Mae trosglwyddo pensiwn o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu cyfartaledd gyrfa) fel arfer yn golygu ildio eich incwm am oes i gael gwerth swm o arian. Mae’r arian hwn wedyn yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun pensiwn arall. Mewn rhai achosion efallai gallwch drosglwyddo o un cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio i un arall.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cipolwg
- Beth gallwch a beth na allwch ei drosgwyddo
- Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau pensiwn
- Manteision cynlluniau buddion wedi’u diffinio
- Risgiau ynglwm â throsglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
- Pryderon am gynlluniau buddion wedi’u diffinio
- Rhesymau mae rhai pobl yn ystyried trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio
- Cymhellion i drosglwyddo
- Cymhellion eraill
- Sut mae’n gweithio os wyf eisiau trosglwyddo?
- Cael cyngor
- Beth i’w ddisgwyl gan gynghorydd ariannol
Cipolwg
Gan amlaf, rydych yn debygol o fod mewn sefyllfa ariannol waeth os byddwch yn trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau pensiwn wedi’u diffinio. Mae hyn hyd yn oed yn wir os bydd eich cyflogwr yn cynnig cymhelliad i chi adael
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) yn credu y bydd er budd y rhan fwyaf o bobl i gadw eu pensiwn buddion wedi’u diffinio. Os trosglwyddwch allan o bensiwn buddion wedi’u diffinio, ni allwch ei wrthdroi.
Sicrhewch eich bod yn deall y risgiau i’ch helpu i wneud penderfyniad hyddysg. Darganfyddwch fwy am ystyried trosglwyddo pensiwn ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Beth gallwch a beth na allwch ei drosgwyddo
Os oes gennych gynllun pensiwn sector cyhoeddus ‘nad yw’n cael ei ariannu’, byddwch dim ond yn gallu trosglwyddo eich pensiwn i gynllun buddion wedi’u diffinio arall (a ddim lle arall).
Mae cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu yn cynnwys y Cynllun Pensiwn Athrawon a Chynllun Pensiwn y GIG.
Efallai byddwch yn gallu trosglwyddo’ch pensiwn i unrhyw fath o gynllun os ydych mewn:
- cynllun buddion wedi’u diffinio sector preifat
- cynllun pensiwn sector cyhoeddus sy’n cael ei ariannu (fel y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol).
Mae rhai amddiffyniadau wedi’u sefydlu ar gyfer y cynlluniau hyn. Os ydych yn parhau i weithio i gyflogwr y cynllun pensiwn, fel arfer, ni fyddwch yn gallu trosglwyddo’ch pensiwn. Efallai na fyddwch hefyd yn gallu os oes gennych lai na blwyddyn cyn y bydd gennych hawl arferol i ddechrau derbyn incwm o’r pensiwn.
Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau pensiwn
Efallai y bydd eich pensiwn yn un o’ch asedau mwyaf gwerthfawr. I lawer o bobl mae’n cynnig sicrwydd ariannol trwy gydol eich ymddeoliad ac am weddill eu oes.
Ond mae sgamwyr pensiwn yn glyfar ac yn gwybod yr holl driciau i’ch cael i drosglwyddo’ch cynilion. Gallant dargedu unrhyw un, gan bwyso arnoch i drosglwyddo’ch cynilion pensiwn, yn aml i un buddsoddiad.
Mae’r llywodraeth bellach wedi gwahardd galw diwahoddiad am bensiynau felly, os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad i’ch cronfa cyn 55 oed (57 o Ebrill 2028), mae’n debygol o fod yn sgam pensiwn a dylech eu hanwybyddu.
Gallech golli’ch holl arian ac wynebu tâl treth o hyd at 55% o’r swm a gymerwyd allan neu a drosglwyddwyd ynghyd â thaliadau pellach gan eich darparwr.
Gall y buddsoddiadau fod dramor, lle nad oes gennych unrhyw ddiogelwch i ddefnyddwyr, a gallent addo cyfradd enillion uchel wedi’i gwarantu i chi (7 neu 8% neu’n uwch yn nodweddiadol). Mae’r rhain yn aml yn fuddsoddiadau ffug sydd ddim yn bodoli neu sydd â risg uchel iawn ag enillion isel. Gallent fod mewn cynhyrchion moethus, eiddo, datblygiadau gwestai, datrysiadau amgylcheddol neu storio, a pharcio.
