Os ydych wedi cofrestru’n awtomatig mewn pensiwn gweithle, efallai y byddwch yn penderfynu optio allan o’r cynllun. Ond gallai hyn olygu eich bod yn colli budd-daliadau ymddeol gwerthfawr.
A gaf optio allan os nad wyf am ymuno â chynllun pensiwn gweithle fy nghyflogwr?
Os ydych yn gymwys, ond nad ydych am ymuno â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr, gallwch optio allan ar ôl i chi gael eich sefydlu ym mhensiwn gweithle eich cyflogwr.
Pan fyddwch yn optio allan, mae eich cyflogwr hefyd yn stopio cyfrannu at eich pensiwn.
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a chofrestriad awtomatig yn ein canllaw Ymuno â chynllun pensiynau gweithle
Sut gallaf optio allan o fy nghynllun pensiwn gweithle?
Mae angen i chi ofyn i’r darparwr pensiwn am ffurflen optio allan fel y gallwch optio allan o ymrestru awtomatig.
Mae rhaid i’ch cyflogwr roi’r manylion cyswllt i chi ar gyfer y darparwr pensiwn os gofynnwch amdanynt.
Mae angen i chi lenwi a llofnodi ffurflen optio allan y cynllun pensiwn, a’i dychwelyd i’ch cyflogwr (neu’r cyfeiriad a roddir ar y ffurflen).
Efallai y bydd y darparwr pensiwn yn caniatáu i chi optio allan ar-lein.
Unwaith y byddwch wedi ymrestru ar y cynllun pensiwn, mae yna gyfnod o fis lle gallwch optio allan. Gelwir hyn yn gyfnod optio allan. Mae'n dechrau o ba bynnag ddyddiad yw'r hwyraf o’r:
- dyddiad y cawsoch lythyr gan eich cyflogwr gyda gwybodaeth gofrestru
- dyddiad y dechreuodd eich aelodaeth weithredol.
Os byddwch yn optio allan, cewch eich trin fel pe na baech erioed wedi ymuno â’r cynllun, a bydd unrhyw arian yr ydych wedi’i dalu i mewn yn cael ei ad-dalu.
Dim ond o’r cyfraniadau rydych chi wedi’u gwneud y byddwch chi’n cael arian yn ôl. Ni fyddwch yn cael y cyfraniadau y gallai eich cyflogwr fod wedi’u gwneud, nac unrhyw ryddhad treth.
Os byddwch yn penderfynu gadael y cynllun ar ôl y cyfnod optio allan, byddwch yn ‘rhoi’r gorau i aelodaeth weithredol’ yn lle hynny.
Bydd cyfraniadau yr ydych chi a’ch cyflogwr eisoes wedi’u gwneud yn cael eu cadw yn y cynllun fel arfer hyd nes y gallwch ddechrau tynnu’r arian allan o’ch cronfa bensiwn, oni bai bod rheolau’r cynllun yn caniatáu i chi gael ad-daliad.
Fel rheol ni allwch ddechrau cymryd arian o’ch pot pensiwn nes eich bod yn 55 oed neu’n hŷn. Mae hyn yn codi i 57 oed yn 2028.
Am ba hyd y mae optio allan yn para ?
Mae optio allan o’r cynllun pensiwn fel arfer yn para hyd at dair blynedd.
Os ydych wedi optio allan neu wedi stopio cyfrannu at y cynllun, mae rhaid i’ch cyflogwr eich ailgofrestru yn awtomatig yn y cynllun yn nes ymlaen os ydych yn gymwys.
Os na fyddwch yn barod i ymuno â’r cynllun neu ddechrau talu cyfraniadau eto, gallwch benderfynu optio allan o ymrestru awtomatig am dair blynedd arall.
Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch siarad â’ch cyflogwr am optio i mewn i’r cynllun ar unrhyw adeg .
Er y gallwch ofyn am ail-ymuno â’r cynllun ar unrhyw adeg, dim ond unwaith bob 12 mis y mae rhaid i’ch cyflogwr fynd i’r afael ag unrhyw geisiadau .
Mae rhaid i gyflogwyr gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig sydd wedi optio allan neu stopio cyfraniadau bob tair blynedd. Mae hyn oherwydd y gallai eich amgylchiadau fod wedi newid – ac efallai mai cynilo i bensiwn gweithle i gronni arian ar gyfer ymddeoliad yw’r peth iawn i chi nawr.
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a chofrestriad awtomatig yn ein canllaw Ymuno â chynllun pensiynau gweithle
Pa fuddion y gallwn eu colli pe bawn yn optio allan?
Os ydych yn ystyried optio allan, neu stopio cyfraniadau, efallai eich bod yn colli allan ar fuddion gwerthfawr. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cyfraniadau y mae eich cyflogwr yn eu gwneud i’ch pot pensiwn
- rhyddhad treth (arian a fyddai wedi mynd i’r llywodraeth wrth i dreth fynd i’ch pot pensiwn yn lle)
- unrhyw fuddion y gallai eich cynllun eu talu os byddwch yn mynd yn sâl ac yn methu â pharhau i weithio cyn cyrraedd eich dyddiad ymddeol
- unrhyw fuddion y gallai’r cynllun eu talu i’ch dibynyddion pe byddech farw.
Gallwch ddefnyddio’n gwesgwrsYn agor mewn ffenestr newydd i siarad ag arbenigwr pensiynau os hoffech fwy o wybodaeth
I ddarganfod pa fuddion gallech fod yn eu colli, edrychwch ar y llyfryn am eich cynllun. Dylech fod wedi derbyn un, o bosibl trwy e-bost, pan wnaethoch ymuno.
Os nad ydych wedi derbyn hwn, neu os na allwch ddod o hyd iddo, gallwch ofyn i’ch cyflogwr neu’r darparwr pensiwn am gopi arall.