Ymuno â chynllun pensiwn gweithle

Sut y byddaf yn ymuno â phensiwn gweithle fy nghyflogwr?

Mae gan bob gweithiwr hawl i ymuno â chynllun pensiwn gweithle.

Os ydych yn gymwys, dylai'ch cyflogwr eich ymrestru'n awtomatig i’r cynllun (amlinellir y rheolau cymhwysedd isod).

Os nad ydych yn gymwys, gallwch ddal i ymuno ond mae angen i chi ei drefnu hyn gyda'ch cyflogwr.

Os ydych yn gymwys ond nad ydych am ymuno, gallwch eithrio allan.

Gallech ddarganfod nad ydych wedi eich ymrestru yn awtomatig pan fyddwch yn ymuno â’ch cyflogwr am y tro cyntaf, ond yn cael eich ymestru nes ymlaen os yw eich enillion yn cynyddu. Gall hyn fod os yw eich tâl yn cynyddu am un cyfnod tâl yn unig.

Ydw i'n gymwys i ymuno â fy nghynllun pensiwn gweithle?

Deiliaid swydd cymwys

Os ydych yn ddeiliad swydd cymwys (fel y'i diffinnir isod), byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr.

Mae deiliaid swydd cymwys:

  • rhwng 22 ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • yn ennill dros y trothwy enillion (£10,000 y flwyddyn, gweler isod) a
  • yn gweithio (yn bennaf) yn y DU a bod â chontract cyflogaeth (nid contractwr hunangyflogedig); neu bod â chontract i ddarparu gwaith a/neu wasanaethau yn bersonol (dim is-gontractio i drydydd parti).

Rhaid i'ch cyflogwr wneud cyfraniadau i'r cynllun pensiwn, ac efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrannu hefyd.

Os nad ydych am ymuno â'r cynllun, gallwch eithrio allan.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i'ch cyflogwr eich ail ymrestru yn ôl i'r cynllun tua bob tair blynedd. Mae hyn cyhyd â'ch bod yn dal i fodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Deiliad swydd sydd ddim yn gymwys

Os ydych yn ddeiliad swydd sydd ddim yn gymwys (fel y'i diffinnir isod), does dim rhaid i chi gael eich ymrestru'n awtomatig ym mhensiwn gweithle eich cyflogwr. Ond gallwch ofyn am ymuno.

Os ymunwch, byddwch hefyd yn cael cyfraniadau cyflogwr.

Mae deiliad swydd sydd ddim yn gymwys:

  • naill ai rhwng 16 a 21 oed neu oedran Pensiwn y Wladwriaeth a 74 oed
  • yn ennill dros y trothwy enillion (£10,000 y flwyddyn), ac
  • yn gweithio (yn bennaf) yn y DU a bod â chontract cyflogaeth (nid contractwr hunangyflogedig); neu fod â chontract i ddarparu gwaith a/neu wasanaethau yn bersonol (heb is-gontractio i drydydd parti).

Neu:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • yn ennill rhwng y swm enillion is a'r trothwy enillion, ac (£6,240 - £10,000 y flwyddyn)
  • yn gweithio (yn bennaf) yn y DU a bod â chontract cyflogaeth (nid contractwr hunangyflogedig); neu fod â chontract i ddarparu gwaith a/neu wasanaethau yn bersonol (heb is-gontractio i drydydd parti).

Gweithwyr â hawl

Os ydych yn weithiwr cymwys (fel y'i diffinnir isod), gallwch ofyn am ymuno â'ch cynllun pensiwn gweithle.

Ond nid oes rhaid iddo fod yr un cynllun â gweithwyr cymwys a gweithwyr nad ydynt yn gymwys.

Gallai fod yn bensiwn personol neu'n fath arall o gynllun pensiwn. 

Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu, er y gallant ddewis gwneud.

Mae gweithwyr â hawl:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • yn ennill llai na’r swm enillion is (£6,240 y flwyddyn), ac
  • yn gweithio (yn bennaf) yn y DU a bod â chontract cyflogaeth (nid contractwr hunangyflogedig); neu fod â chontract i ddarparu gwaith a/neu wasanaethau yn bersonol (heb is-gontractio i drydydd parti).