Byddwch yn ymwybodol os byddwch wedi trosglwyddo’ch pensiwn i fuddsoddiad sy’n cael ei ddefnyddio fel rhan o sgam, mae’n aml yn rhy hwyr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn.
Manteision cynlluniau buddion wedi’u diffinio
-
Rhoi lefel sicr o incwm pensiwn am oes, felly nid oes risg y byddwch yn rhedeg allan o arian ar ôl ymddeol.
-
Darparu incwm i’ch dibynyddion ariannol ar ôl i chi farw, fel arfer. Mae rheolau’r cynllun yn amrywio, ond fel arfer byddant yn cael cyfran (er enghraifft hanner neu ddeuparth) yr incwm pensiwn roeddech yn ei dderbyn cyn i chi farw.
-
Mae’r incwm fel arfer yn cynyddu dros amser, gan helpu i ddiogelu pŵer gwario eich arian rhag chwyddiant. Unwaith eto, mae rheolau’r cynllun yn amrywio ond mae lleiafsymiau o gynnydd y mae rhaid i bob cynllun eu darparu.
-
Nid yw cynnydd a dirywiad y farchnad stoc yn effeithio ar eich incwm pensiwn. Mae buddsoddiadau’r cynllun yn cael eu rheoli gan weithwyr proffesiynol a hyd yn oed os ydynt yn perfformio’n wael, mae rhaid i’ch cyflogwr dalu eich incwm gwarantedig yn llawn.
Risgiau ynglwm â throsglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
Os ydych yn trosglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch yn rhoi’r gorau i incwm gwarantedig am oes sydd fel arfer yn cynyddu i ddiogelu rhag effaith chwyddiant, er mwyn incwm yn y dyfodol na ellir ei rhagweld ag unrhyw sicrwydd.
Mewn cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio , bydd unrhyw incwm yn y dyfodol yn dibynnu ar berfformiad y buddsoddiadau lle mae eich arian. Mae amser o bwys hefyd. Bydd y buddsoddiad yn newid rhwng pryd trosglwyddir gwerth yr arian a phryd byddwch yn dechrau cymryd incwm ac yn ymddeol.
Os ydych yn trosglwyddo o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch yn gyfrifol am ddewis ble i fuddsoddi’ch arian neu bydd rhaid i chi dalu rhywun i’ch helpu i wneud hynny.
Bydd rhaid i chi hefyd dalu costau rhedeg y pensiwn ac unrhyw gostau buddsoddi. Mae y sut mae’ch buddsoddiadau’n perfformio, a’r costau rydych yn eu talu, yn effeithio ar ba mor hir y gallai’ch pensiwn, a’r incwm ohono, bara.
Ac mae risg na fydd y pensiwn yn para cyhyd â bydd ei angen arnoch.
Mae trosglwyddo o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn benderfyniad anghildroadwy - ni allwch newid eich meddwl yn nes ymlaen os ydych yn difaru gwneud y penderfyniad i trosglwyddo.
Rydym yn argymell yn gryf cael cyngor ar gyfer y mathau hyn o drosglwyddiad ac yn y rhan fwyaf o achosion mae’r gyfraith yn gofyn i chi wneud hynny.
Pryderon am gynlluniau buddion wedi’u diffinio
Nid yw aros mewn cynllun pensiwn buddion wedi’i ddiffinio’n ddi-risg - mae rhai cyflogwyr sy’n noddi’r cynlluniau hyn wedi mynd i’r wal. Fodd bynnag mae’r math hwn o gynllun fel arfer yn cael ei ddiogelu gan y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF).
Gallai’r PPF gamu i’r adwy a thalu incwm ymddeol aelodau fel iawndal os bydd cyflogwyr yn mynd yn fethdalwyr ac nad oes gan y cynllun ddigon o arian i dalu eu buddion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y Gronfa Diogelu Pensiwn.
