Os yw eich landlord yn cynyddu eich rhent, rydych yn poeni am fynd i ôl-ddyledion rhent neu os yw'ch landlord yn gwerthu ac mae angen i chi ddod o hyd i rywle newydd, mae'r canllaw hwn yn eich helpu i ddod o hyd i gymorth i dalu'r costau.
Os yw eich landlord yn cynyddu eich rhent, rydych yn poeni am fynd i ôl-ddyledion rhent neu os yw'ch landlord yn gwerthu ac mae angen i chi ddod o hyd i rywle newydd, mae'r canllaw hwn yn eich helpu i ddod o hyd i gymorth i dalu'r costau.
Darganfyddwch am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel tenant os yw eich landlord yn cynyddu eich rhent, sut i herio neu leihau codiadau rhent a chael help ychwanegol i dalu eich rhent.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Dim ond unwaith mewn cyfnod o 12 mis y gellir cynyddu eich rhent, a rhaid i'ch landlord roi hysbysiad ysgrifenedig i chi, gan nodi:
Dylai eich cytundeb tenantiaeth gynnwys sut a phryd y bydd y rhent yn cael ei adolygu.
Yn Lloegr, daeth pob cytundeb tenantiaeth breifat yn gontract treigl yn awtomatig (a elwir yn denantiaeth gyfnodol sicr) ar 1 Mai 2026. Efallai na fydd eich landlord neu ei asiant gosod yn rhoi contract ysgrifenedig newydd i chi, ond rhaid iddynt anfon copi o Daflen Wybodaeth Deddf Hawliau Rhentwyr y llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd atoch erbyn 31 Mai 2026. Mae hyn yn esbonio beth sydd wedi newid yn eich tenantiaeth ac yn cynnwys y rheolau newydd ynghylch codiadau rhent.
Mae eich lleoliad yn penderfynu faint o rybudd y mae'n rhaid i'ch landlord ei roi i chi am gynnydd rhent arfaethedig, a sut mae'n rhaid iddynt roi gwybod i chi er mwyn iddo fod yn gyfreithiol ddilys.
|
Lloegr |
2 fis o rybudd |
Hysbysiad Adran 13 |
|
Yr Alban |
3 mis o rybudd |
Hysbysiad Cynnydd Rhent Swyddogol |
|
Cymru
|
2 fis o rybudd |
Hysbysiad Amrywiad (RHW12) |
|
Gogledd Iwerddon |
3 fis o rybudd |
Hysbysiad Amrywiad, unai yn ysgrifenedig drwy gyfrwng llythyr, ebost neu neges destun |
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'ch landlord eich hysbysu 'yn ysgrifenedig', ond yn anarferol gall hyn gynnwys cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun. Mewn mannau eraill yn y DU, nid yw'r math hwn o hysbysiad yn gyfreithiol rwymol.
Pan fydd eich landlord yn rhoi rhybudd i chi bod eich rhent yn cynyddu, gallwch geisio siarad â nhw i wneud y cynnydd yn fwy fforddiadwy.
Efallai y byddant yn barod i gyfaddawdu i'ch cadwfel tenant. Er enghraifft, pe byddent yn gofyn am gynyddu eich rhent o £100 y mis, gallech gwrdd yn y canol a chytuno ar gynnydd o £50. Mae'n werth edrych ar eiddo tebyg gerllaw i weld beth yw rhent 'cyfradd y farchnad', os ydych yn meddwl bod yr hyn maent yn gofyn amdano yn annheg.
Herio cynnydd rhent
Os na allwch chi a'ch landlord gytuno ar gynnydd rhent, ac rydych chi'n meddwl ei fod yn uwch na'r gyfradd ar gyfer eich ardal, mae gennych opsiynau.
Gallwch fynd â'ch achos at dribiwnlys annibynnol neu swyddog rhent. Byddant yn edrych a yw'r cynnydd yn deg ac yn unol â'r hyn y mae eraill yn ei dalu yn lleol.
Mae ble i fynd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw:
Yn Lloegr, ni fydd y tribiwnlys yn gosod eich rhent yn uwch na'r hyn a gynigiodd eich landlord yn wreiddiol. Ond yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gallai'r cyrff hyn ei osod yn uwch - felly mae'n werth ystyried hyn cyn i chi fynd ymlaen.
Bydd angen i chi edrych yn fanwl ar gyllideb eich cartref i weithio allan lle gallwch dorri'n ôl i weld a allwch ymdopi â’r cynnydd.
Mae ein Hadran byw ar incwm gwasgedig yn llawn awgrymiadau i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o leihau biliau cartref a chostau byw eraill, yn ogystal â sut y gallwch roi hwb i'ch incwm.
Os ydych yn cael trafferth talu'ch rhent, mae pethau y gallwch eu gwneud i gael help.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Os yw'r cynnydd mewn costau byw yn gwasgu cyllid eich cartref, mae'n werth gwirio pa fudd-daliadau y gallwch eu cael i helpu gyda chostau tai. Efallai y gallwch gael arian ychwanegol i'ch helpu i dalu'ch rhent
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau ond nad yw eich rhent yn cael ei gwmpasu gan yr hyn a gewch, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliadau Tai Dewisol gan eich cyngor lleol.
Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gellir hawlio'r taliadau hyn am nifer o fisoedd ac nid oes angen eu had-dalu.
Os ydych ar incwm isel iawn, efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan elusennau a sefydliadau lleol, na fydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl
Mae’r Crisis and Resilience Fund yn gynllun newydd sy’n cynnig taliadau arian parod i bobl sy’n wynebu trafferthion ariannol yn Lloegr.
