) hefyd ddal eiddo masnachol a gall wneud benthyciadau yn ôl i'r busnes. Os ydych yn hoffi sut mae’r opsiynau hyn yn swnio, efallai hoffech siarad ag ymgynghorydd ariannol.
Chi a’ch iechyd
Hyd yn oed os ydych yn ffit ac yn iach nawr, gallai hyn newid yn y dyfodol. Mae'n werth gofyn i chi'ch hun sut beth yw eich ffordd o fyw ac a oes angen i chi wneud newidiadau.
Mae'n werth sicrhau hefyd bod gennych gynlluniau ar waith ar gyfer eich teulu a'ch busnes os bydd rhywbeth yn digwydd i chi yn ddirybudd.
Pwyntiau allweddol i feddwl amdanynt
Cael cynllun rhag ofn i chi fynd yn sâl
Mae bod yn hunangyflogedig yn golygu, yn wahanol i'r rhai sy'n gyflogedig, nad oes tâl salwch na chyflogaeth pan na allwch weithio. Trwy gael cronfa diwrnod glawog a rhai mathau o yswiriant (er enghraifft, diogelu incwm a salwch critigol), gallwch helpu i ddiogelu eich hun a'ch teulu.
Cofiwch gellir cymryd pensiwn yn gynnar os ydych yn dioddef afiechyd
Yn aml gellir cymryd pensiynau yn gynnar ar sail afiechyd. Gall hyn weithio mewn gwahanol ffyrdd ar gyfer gwahanol fathau o gynllun, felly mae'n well gwirio â'ch darparwr beth yw eu gweithdrefn a ffonio ein llinell gymorth os ydych yn teimlo byddech yn elwa o sgwrs ag arbenigwr diduedd.
Efallai bydd eich pensiwn yn mynd i ddibynnydd pe byddech farw
Os bydd y gwaethaf yn digwydd, gall cynlluniau pensiwn ddarparu buddion i unrhyw ddibynyddion ar eich marwolaeth, ac os bydd yn anffodus o farwolaeth cyn 75 oed, fel arfer gellir talu unrhyw arian yn ddi-dreth.
Ers 6 Ebrill 2024, mae'r cyfandaliad a'r lwfans budd-dal marwolaeth (LSDBA) yn cyfyngu ar gyfanswm yr arian parod di-dreth y gallwch ei gael yn ystod eich oes a phan fyddwch yn marw i £1,073,100, yn y rhan fwyaf o achosion.
Byddai unrhyw beth uwchlaw hyn yn cael ei drethu fel pe bai'n incwm y buddiolwyr. Os ydych chi'n meddwl y gallai'r terfyn hwn effeithio arnoch efallai y byddwch am ystyried cymryd cyngor ariannol rheoledig.
Chi a’ch teulu
Os bydd amgylchiadau eich teulu'n newid, gall fod yn amser da i adolygu'ch cyllid i weld a ydynt yn cyd-fynd yn dda â'ch sefyllfa newydd.
Mae cyllid yn golygu eich pensiynau hefyd, felly peidiwch â'u hanwybyddu. Mae hefyd yn werth gwirio eich bod ar y trywydd iawn â'ch cynlluniau ymddeol a deall beth mae unrhyw newidiadau yn ei olygu i chi a'ch cynilion.
Pwyntiau allweddol i feddwl amdanynt
Cymerwch stoc yn ariannol os ydych yn priodi neu’n ymuno â phartneriaeth sifil
Gall priodi neu ymuno â phartneriaeth sifil newid yn ddramatig faint o incwm sy'n dod i'ch cartref a'r ffordd y mae'r incwm yn cael ei wario. Er enghriafft, efallai bod eich priod/partner sifil yn gyflogedig tra'ch bod chi'n hunangyflogedig, a allai ddarparu cyfleoedd i chi wneud cynilion fel cwpl.
Os ydych am gael plant, edrychwch ar eich nodau ariannol hefyd
Bydd cael plant hefyd yn newid gwariant eich cartref a gallai effeithio ar incwm eich cartref os ydych chi neu’ch partner neu chi’ch dau yn lleihau oriau i ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu am blant. Mae eich nodau ariannol hefyd yn debygol o newid wrth i chi feddwl am ddyfodol i'ch teulu.
Pe bai perthynas yn newid, bydd angen edrych ar eich cyllid bob amser
Gall perthnasoedd newid hefyd. Gall pobl wahanu neu gael ysgariad neu diddymiad. Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y bydd eu trefniadau pensiwn yn cael eu cynnwys mewn unrhyw setliad ariannol ysgariad ac, yn dibynnu ar yr opsiwn y maent yn dewis rhannu eu hasedau, y gallai fod goblygiadau os ydyn nhw'n n ail-briodi yn y dyfodol.
Chi a’ch arian
Meddyliwch am osod nodau incwm am nawr ac ar ôl ymddeol. Gall y rhain weithredu fel prif flociau adeiladu eich cynllun ariannol.
Pwyntiau allweddol i feddwl amdanynt
Pensiwn y Wladwriaeth
Pensiwn Newydd y Wladwriaeth lawn yw £221.20 yr wythnos (£11,502.40 y flwyddyn) yn y flwyddyn dreth 2024/25, yn seiliedig ar o leiaf 35 mlynedd o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae'n incwm gwarantedig am oes sy'n codi bob blwyddyn gyda chwyddiant, enillion cyfartalog neu isafswm cynnydd o 2.5% (a elwir yn 'clo triphlyg'). Gall y polisi ar gyfer cymhwyso cynnydd newid yn y dyfodol.
Dewch o hyd i'ch holl bensiynau
Cam cyntaf gwych i ddechrau cynllunio ymddeol yw sicrhau eich bod yn gwybod ble mae'ch holl bensiynau a beth yw eu gwerth.
Gosodwch nod incwm ymddeol
Gall gosod nod incwm ymddeol – gan ystyried Pensiwn y Wladwriaeth, unrhyw bensiynau personol neu weithle rydych wedi'u cronni yn ogystal ag unrhyw gynilion, buddsoddiadau ac asedau eraill, eich helpu i weld pa mor agos ydych.
Delio ag unrhyw ddyledion
Gall mynd i’r afael ag unrhyw ddyledion a sefydlu cronfa diwrnod glawog wneud unrhyw gyfnodau tawelach ar gyfer eich busnes yn haws eu rheoli.
Peidiwch ag anghofio am ryddhad treth o ran pensiynau
Os gwnewch gyfraniadau mewn capasiti personol, mae pensiynau'n darparu rhyddhad treth i hybu'ch cynilion. Pan dalwch £80 o'ch cyfrif banc, gall eich darparwr hawlio £20 gan Gyllid a Thollau EM i roi £100 i chi yn eich pensiwn.
Gall talu i mewn i bensiwn leihau eich bil treth
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu os oes gennych eich cwmni eich hun, gallai talu cyfraniad pensiwn hefyd leihau eich bil treth.
Gallech ddechrau cymryd arian o’ch pensiwn o 55 oed
O 55 oed (57 o 2028), fel arfer gallwch ddechrau cymryd arian o unrhyw bensiynau rydych wedi'u sefydlu eich hun. Mae hyn yn cynnwys gallu cymryd hyd at chwarter (25%) o'ch pensiwn fel lwmp swm o arian di-dreth a'r hyblygrwydd i gymryd lwmp swm neu incwm pellach sy'n drethadwy os a phryd y mae angen i chi wneud hynny. Gallai hyn eich helpu i ychwanegu at eich incwm neu ganiatáu i chi ddechrau cwtogi ar eich gwaith ychydig a symud yn raddol i’ch ymddeoliad.