Mae’r pandemig a’r costau byw cynyddol wedi gadael llawer o bobl â phryderon ariannol newydd. P’un a ydych wedi cael eich dal allan gan filiau a thaliadau uwch, incwm ansicr neu golli swydd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen a chymryd y cam cyntaf tuag at ddod ar ben pethau.
Mae ein canllawiau isod yn dweud wrthych bopeth rydych angen ei wybod i wneud y dewisiadau cywir, gan gynnwys help y gallwch ei gael os ydych yn poeni am gadw i fyny â biliau a thaliadau hanfodol.

Byw ar incwm cyfyngedig
Beth bynnag sy’n digwydd yn eich bywyd, mae yna ffyrdd o wneud i’ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i dorri’n ôl ar gostau a gweld pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

Help os ydych yn cael trafferth gyda biliau a thaliadau
Mae ein teclyn Blaenoriaethwr biliau cyflym, hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu i ddeall pa filiau a thaliadau i ddelio â nhw gyntaf a sut i osgoi methu unrhyw daliadau.

Diswyddo a cholli’ch swydd
Gall colli eich swydd fod yn ergyd ariannol enfawr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau ac yn deall sut i ddiogelu eich arian..

Cymorth ariannol os ydych yn hunangyflogedig
Mae gweithio i chi’ch hun yn dod â heriau ychwanegol mewn cyfnod ansicr. Darganfyddwch sut y gallwch ychwanegu at eich incwm a rheoli enillion afreolaidd.