Rhesymau mae rhai pobl yn ystyried trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio
Er gwaethaf y sicrwydd a gewch o bensiynau buddion wedi’u diffinio, mae rhai pobl yn ystyried rhoi’r gorau i’w hawliau pensiwn buddion wedi’u diffinio yn gyfnewid am werth arian.
Os ydych yn ystyried trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio dylech ceisio cyngor ariannol rheoleiddiedig.
Bydd ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig yn edrych ar eich anghenion penodol a’ch helpu i ddeall sut bydd trosglwyddo’n gweddu i’ch amcanion, eich cyllun ymddeoliad, a’ch lles yn y tymor hir, ai beidio
Byddwch yn ymwybodol mai sefyllfa ddiofyn cynghorwyr ariannol fydd na fydd er budd y rhan fwyaf o bobl i ildio’u pensiwn buddion wedi’u diffinio ar gyfer cyfwerth ag arian parod.
Fodd bynnag, bydd adegau pan all wneud synnwyr, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Er mwyn eich helpu i ddeall manteision ac anfanteision trosglwyddo, yn seiliedig ar eich anghenion penodol, mae’n fuddiol (ac yn aml yn orfodol) ceisio cyngor ariannol rheoledig.
Rheolaeth a’r gallu i reoli incwm yn unol ag anghenion unigol
Gyda phensiwn buddion wedi’u diffinio, cewch incwm gwarantedig am oes, ond mae’r swm yn sefydlog. Mae hyn yn golygu na allwch gymryd mwy neu lai o arian os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Gyda phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallwch ddefnyddio’ch pensiwn fel y dymunwch - fel arfer pan gyrhaeddwch 55 oed (57 oed o Ebrill 2028).
Mae hyn yn golygu y gallech:
- brynu incwm gwarantedig (blwydd-dal)
- sefydlu incwm ymddeol hyblyg a thynnu’ch arian allan yn ôl yr angen
- cymryd cyfandaliad
- defnyddio cymysgedd o’r opsiynau hyn.
Byddwch yn ymwybodol bod eich arian yn parhau i gael ei fuddsoddi, felly gall ostwng yn ogystal â chynyddu mewn gwerth.
Gallai bod â mwy o hyblygrwydd hefyd olygu bod rhaid i chi gyfaddawdu mewn meysydd eraill, fel lefel yr incwm y gallwch ei gymryd. Mae hyn yn golygu y gallech ei chael yn anodd cyflawni’r ymddeoliad rydych ei eisiau.
Nid hyblygrwydd yw popeth serch hynny. Oni bai bod gennych incwm arall gallwch ddibynnu arno ar ôl ymddeol i ddiwallu eich anghenion gwariant. Neu mae angen i chi reoli’ch incwm yn wahanol oherwydd amgylchiadau personol ac ariannol ehangach, fel eich iechyd neu at ddibenion cynllunio cyfoeth/treth. Gallai trosglwyddo fod yn opsiwn. Ond nid yw eisiau hyblygrwydd ychwanegol yn rheswm da ynddo ei hun i ystyried trosglwyddiad.
Iechyd
Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n golygu y gallai eich disgwyliad oes fod yn is na’r cyfartaledd, gallai trosglwyddo allan fod yn opsiwn oherwydd efallai na fyddech yn derbyn yr un gwerth o’r pensiwn â’r rhan fwyaf o bobl.
Pan fydd y cynllun yn cyfrifo’r gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod (y swm y byddech yn ei dderbyn pe byddech yn trosglwyddo allan), dylai’r gwerth arian parod rydych yn cael ei gynnig adlewyrchu (yn fras) disgwyliad oes person cyffredin mewn iechyd da.
Gallai hyn fod yn fwy o arian na’r swm y byddai’n ei gostio i’r cynllun dalu incwm pensiwn i chi bob blwyddyn pe byddech yn aros yn y cynllun ond yn marw cyn y disgwyliad oes ar gyfartaledd.
Os trosglwyddwch yr arian i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallai fod yn bosibl cymryd incwm uwch o ystyried eich disgwyliad oes byrrach. Ac efallai y bydd yn bosibl gadael rhywfaint o arian i’ch teulu.