Os nad ydych yn ddeiliad swydd cymwys, deiliad swydd sydd ddim yn gymwys neu weithiwr â hawl

Mae hyn yn golygu nad oes gennych unrhyw hawliau i ymuno â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr.

Ond gallwch ddal i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad trwy gymryd pensiwn personol. 

Trothwy enillion

Y trothwy enillion yw £10,000 y flwyddyn.

Fe'ch asesir o ran cymhwysedd ar bob cyfnod tâl.

Bydd y trothwy enillion yn cael ei ragbrisio. Mae hyn yn golygu y bydd y gwir drothwy enillion yn wahanol os ydych yn cael eich talu'n fisol, bob pedair wythnos, bob pythefnos neu bob wythnos.

Er enghraifft, os ydych yn cael eich talu'n fisol - byddwch yn cwrdd â'r trothwy enillion os yw'ch enillion misol yn cyrraedd o leiaf £833.

Os ydych yn cael eich talu'n wythnosol, byddwch yn cwrdd â'r trothwy enillion os yw'ch enillion wythnosol yn cyrraedd o leiaf £192.

Wrth i chi gael eich asesu ar gyfer cymhwysedd ym mhob cyfnod tâl, efallai y gwelwch eich bod wedi ymrestru'n awtomatig os bydd eich enillion yn cynyddu. Mae hyn hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr y mae’n digwydd.

Swm enillion is

Y swm enillion is ar hyn o bryd yw £6,240 y flwyddyn.

Ond fe'ch asesir o ran cymhwysedd ym mhob cyfnod tâl - a bydd y swm enillion is yn cael ei ragbrisio.

Wrth i chi gael eich asesu ar gyfer cymhwysedd ym mhob cyfnod tâl, efallai y gwelwch eich bod wedi ymrestru'n awtomatig os bydd eich enillion yn cynyddu. Mae hyn hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr y mae’n digwydd.

Er enghraifft, os ydych yn cael eich talu'n fisol, byddwch yn cwrdd â'r swm enillion is os yw'ch enillion misol yn £520.

Os ydych yn cael eich talu'n wythnosol, byddwch yn talu'r swm enillion is os yw'ch enillion wythnosol yn £120.

Eithrio allan o’r cynllun

Pan fyddwch wedi ymrestru yn y cynllun pensiwn, mae gennych un mis calendr i eithrio allan a chael ad-daliad llawn o unrhyw gyfraniadau.

Gelwir hyn yn gyfnod eithrio allan. Mae'n dechrau o ba bynnag ddyddiad yw'r diweddaraf:

  • y dyddiad y cyflawnwyd aelodaeth weithredol, neu
  • y dyddiad y cawsoch lythyr gan eich cyflogwr gyda gwybodaeth ymrestru.

Ni allwch eithrio allan cyn i'r cyfnod eithrio allan ddechrau neu ar ôl iddo ddod i ben.

Os penderfynwch adael y cynllun ar ôl yr amser hwn, bydd p'un a ydych yn cael ad-daliad yn dibynnu ar reolau'r cynllun pensiwn.

Cyn i chi eithrio allan, mae'n werth ystyried y buddion gwerthfawr y gallech fod yn eu rhoi i fyny.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Os oes gennych fwy nag un swydd, bydd pob cyflogwr yn gwirio a ydych yn ddeiliad swydd cymwys.

Os ydych, byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig. Mae hyn yn golygu y gallech chi gael eich ymrestru'n awtomatig i fwy nag un cynllun pensiwn gweithle.

Os nad ydych yn ddeiliad swydd cymwys, gallwch ddal i ofyn i ymuno â chynllun pensiwn gweithle pob cyflogwr.

Er y byddwch yn adeiladu cronfa bensiwn ar wahân, efallai y gallwch chi gyfuno'r rhain yn nes ymlaen. Gallai hyn fod os byddwch yn gadael un neu fwy o'ch swyddi, neu pan fyddwch yn dechrau cymryd eich pensiwn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.