Os ydych chi’n anhapus gyda’ch darparwr pensiwn, neu os yw ymgynghorydd ariannol wedi rhoi cyngor gwael i chi, efallai y gallwch hawlio iawndal am unrhyw arian rydych chi wedi’i golli a’r straen y mae wedi’i achosi. Dyma sut i wneud hynny, gam wrth gam.
Cam 1: Cwyno i’ch darparwr neu ymgynghorydd pensiwn
Gadewch i’ch darparwr pensiwn neu ymgynghorydd ariannol wybod pam eich bod yn anhapus a beth hoffech iddynt ei wneud i gywiro pethau. Dylech gynnwys cymaint o fanylion a thystiolaeth ag y gallwch.
Rydych yn fwy tebygol o fod â hawl i gael taliad iawndal os:
- rydych wedi colli arian oherwydd camgymeriad neu gyngor ariannol gwael
- yw’r broblem wedi cymryd eich amser neu wedi gwneud i chi deimlo dan straen ac yn ofidus.
Mae’n well gwneud eich cwyn yn ysgrifenedig fel y gallwch gadw golwg ar bopeth. Os siaradwch ag unrhyw un, nodwch eu henw a’r dyddiad.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw’ch darparwr pensiwn neu ymgynghorydd ariannol wedi mynd allan o fusnes, gallwch gwyno i’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd yn lle.
Cam 2: Arhoswch hyd at wyth wythnos am ateb
Bydd eich darparwr pensiwn neu’ch ymgynghorydd ariannol yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn rhoi gwybod i chi beth mae’n bwriadu ei wneud, gan gynnwys faint o iawndal y mae’n credu sy’n deg.
Os ydych yn hapus gyda hyn, gallwch dderbyn eu cynnig a chau eich cwyn. Os nad ydych chi’n cytuno â nhw, esboniwch beth sydd angen iddyn nhw ei wneud o hyd i gywiro pethau.
Cyn i wyth wythnos fynd heibio, dylai eich darparwr pensiwn anfon ymateb terfynol atoch, sy’n golygu na fydd yn newid ei gynnig. Gallwch naill ai ddewis ei derbyn neu fynd â’ch cwyn ymhellach at Ombwdsmon.
Cam 3: Ewch â’ch cwyn i Ombwdsmon am ddim
Os ydych yn anhapus ag ymateb terfynol y darparwr neu’r cynghorydd, neu os nad ydych wedi ei dderbyn o fewn wyth wythnos o wneud eich cwyn, gallwch gyfeirio’ch cwyn at Ombwdsmon.
Mae hwn yn wasanaeth annibynnol ac am ddim lle bydd rhywun diduedd yn edrych ar eich achos ac yn gwneud penderfyniad. Efallai y byddant yn cytuno â’ch darparwr neu’ch ymgynghorydd, neu’n penderfynu bod angen iddynt wneud mwy i’ch digolledu.
Gall fod yn broses hir, ond fel arfer mae’n rhaid i’ch darparwr wneud yr hyn y mae’r Ombwdsmon yn ei benderfynu, felly gall fod yn werth yr aros.
Cwynion darparwyr pensiwn
Os yw’ch cwyn am ddarparwr pensiwn, ewch â’ch cwyn i’r Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, bydd angen i chi gwyno o fewn:
- 3 mis ar ôl derbyn eich ymateb terfynol, a
- 3 blynedd o bryd wnaeth y broblem ddigwydd gyntaf, oni bai nad oeddech yn ymwybodol o’r mater pan ddechreuodd y broblem.
Cwynion ymgynghorwyr ariannol
Os yw eich cwyn yn ymwneud ag ymgynghorydd ariannol, ewch â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, bydd angen i chi gwyno o fewn:
- chwe mis ar ôl derbyn eich ymateb terfynol, a
- chwe blynedd o’r broblem yn digwydd gyntaf, oni bai nad oeddech yn ymwybodol o’r mater pan ddechreuodd y broblem.
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon
Os yw’r Ombwdsmon yn cytuno bod penderfyniad y cwmni yn un teg, fel arfer dyma le mae hawliad yn dod i ben.
Os nad ydych am ei dderbyn o hyd, gallech ddewis mynd i’r llys. Gall hyn fod yn ddrud ac nid oes sicrwydd y byddwch yn ennill eich achos.