Fodd bynnag, os oes gennych ddibynyddion ariannol ac y byddent yn gymwys i dderbyn incwm pensiwn ar ôl i chi fynd, byddai trosglwyddo allan yn golygu y gallent fod yn waeth eu byd yn y tymor hir ar ôl i chi farw.
Trosglwyddo arian i’ch anwyliaid
Bydd eich incwm pensiwn buddion wedi’u diffinio yn dod i ben pan fyddwch chi ac unrhyw ddibynyddion ariannol yn marw. Yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn golygu pan fyddwch chi (ac unrhyw ddibynyddion ariannol fel eich gweddw) farw, bydd eich pensiwn yn marw â chi. Ac nid oes unrhyw beth i’w drosglwyddo i’ch teulu.
Fodd bynnag, gall pwy bynnag a ddewiswch etifeddu unrhyw arian sydd ar ôl mewn pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Gall hyn apelio oherwydd os byddwch farw cyn 75 oed, y gellir trosglwyddo unrhyw beth sydd ar ôl yn eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn ddi-dreth.
Mae risg na fydd arian ar ôl yn y pensiwn pan fyddwch farw, yn enwedig os oes angen i’r pensiwn ddarparu incwm i’ch gweddw ar ôl eich marwolaeth. Felly nid yw trosglwyddo unrhyw beth ymlaen wedi ei warantu.
Cymhellion i drosglwyddo
Mae cymhelliad i drosglwyddo’n gymhelliad ariannol a gynigir gan eich cyflogwr i drosglwyddo allan o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio.
Gallai hwn fod ar ffurf:
- taliad arian parod sy’n ychwanegol i’r gwerth trosglwyddo
- cynnydd yng ngwerth trosglwyddo cyfrifedig eich buddion yn y cynllun (‘gwerth trosglwyddo uwch’).
Efallai na fydd hyn bob amser cystal ag y mae’n edrych. Mae’n bwysig meddwl yn ofalus am oblygiadau tymor hir cymhelliant trosglwyddo cyn derbyn unrhyw gynnig.
Efallai y cewch ddewis a ydych am drosglwyddo’r holl werth uwch i gynllun pensiwn arall neu gymryd y cymhelliad trosglwyddo fel arian parod.
Os byddwch yn cymryd y cymhelliad trosglwyddo fel arian parod:
- efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol arno
- byddwch yn derbyn llai o bensiwn na phe baech yn derbyn y cymhelliad fel rhan o’r gwerth trosglwyddo.
Ymhob achos, mae’ch cyflogwr yn edrych i leihau costau rhedeg eu cynllun pensiwn gweithle trwy symud rhwymedigaethau yn y dyfodol (eich buddion pensiwn yn y dyfodol) allan o’r cynllun.
Os yw’ch cyflogwr yn cynnig cymhelliant trosglwyddo i chi, mae disgwyl iddynt ddilyn cod ymddygiad. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn gallu gwneud penderfyniad hyddysg am yr hyn sydd orau i chi, heb i’r cyflogwr roi pwysau arnoch i drosglwyddo.
Elfen bwysig o’r cod ymddygiad yw y dylai’ch cyflogwr gynnig mynediad i chi at gyngor ariannol rheoledig. Mae hyn er mwyn eich helpu i benderfynu a ddylid trosglwyddo'ch buddion pensiwn i gynllun newydd. Dylai eich cyflogwr dalu am y cyngor ariannol hwn.
Cymhellion eraill
Mae cymhellion i newid buddion cynllun yn dod yn fwy cyffredin hefyd.
Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ildio cynnydd uwchben yr isafswm statudol ar ôl i chi ymddeol yn gyfnewid am bensiwn cyfradd safonol uwch o fewn y cynllun.
Gelwir hyn yn gyfnewid cynnydd pensiwn neu arnewid cynnydd pensiwn.
Os derbyniwch y cynnig, telir eich pensiwn ar y gyfradd newydd am weddill eich oes – ond heb, er enghraifft, unrhyw godiadau blynyddol yn y dyfodol. Gallai hyn leihau pŵer prynu eich arian oherwydd chwyddiant.
Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gynnig mynediad i chi at gyngor ariannol rheoledig os yw’r cynnig yn cwrdd â safonau gofynnol penodol a nodir yn y cod ymarfer a’ch bod wedi cael cynnig rhywfaint o arweiniad.