Os ydych chi’n dioddef o golled incwm sydyn neu rydych chi mewn argyfwng ariannol ac angen cymorth, gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol am daliad tai neu argyfwng.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gallai’r Crisis and Resilience Fund eich helpu i gael:
Os ydych wedi methu taliad rhent neu wedi cwympo ar ei hôl hi gyda thaliadau, mae'n bwysig gweithredu'n gyflym.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Gwnewch yn siŵr bod y rhent y mae eich landlord yn dweud bod arnoch yn y swm cywir. Edrychwch ar eich:
Os ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau a delir yn uniongyrchol i'ch landlord, gwiriwch gyda'ch cyngor lleol i ddarganfod faint sydd wedi cael ei dalu i’ch landlordYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych wedi cadw cofnod o'ch holl daliadau rhent, gwnewch yn siŵr eu bod yn dod i’r swm cywir. Os nad ydych wedi cadw cofnod, gofynnwch i'ch landlord am ddatganiad o faint o rent rydych wedi'i dalu.
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, nid yw o reidrwydd yn golygu y cewch eich troi allan. Siaradwch â'ch landlord i:
Os ydych yn byw mewn tai cymdeithasol neu'n denant cymdeithas dai, gall eich swyddog tenantiaeth helpu i reoli taliadau, cyllidebu a gwirio eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo. Os yw talu eich rhent yn debygol o fod yn broblem hirdymor, efallai y cewch gynnig eiddo llai i helpu i wneud eich rhent misol yn fwy fforddiadwy yn y dyfodol.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o eiddo rhent.
Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys o'r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan eich landlord.
Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, efallai y bydd biliau eraill rydych hefyd yn cael trafferth gyda hwy.
Gall ymgynghorydd dyledion eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn sy'n ddyledus gennych a mynd trwy'ch opsiynau gyda chi'n gyfrinachol.
Mae cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim a gall eich helpu i reoli eich ad-daliadau a siarad â'ch credydwyr.
Darganfyddwch eich hawliau am gael eich blaendal yn ôl a chael help i ddod o hyd i rywle arall i fyw. Mae yna hefyd cyngor os ydych yn poeni am ddod yn ddigartref.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben, dylech gael eich blaendal yn ôl oni bai eich bod wedi difrodi'r eiddo, neu os oes arnoch chi ddyled i'ch landlord.
Gofynnwch i'ch landlord pryd maent yn bwriadu dychwelyd eich blaendal.
Mae'n syniad da tynnu lluniau o gyflwr yr eiddo cyn i chi adael rhag ofn bod anghytundeb ynghylch faint o flaendal y dylech ei gael yn ôl.
Os ydych angen help i gael blaendal i ddod o hyd i rywle i fyw, gallwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd Mae'r taliadau hyn yn benodol ar gyfer costau tai ac nid oes rhaid i chi eu talu’n ôl.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill sy'n seiliedig ar brawf modd, gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu i helpu gyda'ch blaendal. Mae'r rhain yn ddi-log ac mae ad-daliadau yn cael eu cymryd allan o'ch budd-daliadau.
Os na allwch ddod o hyd i lety sy'n addas i chi neu'ch teulu, efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu helpu. Darganfyddwch fwy am gwneud cais am dai cyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Os ydych am rentu'n breifat, efallai y gallwch arbed arian os ydych yn rhentu'n uniongyrchol gan landlord yn hytrach na thrwy asiant gosod.
Os oes eiddo rhent y gallwch fforddio ac eisiau gwneud cais amdano ond na allwch oherwydd bod yr hysbyseb yn nodi na fyddant yn derbyn pobl sy'n cael budd-daliadau, mae hyn yn wahaniaethu ar sail tai.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i:
Mae gan Shelter rai canllawiau am yr hyn y gall y cyngor ei wneud yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd, LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar AlbanYn agor mewn ffenestr newydd a gallwch ddarganfod cymorth os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ar Housing RightsYn agor mewn ffenestr newydd
Mae pethau y mae’n rhaid i’ch landlord eu gwneud i roi hysbysiad ffurfiol. Ar hyn o bryd mae’n rhaid iddynt:
Fel arfer mae'n cymryd ychydig fisoedd o gael eich hysbysiad a gorfod symud allan. Mae'r llinell amser yn dibynnu ar ba fath o rybudd rydych yn ei dderbyn.
Os yw'ch landlord yn ceisio meddiant, efallai y byddant yn hapus i'ch rhyddhau o'ch tenantiaeth cyn i'ch contract ganiatáu os byddwch yn dod o hyd i rywle arall i fyw.
Troi allan heb fai
Mae troi allan 'di-fai' yn dal i gael eu caniatáu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, cyn belled â bod eich landlord yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi.
Fodd bynnag, mae troi allan Adran 21 neu 'ddi-fai' wedi'u gwahardd yn Lloegr a'r Alban. Rhaid i'ch landlord fod â 'rhesymau' dilys i ofyn i chi adael, megis:
Roedd gan landlordiaid yn Lloegr tan 30 Ebrill 2026 i gyhoeddi hysbysiad Adran 21, a hyd at 31 Gorffennaf 2026 i ddechrau achos llys.
Os cawsoch hysbysiad Adran 21 ar ôl 30 Ebrill 2026, nid yw'n ddilys - dim ond hysbysiad Adran 8 y dylech ei dderbyn.
Am fwy o help, darllenwch ein canllaw Help os ydych yn cael eich troi allan.
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir