Os ydych yn gadael eich cynllun pensiwn ble y mae, mae beth rydych wedi’i groni yn eiddo i chi. Food bynnag, gallwch, fel arfer ei symud i gynllun pensiwn arall.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam byddech yn penderfynu symud eich pensiwn?
Mae llawer o resymau pam y gallai fod yn syniad da symud eich pensiwn o un cynllun i’r llall. Mae’r rhain yn cynnwys:
I gadw’ch pensiynau ynghyd
A ydych newydd symud swyddi neu symud swyddi yn y gorffennol a chronni pensiynau mewn gwahanol leoedd? Yna gallai dod â hwy ynghyd eu gwneud yn haws eu rheoli.
Bydd hyn yn golygu:
- bod gennych un darparwr neu weinyddwr cynllun i ddelio ag ef
- bod gennych ddim ond i un lle y mae rhaid i chi fynd i gael gwybodaeth a gwneud cyfarwyddiadau ar eich pensiwn
- eich bod yn debygol o dderbyn un set o waith papur.
I ostwng y taliadau rydych yn eu talu
Efallai y gallwch gael cynnig gwell gan ddarparwr arall.
Mae rhai darparwyr pensiwn yn cynnig taliadau gwell y mwyaf sydd gennych â hwy. Ac mewn rhai achosion, lle maent yn cynnig platfform, gall hyn gynnwys arian sydd gennych mewn cynhyrchion eraill hefyd - fel ISAs.
I gael mynediad i wahanol opsiynau buddsoddi
Mae pensiynau’n cynnig llawer o wahanol opsiynau buddsoddi.
Maent yn amrywio o gynnig nifer fach o opsiynau buddsoddi i lawer, ac mae eraill yn cynnig opsiynau buddsoddi mwy arbenigol – fel yr opsiwn i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cyfranddaliadau neu eiddo.
Gallai symud eich pensiwn i ddarparwr arall roi mynediad i chi at opsiynau buddsoddi sy’n gweddu’n well i’ch anghenion.
I gael mynediad at wahanol opsiynau a nodweddion
Mae gwahanol gynhyrchion yn cynnig gwahanol opsiynau a nodweddion. Gall y rhain gynnwys:
- y gallu i dalu incwm ymddeol hyblyg i chi
- rheoli eich cyfrif ar-lein
- mynediad i wybodaeth ac offer a all eich helpu i reoli a gwneud penderfyniadau am eich pensiwn.
Gallai symud eich pensiwn roi mynediad i chi at opsiynau a nodweddion sy’n gweddu’n well i’ch anghenion.
I ganiatáu i chi ddefnyddio’ch pensiwn mewn ffordd sy’n gweddu’n well i’ch anghenion ariannol ehangach ar ôl ymddeol
Nid yw pob pensiwn yn cynnig yr holl opsiynau i gymryd arian o’ch pensiwn. Er enghraifft, nid yw pob darparwr pensiwn yn cynnig incwm ymddeol hyblyg lle gallwch sefydlu incwm rheolaidd. Efallai y bydd rhaid i chi symud eich pensiwn i allu gwneud hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau ar gyfer defnyddio’ch cronfa pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
A ydych mewn cynllun buddion wedi’u diffinio lle mae’r incwm yn sefydlog am weddill eich oes? Yna efallai y bydd angen mwy o hyblygrwydd arnoch neu’n poeni am yr arian sy’n cael ei golli os byddwch farw yn gynnar yn eich ymddeoliad.
Gallai symud eich pensiwn i bensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio fod yn opsiwn da i chi, ond yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd hynny’n wir.
Ni allwch drosglwyddo’ch pensiwn i rywun arall
Mae llawer o bobl yn gofyn a allant drosglwyddo eu pensiwn i berson arall, ond nid yw hyn yn bosibl. Os ydych yn marw, efallai y bydd eich pensiwn yn daladwy i rywun arall, ac os bydd ysgariad neu ddiddymiad, gall rhan o’ch pensiwn hefyd fynd at eich cyn-bartner.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ysgariad/diddymiad: sut y gallwn helpu â’ch pensiwn
Pensiynau ar ôl marwolaeth
Beth dylwn feddwl amdano cyn symud pensiwn?
Yn y DU, mae dau brif fath o bensiynau.
Pensiwn buddion wedi’u ddiffinio
Mae’r math hwn o gynllun pensiwn yn talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u ddiffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’.
Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn gweithle sector cyhoeddus neu hŷn y maent ar gael bellach.
Pensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio
Mae’r math hwn o gynllun pensiwn yn cronni pot pensiwn i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint rydych chi a/neu’ch cyflogwr yn ei gyfrannu a faint mae hyn yn tyfu.
Gelwir y rhain hefyd yn gynlluniau ‘prynu arian’ ac maent yn cynnwys pensiynau gweithle a phersonol.
Yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych, mae gwahanol opsiynau ar gael i chi a gwahanol ystyriaethau y mae rhaid i chi ystyried.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u ddiffinio
Trosglwyddo’ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Symud dramor?
Os ydych yn symud dramor efallai hoffech ystyried trosglwyddo’ch pensiwn dramor hefyd.
Symud yn ôl i’r DU o dramor?
A ydych wedi adeiladu pensiwn mewn gwlad arall, bellach yn byw yn y DU ac yn ystyried trosglwyddo hwn i’r DU?