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiwn wedi nodi pum egwyddor allweddol y mae’n disgwyl eu dilyn mewn unrhyw ymarfer cyfnewid cymhelliant trosglwyddo neu gynyddu pensiwn. Darganfyddwch fwy am gynllun ymarfer cymhelliad am gyflogwyrYn agor mewn ffenestr newydd
Sut mae’n gweithio os wyf eisiau trosglwyddo?
Y cam cyntaf yw darganfod eich gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod (CETV). Dyma’r gwerth arian parod y bydd y cynllun yn ei gynnig i chi fel cyfnewid i chi ildio’ch hawliau pensiwn buddion wedi’u diffinio.
Gallwch gael hyn trwy ofyn i weinyddwr eich cynllun neu’ch darparwr pensiwn. Efallai y byddant yn gofyn i chi wneud hyn yn ysgrifenedig ac yn rhoi ffurflen i chi y bydd angen i chi ei llenwi.
Os ydych yn gymwys i gael CETV, mae rhaid darparu hwn cyn pen tri mis ar ôl i chi ofyn am werth trosglwyddo.
Yna bydd gweinyddwr y cynllun neu’r darparwr pensiwn yn rhoi Datganiad o Hawl i chi. Mae hon yn ddogfen ysgrifenedig sy’n nodi:
- gwerth eich trosglwyddiad
- manylion y buddion rydych wedi’u cronni o dan y cynllun
- gwybodaeth y bydd ei hangen ar eich cynllun newydd os penderfynwch fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad.
Efallai y bydd ffurflenni ychwanegol hefyd wedi’u cynnwys i ddechrau’r broses drosglwyddo.
Gwarantir y gwerth trosglwyddo am dri mis. Mae rhaid eich bod wedi gadael eich cynllun a pheidio â bod yn aelod gweithredol i hyn fod yn berthnasol. Os ydych yn dal i fod yn aelod gweithredol, ni fydd y gwerth trosglwyddo gwarantedig yn berthnasol.
Os byddwch yn penderfynu trosglwyddo i gynllun newydd, mae angen prawf ar weinyddwr eich cynllun neu ddarparwr pensiwn eich bod wedi cymryd cyngor arian rheoledig os:
- mae eich pensiwn yn werth mwy na £30,000, ac
- rydych yn trosglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio.
Ond efallai y byddant yn mynnu eich bod yn cael cyngor cyn derbyn trosglwyddiad, hyd yn oed os yw eich pensiwn yn werth llai neu os ydych yn trosglwyddo i gynllun buddion wedi’u diffinio gwahanol.
Oherwydd y llinellau amser dan sylw mae’n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig cyn i chi ddechrau’r broses o gael gwerth trosglwyddo. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir rhoi unrhyw gyngor ariannol mewn modd amserol ac yn caniatáu digon o amser i chi ystyried y cyngor heb gael eich rhuthro.
Pan dderbynnir yr holl waith papur sydd ei angen ar y cynllun, bydd rhaid iddynt dalu’r buddion i’r cynllun newydd cyn pen chwe mis o ddechrau’r broses drosglwyddo.
Os na fyddwch yn cwblhau’r broses drosglwyddo o fewn y cyfnod o dri mis y mae’r CETV wedi’i warantu ar ei gyfer, efallai y bydd rhaid i chi wneud cais am CETV arall. Efallai y bydd cost am hyn. Gallai hyn ohirio’r trosglwyddiad a gallai’r CETV fod yn uwch neu’n is na’r swm blaenorol. Gallai hyn olygu y bydd angen ailasesu unrhyw gyngor a ddarparwyd.
Pan fyddwch wedi trosglwyddo i gynllun newydd, byddwch fel arfer wedi ildio’r holl fuddion o dan yr hen gynllun. Bydd rhai cynlluniau yn caniatáu i chi drosglwyddo dim ond rhan o’ch buddion. Bydd angen i chi wirio â’ch darparwr i weld a ydynt yn cynnig yr opsiwn hwn.
Fel rheol, gallwch drosglwyddo pensiwn buddion wedi’u diffinio i gynllun pensiwn newydd ar unrhyw adeg hyd at flwyddyn cyn y dyddiad pan fydd disgwyl i chi ddechrau cymryd eich pensiwn.
Pan ddechreuwch gymryd eich pensiwn, ni allwch symud eich pensiwn i rywle arall fel rheol.
Nid yw pob cynllun pensiwn cyflogwr, pensiynau personol na phensiynau personol hunan-fuddsoddedig yn derbyn trosglwyddiadau. Felly mae’n bwysig gwirio yn gyntaf. Efallai y bydd hefyd yn bosibl trosglwyddo’ch buddion i drefniant pensiwn dramor.
Cael cyngor
Os ydych yn ystyried trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio neu asesu cynnig cymhelliant, mae’n bwysig cael cyngor ariannol. Ni fydd rhai cynlluniau yn derbyn trosglwyddiadau oni bai eich bod yn gwneud hynny.
Os cewch gyngor gan gynghorydd rheoledig a bod pethau’n mynd o chwith neu os yw’r hyn a ddewiswyd ar eich cyfer yn anghywir, byddwch yn gallu defnyddio’r trefniadau cwynion ac iawndal sydd ar gael.
Os yw’ch cyflogwr wedi cysylltu â chi ynghylch ymarfer cymhelliant, mae’n arfer da iddynt ddarparu mynediad at gynghorydd ariannol rheoledig am ddim, ond ni fydd pob un yn gwneud.
Gallwch ddewis eich cynghorydd ariannol eich hun, ond os gwnewch hynny, bydd rhaid i chi dalu.
Pan fyddwch yn gofyn i ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn am drosglwyddiadau pensiwn, bydd y wybodaeth a gewch yn ymwneud â throsglwyddiadau pensiwn yn gyffredinol. Ni fydd yn benodol i’ch anghenion a’ch amgylchiadau.
Mae rhaid i gwmnïau sy’n eich cynghori ar drosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio feddu ar wybodaeth arbenigol yn y maes hwn. Gallwch ofyn iddynt a ydynt yn gymwys yn y maes hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses drosglwyddo, siaradwch â ni. Fodd bynnag, ni allwn roi cyngor i chi ynghylch a ddylech drosglwyddo ai peidio, neu ble y dylech fuddsoddi.
Beth i’w ddisgwyl gan gynghorydd ariannol
Bydd y cynghorydd yn trafod eich amgylchiadau personol a’ch sefyllfa ariannol â chi, gan gynnwys y lefel o risg rydych yn teimlo’n gyfforddus â hi.
Dylent hefyd:
- cymharu’r buddion y gallwch eu hildio os byddwch yn trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio â’r buddion y gallwch eu cael os byddwch yn trosglwyddo i gynllun gweithle presennol neu bensiwn personol/cyfranddeiliaid newydd neu bresennol
- asesu i ba lefel y mae eich cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio wedi’i ariannu, y risg y gallai buddion gael eu lleihau a’r effaith ar unrhyw werth trosglwyddo a gynigir
- gwirio’r gwahaniaeth rhwng trefniadau buddion wedi’u diffinio a chyfraniadau wedi’u diffinio
- rhoi crynodeb i chi o fanteision ac anfanteision eu hargymhelliad
- gofyn a ydych wedi trafod eich penderfyniad â’ch priod neu bartner sifil gan ei bod yn debygol y bydd yn effeithio arnynt hwy hefyd
- gwirio eich holl ddewisiadau.
Mae bob amser yn syniad da i siarad â mwy nag un cynghorydd, oherwydd efallai bydd eu costau a’r gwasanaethau yn wahanol.
Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn delio â chynghorwyr ariannol sy’n cael eu rheoleiddio a’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (y rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol).
Bydd y cwmnïau hyn yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth ymlaen llaw ac ‘hyd braich’ fel nad ydych o dan unrhyw ddylanwad gormodol. Mae hyn yn caniatáu i chi wneud penderfyniad hyddysg p’un ai i ofyn am gyngor ariannol proffesiynol ai peidio ar drosglwyddo neu drosi eich buddion pensiwn cyn i chi orfod talu unrhyw gostau.